1 of 17

Adran G: Cysyllteiriau

Uned 1

Termau Pwysig

2 of 17

Beth yw cysyllteiriau?

Mae cysyllteiriau (conjunctions) yn hollbwysig mewn brawddeg. Maen nhw’n cysylltu geiriau o fewn brawddeg er mwyn creu brawddeg gyflawn, e.e.

Aeth Tomos i’r parti yn y dref gyda Bedwyr a Magi.

Cysylltair

3 of 17

Gallwn ddefnyddio cysyllteiriau ar ddechrau brawddeg hefyd, ac nid yn unig yng nghanol brawddeg, er mwyn eu huno gyda’r frawddeg flaenorol, e.e.

Aeth Tomos i’r parti yn y dref gyda Bedwyr a Magi. O ganlyniad, doedd e ddim ar y fferm pan ganodd y ffôn.

Cysylltair yn uno dwy frawddeg

Beth yw cysyllteiriau?

4 of 17

Beth yw cysyllteiriau?

er

wedyn

os

pan

yna

gyda / gydag

felly

achos

ond

a/ac

ar ben hynny

o ganlyniad

heblaw hynny

hefyd

am hynny

beth bynnag

dengys hyn

wedi’r cwbl

megis

hynny yw

naill ai … neu…

serch hynny

fodd bynnag

ar y llaw arall

er enghraifft

ham

oherwydd

neu

cyn

wedyn

os

pan

Dyma rai o’r cysyllteiriau mwyaf defnyddiol:

5 of 17

Beth yw cysyllteiriau?

Gallwn ni rannu’r cysyllteiriau mwyaf cyffredin yn wahanol grwpiau, e.e.

6 of 17

Cyrhaeddodd Twm y tŷ. Daeth Sara i’r tŷ.

yna

Roedd Guto yn grac. Roedd e’n hwyr i’r ysgol.

Aeth Beca i’r dref i siopa. Aeth hi i brynu dillad.

Aeth Ifan i’r cae pêl-droed. Doedd neb yno.

achos

ac

ond

Eich tro chi nawr!

Fedrwch chi ychwanegu’r cysyllteiriau i’r mannau cywir yn y brawddegau hyn?

7 of 17

Dewch i wirio’r atebion

Fedrwch chi ychwanegu’r cysyllteiriau i’r mannau cywir yn y brawddegau hyn?

Cyrhaeddodd Twm y tŷ yna daeth Sara i’r tŷ.

yna

Roedd Guto yn grac achos roedd e’n hwyr i’r ysgol.

Aeth Beca i’r dref i siopa ac aeth hi i brynu dillad.

Aeth Ifan i’r cae pêl-droed ond doedd neb yno.

achos

ac

ond

8 of 17

Eich tro chi nawr!

Fedrwch chi ychwanegu’r cysyllteiriau i’r mannau cywir yn y brawddegau hyn?

Aeth Ifor i edrych ar y defaid yn y sied. Roedd hi’n mynd yn hwyr.

Erbyn hyn

Doedd larwm Sara ddim wedi canu’r bore hwnnw, ac roedd hi wedi cysgu’n hwyr. Roedd hi’n mynd i fod yn hwyr i’r gwaith.

Roedd Ianto wedi blino. Rhoddodd ei waith gadw yn y bag. Allai e’ ddim â gwneud y cyfan heno!

Dau frawd oedd Gareth a Geraint. Bachgen tawel, swil oedd Gareth. Bachgen gwyllt a swnllyd oedd Geraint.

O ganlyniad

Wedi’r cwbl

Ar y llaw arall

9 of 17

Aeth Ifor i edrych ar y defaid yn y sied. Erbyn hyn, roedd hi’n mynd yn hwyr.

Erbyn hyn

Doedd larwm Sara ddim wedi canu’r bore hwnnw, ac roedd hi wedi cysgu’n hwyr. O ganlyniad, roedd hi’n mynd i fod yn hwyr i’r gwaith.

Roedd Ianto wedi blino. Rhoddodd ei waith gadw yn y bag. Wedi’r cwbl, allai e’ ddim â gwneud y cyfan heno!

Dau frawd oedd Gareth a Geraint. Bachgen tawel, swil oedd Gareth. Ar y llaw arall, bachgen gwyllt a swnllyd oedd Geraint.

O ganlyniad

Wedi’r cwbl

Ar y llaw arall

Dewch i wirio’r atebion

10 of 17

Cyrhaeddodd Lisa yr ysgol, cyrhaeddodd Sam yn syth ar ei hôl.

Wedyn, daeth Dad i mewn i’r ystafell. Wedyn, daeth Mam i’r ystafell. Wedyn, dechreuodd Mam goginio swper.

Aeth Sali i’r dref. Yna, aeth hi i siopa. Yna, aeth hi i nofio. Yna, aeth hi am dro.

Eich tro chi nawr!

Pa gysyllteiriau fyddai fwyaf addas i’w defnyddio er mwyn gwella’r brawddegau canlynol?

11 of 17

Dewch i wirio’r atebion

Cyrhaeddodd Lisa yr ysgol, a cyrhaeddodd Sam yn syth ar ei hôl.

Daeth Dad i mewn i’r ystafell. Yna, daeth Mam i’r ystafell, a dechreuodd Mam goginio swper.

Aeth Sali i’r dref, ac aeth hi i siopa. Ar ôl siopa, aeth hi i nofio. Yna, aeth hi am dro.

Pa gysyllteiriau fyddai fwyaf addas i’w defnyddio er mwyn gwella’r brawddegau canlynol?

12 of 17

Rhedodd Gwilym yn ôl i’r tŷ. Roedd e’ wedi anghofio ei fag!

Aeth Cadi i farchogaeth. Aeth i nôl ei helmed. Aeth i nôl y ceffyl. Aeth ar gefn y ceffyl.

Rhedodd Rhys ar draws y cae. Daliodd y bêl. Ciciodd y bêl. Sgoriodd gôl.

Eich tro chi nawr!

Pa gysyllteiriau fyddai fwyaf addas i’w defnyddio er mwyn gwella’r brawddegau canlynol?

13 of 17

Dewch i wirio’r atebion

Pa gysyllteiriau fyddai fwyaf addas i’w defnyddio er mwyn gwella’r brawddegau canlynol?

Rhedodd Gwilym yn ôl i’r tŷ achos roedd e’ wedi anghofio ei fag!

Aeth Cadi i farchogaeth. Yn gyntaf, aeth i nôl ei helmed. Yna, aeth i nôl y ceffyl ac aeth ar gefn y ceffyl.

Rhedodd Rhys ar draws y cae cyn dal y bêl. Ciciodd y bêl, a sgoriodd gôl.

14 of 17

Cysyllteiriau a threiglo

Dyma un reol dreiglo sy’n bwysig ei chofio wrth ddefnyddio cysyllteiriau:

15 of 17

Mae’r cysylltair a (and) yn achosi treiglad llaes os daw o flaen p, t neu c:

e.e.

ffwr a phlu

tractor a threilar

ci a chath

Rheol dreiglo

Cysyllteiriau a threiglo

Dyma un reol dreiglo sy’n bwysig iawn ei chofio wrth ddefnyddio cysyllteiriau:

16 of 17

Eich tro chi nawr!

  • Sut fyddech chi’n treiglo’r geiriau canlynol ar ôl a? Efallai nad oes angen treiglo bob tro, cofiwch!

siwmper a cot

gwynt a glaw

car a beic

cwmwl a haul

papur a pensil

bws a trên

te a coffi

llwy a sosban

bwji a parot

caws a tomato

17 of 17

Dewch i wirio’r atebion!

  • Sut fyddech chi’n treiglo’r geiriau canlynol ar ôl a? Efallai nad oes angen treiglo bob tro, cofiwch!

siwmper a chot

gwynt a glaw

car a beic

cwmwl a haul

papur a phensil

bws a thrên

te a choffi

llwy a sosban

bwji a pharot

caws a thomato