1 of 7

Uned 6

Termau ar gyfer ysgrifennu anllenyddol

Adran A: Dwyn i Gof (Recount)

Testunau Enghreifftiol

2 of 7

Y picnic perffaith

Ddoe roedd diwrnod ein picnic. Roedden ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer y picnic gyda Mrs Lewis ers wythnosau.

Yn gyntaf roedd rhaid i ni gyd olchi ein dwylo. Mae’n bwysig golchi dwylo cyn coginio. Nesaf roedd rhaid i ni benderfynu pa lenwad roeddwn i eisiau yn fy mrechdan. Roedd Mrs Lewis wedi prynu caws, ham, ciwcymbr a jam. Fe wnes i ddewis caws a ciwcymbr.

Nesaf roedd rhaid i ni roi menyn ar y bara cyn rhoi’r llenwad i mewn. Wedyn roedd angen rhoi’r dafell arall o fara ar ben y llenwad. Roedd Mrs Lewis yn meddwl ein bod ni’n rhy ifanc i ddefnyddio cyllell finiog felly fe wnaeth hi dorri’r brechdanau i bawb.

Ar ôl gwneud y frechdan fe wnaethon ni baratoi salad ffrwythau. Roedden ni’n gorfod torri’r ffrwythau yn ddarnau mân cyn eu rhoi mewn powlen fawr. Roedden ni wedi dewis rhoi grawnwin porffor, mefus blasus coch, afalau, bananas a mango yn y bowlen. Cyn troi’r cyfan fe wnaethon ni ychwanegu sudd afal. Iwan wnaeth droi y cyfan.

Nawr roedd pawb yn barod ar gyfer ein picnic. Penderfynon ni fynd allan i’r cae chwarae a rhoi’r flaned bicnic o dan y goeden dderwen. Roedd hi’n boeth iawn ddoe felly dywedodd Mrs Lewis fod rhaid i ni gysgodi o dan y goeden. Y peth cyntaf wnaethon ni oedd bwyta ein brechdanau blasus. Yna redden ni wedi bwyta y salad ffrwythau. Roedd yn fendigedig!

Dywedodd Mrs Lewis ein bod ni wedi cael diwrnod i’r brenin!

Esiampl o ddwyn i gof

blynyddoedd 3 & 4

3 of 7

Y Bwthyn,

Dolgarreg,

Aberaeron,

Ceredigion,

SA46 6UC

23ain o Fehefin

Annwyl Mamgu,

Helo! Sut ydych chi? Ydych chi’n teimlo’n well?

Hoffwn i ddiolch i chi am yr arian wnaethoch chi ddanfon i mi yn y post. Fe brynais i lawer o losin gyda’r arian i’w bwyta gyda fy ffrindiau.

Cefais i amser arbennig yn y Gwersyll. Roedd digon i’w wneud yno. Yn gyntaf, pan gyrhaeddon ni roedden ni’n cael ein rhannu i grwpiau o wyth. Roeddwn i a Dyfan yn rhannu ystafell gyda bechgyn blwyddyn 4. Roedd ein caban ni yn un tawel iawn! Yna, ar ôl cael trefn, roedd y gweithgareddau yn dechrau’n syth.

Yn gyntaf, aethon ni i wibgartio. Roedd y tywydd yn sych ond roedd y llethr yn wlyb. Gwlychais at fy nghroen! Roeddd yn llawer o hwyl. Erbyn hyn, roedd hi’n amser cinio. I ginio cefais sglodion, a selsig a ffa pob – fy ffefryn. Cefais gacen siocled i bwdin hefyd! Ar ôl cinio, aethon ni i farchogaeth. Carlo oedd enw’r ceffyl. Roedd e’n hen ac yn araf iawn. Wedyn, fe es i ar y beiciau modur. Roedden nhw’n gyflym ac yn wych. Cyn swper, roedd hi’n amser mynd i nofio. Mae’r pwll nofio newydd yn wych. Erbyn hyn, roeddwn i’n llwgu. Cefais basta a chyw iâr i swper. Ar ôl swper, roedd gêmau potes yn cael eu cynnal yn y Neuadd Chwaraeon. Gwnes i lawer o ffrindiau newydd achos roedd plant o bob ysgol yn yr un tim â ni. Yn anffodus, dim ond am un noson roedden ni’n aros. Ond, flwyddyn nesaf, hoffwn fynd am ddwy noson. Doedd un noson ddim yn ddigon o amser!

Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen am fy hanes.

Cofion gorau,

Hedd

Esiampl o ddwyn i gof ar ffurf llythyr personol (blynyddoedd 3 & 4 )

4 of 7

Heddiw

Bore yma, wrth i staff Hafod Eryri gyrraedd eu gwaith roedd rhywbeth rhyfedd yn eu disgwyl.

Gyrrwr anghyfrifol

Wrth gamu oddi ar y trên y bore gwelodd y staff gerbyd coch wedi ei barcio ar bwys y ganolfan ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa.

Y trên

Y peth cyntaf y bore yma, roedd rhaid archwilio’r cledrau i wneud yn siwr nad oedd difrod wedi ei wneud. Ond, mae Rheolwr y Rheilffordd wedi sicrhau bod y cledrau yn ddiogel a bydd y trên yn rhedeg yn ôl yr arfer.

“Mae’n mynd i fod yn benwythnos prysur a fydd y car ddim yn cael ei symud tan oleiaf wythnos nesaf.” meddai Alan Kendall.

Cerbyd ar y Copa eto

28 Medi 2011

Yr Heddlu

Ar ôl darganfod y cerbyd galwyd yr heddlu. Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dechrau ymchwiliad gan fod yr un cerbyd wedi cael ei yrru i’r copa am yr eildro ers ddechrau’r mis.

“Mae angen cosbi’r gyrrwr ffol yma. Dyma oedd peth peryglus iawn i wneud.” meddai un heddwas o Ogledd Cymru.

5 of 7

Castell Henllys

Ddydd Gwener diwethaf aeth ein dosbarth ni, sef blynyddoedd 5 a 6, gydag Ysgol Y Garn i Gastell Henllys am y dydd. Roedd hi’n siwrnai o dua awr a hanner o’r ysgol felly fe wnaethon ni adael yn brydlon am hanner awr wedi wyth.

Ar y bws roedd pawb yn eu hwyliau yn canu a gweiddi. Dywedodd Mrs Jones, ar un adeg, bod ganddi ben tost oherwydd yr holl sŵn! Ymhen amser, fe gyrhaeddon ni Gastell Henllys a pharcio’r bws mewn maes parcio gwag. Doedden ni ddim yn gallu gweld dim byd oni bai am goed.

Yn gyntaf, cyn mynd dim pellach roedd yn rhaid i ni gyd wisgo dillad addas—ein cotiau cynnes, esgidiau glaw a chofio dod â’n bagiau gyda ni. Erbyn hyn roedd pawb yn barod ac fe wnaeth Mrs Jones a Miss Anwen ein harwain i lawr llwybr cul a serth i’r Ganolfan Groeso. Roedd Mr Rhys (athro Ysgol y Garn) a Miss Catrin yn ein dilyn. Roedden ni’n edrych fel un lindys enfawr yn llusgo drwy’r coed.

Yn y Ganolfan Groeso roedd y toiledau a lluniau ar y waliau o’r Celtiaid. Fe wnaeth un o’r arweinyddion ofyn i ni a oedden ni’n barod i deithio yn ôl mewn amser. A dweud y gwir, roeddwn i’n teimlo ychydig bach yn nerfus. Er mwyn teithio yn ôl mewn amser roedd yn rhaid i ni groesi’r bont amser.

Ar ôl i ni gyd groesi’r bont fach bren wnaeth dim byd rhyfedd ddigwydd o gwbl. Y peth nesaf i’w wneud oedd dringo i fyny y rhiw serth. Roedd rhai o’r bechgyn yn achwyn am eu bod wedi blino. Cyn cyrraedd y pen uchaf fe gawson ni ofn mawr. Roeddwn i’n crynu yn fy esgidiau. Wrth i ni gerdded yn ling di long fe ddaeth dyn Celtaidd o du ôl y clawdd a gweiddi’n uchel arnon ni. Esboniodd Mr Rhys mai fe oedd arweinydd y pentref a’i fod yn ein croesawu. Yna roedd hi’n amser i ni fynd i weld eu pentref.

Esiampl o ddwyn i gof

blynyddoedd 5 & 6

6 of 7

Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth! Yno roedd chwech o dai crwn—yn union fel oedd yn y llyfrau hanes yn yr ysgol. Nesaf fe wnaeth Mr Rhys a Mrs Jones ein rhannu ni yn dri grŵp o ddeg. Roeddwn i’n hapus i gael bod gyda Mared, fy ffrind gorau. Roedden ni’n adnabod rhai o’r merched o Ysgol y Garn hefyd. Wedyn, roedd pob grŵp yn mynd i wneud gweithgaredd wahanol.

I ddechrau, fe aeth ein grŵp ni am dro o amgylch y pentref gan ddysgu pam fod y Celtiaid wedi adeiladu ar y bryngaer. Buon ni yn edrych y tu mewn i’r tai ac yn cynhesu o flaen y tân cynnes. Nesaf ein tro ni oedd ceisio adeiladu wal yn yr un ffordd â’r Celtiaid. Roedd rhaid i ni wehyddu darnau o goed gyda’i gilydd cyn taflu mwd arno. Roedd Dion wrth ei fodd!

Erbyn hyn roedd hi’n amser cinio. Fe fwytaon ni ein cinio yn y tŷ crwn. Eisteddodd pawb ar feinciau pren o amgylch y tân. Roedd hi’n dywyll fel bola buwch yno ac roedd hi’n anodd i ni weld ein gilydd.

Cyn mynd adref fe aethon ni i wehyddu basgedi allan o wiail. Roedd y bobl Geltaidd yn dda ond roedden ni i gyd yn anobeithiol! Fe wnaethon ni ddod adref â’r fasged gyda ni i gofio am ein hamser gyda nhw.

Erbyn hyn roedd hi’n amser mynd adref. Roedden ni gyd yn dipyn tawelach ar y bws ar y ffordd adref. Roedd Mrs Jones yn meddwl bod yr holl awyr iach wedi gwneud lles i ni gyd!

Fe wnaethon ni gyd fwynhau dysgu am fywyd bob dydd y Celtiaid. Dyna beth oedd diwrnod i’w gofio.

7 of 7

Heddiw

Neithiwr tarodd storm enfawr Aberystwyth gan ddifrodi’r promenad.

Diogelwch

Neithiwr, tua 9 yh, bu’n rhaid i bobl adael eu cartrefi ar y promenad yn Aberystwyth. Bu’n rhaid symud tua 150 0 fyfyrwyr o’u llety. Sefydlwyd canolfan argyfwng dros dro yng Nghanolfan Hamdden Plascrug

Yna, ychydig wedi 11 o’r gloch, roedd y cyfuniad o lanw uchel a gwyntoedd cryfion yn ddigon i achosi difrod mawr i’r promenad. Yn ôl Tommy Jones, perchennog gwesty ar y proemad,

“Ar un adeg roedd tonnau’n taro yn erbyn ffenestri ail lawr y gwesty. Roeddwn i’n gwybod bryd hynny ei bod hi’n bryd gadael.”

Y difrod

Heddiw, wrth ymweld â’r promenad, mae Cynghorwyr lleol wedi sicrhau y bydd y gwaith o atgyweirio’r promenad yn dechrau ar unwaith. Maent yn gobeithio y bydd popeth yn ôl i’w drefn erbyn Llun y Pasg.

Aberystwyth yn dioddef

4ydd Ionawr, 2014

“Byddwn ni, y Cyngor Sir, yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y gwaith yn dechrau ar unwaith,” dywedodd y Cynghorydd Hywel Lloyd.

Busnesau

Ond, mae busnesau lleol yn ofni bod hyn yn mynd i gael effaith fawr ar eu hincwm.

“Rydw i’n poeni’n fawr ar yr effaith mae hyn yn mynd i gael ar fy musnes. Rydw i’n hollol ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth.” mynegodd Tommy Jones yn llawn pryder.