1 of 27

Uned 2

Gwallau Cyffredin

2 of 27

Gwallau Cyffredin

Wrth farcio gwaith disgyblion cadwch lygad am wallau bach sydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr e.e.

Camgymeriadau sillafu

Cymysgu ystyr geiriau

Ateb cwestiynau yn gywir

Arddodiaid

3 of 27

Geiriau sydd yr un peth yn Saesneg ond yn wahanol yn y Gymraeg.

to know - adnabod / gwybod

to spend - gwario / treulio

in - mewn / yn

4 of 27

Geiriau sydd yr un peth yn Saesneg ond yn wahanol yn y Gymraeg.

Adnabod a Gwybod (to know)

Adnabod person e.e. Dw i’n adnabod Mr Harries yn iawn.

Gwybod ffaith e.e. Dw i’n gwybod bod porfa yn wyrdd.

Adnabod neu gwybod?

Dw i’n …….. pawb sydd yn y dosbarth.

Wyt ti’n ……. yr ateb Rhys?

Wyt ti’n …….. Sian sy’n gweithio yn y swyddfa?

Mae’n anodd …….. beth sydd orau i wneud.

Dw i ddim yn ….. y bobl newydd sy’n byw ar y stryd.

5 of 27

Geiriau sydd yr un peth yn Saesneg ond yn wahanol yn y Gymraeg.

Treulio a Gwario (to spend)

Treulio amser e.e. Dw i’n treulio llawer gromod o amser yn gwylio’r teledu.

Gwario arian e.e. Dw i’n gwario llawer gormod o arian ar ddillad.

Treulio neu Wario?

Rydyn ni wedi …… llawer gormod o amser ar y dasg yma.

Dw i ddim eisiau ……. cymaint a hynny ar gyfrifiadur newydd.

……… i rhyw dair blynedd yn gweithio yn Awstralia.

6 of 27

Geiriau sydd yr un peth yn Saesneg ond wahanol yn y Gymraeg.

Mewn ac Yn (in)

Rydyn ni’n defnyddio mewn o flaen lle amhendant e.e, siop, ysgol, caffi ayyb

e.e. Rydw i’n gweithio mewn siop yn Aberteifi

Rydyn ni’n defnyddio yn o flaen lle pendant, yn aml iawn o flaen y/yr neu briflythyren

Rydw i’n gweithio yn y siop ddillad ar y stryd fawr yn Aberteifi

Rydw i’n gweithio yn Marks & Spencer yng Nghaerfyrddin.

Mae Elin yn byw … Aberteifi.

Rhowch y Lego nôl … y bocs.

Mae mam Tomos yn gweithio … ysbyty yn Abertawe.

Mae’r gwaith … y drâr.

7 of 27

Geiriau sydd yr un peth yn Saesneg ond wahanol yn y Gymraeg.

Pan neu pryd (when)_

Rydyn ni’n defnyddio pryd i ofyn cwestiwn yn unig.

Pryd mae’r sioe Nadolig?

Mewn brawddeg gyffredin pan sy’n gywir.

Pan fydda i yn ymddeol, byddaf yn teithio’r byd.

Fe gasgla i’r parsel pan fydda i yn y dref nesaf.

… mae hi’n amser chwarae?

Byddwn ni’n mynd allan … byddwch chi wedi gorffen y gwaith.

Wyt ti’n gwybod … mae’r cinio Nadolig?

… fyddi di’n teimlo’n well byddwn ni’n mynd am dro.

8 of 27

Pa ateb i ba gwestiwn?

Oes?

Oes

Nac oes

Ydy?

Ydy

Nac ydy

Wyt ti?

Ydw

Nac ydw

Gosodiad (Statement)

Ie

Nage

Berf gryno yn yr amser gorffennol

Do

Naddo

9 of 27

Pa ateb i ba gwestiwn?

Oes gwaith cartref gyda ti?

Oes, mae gwaith cartref gyda fi.

Nac oes, does dim gwaith cartref gyda fi.

Ydy Tomos yn yr ysgol heddiw?

Ydy, mae Tomos yn yr ysgol heddiw.

Nac ydy, dydy Tomos ddim yn yr ysgol heddiw.

Wyt ti’n mynd i’r gyngerdd heno?

Ydw, rydw i’n mynd i’r gyngerdd heno.

Nac ydw, dydw i ddim yn mynd i’r gyngerdd heno.

10 of 27

Pa ateb i ba gwestiwn?

Tomos oedd wedi gwneud y gwaith?

Ie, Tomos oedd wedi gwneud y gwaith.

Nage, nid Tomos oedd wedi gwneud y gwaith.

Os ydych chi’n gallu rhoi Ai ar ddechreau cwestiwn ie neu nage fydd yr ateb.

Ai Tomos oedd wedi gwneud y gwaith cartref?

Welaist ti’r gyngerdd ar S4C neithiwr?

Do, fe welais i’r gyngerdd ar S4C neithiwr.

Naddo, welais i ddim y gyngerdd ar S4C neithiwr.

11 of 27

Sillafu berfau

Mae berfau sydd â’r llythyren a yn y canol fel arfer yn goffen ag u.

i neu u ar ddiwedd berf

taflu canu gwasgu glanhau

sarnu rhannu naddu gwahanu

cusanu gofalu palu parablu

12 of 27

Sillafu berfau

Mae berfau sydd â’r llythyren o yn y canol fel arfer yn goffen ag i.

i neu u ar ddiwedd berf

codi cysgodi poeni cnoi

hoffi osgoi ymolchi torri

cyfogi llosgi lluosi arbrofi

13 of 27

Mae, mai, Mai

Berf ydy mae ar ddechrau brawddeg, fel arfer

Mae Tomos yn yr ysgol heddiw.

Mae gen i ben tost.

Mae

mai

Gair sydd yn golygu taw (that) ydy mai.

Rydw i’n gwybod mai ti dorrodd y ffenest!

Mai

Ydy mis Mai wrth gwrs!

14 of 27

Pa neu pwy?

Rydyn ni’n defnyddio pwy pan yn holi cwestiwn am berson yn unig.

Pwy wyt ti?

Pwy sydd wedi gadael glwyd ar agor?

Pa ydy which yn Saesneg.

Pa ddiwrnod yw hi heddiw?

Pa lyfr darllen sydd gyda ti heddiw?

…… sy’n gyfrifol am y llanast yma?

I … ysgol wyt ti’n mynd?

…. blentyn sydd wedi gwneud y gwaith arbennig yma?

Dw i’n mynd allan i chwarae, ….. sy’n dod gyda fi?

15 of 27

â / ag neu a /ac

Mae â / ag yn golygu with yn Saesneg, rydyn ni’n defnyddio â o flaen cytseiniaid ac ag o flaen llafariaid, fel a / ac.

Mae a / ac yn golygu and yn Saesneg, rydyn ni’n defnyddio a o flaen cytseiniaid ac ac o flaen llafariaid

Dw i’n hoffi bwyta afal …. oren.

Paid …. anghofio dy ginio, Llyr.

Rhai’d i mi fynd …… llyfr yma yn ôl at Mr Elis.

Mae’n well gen i oren …. banana.

16 of 27

Defnyddio Arddodiaid Cywir

wrth

â

ar

at

17 of 27

wrth

at

ar

wrthyf i

wrthyt ti

wrtho ef

wrthi hi

wrthym ni

wrthych chi

wrthyn nhw

ataf i

atat ti

ato ef

ati hi

atom ni

atoch chi

atyn nhw

arnaf i

arnat ti

arno ef

arni hi

arnom ni

arnoch chi

arnyn nhw

18 of 27

dweud wrth rywun

Wyt ti wedi dweud wrth Nia fod gwers nofio yfory.

Cofia ddweud wrth Mam dy fod ti wedi gweithio’n dda heddiw.

Rwyf wedi dweud wrthi hi am aros amdanaf i wrth y fynedfa.

Cer i chwilio am Syr a dwed wrtho fe fod Sam wedi cwympo.

Dywedodd yr athro wrthyn nhw am aros wrth y drws yn dawel.

19 of 27

siarad a rhywun

Bydd rhaid i ti siarad â Tom er mwyn trefnu’r gêm yfory.

Clywais i Dad yn siarad â Sara am y llety gwyliau.

Wyt ti wedi siarad â’r dosbarth am y trip wythnos nesaf?

Rydw i eisiau siarad â dy fam ar ddiwedd y dydd.

Daeth Tomos i mam Elin i siarad â mi neithiwr.

20 of 27

mynd at berson

Dw i’n gorfod mynd at y meddyg erbyn pedwar o’r gloch yfory.

Wyt ti’n mynd at y deintydd wythnos nesaf?

Mae’r plant yn mynd at fy rhieni nos yfory.

Bydd Joe yn mynd atyn nhw ar ôl ysgol.

Cer at Mr Rees ar unwaith!

21 of 27

gwrando ar

Dewch i wrando ar stori.

Mae’r plant eisiau gwrando arnyn nhw’n canu’r anthem cyn y gêm.

Gwrandewch arnaf i’n ofalus.

Roedden nhw’n gwrando’n astud arno fe’n siarad am ei blentyndod.

Dw i’n mwynhau gwrando ar y radio cyn mynd i gysgu.

22 of 27

ysgrifennu at rywun

Ysgrifennodd Nia ataf i i ddiolch am yr anrheg.

Ysgrifennaf atat i dy wahodd i ...

Ysgrifennaf atoch i esbonio …

Ysgrifennodd Alys lythyr at ei ffrind.

Rhaid i ti ysgrifennu atyn nhw i ddiolch am yr anrheg.

23 of 27

Ymarferion

Faint o’r gloch wyt ti’n mynd ___ y meddyg?

Rwy’n mwynhau gwrando ___ y radio yn y car.

Rhaid i mi gofio dweud ___ y tîm fod y gêm wedi ei gohirio.

Ysgrifennwch lythyr ____ y pennaeth i ofyn am ganiatád.

Daeth Elin Jones i’r ysgol i siarad ___ ni am ei swydd.

Ewch ___ Mr Owen i’w helpu i baratoi ar gyfer y gêmau potes.

Mwynheuais i wrando ____ nhw yn y gyngerdd nos Sadwrn.

Dywedodd y gyrrwr ____ nhw am fod nôl ar y bws erbyn tri.

Ewch i siarad ___ aelodau’r Criw Cymraeg am drefniadau’r disgo.

Ysgrifennodd bawb nodyn o ddiolch ___ drefnydd y trip.

24 of 27

Termau yn Dynodi Amser.

Heddiw - Dydd Llun yw hi heddiw.

Ddoe - Dydd Sul oedd hi ddoe.

Echdoe - Dydd Sadwrn oedd hi echdoe.

Yfory - Dydd Mawrth fydd hi yfory.

Drennydd - Dydd Mercher fydd hi drennydd.

Tradwy - Dydd Iau fydd hi tradwy.

Dyddiau

Blwyddyn

25 of 27

Wps!

Gyd o👎 i gyd👍

Mae’r llyfrau i gyd ar y bwrdd.

Mae’r plant i gyd ar y bws.

Mae’r plant wedi gorffen ei waith i gyd.

Rhai weithiau👎 weithiau👍

Weithiau, dw i’n cael cinio ac weithiau dw i’n cael brechdanau.

Mae’r bws yn hwyr weithiau.

Weithiau, dw i’n cerdded i’r ysgol.

26 of 27

Wps!

Rhy gormod👎 gormod👍

Mae gormod o sŵn yn y dosbarth.

Peidiwch a defnyddio gormod o baent.

Dw i ddim eisiau gormod o waith cartref.

27 of 27

maen nhw’n 👍

mae nhw’n 👎

mae’n nhw’n 👎

Wrth redeg y ferf bod cofiwch taw maen nhw sydd yn gywir. Rhaid ychwanegu n ar y diwedd on does dim angen collnod.

Maen nhw’n barod i fynd allan i chwarae.

Mae’r sglodion yn flasus, ond maen nhw’n boeth.