1 of 24

Miles Hermann

Athro Daearyddiaeth

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

​

Sesiwn 1 - Adolygu Gwanwyn 2024

​

​

Uned 2: Lleoedd Newidiol

2 of 24

​

Cynnwys

2.1.3 Newidiadau dros amser mewn nodweddion economaidd lleoedd

2.1.4 Newid economaidd ac anghydroddoldebau cymdeithasol mewn lleoedd trefol sydd wedi daddiwydianeiddio

2.1.5 Yr economi gwasanaethau (trydyddol) a’i effeithiau cymdeithasol ac economaidd

​

​

3 of 24

2.1.3 Newidiadau dros amser mewn nodweddion economaidd lleoedd

​

Cynradd - Pysgota, amaethyddiaeth, mwyngloddio

​

Eilaidd - Diwydiant e.e. Haearn, gwaith dur, creu dillad

​

Trydyddol - Sector gwasanaethau e.e. Siop, swyddfa, addysg, heddlu

​

Cwaternaidd - Uwch dechnoleg/ uwch wybodaeth e.e. Ymchwilydd gwyddonol

4 of 24

2.1.3 Newidiadau dros amser mewn nodweddion economaidd lleoedd

Cam 1 Cyn- diwydiannol: Ffocws ar y sector cynradd ac eilaidd

Cam 2 Diwydiannol: Sector eilaidd yn datblygu’n gyflym,sector cynradd yn dirywio

Cam 3 ôl-Diwydiannol: Dirywiad sector cynradd ac eilaidd, cynnydd yn y sector trydyddol a cwaternaidd

5 of 24

LIC (Gwlad Incwm Isel) : Ethiopia

MIC (Gwlad incwm canolig) : China

HIC (Gwlad incwm uchel) : Deyrnas Unedig

Y sector cynradd yw’r sector cyflogaeth mwyaf yn Ethiopia . Mae 75% o bobl yn gweithio yn y sector hwn , yn bennaf yn gweithio mewn amaethyddiaeth ac fel ffermwyr cynhaliol sydd angen y bwyd i gynnal eu teuluoedd . Byddant yn aml yn gweithio oriau hir ac o dan amodau ffisegol llym i gynhyrchu dim ond digon o fwyd i'w teulu i oroesi. Mae ychydig o amaethyddiaeth masnachol, coffi yn tyfu yn bennaf sydd yn gnwd allforio mawr .

Mae’r sector eilaidd yn fach iawn gyda dynion yn bennaf yn gweithio mewn ffatrïoedd yn derbyn ychydig iawn o gyflog . Buddsoddiad tramor sydd wedi creu'r swyddi hyn mewn ffatrïoedd tecstilau a lledr.

Mae'r sector trydyddol yn cyfrif am tua 15 % o'r boblogaeth , dynion a menywod, sy'n gweithio yn y gwasanaethau gan gynnwys twristiaeth .

​

Y sector cynradd yw y sector cyflogaeth mwyaf yn China , ond yn wahanol Ethiopia mae hefyd yn cynnwys cloddio yn ogystal ag amaethyddiaeth. Mae dynion yn cloddio am lo, yn sylweddol a damweiniau mwyngloddio yn gyffredin ac yn adlewyrchu rheoliadau diogelwch gwan. Bydd menywod yn aml yn gweithio mewn amaethyddiaeth .

Nid yw'r sector uwchradd mor fawr a'r sector cynradd, ond yn cynhyrchu'r mwyaf o arian gan yrru economi China . Mae dynion a menywod yn gweithio yn y sector hwn yn gweithgynhyrchu nwyddau sy'n cael eu gwerthu ar draws y byd . Mae'r oriau'n hir a'r amodau gwaith yn eithaf anniogel , ond mae'r tâl yn well na ffermio.

Mae'r sector trydyddol yn un mor fawr a'r sector cynradd , fodd bynnag mae’r bobl sy'n gweithio yn y sector hwn a'r sector eilaidd yn ennill mwy o arian ac yn gallu ei wario ar wasanaethau a hamdden. Er bod yr oriau gwaith yn hir, mae'r amodau gwaith yn llawer mwy diogel na'r rhai a geir yn y sector eilaidd .

​

Mae'r sector cynradd yn cyfrif am tua 2% yn unig o'r strwythur cyflogaeth y DU . Ychydig iawn o bysgota neu fwyngloddio sydd ac mae mecaneiddio ar ffermydd yn golygu nad oes angen i gweithlu mawr ar ffermydd.

Nid yw'r sector eilaidd 18% . Mae hyn o ganlyniad i dad-ddiwydiannu y DU ac adleoli diwydiannau traddodiadol . Er yna dal i bod rhai ffatrïoedd yn dal i fod yn y DU, maent yn defnyddio llawer o uwch-dechnoleg ac wedi eu awtomeiddio a felly yn lleihau'r angen am weithlu mawr.

Y sector trydyddol sydd yn dominyddu yn y DU, Mae mwy na 2 filiwn o bobl yn hunangyflogedig ac yn gweithio o gartref , gan ddibynnu ar ffonau , y rhyngrwyd a 6

chyfrifiaduron . Mae'r dechnoleg hon wedi elwa llawer o bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.

At ei gilydd , mae'r amodau gwaith yn y DU o safon uchel diolch i reoliadau diogelwch llym ac undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr. Mae yna hefyd isafswm cyflog cenedlaethol a deddfau cyfle cyfartal er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu ar sail rhyw, ethnigrwydd neu oed.

​

6 of 24

Dirywiad y sector cynradd

  • 150,000 o ffermwyr yn rhoi lan
  • 1939 - 4.5% o weithwyr yn ffermwyr
  • 2000 - 1.3% o weithwyr yn ffermwyr
  • Mae ffermwyr yn cael ei rhwystro ar faint o ddefaid gallynt cael sydd felly, yn arwain at lai o arian yn cael ei gynhyrchu ac hefyd llai o swyddi.
  • Mecaneiddio - peiriannau newydd sydd felly yn cymryd swyddi ffermydd gan fod un perian yn gallu gwneud swydd 20 person

7 of 24

Dirywiad y sector eilaidd

  • 1960 - 40% gweithgynhyrchu oedd holl allbwn economaidd ac yn cyflogi ⅓ o’r gweithlu
  • Heddiw 11% o’r economi a llai na 10% o’r gweithlu
  • Wedi newid yn sylweddol yn bennaf oherwydd globalieddio
  • LIC Gwlad incwm isel/ MIC yn cynnig tir rhad i sefydlu safleoedd, rheoliadau/amodau gwaith llai llym, cysylltiadau da nawr rhwng y gwledydd erbyn cael cangen cyflenwad rhyngwladol
  • Llai o gefnogaeth gan y llwyodraeth DU yn yr 80au, ffocws ar diwydiant technoleg ‘High Tech’

8 of 24

Ymarfer arholiad

9 of 24

Gwerth Model Clark Fisher

Sylwch NAD yw'r model yn dangos gwerth cymharol y pedwar sector gwahanol dros amser ond, yn hytrach, pa sectorau sy'n defnyddio'r gyfran fwyaf o weithlu'r wlad ar unrhyw adeg.

Mae'r newidiadau a welwch yn ymwneud yn bennaf â defnyddio peiriannau a phatrymau masnachu â gwledydd eraill. Nid pwysigrwydd neu lwyddiant gwahanol fathau o fusnes ac allbwn economaidd sy'n bennaf gyfrifol am y newidiadau.

Deillia'r gostyngiad mawr mewn cyflogaeth gynradd yn bennaf o fecaneiddio ffermio (e.e. defnyddio tractorau). Rydyn ni'n bwyta mwy o fwyd bellach, dim llai! Yn y DU, mae rhywfaint o'r gostyngiad yn deillio o gau pyllau glo, oherwydd y gellid mewnforio glo rhatach o dramor yn wreiddiol, ac yn fwy diweddar am fod glo'n cael ei ddiddymu'n gyfan gwbl fel ffynhonnell egni.

Erbyn yr 1800au, roedd y rhan fwyaf o oedolion y DU yn gweithio mewn swyddi gweithgynhyrchu cyflog isel. Ond symudodd y newid byd-eang lawer iawn o'r swyddi hyn dramor yn yr 1970au a'r 1980au. Er hyn, mae digonedd o ffatrïoedd a gweithdai yn dal i fodoli yn y DU – ond mae llawer yn dibynnu ar robotiaid ac awtomeiddio (gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, neu AI). Mae'r nifer fach o swyddi gweithgynhyrchu sydd ar ôl sy'n cael eu gwneud gan bobl yn swyddi medrus a chyflog uchel (e.e. gwaith peirianneg tra medrus).

Er ei bod yn wir bod y rhan fwyaf o bobl bellach yn gweithio yn y sector trydyddol, mae llawer ohonyn nhw ar dâl eithaf gwael, er enghraifft, llenwyr silffoedd, glanhawyr a gyrwyr cludo nwyddau. Yng nghanol y grŵp hwn mae athrawon, nyrsys a gweinyddwyr swyddfa – gweithwyr proffesiynol y mae'r rhan fwyaf wedi cael eu haddysgu i lefel gradd. Mae lleiafrif o weithwyr trydyddol yn cael eu talu'n dda iawn yn wir (cyfreithwyr a bancwyr ar y lefel uchaf).

Gall gweithwyr cwaternaidd ddod yn gyfoethog iawn – yn filiwnyddion hyd yn oed – os ydyn nhw'n berchen ar yr hawlfraint ddeallusol i'r syniadau, y cynhyrchion, y gwefannau a'r crypto-cyfred (ymhlith pethau eraill) maen nhw'n eu creu.

​

10 of 24

Cwestiwn arholiad

Eglurwch y rhesymau dros y

gostyngiad yn y sector gynradd yn y DU [5]

​

Un rheswm dros ostyngiad yn y sector gynradd yw ddatblygiad glo oherwydd fod mewnforiadau yn rhatach sydd felly yn golygu llai o galw a llai o swyddi. Yn ychwanegol wnaeth Margret Thatcher cau’r pyllau glo e.e Pwll Mawr, De Ddwyrain Cymru yn y 80au, felly arweiniodd hyn at ddirywiad i’r sector. Rheswm arall dros hyn yw mecaneiddio oherwydd fod periainneg newydd mewn amaethyddiaeth yn gallu gwneud swydd 20 o bobl felly, mae llai o swydd ac yn arwain at ostyngiad yr sector. Yn ogystal, credaf fod newidiadau cymdeithasol addysg yn chwarae rol enfawr dros y gostngiad oherwydd cynnydd mewn swyddi trydyddol o ganlyniad i brifysgol yn cael ei gwthio i fwy o bobl ifanc, roedd 757,000 o geisiadau isreaddesdig yn 2023. Golyga hyn, fod llai o weithwyr yn y sector ac felly yn arwain at lai o arwain a gostngiad y sector.

​

​

11 of 24

2.1.4 Bae Caerdydd - Hanes

Daeth Caerdydd yn dref ddiwydiannol o ganlyniad i’r Chwyldro Diwydiannol y 1790au. Roedd twf cloddio am lo yng nghymoedd De Cymru wedi arwain at adeiladu Camlas Morgannwg yn 1794, a ddaeth â haearn a glo i lawr o'r cymoedd. Wrth i'r diwydiant hwn ehangu daeth yn amlwg bod angen ffurf fwy effeithlon o gludiant ac yn 1840 agorwyd Rheilffordd Dyffryn Taf.

Roedd y twf ym masnach haearn a glo yn cynyddu'n gyflym wedi arwain at nifer o ddociau gael eu hadeiladu yn ystod y 1830au. Y rhain yn cynnwys Doc Gorllewin Bute, a oedd y doc cyntaf i'w agor gan 2il Ardal Bute yn 1839 ac yn hysbys a'i fynedfa tua'r môr, y Basn Hirgrwn, mae'r Bute East Dock yn 1855, Basn y Rhath yn 1874, Doc y Rhath yn 1887 a Doc y Frenhines Alexandra yn 1907.

​

Yn ystod y cyfnod hwn, tyfodd Butetown a'r ardal ddociau o'i gwmpas yn gymuned gosmopolitan gyda morwyr o bob cwr o'r byd yn ymgartrefu yng Nghaerdydd. Amcangyfrifir bod pobl o leiaf 50 o genhedloedd wedi setlo yn yr ardal hon, a oedd yn ei adnabod fel 'Tiger Bay'. Roedd y mewnfudwyr wedi helpu i adeiladu'r dociau, gweithio ar y llongau gan helpu i wasanaethu'r ddinas ddiwydiannol a morwrol (122 o gwmniau llongau yn yr ardal).

​

Erbyn y 1880au, roedd Caerdydd wedi trawsnewid o un o drefi lleiaf yng Nghymru i'r mwyaf a'i phorthladd yn trafod mwy o lo nag unrhyw borthladd arall yn y byd. Ar drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1913, cyrhaeddodd allforion glo eu hanterth ar dros 13 miliwn tunnell. Roedd yna 620 o byllau glo dwfn yn ne Cymru yn danfon eu glo i’r arfordir i gael ei allforio tramor. Yn adeilad y Gyfnewidfa Lo llofnodwyd y siec £1 filiwn gyntaf y byd trwy werthu glo.

​

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, fodd bynnag, disgynnodd y galw am lo gan wledydd tramor ar gyfer allforio o Gaerdydd. Wrth i wledydd eraill ddatblygu eu diwydiannau dur eu hunain disgynnodd y galw am lo. Roedd y mwynau haearn a glo yn dod i ben ac yn fwy costus i gloddio yn ddyfnach. Erbyn y 1960au roedd yr allforion glo wedi dod i ben bron yn gyfan gwbl. Collodd tua 10,000 o swyddi gydol y cyfnod, 3,200 ohonynt pan caewyd Gwaith Dur East Moors yn 1978.

​

Erbyn dechrau'r 1980au roedd Bae Caerdydd wedi dod yn dir diffaith wedi ei hesgeuluso gyda dociau segur a fflatiau llaid/mwd. Roedd yna eithrio cymdeithasol ac roedd lefelau uwch na'r cyfartaledd o ddiweithdra. Allfudodd llawer o’r boblogaeth. Roedd diffeithdra (dereliction) yn amlwg wrth i adeiladu cael eu gadael yn wag gan gynnwys stordai a hen weithfeydd. Gan nod oedd cymhelliant na unrhyw fuddsoddiad daeth y tir agored yn ddiffaith.

​

Gwelodd y 1960au dinistrio rhannau helaeth o'r Bae a chwalwyd y gymuned wrth iddynt gael eu disodli a’u hail gartrefi (os oeddent yn ffodus).

​

12 of 24

2.1.4 Dirywiad

  • Chwalwyd y gymuned wreiddiol wrth orfodi trigolion i symud allan o’r ardal er mwyn gallu dymchwel eu cartrefi ar gyfer datblygiadau newydd yr ail-ddatblygiad. Nid oedd y trigolion yn cael dewis i ble cawsant eu hadleoli i os oeddent mor ffodus â chael yr opsiwn hynny o gwbwl.
  • Er i 5,780 o dai newydd gael eu hadeiladu ar safle Bae Caerdydd nid oeddent yn ddigon fforddiadwy i’r trigolion gwreiddiol a oedd yn y mwyafrif o achosion wedi colli swyddi yn y diwydiannau trwm ac/neu ar incwm isel ac yn gweithio’n rhan amser. Pris am fflat dwy ystafell wely ymhell dros £100,000.
  • Roedd 20% o’r tai newydd i fod yn rhai fforddiadwy i’r trigolion lleol ond nid oedd hyn yn ddigonol o ystyried faint oedd yn colli eu cartrefi ac felly heb yr opsiwn i gael eu hadleoli yn ôl yn y Bae ar ôl yr ail-ddatblygiad y ffatiau newydd.
  • Teimla’r trigolion lleol yn ddig iawn bod cyn lleied o arian (£10 miliwn yn y man cychwyn) yn cael ei fuddsoddi yn yr ardal ar gyfer pobl o du allan yr ardal h.y. pobl broffesiynol a fyddai yn gweithio yn y swyddfeydd newydd a’r twristiaid byddai’n ymweld â’r ardal. Roedd angen buddsoddi a gwella gwasanaethau sylfaenol i drigolion Tre Bute e.e. ysgol Mount Stuart, canolfannau iechyd a chanolfan gymunedol.
  • Doedd dim digon o fuddsoddiad i roi hyfforddiant i’r gweithwyr collodd eu swyddi yn sgil y dad-ddiwydianeiddio.
  • Dim mynediad gan y bobl leol i’r swyddi proffesiynol gan nad oedd ganddynt y cymwysterau.

13 of 24

Cwestiwn arholiad

Archwiliwch ganlyniadau colli diwydiannau traddodiadol ac eilaidd mewn ardaloedd trefol rydych wedi’i astudio [8].

MPLl:

  • Enwi’r ardal rydych wedi’i astudio
  • AA2 (3 marc) ‘Archwiliwch’= ydy nhw’n dda/drwg?Ydyn nhw’n dda/drwg yn bennaf?
  • AA1 (5 marc) trafod y canlyniadau yn fanwl gan ddefnyddio cysyllteiriau

14 of 24

Yr ardal rydw i wedi astudio yw Bae Caerdydd. Does dim amheuaeth fod effeithiau negyddol cymdeithasol o ddad-diwydaneiddio e.e. Y cylch amddigfadedd. O ganlyniad i 3,200 o bobl yn colli ei swyddi yn Gwaith Dur East Moors yn 1978. Cynyddodd diwethdra ac felly, tlodi. Hefyd, golyga lefelau tlodi uwch fod amodau byw yn gwaethygu, gwelwn yn Butetown yn 1969 ble roedd rbwel wedi adael ar Patrik Street ar ôl tai cael ei dymchwel. Pwsyleisiau hyn fod colli diwydiannau wedi bod yn drwg yn bennaf oherwydd fod Bae Caerdydd arfer bod yn canolfan allforio glo yn y 70au ac felly wrth i’r galw am lo leihau ar ôl yr ail rhyfel byd, fe wnaeth lefelau diwethdra Bae Caerdydd cynyddu o 13.4% i 23.3% o fewn ddwy mlynedd. Yn ychwnaegol, wnaeth y lefelau o ddiwethdra arwain at gynnydd mewn torgyfraith a gamblo gyda bocedi o ardaloedd gloau coch yn tyfu. Awgryma hyn fod y dad-diwydaneiddio yn ddrwg yn bennaf oherwydd fod pobl angen troi i dorgyfraith. Yn ogystal a hyn, wnaeth llawer o’r drigolion gwrthdrefoli oherwydd doedd dim cyfleoedd gwaith iddynt ac felly roedd yr ardal yn colli mwy o weithwyr. Does dim amheuaeth amdani fod colli diwydiannau wedi bid yn ddrwg yn bennaf oherwydd wnaeth arwain ar lefelau uchel yn amddifadedd a diwethdra.

⅞ - beth am y tai gwreiddiol? Beth am ddifyg sgiliau addas ar gyfer swyddi gwahanol?

15 of 24

2.1.4 Polisiau Menter

Ardaloedd Menter Llywodraeth Cymru

16 of 24

Ardaloedd Menter: Enghraifft Caerdydd

  • Maes awyr-Haws i deithio i wledydd neu ardaloedd ar draws y DU wrth i’r maes awyr gael ei leoli yn Nghaerdydd.
  • Y M4- Mynediad i leoliadau ar draws y DU, er enghraifft Llundain, Bryste a Rhydychen.
  • Gorsaf tren-Fath o deithiad cyflym sydd i’w gael yn ganol y ddinas sy’n rhoi mynediad haws i bobl mudo’n aml am waith.
  • Amrywiaeth o fysiau-Bysiau sy’n deithio o gwpas y ddinas ac i ddinasoedd/dre agos am bris fforddiadwy.
  • Cwmni Admiral - yswyriant - cyflogi 5,000 staff, £1.58 biliwn trosiant

Manteision posibl

  • Caniatau twf economaidd
  • Cryfhau perthynas y Llywodraeth Cymru a busnesau lleol.
  • Seiliedig ar roi mynediad i farchnadoedd er mwyn ddatblygu perthnasoedd fuddsoddiad tramor.
  • Creu awyrgylch fwy deniadol i CTWau.
  • Cartref i nifer fawr o gwmniau fel Aston Martin, TATA a’r BBC.

17 of 24

2.1.5

18 of 24

Y Stryd Fawr

Pam mae busnesau’n lleoli yn y CBD?

​

1. Crynhoad ac Agosrwydd (agglomeration and proximity)

 

Dyma brif fuddion lleoliad canol ddinas i fusnes ac adwerthu. Mae’r canol yn rhannu isadeiledd (heolydd, rheilffyrdd ac ati) y ddinas gyfan. Mae gan yr ardal drefol cronfa fawr o weithwyr y gallai cyflogwyr manteisio arnynt. Mae’r canol yn ardal lle all syniadau a gwybodaeth cael eu cyfnewid a’u gwerthu yn rhwydd, ac felly gwelwn fusnesau ariannu (finance), gyfreithiol a marchnata yn ennill yn fawr o’r ffactorau yma.

​

2.Hygyrchedd�Mae bod mewn ardal ganolog yn denu mwy o gwsmeriaid gan eu bod yn ymweld â busnesau yn y CBD wrth gwblhau busnes amrywiol yn y ddinas. Mae crynhoad siopau yn y CBD yn fanteisiol i gwsmeriaid gan eu bod yn gallu cymharu prisiau nwyddau ac mae mwy o ddewis ganddynt. Mae cysylltiadau cludiant da i ardaloedd canolog, felly maent yn agored i lawer o wahanol grwpiau.

​

3.Gweithlu Sgiledig

Mae gweithlu sgiledig yn denu busnesau i’r ardal sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ennill cyflogau da mewn swyddi sgil uchel. Mae hyn, yn ei dro, yn denu pobl sgiledig i fyw yn yr ardal.

​

​

19 of 24

Boniddigeiddio

Mae ardaloedd o gartrefi Sioraidd neu Fictoraidd a oedd unwaith yn ddifreintiedig tu hwnt bellach yn gartrefi i deuluoedd neu gyplau ifanc dosbarth canol sydd am fanteisio ar fywyd canol dinas. Yn aml, daw’r rhain yn rai o’r ardaloedd mwyaf costus a ffasiynol i fyw ynddynt oherwydd ansawdd y bensaernïaeth (architechture) a’u bod yn agos i barciau a holl gyfleusterau’r CBD.

Brixton - Astudiaeth Achos

Yn nodweddiadol, bydd tai a arferai fod yn rhad – yr oedd pobl ar incwm is yn eu rhentu am bris rhesymol – yn cael eu gwerthu i fuddsoddwyr newydd pan fydd ail-drefoli a boneddigeiddio'n digwydd. O ganlyniad, rhaid i'r cymunedau sydd wedi'u dadleoli a arferai fyw yno chwilio am gartrefi newydd. Fodd bynnag, byddan nhw'n aml yn canfod nad oes unman y gallan nhw ei fforddio ar ôl yn lleol. Bydd rhai'n symud i ardal ratach o'r ddinas – gelwir hyn yn 'ardywallt’ (decanting).

Gall nifer fach o bobl ar incwm isel aros yn y gymdogaeth sydd wedi boneddigeiddio os yw'r llywodraeth leol yn gallu rhentu tai cymdeithasol (tai cyngor) iddyn nhw. Yn ardaloedd dinas fewnol y DU, lle mae lle'n brin, bydd hyn yn aml yn cynnwys blociau o fflatiau â dwysedd poblogaeth uchel sy'n eiddo i'r cyngor.

Mae rhai o'r bobl ar incwm is yn weithwyr allweddol, fel gweithwyr cartrefi gofal, cynorthwywyr addysgu a nyrsys. Mae'n hanfodol i gynaliadwyedd cymunedol fod tai fforddiadwy ar gael iddyn nhw. Fodd bynnag, mae'r rhai sy'n feirniadol o hyn yn dweud mai dim ond canran fach iawn o'r holl dai sy'n rhai fforddiadwy ac nad ydyn nhw'n gwneud iawn am yr holl dai rhad a gollir o ganlyniad i foneddigeiddio.

2021 - 800,000 pris cyfartaledd tai

2021- 6,400 diwaith 40% MBE, teimlo fel bod nhw yn cael ei gwthio mas, amddifadedd

20 of 24

Parciau adwerthu

Agorwyd nifer o barciau adwerthu/canolfannau siopa tu allan i drefi a dinasoedd ar draws Cymru e.e.Parc Trostre, Llanelli; Spytty, Casnewydd; Cribbs Causeway, Bryste. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o siopau cadwyn e.e. M&S, Next, H&M,Tesco, a.y.y.b. Wrth i’r ardaloedd yma ddod yn fwyfwy poblogaidd gyda siopwyr, gwelwn ddirywiad mewn sawl CBD gyda llawer o siopau wedi symud mas.

 Dyma rhai o fanteision parciau adwerthu ar gyrion y dref:

  • Safleoedd mawr yn golygu fod siopau’n gallu cynnig amrywiaeth mawr o nwyddau;
  • Digon o lefydd parcio am ddim;
  • Hygyrch – hawdd i gyrraedd oherwydd wrth ymyl prif-ffyrdd neu gyffordd traffordd – yn dda i gwsmeriaid a loriau nwyddau;
  • Agos i ystadau tai maestrefol sy’n darparu gweithwyr (creu swyddi i bobl leol) a chwsmeriaid;
  • Amgylchedd pleserus gyda thir agored a digon o le i ehangu;
  • Rentiau a threthi yn is oherwydd pris tir rhatach mae hyn yn galluogi arwynebedd llawr mwy.

​

21 of 24

Awgrymwch resymau dros dwf parciau adwerthu (Defnyddiwch dystiolaeth o’r map)

Safle tir llwyd, tir diffaith yn cael ei datblygu

Hygyrch, agos at prif ffyrdd A48, cysylltiad i’r M4 i’r Gogledd

Agosrwydd at ystadau o dai, dalgylch eang

Amrywiaeth o siopau, pobl yn gallu mynd i’r arfarchnad a siopau cangen

22 of 24

Siopa ar-lein

Manteision

Anfanteision

Cyfleus

Siopa un clic

Mwy o ddewis/ amrywiaeth o gynyrchion

‘Delivery’ yr un diwrnod/ o fewn dydd

​

​

Ddim yn cael eich nwydd ar y dydd

Dim yn ymweld/ cefnogi’r stryd fawr

Mwy tebygol o gefnogi busnesau mawr CTW

Efallai mae’r nwydd ddim yn beth oeddech yn disgwyl

Dirwyiad i’r stryd fawr, llai o ymwelwyr

Beth am yr effaith ar ansawdd y stryd fawr?

23 of 24

Cwestiwn arholiad

Archwiliwch effeithiau newidiadau mewn patrymau adwerthu ar fywydau pobl [8]

​

Un effaith gall cael achosi, gall y symudiad pobl tuag at adwerthu ar y rhyngrywd yw fydd mwy a mwy o fusnesau lleol yn cau yn y CBD. Yn ôl y Guardian yn 2018 mi wnaeth 6,000 o siopau cau ar strydoedd mawr y D.U yn 2017. Felly yn achosi i’r nifer o weithwyr siop i leihau felly fydd mwy o bobl allan o swydd felly bydd yn arwain at ddiweithdra a chynnydd mewn galw am waith a thlodi yn yr ardaloedd yma. Yn ôl un erthygl wnaeth 11 siop agor y dtdd ar gyfartaledd i gymharu â 16 siop yn cau ar gyfartaledd. Felly mae llai o lefydd i bobl fynd i siopa a gwatio arwain felly fydd mwy o bobl yn dewis i siopa ar lein oherwydd mae dewis eang o nwyddau a gall siopa unrhyw le o’r tŷ yn gyfleus heb ffiniau. Effaith arall yw fydd llai o siawns i bobl cymdeithasou a datblygu sgiliau cymdeithasol a chwrdd a phobl newydd. Mae hyn fel achos o’r lleihad yn siopa mewn person er enghraifft gostgynodd gwariant ar ffasiwn ac esgidiau gan 2% yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn ôl data gan Kanta. Gall y newid yma hefyd cynyddu swyddi yn y sectorau gyrru wrth i bobl prynnu ar-lein maen rhaid i bobl talu am ddosbarth cynhyrchion a all arwain at effaith negyddol amgylcheddol o fwy o dagfeydd.

​

6/8 - effaith ar leoedd? Pa leoedd? Parciau adwerthu? Y CBD? Pa siopau sydd wedi cau a symud ar lein?

24 of 24

Cwestiynau:

​

hermannm10@hwbcymru.net

miles.hermann@gwentiscoed.cymru

​

​

​

Diolch yn fawr