1 of 17

Ein Llais Ni - datblygu rolau trafod mewn cyd-destun lleol

2 of 17

Cynnwys

Mae'r cyflwyniad hwn yn cynnwys y canlynol:

    • gwybodaeth gefndirol am Ysgol Llanllechid
    • cefndir ieithyddol yr ysgol
    • cyfres o glipiau fideo enghreifftiol
    • camau nesaf

3 of 17

Gwybodaeth Gefndirol am yr Ysgol

Mae Ysgol Llanllechid wedi ei lleoli mewn ardal chwarelyddol ar gyrion pentref Rachub, ger Bethesda, yn Nyffryn Ogwen. Daw 52% o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg.

Mae'r ysgol yn fyrlymus gyda chysylltiadau cryf gyda nifer o bartneriaethau lleol a rhyngwladol fel Chapel Carmel, Cymdeithas Hanes, Clwb yr Henoed, Cymdeithas y Chwiorydd, Partneriaeth Ogwen, Ynni Ogwen, Dyffryn Gwyrdd, RSPB, a chysylltiad gyda sefydliad Fflam Heddwch y Byd a.y.y.b

4 of 17

Natur Iaith yr Ysgol

Ar ddechrau'r prosiect rhoddwyd holiadur i'r disgyblion, ac ynddo daeth i'r amlwg mai dim ond 52% o ddisgyblion yr ysgol sydd yn dod o aelwydydd ble siaredir Y Gymraeg.

5 of 17

Ymchwil

Gwnaethpwyd gwaith ymchwil ar ddechrau'r priosect er mwyn deall pa strategaethau oedd orau i gefnogi llafaredd y disgyblion.

Defnyddiwyd yr adnoddau â ganlyn ar gyfer ymchwil:

    • O Enau Plant - Enlli Môn Thomas a Gareth Caulfield
    • Gwefan Ein Llais Ni

6 of 17

7 of 17

8 of 17

Cyd-destun

Tynnwyd sylw'r disgyblion at erthygl yn y Daily Post, Mai 22, 2023 oedd yn sôn am ein hardal leol. Roedd yr erthygl yn cynnig ei hun fel sbardun i ganfod barn ac i drafod gwahanol safbwyntiau ar gorlannau. Roedd corlannau yn cynnig ei hun fel rhan o waith thematig y dosbarth a phenderfynwyd ar y CWESTIWN MAWR:

"Ydi hi'n iawn fod Chwarel Penrhyn yn dymchwel corlan yn yr ardal leol er mwyn ehangu eu busnes?"

9 of 17

Tasg Oer

Cynnal trafodaeth:

    • heb baratoi'r disgyblion
    • ychydig o ffeithiau
    • canolbwyntio ar ruglder a datblygu syniadau, heb fod ofn gwneud camgymeriadau
    • pwyslais ar ddal ati i siarad
    • mynegi barn
    • meddwl yn greadigol
    • cymharu sefyllfaoedd - o'u cof neu o faes profiad
    • rhesymu - dilyn eu syniadau hwy eu hunain

10 of 17

11 of 17

Camau Nesaf

Daeth yn amlwg fod gweithio ymhellach ar:

    • ddeall sut i anghytuno yn fwy pendant a pharchus
    • beidio â bod ofn anghytuno
    • y meddylfryd o gloriannu a chrisialu gwahanol safbwyntiau
    • sicrhau mwy o strwythur yn yr agoriadau
    • y defnydd o eiriau cyfoethog ac idiomau
    • mynegi eu barn mewn ffordd mwy clir a stwythedig gan ddangos angerdd dros eu safbwynt!
    • pwyslais ar eirfa sydd eisoes gan y disgyblion
    • annog i feddwl am syniadau i gadarnhau eu barn

12 of 17

Canlyniad

    • disgyblion yn bwrw iddi i siarad, heb fod ofn gwneud camgymeriadau
    • un disgybl yn arbrofi gyda iaith e.e. "poblogaeth ni" sy'n dangos fod ganddo ddigon o hyder i ddefnyddio geirfa ymestynnol, ar hyn o bryd, y tro hwn, ddim yn y cyd-destun cywir ond nodwedd hynod effeithiol ar gyfer datblygu i fod yn siaradwr hyderus a medrus. Mae hyn yn dangos Meddylfryd Twf penigamp
    • cystrawen gloff sydd yn bwynt addysgu i'r dyfodol sef: "gyd o'r corlannau". Ni dynnwyd sylw'r unigolyn at hyn yn y fan a'r lle, gan fod y pwyslais ar fagu hyder a mwynhau siarad a thrafod yn y Gymraeg

13 of 17

Daily Post

Mai'r 22ain, 2023

Yr Ardal Leol

14 of 17

Rolau Trafod - Tasg Boeth

    • Trafodaeth ar y cwestiwn mawr "Ydi hi'n iawn fod Chwarel Penrhyn yn dymchwel corlan yn yr ardal leol er mwyn ehangu eu busnes?"
    • Sicrhau rolau penodol e.e holwr, heriwr a datblygwr syniadau
    • Cyflwyno'r cardiau rolau
    • Cyflwyno'r Fframiau Siarad
    • Cyflwyno geirfa gyfoethog a chystrawen gywir
    • Rhyngweithio o fewn eu grwpiau gan fynegi barn yn glir ac yn groyw gan barchu barn y naill a'r llall

15 of 17

16 of 17

Y Dasg Boeth:

O fod yn treulio amser yn trafod ac yn cael profiadau uniongyrchol o gorlannau, drwy fynd allan i'r ardal leol, i Fferm Maes Caradog fel rhan o'n rhaglen Addysg Awyr Agored, gwelwyd:

    • brwdfrydedd heintus y disgyblion
    • dealltwriaeth y disgyblion o effaith y datblygiad yn real
    • sgiliau trafod strwythuredig mewn grŵp wedi datblygu
    • fod geirfa a chystrawen yn cael eu cyflwyno yn gywirach
    • fod y disgyblion yn gwrando ar ei gilydd, gan fynegi barn yn glir yn llwyddiannus iawn
    • fod hyder cynyddol yn amlwg
    • fod disgyblion yn benboeth dros eu safbwyntiau
    • fod disgyblion yn llwyddo i feddwl am syniadau creadigol i gadarnhau eu barn

17 of 17

Dysgu o Ganlyniad i'r Broses Ymholi

Mae'n holl bwysig:

    • trwytho'r disgyblion yn y cwestiwn mawr
    • parhau i ddatblygu banc o eiriau perthnasol
    • creu angerdd yn y disgyblion
    • fod y cwestiwn yn berthnasol ac yn briodol er mwyn sicrhau amrywiaeth barn
    • ein bod yn cofio fod themau sy'n ymwneud â'r ardal leol yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, sy'n tanio dychymyg, syniadau a sgiliau creadigol y disgyblion
    • parhau i ddatblygu sgiliau llafar y disgyblion mewn modd cynhaliol, sy'n adeiladu ar lithriadau a chamgymeriadau, er mwyn eu defnyddio fel pwyntiau addysgu
    • parhau i ddatblygu hyder y disgyblion i fynegi eu barn unigryw eu hunain
    • parhau i ddatblygu'r disgyblion i barchu safbwyntiau ei gilydd
    • ymfalchïo yn sgiliau llafaredd y disgyblion yn y dasg oer a'u parodrwydd i gyfrannu

Gwerthuso:

Gwelwyd datblygiad pendant yn eu gallu a'u sgiliau o ganlyniad i'r defnydd o e.e gardiau trafod, fframiau siarad a gweithgareddau penodol o amrywiol ffynonhellau gan gynnwys gwefan Ein Llais Ni