Uned 4
Y Treiglad Trwynol
�Beth yw treiglo?
Gall llythyren gyntaf yr un gair newid mewn sawl gwahanol ffordd, e.e.
cath
y gath
fy nghath
ei gath
ei chath
un gath
tair cath
Yr enw ar y newid hwn sy’n digwydd i lythyren gyntaf gair yw treiglo. Mae’r ffordd rydyn ni’n treiglo gair yn dibynnu ar y gair sy’n dod o’i flaen. Fel arfer, byddwn ni’n gallu clywed os yw gair wedi cael ei dreiglo’n gywir neu beidio. Ond, mae’n help mawr
dysgu’r rheolau treiglo hefyd.
Yma gwelir gwahanol ffyrdd o dreiglo’r enw ‘cath’.
Mae tri math o dreiglad yn Gymraeg:
Y Treiglad Meddal (TM)
Y Treiglad Trwynol (TT)
Y Treiglad Llaes (TLl)
�Beth yw’r treiglad trwynol?
�Pryd mae angen treiglo’n drwynol?
Ar ôl y rhagenw ‘fy’:-
Mae enw yn treiglo’n drwynol ar ôl y rhagenw ‘fy’.
Ar ôl ‘yn’:-
Mae enw lle yn treiglo’n drwynol ar ôl ‘yn’.
Treiglo enw’n drwynol ar ôl y rhagenw ‘fy’
Y rhagenw ‘fy’:
e.e.
enw
rhagenw
treiglad trwynol
bag
cot
dillad
gardd
pensil
teulu
fy
= fy mag
= fy nghot
= fy nillad
= fy ngardd
= fy mhensil
= fy nheulu
Byddwn ni’n aml yn treiglo enw yn drwynol ar ol ‘fy’ wrth sôn am rannau o’r corff.
fy + …..
gwallt
fy ngwallt
pen
gwddf
bochau
dannedd
corff
coes
troed
fy ngwddf
fy mochau
fy nannedd
fy nghorff
fy nghoes
fy nhroed
fy mhen
trwyn
fy nhrwyn
ayyb
Eich tro chi nawr!
Fy + bag = ________________
Fy + pen = ________________
Fy + cyfrifiadur = ________________
Fy + dwylo = ________________
Fy + trowsus = ________________
Fy + gwddf = ________________
Fy + ffrind = ________________
Fy + esgid = ________________
Dewch i wirio’r atebion!
Fy + bag = Fy mag
Fy + pen = Fy mhen
Fy + cyfrifiadur =
Fy nghyfrifiadur
Fy + dwylo = Fy nwylo
Fy + trowsus = Fy nhrywsus
Fy + gwddf = Fy ngwddf
Fy + ffrind = Fy ffrind
Fy + esgid = Fy esgid
* dim treiglad
* dim treiglad
Dewch i ymarfer ymhellach trwy chwarae’r gemau hyn:
Treiglo enw lle yn drwynol ar ôl ‘yn’:
Mae enw lle yn treiglo’n drwynol ar ôl ‘yn’.
Felly, mae unrhyw enw lle (e.e. pentref, tref, dinas, sir, gwlad) sy’n dechrau gyda’r llythrennau b, c, d, g, p neu t yn treiglo’n drwynol ar ôl ‘yn’. e.e.
enw lle
Bangor
Caerdydd
Dolgellau
Goginan
Penparcau
Tregaron
yn
= ym Mangor
treiglad trwynol
= yng Nghaerdydd
= yn Nolgellau
= yng Ngoginan
= ym Mhenparcau
= yn Nhregaron
Mae enw lle yn treiglo’n drwynol ar ôl ‘yn’.
Fe sylwch hefyd fod y gair ‘yn’ ei hun yn newid weithiau wrth i lythyren gyntaf yr enw lle sy’n ei ddilyn dreiglo’n drwynol. e.e.
= ym Mangor
treiglad trwynol
= yng Nghaerdydd
= yn Nolgellau
= yng Ngoginan
= ym Mhenparcau
= yn Nhregaron
yn Caerdydd
yn Bangor
yn Dolgellau
yn Goginan
yn Penparcau
yn Tregaron
yn + B
yn + C
yn + D
yn + G
yn + P
yn + T
Dewch i ymarfer trwy ateb y cwis hwn:
yn Aberystwyth
yn Penrhyn-coch
yn Dihewyd
yn Caernarfon
yn Llannon
yn Trefeurig
yn Felinfach
yn Ceredigion
yn Goginan
yn Brynhoffnant
yn Cymru
yn Ponterwyd
yn + B = ym
yn + C = yng
yn + D = yn
yn + G = yng
yn + P = ym
yn + T = yn
Eich tro chi nawr!
yn Aberystwyth
ym Mhenrhyn-coch
yn Nihewyd
yng Nghaernarfon
yn Llannon
yn Nhrefeurig
yn Felinfach
yng Ngheredigion
yng Ngoginan
ym Mrynhoffnant
yng Nghymru
ym Mhonterwyd
Dewch i wirio’r atebion!
yn + B = ym
yn + C = yng
yn + D = yn
yn + G = yng
yn + P = ym
yn + T = yn