1 of 13

Poster Pwerus

Beth yw pwrpas poster?

Pwrpas poster yw rhoi gwybodaeth, gwerthu cynnyrch/offer, hysbysebu neu annog rhywun.

2 of 13

Gwrando a Siarad

Ewch am dro o amgylch yr ysgol i chwilio am wahanol bosteri.

Gofynnwch am gasgliad o hen bosteri a arddangoswyd yn yr ysgol.

Cerddwch o gwmpas y pentref/dref leol gan arsylwi a thynnu lluniau o wahanol bosteri.

Cymerwch bip ar y cyfryngau cymdeithasol (o dan oruchwyliaeth oedolyn)

Meddyliwch am enghreifftiau o bosteri y daethoch ar eu traws.

3 of 13

Darllen

Beth yw teitl y poster?

‘Teitl y poster yw…’

Pa lefydd diddorol sydd ar y poster?

‘Mae…ar y poster.’

Beth yw pwrpas y poster?

‘Pwrpas y poster yw…’

Pa luniau sydd ar y poster?

‘Mae llun…ar y poster.’

🚶‍♀️Crwydro🚶‍♂️ Caerfyrddin

Ydych chi wedi diflasu ar weld yr un hen le o hyd?

⭐Ymlwybrwch yn araf wrth ochr yr afon Tywi.

Wel…beth am ddod i gartref y Dewin Myrddin?

⭐Gwyliwch ffilmiau amrywiol yn y sinema cyfforddus.

⭐Blaswch yr amrywiaeth o fwydydd bendigedig.

Pa gwestiwn/gwestiynau sydd ar y poster?

‘Mae…ar y poster.’

Pa ferfau gorchmynnol sydd ar y poster?

‘Mae…ar y poster.’

Darllenwch y poster enghreifftiol yn ofalus 📖

4 of 13

Ysgrifennu

Cofiwch y canlynol wrth greu poster.

Cam 1

Teitl bachog

Cam 3

Llefydd diddorol

Cam 4

Brawddegau i berswadio

Cam 5

Lluniau deniadol

Cam 2

Cwestiynau campus

5 of 13

Ysgrifennu

Beth am gynllunio eich poster? 📝

Cam 1 – Teitl bachog 📝

Cam 2 – Cwestiynau campus 💭❓

Cam 3 – Llefydd diddorol 📃

Cam 4 – Brawddegau i berswadio 🤔💻📃

Cam 5 – Lluniau deniadol 🎨🖍📷

6 of 13

Ysgrifennu

Cam 1

Teitl bachog

Beth am gyflythrennu eich teitl bachog?

Beth yw ystyr cyflythrennu?

Defnyddio dau air neu fwy sy’n dechrau â’r un llythyren ar ôl ei gilydd.

Gwasgwch y botwm yma er mwyn ymarfer cyflythrennu enwau anifeiliaid gan ddefnyddio ansoddeiriau.

Pentref Perffaith

Ardal Arbennig

Cymuned Campus

Lle Llawen

Cynefin Croesawgar

7 of 13

Ysgrifennu

Cam 2

Cwestiynau campus

Hoffech chi gael hwyl a sbri yn…?

Ydych chi eisiau gweld…?

Hoffech chi chwarae…?

Hoffech gysgu yn yr awyr agored?

Ydych chi’n hoffi cerdded…?

Ydych chi’n hoffi bwyta…?

Ydych chi’n hoffi…?

Hoffech fynd am dro…?

Beth am ddod i…?

Ydych chi wedi bod yn/ym…?

8 of 13

Ysgrifennu

Cam 3

Llefydd diddorol

Beth sydd yn eich ardal leol?

🚂🏰🍴🛒⚽

Cae chwarae hwylus ac anturus.

Ysgol addysgiadol a chyfeillgar Y Ddwylan.

Clwb Rygbi egniol a chystadleuol Castell Newydd Emlyn.

Afon Teifi dwfn ac oerllyd.

9 of 13

Ysgrifennu

Cam 3

Llefydd diddorol

Cofiwch gynnwys lluniau deniadol sy’n cefnogi cynnwys y poster.

Castell cadarn a hanesyddol Castell Newydd Emlyn.

Eglwys groesawgar a gofalgar.

Siop sglodion a physgod hyfryd.

Canolfan Hamdden heini ac amrywiol.

10 of 13

Ysgrifennu

Cam 4

Brawddegau i berswadio

Beth am ddefnyddio berfau gorchmynnol ‘wch’ wrth berswadio?

Cofiwch…

Dewch…

Mwynhewch…

Ymlaciwch…

Bwytewch…

Prynwch…

Prynnwch…

Cerddwch…

Blaswch…

Cefnogwch…

Chwaraewch…

Gwyliwch…

Ewch…

11 of 13

Ysgrifennu

Cam 4

Brawddegau i berswadio

Beth am gynnwys ansoddeiriau?

hyfryd

penigamp

cyffrous

deniadol

blasus

clyfar

bendigedig

cofiadwy

bywiog

diddorol

ardderchog

cyflym

amrywiol

Beth yw ystyr ansoddair?

Ansoddair yw gair sy’n disgrifio.

12 of 13

Beth am ddefnyddio gwahanol apiau/raglenni i greu eich poster?

PicCollage

j2e5

jit5

Canva

Explain Everything

13 of 13

Wyt ti wedi cynnwys…

Ydw/Nac ydw ✔/✖

  • teitl bachog?

  • cwestiynau campus?

  • llefydd diddorol?

  • brawddegau i berswadio?

  • lluniau deniadol?

Cofiwch wirio eich poster.

Gwrando, Siarad, Darllen ac Ysgrifennu