1 of 36

2 of 36

��Adolygu: Cymraeg Uwch Gyfrannol

Barddoniaeth CY3

3 of 36

Ysgrifennwch draethawd ar un o’r canlynol.

Wrth ateb, dylech gofio:

  • trafod y tair cerdd wrth ymateb i ofynion y cwestiwn
  • dadansoddi arddull
  • cymharu gweithiau’r beirdd lle bo’n briodol
  • defnyddio termau beirniadaeth lenyddol a dyfyniadau.

4 of 36

Naill ai

Mae Cymru a’r iaith Gymraeg wedi ysbrydoli cerddi beirdd ar hyd y blynyddoedd. Trafodwch a chymharwch sut mae Waldo Williams, Gerallt Lloyd Owen a Myrddin ap Dafydd yn ymateb i’r thema. Dylech gyfeirio at gynnwys y cerddi a’u harddull. [40]

 

Neu

Yn y gerdd ‘Y Genhedlaeth Goll’ mae Alan Llwyd yn ymdrin â thema marwolaeth. Trafodwch y gerdd hon a’i chymharu â dwy gerdd arall, un o waith Gwenallt ac un o waith T. H. Parry-Williams sy’n dangos eu bod hwythau hefyd yn ymdrin â’r thema hon. Bydd angen i chi gyfeirio at gynnwys y cerddi a’u harddull. [40]

5 of 36

Dewis cwestiwn yn ofalus

  • Efallai y byddwch yn gwybod yn syth pa gwestiwn yw eich ffefryn ond byddwch yn ddoeth wrth ddewis.
  • Cymerwch amser i bwyso a mesur y ddau gwestiwn fel eich bod yn dewis y cwestiwn sydd fwyaf addas i chi. Ystyriwch holl anghenion y cwestiynau.
  • A yw eich gwybodaeth o gynnwys y tair cerdd yn gyfartal? Gallai diffyg sylw cyfartal golli marciau i chi.
  • A ydych yn deall sut mae’r themâu yn berthnasol i’r beirdd o dan sylw?
  • A ydych yn cofio beth yw hanfod y cerddi?
  • Beth am eich dealltwriaeth o nodweddion arddull y beirdd?
  • A oes gennych syniadau ar gyfer cymharu sut mae’r beirdd yn ymdrin â’r themâu?
    • Beth am ddyfyniadau?

6 of 36

Cynllunio

Ystyriwch y canlynol:

  • Nodwch ar ffurf bwledi ddeunydd perthnasol ar gyfer pob cerdd gan ddewis a dethol yn ofalus.

  • Gwiriwch nad ydych wedi colli rhannau pwysig o gerddi sydd mewn gwirionedd yn cyfleu eu hanfod ac yn ateb gofynion y cwestiwn.

  • Nodwch wir hanfod pob cerdd – oes dyfyniad yn cyfleu hyn?

  • Beth am glo’r cerddi? Nodwch ambell ddyfyniad all fod o gymorth

  • Meddyliwch am rai nodweddion arddull gan feddwl sut mae’r beirdd yn eu defnyddio i bwysleisio eu syniadaeth o ran y themâu.

  • Gofynnwch gwestiynau penodol i sicrhau eich bod ar y trywydd cywir e.e. Beth yw safbwynt y beirdd am Gymru a’r iaith Gymraeg/farwolaeth? Sut mae’r beirdd yn (a) yn defnyddio pobl i drafod y thema?

  • Ceisiwch nodi ambell gymhariaeth ddeallus rhwng y cerddi.

7 of 36

Mae gennych o leiaf 1 awr i ysgrifennu eich traethawd.

  • Ceisiwch feddwl am agoriad sy’n gwneud argraff – yn hytrach na dim ond ailadrodd geiriad y cwestiwn beth am anelu i grynhoi hanfod y traethawd y byddwch yn ymhelaethu arno yn ngweddill eich gwaith? Sut mae pob bardd yn ymateb i thema benodol?

  • Cychwynwch ymdrin â cherdd yr ydych fwyaf hyderus yn ei thrafod a chofiwch ddilyn eich cynllun yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn atgoffa eich hun o union ofynion y cwestiwn.

  • Ystyriwch ddilyniant y traethawd wrth symud o baragraff i baragraff.

  • Trafodwch y tair cerdd yn gyfartal gan dynnu cysylltiadau rhyngddynt yn gyson.

  • Wrth gloi ceisiwch osgoi ailadrodd yr hyn a fynegwyd eisoes; unwaith eto ceisiwch feddwl am glo sy’n gwneud argraff.

8 of 36

  • Yn Adran B dewiswch eich cwestiwn yn ddoeth a chofiwch dreulio 15 munud yn cynllunio.

  • Cymerwch ofal gyda chywirdeb iaith. Mae’r arholwr yn ystyried ansawdd eich iaith a’r cynllun.

  • Os oes amser gennych ar ôl gorffen y traethawd, darllenwch dros eich gwaith yn ofalus a chywirwch unrhyw wallau.

  • Cadwch lygad ar yr amser gan sicrhau eich bod yn cwblhau’r traethawd.

9 of 36

Cynllun

Does dim angen cynllun manwl; mae pwyntiau bwled ar ffurf nodiadau yn ddigon

• Cyflwyniad: sylwadau rhagarweiniol cryno a fydd yn sail gadarn ac eglur i weddill y drafodaeth.

• Corff y traethawd: cyfres o bwyntiau bwled bras yn nodi’r prif ddadleuon. Gellwch nodi hefyd rai o’r enghreifftiau y byddwch chi’n cyfeirio atynt i gefnogi eich safbwynt, ac ambell ddyfyniad, o’r cerddi eu hunain ac o eiriau ambell feirniad, er mwyn atgyfnerthu’r dadleuon ymhellach (ac er mwyn dangos i’r arholwr mor drylwyr fu eich gwaith paratoi!).

Efallai y byddwch chi am neilltuo un pwynt bwled ar gyfer pob paragraff, ond yr hyn sy’n hollbwysig yw eich bod yn mynegi eich safbwynt yn glirgan ddatblygu dadl sy’n llifo’n rhesymegol o’r naill bwynt i’r llall. Pan ddaw’n bryd ichi ddechrau saernïo’r traethawd drwy roi cnawd ar esgyrn y cynllun, bydd gennych syniad clir yn eich meddwl o drywydd eich ateb o’r dechrau i’r diwedd.

10 of 36

O blith yr holl feirdd y buom yn eu hastudio eleni, tri bardd sy’n amlwg yn cael eu hysgogi i farddoni gan unigolion o’r gorffennol yw Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd ‘Y Gwˆ r sydd ar y Gorwel’, Myrddin ap Dafydd yn ‘Gwenllian’, a Waldo Williams yn ‘Geneth Ifanc’. Mae’r tri bardd yn trin yr unigolion hyn mewn ffyrdd gwahanol iawn: gwêl Gerallt Lloyd Owen genedlaetholdeb Saunders Lewis fel ysgogiad i ni Gymry cyfoes ddeffro o’n trwmgwsg; caiff Myrddin ap Dafydd ei ysgogi i ysgrifennu gan hanes y dywysoges Gwenllian, er mwyn ein rhybuddio i beidio â gadael i’n hiaith gael ei haberthu fel y cafodd hithau; a chaiff Waldo Williams ei ysgogi gan yr ‘ysgerbwd carreg’ i fyfyrio ar ei hanes a’i werthoedd ef ei hun. Dyma dri bardd gwahanol iawn, felly, ond pob un ohonynt wedi eu hysgogi i lunio cerddi cofiadwy gan unigolion o’r gorffennol.

Dyma enghraifft o baragraff agoriadol

11 of 36

nodweddion y mae’r arholwyr yn chwilio amdanynt yn yr atebion gorau:

• Arddangos gwybodaeth drylwyr ac eang am y cerddi

• Crynhoi ffeithiau perthnasol yn effeithiol, eu cymhwyso a’u cyflwyno’n gydlynus

• Cymharu a chroesgyfeirio effeithiol rhwng gweithiau’r beirdd a astudiwyd

• Arddangos dealltwriaeth dda o’r cysyniadau

• Dadansoddi a dehongli’n dda ystod o gerddi

• Datblygu ac ehangu ar syniadau’n drefnus a chydlynus

• Cyflwyno tystiolaeth drwy gyfeirio at gerddi penodol a defnyddio dyfyniadau’n effeithiol

• Dadansoddi arddull yn effeithiol a chyfeirio at y technegau a ddefnyddir gan y beirdd

• Defnyddio termau gwerthfawrogi barddoniaeth yn effeithiol

12 of 36

Trafod, esbonio, dehongli, dyna’r nod, yn hytrach na chynnig disgrifiad syml. Sylwer ar bwyslais y meini prawf uchod ar ddadansoddi a dehongli ystod o gerddi, ar ddatblygu ac ehangu ar syniadau’n drefnus a chydlynus, ac ar arddangos dealltwriaeth dda o’r cysyniadau y mae’r beirdd yn ymdrin â nhw

13 of 36

Wrth ddarllen cerdd, ceisiwch ofyn i chi eich hunain beth yw’r thema, pa neges y mae’r bardd yn ceisio’i chyfleu, beth yw hanfod y gerdd? Yn ogystal â gwybodaeth drylwyr, dylai eich dehongliad o bob cerdd fod yn glir yn eich meddwl cyn mynd i mewn i’r arholiad.

Dylech fanteisio’n llawn ar wybodaeth eich athrawon, ond byddwch hefyd, gobeithio, yn ddigon hyderus i gynnig eich dehongliad arbennig chi.

14 of 36

Peidiwch â gorddefnyddio ymadroddion fel ‘yn fy marn i’ a ‘heb os nac oni bai’ rhag iddynt fynd yn syrffedus!).

Cofiwch hefyd mai arfer Seisnig yw cyfeirio at fardd neu lenor wrth ei gyfenw.

Cofwch mai enw benywaidd yw rhan – y rhan hon; dwy ran; y rhan gyntaf; y drydedd ran – ac mai gwrywaidd yw math – y math hwn; dau fath; math gwahanol

15 of 36

Enwau benywaidd

acen yr acen hon; acen ddisgynedig (llu. acenion)

agwedd yr agwedd hon; agwedd wahanol

arddull yr arddull hon; arddull ddiaddurn

awdl yr awdl hon; awdl fer

barddoniaeth y farddoniaeth hon; barddoniaeth deimladwy

barn y farn hon; barn ddadleuol

beirniadaeth y feirniadaeth hon; beirniadaeth graff

berf y ferf hon; berf ddramatig

canmoliaeth y ganmoliaeth hon; canmoliaeth fawr

cerdd y gerdd hon; dwy gerdd; y tair cerdd; y pedair cerdd; cerdd rydd; cerdd benrhydd; cerdd gaeth

crefft y grefft hon; crefft gywrain

cyfeiriadaeth y gyfeiriadaeth hon; cyfeiriadaeth lenyddol

cyffelybiaeth y gyffelybiaeth hon; cyffelybiaeth wreiddiol

cymhariaeth y gymhariaeth hon; cymhariaeth gyfoethog (llu.

16 of 36

Enwau gwrywaidd

adeiladwaith yr adeiladwaith hwn; adeiladwaith gofalus

adlais yr adlais hwn; adlais pendant (llu. adleisiau)

amrywiaeth yr amrywiaeth hwn; amrywiaeth difyr

amwysedd yr amwysedd hwn; amwysedd cyfoethog

ansoddair yr ansoddair hwn; ansoddair lliwgar (llu. ansoddeiriau)

arwyddocâd yr arwyddocâd hwn; arwyddocâd dwfn

awgrym yr awgrym hwn; awgrym posibl (llu. awgrymiadau)

awyrgylch yr awyrgylch hwn; awyrgylch gaeafol

cefndir y cefndir hwn; cefndir gwledig (llu. cefndiroedd)

confensiwn y confensiwn hwn; confensiwn cyfarwydd (llu. confensiynau)

cwpled y cwpled hwn; dau gwpled; tri chwpled; cwpled diarhebol (llu. cwpledi)

cyd-destun y cyd-destun hwn; cyd-destun cymdeithasol (llu. cyd-destunau)

cyfanwaith y cyfanwaith hwn; cyfanwaith gorffenedi

17 of 36

18 of 36

19 of 36

20 of 36

21 of 36

22 of 36

23 of 36

24 of 36

25 of 36

26 of 36

27 of 36

28 of 36

29 of 36

30 of 36

31 of 36

32 of 36

33 of 36

34 of 36

35 of 36

36 of 36