1 of 12

Ysbrydoli, Dyheu, Gwneud Gwahaniaeth

Gonest

Caredig

Hapus

Iach

Creadigol

Chwilfrydig

Ysgol Ffordd Dyffryn

Rhesymwaith ar gyfer Cwricwlwm

Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd

Dysgu gyda’n gilydd yn Ysgol Ffordd Dyffryn i ysgogi ac ysbrydoli ein disgyblion i fod y gorau y gallant fod ac i fyw’n hapus a bod yn hyderus mewn byd sy’n newid drwy’r amser!

Buom yn gwrando ar ddysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a’n cymuned leol. Y 10 gair allweddol hyn a gododd amlaf wrth drafod ein gweledigaeth.

Cynhwysol, Teulu, Ysbrydoli, Uchelgais, Cymuned, Meithrin, �Hapus, Diogel, Cefnogol ac Annog.

Bod yn Barod

Bod yn Ddiogel

Bod yn

Barchus

Sgwad Pedwar Diben Ffordd Dyffryn

Cyfleoedd Cyffrous

Bydd gan ddysgwyr lais cryf i ddylanwadu ar eu dysgu. Bydd athrawon yn ystyried anghenion, safbwyntiau a chamau dysgwyr ac yn cynllunio profiadau cyffrous, heriol a blaengar ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.

Dysgu yn yr Awyr Agored

Bydd profiadau dysgu yn datblygu ac yn gwreiddio’r pedwar diben. Bydd y cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu dilys a hwyliog yn ein cymuned leol gan annog disgyblion i fwynhau ffordd iach o fyw.

Hinsawdd y Dosbarth

Bydd dysgwyr yn dylanwadu ar ddyluniad eu hamgylchedd dysgu. Byddant yn cael cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd sy’n gwella eu dysgu a hefyd i gyflwyno eu gwaith yn eu ffordd bersonol unigryw eu hunain.

Dysgu Digidol

Ymholi dan arweiniad disgyblion

Chwarae ac Archwilio

Meddylfryd Twf

Dysgu Gweithredol

Datrys Problemau

Dysgu ar gyfer Cynaliadwyedd

Caban y Môr - Ysgol y Traeth

​

Cynnwys y Gymuned

Mae dysgwyr yn dathlu’r iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth ar draws eu gwaith.

Dysgwyr yn cefnogi ei gilydd i fod yn hyderus ac yn wydn, gan groesawu her a dal ati i gyflawni eu nodau.

Datblygu sgiliau ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith.

2 of 12

Ysgol Ffordd Dyffryn - Dylunio ein Cwricwlwm

​

Cam 1: Egwyddorion a Phwrpas – Penderfynu ar fwriad ein cwricwlwm

Dechreuom drwy sefydlu egwyddorion y cwricwlwm sy’n adlewyrchu gwerthoedd, cyd-destun, dulliau addysgeg ac anghenion Ffordd Dyffryn. Buom yn trafod ac yn diffinio ein hegwyddorion cwricwlwm, ein gweledigaeth a’n bwriadau gyda’r holl randdeiliaid.

​

Cam 2: Hawliau a Gwella – Datblygu ein cynnig i ddysgwyr

Ar ôl egluro ein hegwyddorion a’n pwrpas, aethom ati i nodi ein cynnig i ddysgwyr. Buom yn ystyried y pethau na fyddai Ffordd Dyffryn yn fodlon ildio arnynt a sut rydym yn bwriadu ehangu ein cwricwlwm gydag ymweliadau addysgol, gweithgareddau allgyrsiol a phrofiadau eraill i gyfoethogi’r cwricwlwm. Buom yn ystyried yr hyn y bydd dysgwyr yn ei brofi wrth iddynt fynd drwy’r ysgol a meddwl am ffyrdd o gyfleu hyn.

​

Cam 3: Ehangder a Chydbwysedd – Pennu cynnwys ein cwricwlwm

Rydym yn defnyddio’r disgrifiadau dysgu i dynnu ynghyd amrywiaeth eang o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau. Cânt eu harchwilio drwy amrywiaeth o gyd-destunau, pynciau a gweithgareddau a ddewisir yn y broses o ddylunio cwricwlwm. Rydym hefyd yn creu cysylltiadau ar draws Meysydd fel y bo’n briodol. Rydym hefyd yn cefnogi dysgwyr i ymroi i’r disgrifiadau o ddysgu mewn dyfnder a soffistigeiddrwydd cynyddol dros gyfnod o amser. Rydym yn helpu dysgwyr i gymhwyso’r disgrifiadau o ddysgu mewn cyd-destunau sy’n gynyddol heriol ac yn caniatáu ar gyfer dargyfeirio, atgyfnerthu a myfyrio wrth i’w dealltwriaeth a’u defnydd o’r dysgu allweddol ddatblygu a dod yn fwy soffistigedig dros amser, gan ysgogi meddwl dwfn, trafodaeth ac ymholi.

​

Cam 4: Addysgeg – Cynllunio’r gwaith o gyflwyno ein cwricwlwm

Rydym wedi ceisio datblygu gweledigaeth gref o ran dysgu ac addysgu sy’n ystyried y ‘pam’ ar gyfer ein cwricwlwm, yn ogystal â’r beth a’r sut. Bydd ein gweledigaeth yn cydnabod rôl hanfodol yr amgylchedd dysgu o ran cefnogi dysgu effeithiol.

​

Cam 5: Cynnydd ac Asesu – Cynllunio ar gyfer Cynnydd

Mae cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm dysgu 3 ac 16 oed yn ganolog i’r Cwricwlwm i Gymru. Byddwn yn defnyddio amrywiol strategaethau asesu a fydd yn galluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a’u herio’n briodol

​

Cam 6: Adolygu ac Arfarnu – Penderfynu beth sy’n gweithio’n dda a pha feysydd sydd angen eu datblygu

Gan ein bod bellach wedi sefydlu cwricwlwm Ffordd Dyffryn, un cam pwysig yw adolygu’n rheolaidd ei effaith ar addysgu a dysgu, gan wneud unrhyw addasiadau neu newidiadau sydd eu hangen arnom i’w wella ymhellach. Byddwn yn ystyried rhagor o gyfleoedd dysgu proffesiynol i staff e.e. datblygu ymhellach y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o arweinwyr tîm MDPh, a chyfleoedd i weithio gyda Sefydliadau AU ar ymchwil gweithredu gan athrawon.

3 of 12

Cam 1: Egwyddorion a Phwrpas

Ysgol Ffordd Dyffryn – Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd

​

​

​

Dysgu gyda’n gilydd yn Ysgol Ffordd Dyffryn i ysgogi ac ysbrydoli ein disgyblion i fod y gorau y gallant fod ac i fyw’n hapus a bod yn hyderus mewn byd sy’n newid drwy’r amser!

Buom yn gwrando ar ddysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a’n cymuned leol. Y 10 gair allweddol hyn a gododd amlaf wrth drafod ein gweledigaeth.

Cynhwysol, Teulu, Ysbrydoli, Uchelgais, Cymuned, Meithrin, Hapus, Diogel, Cefnogol, Annog.

Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

Ein Gwerthoedd

Ein Hymddygiad

Gonest

Mae pawb yn ein hysgol yn unigryw – ein dysgwyr, ein teuluoedd, ein staff a’n rhanddeiliaid. Byddwn yn onest ac yn agored yn ein gwaith ac rydym yn parchu barn a theimladau pawb.

Caredig

Mae cymuned ein hysgol yn hyrwyddo amgylchedd gofalgar a chefnogol, gan ein bod yn trin ein gilydd â pharch.

​

Hapus

Rydym yn cefnogi anghenion lles pob dysgwr unigol i sicrhau eu bod yn mwynhau eu dysgu bob dydd.

​

Creadigol

Mae ein dysgwyr yn cael eu hannog a’u grymuso i fod yn greadigol, yn arloesol ac yn entrepreneuraidd.

​

Chwilfrydig

Caiff dysgwyr eu cefnogi i ddylanwadu ar eu dysgu eu hunain wrth i ni hwyluso ac annog amgylchedd dysgu heriol sy’n procio’r meddwl.

Iach

Byddwn yn chwarae rhan weithredol a llawn ym mywyd ein cymuned a byddwn yn annog ein dysgwyr i ddatblygu eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, gwytnwch ac empathi.

Saif Ysgol Ffordd Dyffryn yng nghanol tref glan môr hardd Llandudno. Gallwn gerdded ar draws y ffordd i’r traeth ac rydym dafliad carreg o’r Gogarth. Mae pob dosbarth yn ymgorffori teithiau cerdded yn ein hamgylchedd lleol fel rhan hanfodol o’n cwricwlwm. Rydym eisiau gallu rhoi cyfleoedd a phrofiadau i’n disgyblion sy’n rhagori ar eu disgwyliadau. Rydym am helpu ein disgyblion i sylweddoli bod byd o gyfleoedd ar gael iddynt.

​

Mae cynhwysiant wrth wraidd ein hathroniaeth addysgol. Mae ein hysgol ni’n darparu amgylchedd cyffrous a hapus lle caiff plant eu hannog i ddod yn ddysgwyr annibynnol. Mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi fel unigolyn ac yn cael addysg eang a chytbwys er mwyn iddynt ddod yn ddysgwyr aeddfed, cyfrifol a hapus, sy'n cyfrannu at ddiwylliant ac ethos yr ysgol a'r gymuned ehangach.

 

4 of 12

Ysgol gynradd yng nghanol Llandudno yn sir Conwy yw Ysgol Ffordd Dyffryn. Rydym yn darparu addysg ar gyfer tua 200 o ddysgwyr o dair i un ar ddeg oed, rydym yn cynnig darpariaeth feithrin yn ystod sesiynau'r prynhawn. Mae cylch chwarae boreol ar y safle, Seren Superstars a chynigir gofal cofleidiol i’n holl ddysgwyr.

​

Y cyfartaledd tair blynedd ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 44%. Rydym wedi nodi bod gan tua 23% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

​

Mae gennym Ganolfan Adnoddau Cyfnod Sylfaen arbenigol ar y safle ar gyfer dysgwyr o bob rhan o’r ALl ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a Chanolfan Adnoddau CA2 arbenigol ar gyfer dysgwyr ar draws yr ALl ar y sbectrwm awtistig.

Yn Ysgol Ffordd Dyffryn rydym yn addysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf ond gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg. Saesneg yw iaith cartref bron pob disgybl.

Mae dysgwyr yn dathlu'r iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth Cymru trwy gydol eu gwaith. Sicrhawn ein bod yn ymgorffori egwyddorion y Siarter Iaith ym mhob agwedd o’n cwricwlwm. Yn ystod eu cyfnod yn CA2, caiff dysgwyr gyfleoedd i fynychu teithiau preswyl i Gaerdydd, Glanllyn a Nant Bwlch yr Haearn.

Mae Dysgu yn yr Awyr Agored yn rhan ganolog o ethos Ffordd Dyffryn. Ymdrechwn i roi cyfleoedd i’n dysgwyr ddatblygu eu sgiliau trwy brofiadau o fewn eu hamgylchedd lleol.

Cam 1: Egwyddorion a Phwrpas

Ysgol Ffordd Dyffryn – Cyd-destun

5 of 12

Cam 2 – Hawliau a Gwella

Beth yw ystyr ‘Cwricwlwm’?

Dros y saith mlynedd nesaf, byddaf yn treulio mwy o amser yn Ysgol Ffordd Dyffryn nag unrhyw le arall... Beth fydda i’n ei ddysgu?

​

Beth yw ystyr ‘Cwricwlwm’?

Dylai’r cwricwlwm fod wrth ‘galon’ unrhyw ysgol. Mae ein cwricwlwm yn ffordd gydlynus o feddwl er mwyn gwireddu ein gweledigaeth i sicrhau bod ein dysgwyr yn ddinasyddion uchelgeisiol, mentrus, egwyddorol ac iach. 

Mae ein cwricwlwm yn eang, yn gytbwys ac yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau a galluoedd . Mae’n darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddysgwyr ac mae’n cynnwys ystod o ddarpariaeth i sicrhau hyn.

​

Felly, beth ddylen ni ei addysgu a pham? Sut dylem ni ei addysgu? Sut bydd hyn yn ein helpu i wireddu’r pedwar diben?

​

Pam ydyn ni’n addysgu hyn? 

I ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel, sy’n cyffroi ac yn ysgogi’r plant yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

​

Sut ydyn ni’n addysgu?

Bydd athrawon yn hwyluswyr dysgu. Gan ystyried anghenion, barn a chamau dysgu’r dysgwyr, byddant yn cynllunio profiadau hwyliog, heriol a blaengar. Bydd gan ddysgwyr lais cryf i ddylanwadu ar eu dysgu. Fel yr arbenigwyr, y staff addysgu fydd yn cyfarwyddo’r dysgu i gyfeiriad priodol gan ystyried barn a syniadau’r dysgwyr. 

Bydd dysgwyr yn dylanwadu ar ddyluniad eu hamgylchedd dysgu. Byddant yn cael cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd sy’n cyfoethogi eu dysgu a hefyd i gyflwyno eu gwaith yn eu ffordd bersonol unigryw eu hunain.

Mae ein Cwricwlwm Ffordd Dyffryn yn cynnwys y 6 Maes Dysgu a Phrofiad, mae’n cwmpasu’r Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig ac yn adlewyrchu’r Egwyddorion Cynnydd.

Mae’n cynnwys yr elfennau cwricwlwm gofynnol ac mae’n cwmpasu’r sgiliau trawsgwricwlaidd gofynnol a'r sgiliau annatod sy'n sail i bedwar diben y cwricwlwm.

6 of 12

Mae ein cwricwlwm Ffordd Dyffryn yn gwreiddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol a’r sgiliau cyfannol sy’n sail i bedwar diben y cwricwlwm.

Mae sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn hanfodol i alluogi dysgwyr i wireddu’r pedwar diben. Mae’r tri sgil trawsgwricwlaidd gorfodol hyn wedi’u gwreiddio a’u datblygu ar draws pob maes dysgu a phrofiad, i alluogi dysgwyr i gael mynediad i’r cwricwlwm cyfan a’u defnyddio yn y dyfodol.

​

Mae ein dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:

  • datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
  • gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
  • bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i'w helpu i weithredu a chyfathrebu'n effeithiol a gwneud synnwyr o'r byd

Cam 2 - Hawliau a Gwella

Cyfrifoldebau Cwricwlaidd

Wrth ddylunio ein cwricwlwm Ffordd Dyffryn rydym wedi cynnwys y pum thema trawsgwricwlaidd. Rydym wedi ystyried yr elfennau statudol o fewn fframwaith CaW:

  • Gyrfaoedd a Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysgol (2018)

Wrth gynllunio ar gyfer Ffordd Dyffryn rydym am sicrhau bod ein dysgwyr yn cael profiadau dysgu o ansawdd uchel, cyfoethog, eang a chytbwys. Rydym hefyd yn bwriadu sicrhau bod ein darpariaeth a’n haddysgu yn datblygu’r sgiliau annatod, sy’n hanfodol i gyflawni’r pedwar diben.

Yn Ffordd Dyffryn rydym yn ystyried yn ofalus elfennau gorfodol y cwricwlwm wrth gynllunio.

Rydym yn manylu ar ein bwriad ar gyfer yr elfennau hyn o fewn ein polisïau.

7 of 12

Cam 2: Hawliau a Gwella

Y Pethau nad yw Ffordd Dyffryn yn ildio arnynt

Yn Ysgol Ffordd Dyffryn, ein nod yw cyfoethogi ac ehangu ein cwricwlwm drwy gyfleoedd dysgu drwy brofiad yn ein hardal leol a thu hwnt. Mae gan ein dysgwyr hawl i amrywiaeth o elfennau na allwn ildio arnynt sy’n cyfoethogi eu datblygiad personol.

​

  • Ein Prosiectau Ysgol Gyfan a Chymuned – Bob blwyddyn mae gennym brosiect cymunedol lleol ysgol gyfan ac mae pob dysgwr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd. Mae’r prosiectau’n rhoi dealltwriaeth ddyfnach i ddysgwyr o gynaliadwyedd ac addysg ariannol e.e. Prosiect Cychod, Prosiect Caban y Môr

​

  • Iechyd a Lles – Ar Ddyddiau Llun Lleidiog, mae gennym grwpiau o ddysgwyr allan yn y gymuned leol ac ar Ddyddiau Gwener Pum Ffordd at Lesiant, mae ffocws y dysgwyr ar ddysgu yn yr awyr agored.

​

  • Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth - Mae cynhwysiant wrth wraidd ein hathroniaeth addysgol. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod pob un o’n dysgwyr yn ymwybodol o awtistiaeth. Mae gennym Lysgenhadon Awtistiaeth sy’n cynnal hyfforddiant i rieni ac aelodau o’r gymuned leol. Maen nhw’n gwneud yn siŵr bod gan bob ystafell flwch synhwyrau a’u bod yn cynnig cefnogaeth i ddysgwyr ar draws yr ysgol.

​

  • Arweinyddiaeth i Bawb – Mae gan bob Cynorthwyydd Dysgu ar draws yr ysgol rôl arwain

sy’n sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at ymyriad, boed hwnnw’n ELSA ar gyfer

cefnogaeth annog, sesiwn gyda Dyffi, ein ci Lles yn yr Ysgol, Grŵp BUZZ

i’n dysgwyr mwy abl a thalentog neu un o nifer o ymyraethau eraill rydyn ni’n eu cynnig.

​

  • Dewis Creadigrwydd – mae Dewis Creadigrwydd yn meithrin a datblygu meddylfryd �creadigol. Mae’n grymuso plant ac oedolion i feithrin gwytnwch, hyder creadigol, a

sgiliau emosiynol-gymdeithasol drwy ymgysylltu â 10 Egwyddor Creadigrwydd.

​

​

​

​

​

8 of 12

​

​

​

Rydym wedi casglu ynghyd ystod eang o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau sy’n cael eu harchwilio drwy amrywiaeth o gyd-destunau, pynciau a gweithgareddau sy’n cael eu dewis yn y broses o ddylunio cwricwlwm. Mae gennym Dimau MDPh sydd wedi cydweithio i ddatgloi’r 27 Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig i greu cysylltiadau ar draws yr holl Feysydd Dysgu a Phrofiad fel sy’n briodol.

​

Rydym yn cefnogi dysgwyr i ymroi i’w dysgu mewn dyfnder a soffistigeiddrwydd cynyddol dros gyfnod o amser. Rydym yn helpu dysgwyr i gymhwyso eu dysgu mewn cyd-destunau sy’n gynyddol heriol ac yn caniatáu ar gyfer dargyfeirio, atgyfnerthu a myfyrio wrth i’w dealltwriaeth a’u defnydd o’r dysgu allweddol ddatblygu a dod yn fwy cywrain dros amser, gan ysgogi meddwl dwfn, trafodaeth ac ymholi.

Cam 3: Ehangder a Chydbwysedd

Datganiadau o’r Hyn Sy’n Bwysig

9 of 12

Cam 4: Addysgeg

Cynllunio’r gwaith o gyflwyno ein cwricwlwm

​

Yn Ffordd Dyffryn rydym yn rhoi gwybodaeth a sgiliau disgyblaeth-benodol i’n dysgwyr. Rydym yn  eu haddysgu’n uniongyrchol ar ddechrau pob diwrnod er mwyn datblygu  meistrolaeth ieithoedd a mathemateg,  a hynny mewn dosbarthiadau a grwpiau sy’n unol ag oedran a chyfnod. Am weddill y diwrnod bydd dysgwyr yn dewis ac yn mynd ar drywydd ‘Cwestiwn Mawr’ tymhorol. 

�Grym Llais y Disgybl

Mae dysgwyr yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gynllunio’r ‘Cwestiwn Mawr’ bob tymor.

Cynhelir sesiynau Pawb yn Cynllunio yn y Dosbarth bob pythefnos i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynnwys yn y gwaith o gynllunio’r Parthau Dysgu ymhellach.

​

Parthau Dysgu

Mae gan bob ystafell ddosbarth chwe Pharth Dysgu: Parth Mathemateg, Parth Iaith, Parth Darganfod, Parth Hapus, Parth Digidol a Pharth Creadigol. Mabwysiadwyd dull Cyfnod Sylfaen ar draws yr ysgol lle mae’r sesiynau Cwestiwn Mawr yn cynnwys grŵp gorchwyl ffocws gydag athro/ athrawes, tra mae dysgwyr eraill yn edrych ar heriau yn y Parthau Dysgu i wella eu dysgu wrth ddatblygu eu sgiliau annibynnol. Mae’r dysgwyr yn cyflwyno eu gwaith yn eu ffordd bersonol unigryw eu hunain gan ddefnyddio eu dyddiaduron Ymholi.

10 of 12

Cam 4: Addysgeg

Cynwysoldeb

ADY

Fel ysgol rydym yn sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu diwallu trwy ddarpariaeth addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae ein Darpariaeth Gyffredinol yn cynnwys: addysgu dosbarth cyfan, gwahaniaethu effeithiol, gwaith grŵp cydweithredol, ymyriadau unigol a grwpiau bach, addasiadau priodol a rhesymol i alluogi mynediad i amgylchedd, cwricwlwm a chyfleusterau’r ysgol.

​

Yn ystod eu cyfnod yn Ffordd Dyffryn, bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd disgwyliedig yn eu dysgu o’u mannau cychwyn. Os nad yw plentyn yn dod yn ei flaen, byddwn yn casglu arsylwadau, yn defnyddio data asesu ac yn ceisio gweithio ar y cyd ag asiantaethau allanol / gweithwyr proffesiynol i nodi unrhyw anghenion dysgu ychwanegol. 

Cynwysoldeb

Rydym yn ymfalchïo yn y cynwysoldeb sydd yn Ffordd Dyffryn.

‘Mae’r ysgol hon yn angerddol am les ei holl ddisgyblion ac mae natur gynhwysol yr ysgol yn treiddio i bob agwedd ar ei gwaith.’                                             Estyn 

​

Bydd ein hysgol yn parhau i ddatblygu perthnasoedd cryf gyda’n teuluoedd a’n cymuned.

Mae ein Llysgenhadon Awtistiaeth yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned, gan weithio gyda busnesau lleol i greu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth

Iechyd a Lles

Mae Iechyd a Lles pawb yn ffocws ac yn flaenoriaeth uchel ar draws popeth a wnawn yn Ysgol Ffordd Dyffryn. Mae gan bob dysgwr ddyddiadur lles ac maent yn cael amser myfyrio ynghyd â chyfleoedd dysgu yn yr awyr agored i wella eu dysgu.

Mae meddylfryd twf yn elfen allweddol bwysig o’n cwricwlwm. Rydym yn hyrwyddo dull ‘Pivotal’ o reoli ymddygiad yn gadarnhaol ac rydym yn defnyddio ‘KiVa’ fel rhaglen gwrth-fwlio lwyddiannus. Cynigir sesiynau Cyngor, Cefnogaeth a Chymorth Misol i rieni.

11 of 12

Cam 5: Cynnydd ac Asesu

Camau Cynnydd

​

​

​

Rydym wedi penodi Arweinydd Dysgu ar gyfer pob ‘Cam’.

​

​

​

​

​

​

Chwilotwyr Anturwyr Arloeswyr

→ Cam Cynnydd 1 Cam Cynnydd 1→2 Cam Cynnydd 2→3

Meithrin a Derbyn Blynyddoedd 1, 2 a 3 Blynyddoedd 4, 5 a 6

​

​

​

Mae Arweinwyr Dysgu yn gyfrifol am helpu i Ddylunio’r Cwricwlwm yn eu cam nhw, gan gynnwys sicrhau sylw priodol i’r Meysydd Dysgu a Phrofiad a dilyniant a chynnydd priodol o fewn eu cam.

​

Mae’r Arweinwyr Dysgu yn gweithio gyda’r Uwch Dîm Arwain i gyfrannu at y ‘darlun ehangach’, gan sicrhau dilyniant a chynnydd drwy’r ysgol gyfan.

Mae ein dysgwyr wrth galon y broses bontio. Rydym yn cefnogi pob dysgwr ar hyd y continwwm dysgu, wrth iddynt symud rhwng gwahanol grwpiau, gwahanol ddosbarthiadau, gwahanol flynyddoedd a gwahanol leoliadau. Rydym yn sicrhau bod lles pob dysgwr yn rhan bwysig ac annatod o’n prosesau, gan gydnabod anghenion unigolion, ar yr un pryd â chefnogi dilyniant a chynnydd yn eu dysgu. Mae ein dealltwriaeth o bob dysgwr unigol, a geir drwy ein strategaethau asesu, yn hanfodol i gefnogi’r broses hon.

Ein rôl ni yn y pontio ar hyd y continwwm 3 i 16

12 of 12

Cam 5: Cynnydd ac Asesu

Asesu

​

​

​

Mae dilyniant dysgwyr ar hyd continwwm dysgu rhwng 3 ac 16 oed yn ganolog i’r Cwricwlwm i Gymru. Byddwn yn defnyddio amrywiol strategaethau asesu a fydd yn galluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a’u herio yn unol â hynny. I ddechrau, byddwn yn defnyddio Taith 360 fel adnodd asesu a thracio.

Rydym yn defnyddio amrywiol strategaethau asesu fel diben cyffredinol yn y cwricwlwm i gefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd.

​

Yn ogystal â hyn, mae asesu yn chwarae rôl sylfaenol mewn sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael ei gefnogi a’i herio’n briodol ac rydym yn defnyddio’r strategaethau i gyfrannu at ddatblygu darlun cyflawn o’r dysgwr – ei gryfderau, y ffyrdd y mae’n dysgu, a’i feysydd i’w datblygu – er mwyn llywio’r camau nesaf o ran dysgu ac addysgu.

​

Mae ein hasesiadau’n cefnogi cynnydd dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd(AgD); yn nodi, cofnodi a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol dros amser; ac yn deall cynnydd grwpiau er mwyn adlewyrchu ar ein hymarfer.

​

Rydym hefyd yn asesu ac yn monitro lles pob dysgwr (PASS) a’i ddatblygiad gwybyddol (CAT4). Defnyddir yr asesiadau hyn i lunio ciplun manwl sy’n darparu targedau cyrhaeddiad, cynnydd a lles.

Rydym yn cyfathrebu’n effeithiol gyda rhieni/gofalwyr yn barhaus i feithrin perthnasoedd cadarnhaol er mwyn eu cynnwys mewn deialog pwrpasol ac ystyrlon. O wneud hyn yn dda, gall hyn helpu cynnydd dysgwyr drwy helpu rhieni/gofalwyr i ddeall sut y gallant gefnogi dysgu y tu mewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol.

​

Rydym wedi datblygu a gweithredu prosesau sy’n cefnogi cyfathrebu ac ymgysylltu dwy ffordd effeithiol gyda rhieni/gofalwyr. Wrth ddatblygu’r prosesau hyn, ystyriwyd defnyddio amrywiaeth eang o wahanol ddulliau cyfathrebu, e.e. wyneb yn wyneb, digidol drwy SeeSaw ac e-bost.

​

Mae gwybodaeth am unrhyw gymorth, ymyraethau neu anghenion ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer datblygiad y dysgwr yn cael ei rhannu gyda rhieni a gofalwyr.

Cyfathrebu ac ymgysylltu gyda rhieni/gofalwyr

Diben Asesu