1 of 20

Sesiwn Byw

  • Adolygu sesiynau 1-3.
  • Canolbwyntio ehangach ar Prisio.
  • Techneg Arholiad.

2 of 20

Strwythur y cwrs

  • Uned 1 15%​
  • Uned 2 25%​
  • Uned 3 30%​
  • Uned 4 30%

​

3 of 20

4 of 20

5 of 20

Gwneud defnydd effeithiol o wefan CBAC-Sgrolio lawr i waelod y dudalen gartref.

6 of 20

7 of 20

Ewch i CBAC → HAFAN →CYMHWYSTERAU

8 of 20

Amcanion Asesu

  • AA1 Gwybodaeth-Deall y testunau​
  • AA2 Cymhwyso-Cysylltu’r testun i’r stori/cwestiwn​
  • AA3 Dadansoddi-Datblygu’r ateb, dadansoddi ac edrych ar un ochr.​
  • AA4 Gwerthuso-Edrych ar ddwy ochr, dod i farn, cyfiawnhau a chynghori.​
  • Hanfodol deall yr Amcanion Asesu a sut i ateb y cwestiynau mewn modd effeithiol

​

9 of 20

Pris-Rhan o’r gymysgfa farchnata.

MPLL

Strategaethau Prisio

Dewis y strategaeth sy’n addas i’r math o fusnes

Pricing Strategies Explained (youtube.com)

10 of 20

​

11 of 20

Pris Treiddio

  • Pris yn dechrau yn isel er mwyn cyflwyno nwydd NEWYDD i’r farchnad.
  • Bwyd, Cylchgronnau, Sianeli / Apiau Teledu fel Netflix
  • Wrth i ffyddlondeb gael ei greu mi fydd y pris yn codi a’r cwsmer yn parhau.
  • Problemau?

12 of 20

Pris Sgimio

  • Pris yn dechrau yn uchel pan yn cyflwyno Technoleg NEWYDD i’r farchnad. Fel arfer mae brand cryf gan y nwydd.
  • Ffonau clyfar, Teledu diweddaraf, system gemau.
  • Targedu prynwyr buan (early adopters) sy’n fodlon talu’r pris.
  • Mae’r pris uchel hefyd yn helpu’r busnes dalu am ei gostau ymchwil a datblygu.
  • Pris yn gostwng pryd mae’r cystadleuaeth yn lawnsio nwydd newydd neu os yw a) trend yn newid b) nwydd yn heneiddio c) dim angen y nwydd mwyach/
  • Problemau?

​

13 of 20

Cost Plws

  • Yn syml mae busnes yn prynu stoc gan gyflenwyr ac yna yn ychwanegu % ar ben y cost y stoc fel elw.
  • e.e. Caffi yn prynu poteli dwr gan y cyflenwyr. Mae un botel yn costio 37c i’r Caffi. Mae’r caffi yn gweithio ar elw o 60%
  • Gweithiwch allan bris gwerthu y botel ddwr.

14 of 20

Cystadleuol

  • Cyffredin iawn ymysg busnesau sydd mewn marchnadoedd cystadleuol.

​

15 of 20

Cyfraniad

  • Dyma ble fydd busnes yn gosod y pris yn seiliedig ar y costau newidiol a gorbenion sy’n mynd ati i roi pris creu pob uned o nwydd.
  • Fformwla Cyfraniad

Pris Gwerthu-Costau Newidiol

16 of 20

Nwydd ar Golled

  • Mae’r strategaeth yma yn golygu gwerthu cynhyrchion am golled neu llai o elw gan ddisgwyl y bydd hyn yn denu mwy o gwsmeriaid, ac yn cynyddu gwerthiannau mewn rhan arall o’r busnes.
  • Yr enghraifft amlwg o hyn yw archfarchnadoedd yn gwerthu nwyddau fel bara, cwrw a phetrol am bris llai er mwyn denu cwsmeriaid i’w siopau.
  • Yn yr Haf bydd discownt ar gwrw gan obeithio bydd cwsmeriaid yn prynu bwyd picnic a BBQ’s tra eu bod yn y siop.

17 of 20

Cwestiwn arholiad AO2

Pwysig-Defnyddio strategaethau addas I’r math o nwydd. Yn yr achos yma Technoleg.

18 of 20

Cwestiwn Arholiad Estynedig

  • ‘Dylai busnes ganolbwyntio ar gynnig prisiau isel yn hytrach na gwella ansawdd’ I ba raddau yr ydych yn cytuno a’r datganiad? (6)

Pwysig-Edrych ar y safbwyntiau gwahanol a cytuno neu anghytuno a’r datganiad.

​

  • Mae Sara yn credu ei fod yn costio £25 i gynnal pob gwers merlota.

Yn seiliedig ar ei strategaeth prisio cost plws o 40%, cyfrifwch bris cyfartalog pob gwers ferlota (4)

Pwysig-Dangos y cyfrifo a rhoi £

19 of 20

  • Disgrifiwch y strategaethau prisio y gallai cael eu defnyddio gan fusnesau bwyd cyfleus fel Subway, KFC neu McDonalds (10)

Pwysig-rhaid i’r strategaeth fod yn addas i’r busnes

​

  • ‘Gosod y pris cywir yw’r elfen bwysicaf o’r gymysgfa marchnata’ Trafodwch (12)

Pwysig-Rhaid dweud pam fod pris yn bwysig ond hefyd pam fod yr agweddau eraill yn bwysig hefyd

Cofiwch-Dwi’n cytuno, ar un llaw, ar y llaw arall, barn er mwyn y marciau uchaf.

20 of 20

Unrhyw gwestiwn?