Miss Davies
Sesiwn 2
Uned 2 TGAU
America
LLYFRYN TECHNEG ARHOLIAD
UDA: Gwlad o Wahaniaethau 1910-1929
Sut i fynd ati i ateb cwestiwn 1:
Mae’n syml. Mae angen i chi astudio’r ffynhonnell a’i ddefnyddio er mwyn disgrifio digwyddiad hanesyddol. Byddwch yn gwneud hyn drwy ddadansoddi cynnwys y ffynhonnell a’i atgyfnerthu gyda gwybodaeth eich hun am y pwnc. Ffocws CYNNWYS + CYD-DESTUN
2 farc am wybodaeth o’r ffynhonnell
4 marc am wybodaeth ychwanegol eich hun (2-3 ffaith eich hun)
Cwestiwn 1
Gwelir yn ffynhonnell A ffotograff tu fewn i Neuadd Fawr Ynys Elis, 1909. Yn ogystal, gwelir pobl yn ymgasglu i gael gwiriad meddygol + cyfriethlon.
Mewnfudwyr yn glanio ar Ynys Ellis - 70% glanio yma ger Efrog Newyd
Profion Iechyd wrth gyrraedd
Cwestiwn 2 [8 marc]
Cam 1:
Disgrifwich y testun sydd i weld yn y cwestiwn yn fras, 2-3phwynt am y testun.
Cam 3:
Casgliad- ateb y cwestiwn: ‘Felly mae’n glir fod...wedi effeithio ar bobl yn fawr oherwydd…’
Cam 2: Rhaid disgrifio 3 pwynt ychwanegol i’r hyn sydd yn y cwestiwn.
Mae angen darllen y cwestiwn yn fanwl a disgrifio’r hyn sydd yn ofynnol i chi. Mi fydd rhaid i chi feddwl am 3 ffaith pendant wedi ei ddisgrifio am farciau llawn.
Cwestiynau enghreifftiol:
Disgrifiwch y ffyniant economaidd yn yr 1920au
Disgrifiwch y newid yn ffordd o fyw a statws menywod yn ystod y cyfnod 1910-1929.
Cwestiwn 2
Disgrifiwch testun y cwestiwn | Effaith/ Canlyniad 1 ‘Roedd hyn wedi effeithio… oherwydd…’ | Effaith/ Canlyniad 2/3… ‘Rhaid hefyd ystyried y dylanwad/ effaith…’ | Ateb y cwestiwn ‘Felly mae’n glir bod… wedi effeithio’n fawr… oherwydd…’ |
Cwestiwn 3 [8 marc]
Pamffled a gyhoeddwyd gan y Gynghrair yn Erbyn Salwnau yn 1919. Roedd am gyflwyno gwaharddiad ar alcohol]
50% cyd-destun
50% ffynhonnell
Cwestiwn 2
Beth oedd pwrpas Ffynhonnell B?
Pamffled a gyhoeddwyd gan y Gynghrair yn Erbyn Salwnau yn 1919. Roedd am gyflwyno gwaharddiad ar alcohol]
50% cyd-destun
50% ffynhonnell
Cynnwys: | Cyd-destun |
Cynulleidfa: | Pwrpas: |
Cwestiwn 3- Cynllun ateb
Cam 1- Pwrpas y ffynhonnell yma yw i sicrhau bod pobl yn cefnogi y Gynghrair yn erbyn salwnau yn America 1919.
Edrychwch ar GYNNWYS yn gyntaf (3-4 pwynt ar yr hyn rydych yn ei weld)
Cam 2 - Cyfeiriwch at y Cyd-destun, beth ydy’r ffynhonnell yn dangos i ni sy’n atgyfnerthu yr hyn rydych yn ei wybodad yn barod; (pwy oedd eisiau’r gwaharddiad, pam? Beth oedd bywyd fel o dan y gwaharddiad?)
Cam 3- Cynulleidfa - Pwy mae hyn yn targedu? Pam? PWRPAS - Cyd-destun beth oedd problemau o fewn y gymdeithas oherwydd alcohol?
Cam 4- Eich barn chi am bwrpas y ffynhonnell - Cyd-destun pam oedd hanfodol? RHOI YMWBYDDIAETH I BOBL O BROBLEMAU OEDD ALCOOL YN ACHOSI - EISIAU BOBL I GEFNOGI’R GWAHARDDIAD.
Cwestiwn 4 -
Cynllun Marcio
Mae’n well gwerthu nifer mawr o geir am elw bach na gwerthu llai o geir am elw mwy. Rwy’n credu hyn oherwydd ei fod yn galluogi mwy o bobl i brynu a mwynhau defnyddio car ac am fod hyn yn creu swyddi i fwy o ddynion ar gyflog da. |
Mae cwymp yn dod, yn hwyr neu’n hwyrach. Efallai y bydd yn ddifrifol iawn gyda ffatrioedd yn cau, dynion yn colli eu swyddi a byd busnes yn dioddef dirwasgiad ofnadwy. |
Mae’r cwestiwn hwn yn sôn am yr economi yn UDA.
Astudiwch y ffynonellau isod ac yna atebwch y cwestiwn sy’n dilyn.
Ffynhonnell C
[Geiriau Henry Ford a recordiwyd yn ystod cyfweliad ar gyfer papur newydd yn America ym 1926.]
Ffynhonnell Ch
[Datganiad gan un o brif economegwyr UDA yn 1928, yn egluro pryder rhai economegwyr ynglŷn â’r cynnydd sydyn mewn prisiau cyfranddaliadau.]
Pa un o’r ffynonellau sydd fwyaf defnyddiol i hanesydd sy’n astudio’r economi yn ystod y cyfnod hwn?
[Yn eich ateb dylech gyfeirio at y ddwy ffynhonnell a defnyddio’r hyn rydych chi’n ei wybod a’i ddeall am y cyd-destun hanesyddol.] [12]
Strwythur
eich ateb:
Mae’ ddwy ffynhonnell yn ddefnyddiol i hanesydd sy’n astudio’r economi yn ystod y cyfnod hwn...
Ffynhonnell C
Cynnwys (Cofiwch i drafod cyd-destun)
Awdur
Math
Dyddiad
Defnyddiol????
Ffynhonnell Ch
Cynnwys (Cofiwch i drafod cyd-destun)
Awdur
Math
Dyddiad
Defnyddiol????
Casgliad-
Rhaid i chi ddod i farn ar ba
ffynhonnell sydd fwyaf defnyddiol.
Ffynhonnell | Ffynhonnell C | Ffynhonnell Ch |
Cynnwys Cyd-destun | | |
Awdur | | |
Math | | |
Dyddiad | | |
Defnyddiol? | | |
Pa un o’r ffynonellau sydd fwyaf defnyddiol i hanesydd sy’n astudio bywydau menywod yn ystod y cyfnod hwn? [12]
Mae’r ddwy ffynhonnell yn ddefnyddiol i hanesydd sy’n astudio bywydau menywod yn ystod y cyfnod hwn, mae defnyddioldeb y ddwy ffynhonnell yn amrywio.
Gwelir yn Ffynhonnell C ei bod yn nodi bod rhaid i fenywod gadw at reolau traddodiadol wrth fynd i'r coleg, ni fyddai unrhyw ymddygiad anfoesol yn cael ei oddef a dylai pob merch gael gwarchodwr.
Mae'r cylchgrawn ‘Wellesley College for Girls’ yn cyfleu safbwyntiau llawer o Americanwyr traddodiadol yn enwedig y rhai o Ardal y Beibl oedd yn teimlo y dylai confensiwn y gymdeithas gyfyngu ar ffordd o fyw menywod. Mae hyn yn ddefnyddiol i ddeall creadoau a meddylfryd pobl y cyfnod.
Mae'r ffynhonnell yn un defnyddiol i ddeall y safbwynt traddodiadol am fenywod mewn rhai rhannau o gymdeithas America, ond nid ar America gyfan. Mae hefyd ond yn canolbwyntio ar gyfnod byr, cyn y rhyfel ac felly nid yw yn edrych ar y cyfnod i gyd dan sylw. Mae hefyd ond yn cynrychioli lleiafrif o Americanwyr yn ystod y cyfnod cyfan;
Mae ffynhonnell Ch yn ddefnyddiol hefyd, ond mae'n canolbwyntio'n wahanol; mae'r portread o fenywod yn eu dangos fel rhan ganolog a hanfodol o gymdeithas y gall cymdeithas gael budd ohonyn nhw ers iddyn nhw ennill y bleidlais. Mae'n portreadu'r safbwynt traddodiadol fel rhywbeth sydd wedi dyddio, ac yn rhoi'r bai ar y genhedlaeth hŷn am y safbwynt cul hwn. Mae Carter, newyddiadurwr ifanc i gylchgrawn o America yn ysgrifennu erthygl am 'Wild Young People' yn 1920, ble mae ganddo mwy o ymwbyddiaeth o’r gyfnod dan sylw fac yn gwrthwynebu'n llwyr safbwyntiau cyn y rhyfel Wellesley College am ei ymdrechion i gyfyngu ar fywydau menywod. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol gan fod y newyddiadurwr gwrywaidd ifanc yn gallu gweld y manteision o'r newidiadau i fywydau menywod.
Mae'n amlwg yn ddefnyddiol wrth ddangos bod y genhedlaeth ifancach yn croesawu newid yn yr 1920au gan fod hyn yn dilyn y rôl oedd gan fenywod yn ystod yr ymdrech rhyfel.
Serch hynny, mae tuedd yn y ddwy ffynhonnell ac mae'r agweddau ynddyn nhw'n wahanol. Er ei bod yn unochrog, mae Ffynhonnell C yn ddefnyddiol o hyd i ddod i ddeall pa mor gyfyngedig oedd bywydau menywod cyn y rhyfel. Teimlaf mae hyn yw’r ffynhonnell mwyaf defnyddio i hanesydd gan ei fod yn rhoi edrychiad ar sut oedd bywyd fel i fenywod yn America a sut mae’r newid yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw wella o fewn cymdeithas, felly gallwn weld newid o fewn y ffynhonnell, ble mae ffynhonnell C ond yn edrych ar gyfnod byr ac yn edrych ar gyfyngiadau menywod yn unig.
Defnyddioldeb |
Cynnwys |
Awdur/Math |
Dyddiad |
Casgliad |
Cwestiwn 5 Cynllun Marcio
Ai twf cerddoriaeth Jazz oedd y prif ddatblygiad yn niwylliant a chymdeithas America yn ystod y cyfnod hwn?
A oedd yna ddatblygiad o ddiwylliant arall?
Beth yw’r cyfnod o dan astudiaeth?
Sut wnaeth cerddoriaeth jazz ddatblygu?
Beth yw’r ffocws??
Pwyso a mesur
Strwythur ateb:
Ai twf cerddoriaeth Jazz oedd y prif ddatblygiad yn niwylliant a chymdeithas America yn ystod y cyfnod hwn?
Cam 1: Rhaid trafod y testun sydd yn y cwestiwn (diwylliant jazz) gan fesur effaith y datblygiad e.e. cafodd cerddoriaeth jazz a'i ddiwylliant effaith fawr ar y dinasoedd yn arbennig; er gwaethaf ei wreiddiau Affro-Americanaidd, daeth jazz yn boblogaidd gan bobl wyn dosbarth canol America, yn enwedig y flappers…Rhaid cynnwys digon o hanes a thystiolaeth i gefnogi’r farn bod Jazz wedi bod yn ddatblygiad pwysig. Barn yn y paragraff.
Cam 2: Rhaid ystyried ffactorau eraill/ pwyso a mesur yr effaith e.e. ond, nid jazz oedd yr unig ddatblygiad diwylliannol a chymdeithasol i effeithio ar America yn y cyfnod hwn… Cofiwch roi digon o hanes i gefnogi. Barn yn y paragraff.
Cam 3:Trafod 2-3 ffactor e.e. Sinema, Radio, Speakeasy. Rhaid pwyso a mesur yr effaith yn erbyn y cwestiwn dan sylw. Cofiwch gynnwys digon o hanes a thystiolaeth Barn yn y paragraff.
Casgliad: Bosibl ystyried unrhyw un o'r ffactorau uchod yn brif ddatblygiad o ran diwylliant a chymdeithas yn ystod y cyfnod, ond dylid dod i gasgliad dilys.
Cofiwch - RHAID mesur yr effaith wrth drafod pob un ffactor! CAYC (cyfeirio at y cwestiwn)O HYD
Ai’r SINEMA oedd y datblygiad pwysicaf yn adloniant poblogaidd yn ystod y cyfnod?
A oedd yna ddatblygiad o adloniant arall?
Beth yw’r cyfnod o dan astudiaeth?
Sut wnaeth y sinema
datblygu?
Beth yw’r ffocws??
Pwsyo a mesur
Roedd y sinema yn ddatblygiad arloesol a deniadol yn ystod y cyfnod, ac roedd dylanwad y sinema yn enfawr ar y cyhoedd. Roedd y sinema yn ddihangfa o fywyd pob dydd i bobl y cyfnod- roedd yn rhad, yn hawdd i’w gyrraedd (oherwydd datblygiad y car) ac roedd yn le crand ble gelwir yn ‘Picture Palaces’. Yn wir roedd y sinema mor boblogaidd roedd 303,000 ohonynt yn bodoli erbyn diwedd yr 1920au o gymharu gyda 8,000 yn 1910. Gyda’r sinema, fe ddaeth nifer o ddatblygiadau cymdeithasol- roedd apêl rhywiol gan nifger o actorion ac roedd merched yn y diwydiant film megis Clava Bow wedi achosi chwyldro ynghylch steil a bywyd y fenyw traddodiadol. Fe ddaeth y 20au gwyllt yn oed o ryddid a datblgiadau diwyllianol i ferched sydd dal i fod yn amlgw heddiw.
Er fod y sinema yn ddatblygiad pwysig, roedd datblygiadau Jazz hefyd yn amlwg yn ystod y cyfnod. Rhoddodd Jazz y cyfle i bobl du amlygu eu hunain yn y diwydiant adloniant e.e. Louis Armstrong ac roedd jazz hefyd yn dod a’r genhedlaeth ifanc yn gyfarwydd gyda’r newidiadau yn ystod y cyfnod, Pobl ifanc yn bennaf oedd yn gwrando ar gerddoriaeth jazz ac roedd rhai rhieni yn anghytuno’n gryd gyda’r ffordd o fyw oedd yn cael ei hysbysebu gyda jazz, cafodd ei waharadd mewn sawl talaith gan gynnwys, Efrog Newydd. Roedd jazz dal yn chwarae mewn nifer o Speakeasies ac fe ddaeth nifer o newidiadau gydag e. Roedd dawnsfeydd megis y Charleston a’r Black Bottom yn boblogaidd, ac fe ddaeth nifer o newidiadau i fenywod o’r dosbarth canol ac uwch. Roeddent nawr yn gwisgo ffrogiau byr a cholur; fe gelwir yn flappers. Er roedd jazz yn ddatblygiad pwysig, ni fyddai wedi bod mor dylanwadol heb y radio. Roedd jazz yn medru lledaenu trwy’r ddefnydd o radio, datblygiad arall y cyfnod.
Roedd y radio yn ddatblygiad arall yn ystod y cyfnod gyda mwy o Americanwyr yn medru cael mynediad at newyddion, gwleidyddiaeth yn ogystal ac adloniant trwy defnydd y radio. Fe ddaeth perchnogaeth o radio yn hanfodol i bob Americanwr. Erbyn 1930, roedd 40% o dai berchen ar set radio.
Er fod y radio yn ddatblygiad technolegol rhagorol, roedd y sinema yn denu mwy o bobl gyda canoedd ar fioloedd o docynnau yn cael eu gwerthu’n wythnosol erbyn 1930. Roedd jazz hefyd yn hybu bywyd newydd i bobl ddu ac i fenywod, ond eto gyd roedd y sinema hefyd yn gwneud hyn. Roedd y Talkies cyntaf yn 1927 yn defnyddio ‘ Blackface’ i godi ymwybyddiaeth am yr achos. Felly, i mi, y sinema oedd y datblygiad mwyaf yn myd adloniant y cyfnod.
CAYC - Cyfeirio at y cwestiwn (Sinema) |
Pwyso a mesur |
Ffactorau eraill |
Ai’r SINEMA oedd y datblygiad pwysicaf yn adloniant poblogaidd yn ystod y cyfnod?