1 of 1

Dweda ychydig am dy hun.

Twm ydw i. Ar hyn o bryd dw i’n 10 oed a dw i’n byw yn Arberth gyda fy nheulu. Mae un brawd gyda fi o’r enw Rhys. Mae e’n 8 oed ac mae e’n hoffi canu.

Beth wyt ti’n hoffi wneud yn yr ysgol?

Heb os dw i’n hoffi chwaraeon achos mae’n heriol ond dw i ddim yn hoffi celf achos mae’n ddiflas.

Sut berson wyt ti?

Ar y cyfan dw i’n berson positif, creadigol a swil.

Oes sgiliau arbennig gyda ti?

Oes, dw i’n gallu siarad dwy iaith.

Beth wyt ti’n hoffi wneud yn dy amser hamdden?

Yn fy amser hamdden dw i’n hoffi beicio achos mae’n llawer o hwyl. Ar y llaw arall dw i ddim yn mwynhau chwarae ar y cyfrifiadur achos mae’n wastraff amser.

Twm

Enw

Enw

Enw