1 of 22

TGAU Astudiaethau Crefyddol

2 of 22

Nod ac Amcan

​

  • I atgyfnerthu eich dealltwriaeth o sut fyddai rhai Cristnogion yn ymateb i broblem drygioni a dioddefaint
  • I ddeall sut i ateb cwestiwn “esbonio” TGAU ar y pwnc yma

Ymateb i broblem Drygioni a Dioddefaint

3 of 22

Esboniwch sut y byddai Cristnogion yn ymateb i broblem drygioni a dioddefaint [8]

4 of 22

Esboniwch sut fyddai Cristnogion yn ymateb i drygioni a dioddefaint (8)

5 of 22

Sut mae drygioni a dioddefaint yn gallu bod yn broblem i bobl sy’n credu mewn bodolaeth Duw?

​

Beth yw’r broblem?

Ydych chi’n cofio?

6 of 22

Ydych chi’n cofio?

  1. Hollgariadus
  2. Hollalluog
  3. Hollbresennol
  4. Hollwybodus
  5. Creawdwr
  6. Tad
  7. Cyfiawn (righteous)
  8. Teg (fair)

Problem drygioni a dioddefaint

i gredinwyr crefyddol

7 of 22

Ydych chi’n cofio?

8 of 22

Sut fyddai rhai Crtistnogion

yn ymateb ’r broblem?

​

O ble daw Drygioni a dioddefaint?

9 of 22

Ateb Problem Drygioni a Dioddefaint?

CRISTNOGAETH -O ble daw drygioni a Dioddefaint?

Stori Job

10 of 22

Theodiciaeth Sant Awstin

Beth yw ystyr “Theodiciaeth”? Theodiciaeth yw dadl sydd yn ceisio amddiffyn Duw yng ngwydd drygioni a dioddefaint yn y byd

Pwy oedd Awstin? Athronydd meddyliwr Cristnogol 354-430 oc. Roedd yn esgob yn Hippo Regius yng Ngogledd Affrica

Mae gan Awstin sawl eglurhad pam mae dioddefaint yn bodoli. Dyma ei brif ddadleuon.

11 of 22

  • *Mae bodau dynol ac angylion wedi’u creu gan Dduw ac felly fel bodau sydd wedi eu creu, mae’n nhw’n gallu newid a throi yn erbyn Duw.
  • *Y ‘Troi yn erbyn Duw’ hwn –yw defnyddio ewyllys rydd (h.y penderfynu dewis gwneud daioni llai na daioni mwy) – sydd yn ei dro yn achosi drygioni.

​

Y Cwymp ac Ewyllys Rydd

Theodiciaeth Sant Awstin

12 of 22

Absenoldeb daioni

Mae Duw wedi creu daioni - pam nad yw daioni yn amlwg yn y byd, rydym yn ei alw yn ”drygioni” Absenoldeb Da yw drwg. Daioni y mae Duw wedi ei greu, ond pan nad yw yn amlwg yn y byd, rydym yn labelu’r digwyddiadau hynny fel “drwg” Diffyg daioni yn y byd yw beth rydym ni yn ei alw yn “ddrygioni”

Meddyliwch – beth ydym yn galw yw absenoldeb goleuni?

Meddyliwch – beth ydym yn galw yw absenoldeb melys?

Meddyliwch – FELLY beth ydym yn galw yw absenoldeb daioni?

Ydi gwacter yn bodoli?

Theodiciaeth Sant Awstin

“Does dim drwg, dim ond dim da”

13 of 22

Theodiciaeth Irenaeus

Pwy oedd Irenaeus? Esgob yn Lyon, Ffrainc 130-202 oc. Meddyliwr/athronydd Cristnogol

Mae syniadau Irenaeus wedi selio ar ei ddehongliad o Genesis 1:26

‘Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni”’

Mae pobl yn dod i’r byd ar “ddelw” Duw ac i ddefnyddio bywyd (a dioddefaint) fel ffordd o wella a pherffeithio eu hunain i ddod ar “lun” Duw (h.y. i fod yn agosach at Dduw ac yn debycach iddo!) Pan mae pobl yn dod i’r byd, maent yn bell oddi wrth Duw. Maent fod i ddefnyddio profiadau bywyd fel ffordd o ddod yn debycach i Dduw ac i uno gydag ef erbyn iddynt adael y byd. Rydym fod i aeddfedu’n ysbrydol.

14 of 22

Stori Job

Atebion eraill i broblem drygioni a dioddefaint

Mae stori Job yn stori yn y beibl am ddyn cyfoethog sy'n cael ei brofi gan Dduw a Satan:

  • Mae Satan yn herio honiad Duw bod ffydd Job yn gywir, gan awgrymu mai dim ond oherwydd bendithion Duw y mae Job yn ffyddlon. Mae Duw yn caniatáu i Satan gymryd popeth i ffwrdd o Job, gan gynnwys ei blant, cyfoeth, ac iechyd.
  • Mae Job yn parhau’n ffyddlon i Dduw, hyd yn oed pan fydd ei ffrindiau’n dweud wrtho na fyddai Duw cariadus yn cosbi dyn da. Mae Job yn dadlau gyda'i ffrindiau, sy’n dweud bod Job yn cael ei gosbi am ei bechodau. Mae Job yn cyhoeddi ei ddiniweidrwydd ac anghyfiawnder ei ddioddefaint.
  • Mae Duw yn adfer Job i gyflwr gwell nag o'r blaen. Mae Duw yn gofyn cwestiynau amhosibl i Job er mwyn dangos iddo cyn lleied y gall ddeall am gynllun Duw. Mae Job yn gwerthfawrogi bod gallu Duw y tu hwnt i ddealltwriaeth ddynol.
  • Mae stori Job yn stori sy'n dysgu pobl i ymddiried yn Nuw, hyd yn oed pan fyddant yn wynebu dioddefaint. Mae hefyd yn archwilio’r cwestiwn a yw cyfiawnder Duw yn golygu ei fod yn gwobrwyo ac yn cosbi pobl ar sail eu hymddygiad.

https://www.google.com/url?sa=t&rct=j&q=&esrc=s&source=video&cd=&cad=rja&uact=8&ved=2ahUKEwijmLCQxOOKAxV0X0EAHV9aIP4QtwJ6BAgYEAI&url=https%3A%2F%2Fwww.youtube.com%2Fwatch%3Fv%3D4zyaQ2iCwe8&usg=AOvVaw1sVXzZrU6RnJBD7xxV6jae&opi=89978449

15 of 22

Atebion eraill i broblem drygioni a dioddefaint

Y diafol/Satan sy’n creu drygioni a dioddefaint, nid Duw

16 of 22

Atebion eraill i broblem drygioni a dioddefaint

Deuoliaeth – rhaid cael profiad o ddau begwn er mwyn deall a gwerthfawrogi pethau yn llawn

​

Rhaid cael drygioni a dioddefaint er mwyn gwerthfawrogi daioni – golau/tywyllwch, melys/chwerw, da/drwg

Deuoliaeth

17 of 22

Mae Duw wedi creu daioni- pam nad yw daioni yn amlwg yn y byd, rydym yn ei alw yn”drygioni” Absenoldeb Da yw drwg

Weithiau mae Duw yn gwneud pethau yn anodd i ni. Mae drygioni a dioddefaint yn brawf gan Dduw i weld a ydym yn aros gyda Fe…. Dyma mae stori Job yn ei ddysgu

Daeth drygioni i’r byd pam wnaeth Adda ac Efa gymryd y ffrwyth o’r goeden. Daeth dioddefaint i’r byd fel cosb gan Dduw

Y rhyddid sydd gan bobl i wneud gweithredoedd da neu ddrwg. Pobl sy’n creu drygioni a dioddefaint, nid Duw

Rhaid cael drygioni a dioddefaint er mwyn gwerthfawrogi daioni – golau/tywyllwch, melys/chwerw, da/drwg

Y diafol sy’n creu drygioni a dioddefaint, nid Duw

Mae dioddefaint yn helpu pobl I berffeithio/ddatblygu’r enaid. Mae dioddefaint yn cryfhau’r enaid fel ein bod yn gallu cyrraedd y nefoedd pan fyddwn yn marw – “no pain no gain”

​

CRISTNOGAETH -O ble daw drygioni a Dioddefaint?

Cysylltwch y term gyda’r disgrifiad

- Perffeithio’r enaid, Absenoldeb Daioni, Ewyllys Rydd, Y Cwymp, Diafol, Stori Job, Deuoliaeth (dualism)

18 of 22

Mae Duw wedi creu daioni- pam nad yw daioni yn amlwg yn y byd, rydym yn ei alw yn”drygioni” Absenoldeb da yw drwg

Weithiau mae Duw yn gwneud pethau yn anodd i ni. Mae drygioni a dioddefaint yn brawf gan Dduw i weld a ydym yn aros gyda Fe…. Dyma mae stori Job yn ei ddysgu

Daeth drygioni i’r byd pam wnaeth Adda ac Efa gymryd y ffrwyth o’r goeden. Daeth dioddefaint i’r byd fel cosb gan Dduw

Y rhyddid sydd gan bobl i wneud gweithredoedd da neu ddrwg. Pobl sy’n creu drygioni a dioddefaint, nid Duw

Rhaid cael drygioni a dioddefaint er mwyn gwerthfawrogi daioni – golau/tywyllwch, melys/chwerw, da/drwg

Y diafol sy’n creu drygioni a dioddefaint, nid Duw

Mae dioddefaint yn helpu pobl I berffeithio/ddatblygu’r enaid. Mae dioddefaint yn cryfhau’r enaid fel ein bod yn gallu cyrraedd y nefoedd pan fyddwn yn marw – “no pain no gain”

​

CRISTNOGAETH -O ble daw drygioni a Dioddefaint?

Cysylltwch y term gyda’r disgrifiad

- Perffeithio’r enaid, Absenoldeb Daioni, Ewyllys Rydd, Y Cwymp, Diafol, Stori Job, Deuoliaeth (dualism)

19 of 22

Rhowch dro ar ateb y cwestiwn

- COFIWCH eich bod yn esbonio

(Tua 8 munud fyddai gennych mewn arholiad)

Esboniwch sut y byddai Cristnogion yn ymateb i broblem drygioni a dioddefaint [8]

20 of 22

Esboniwch sut y byddai Cristnogion a _______________ yn ymateb i broblem drygioni a dioddefaint [8]

Eich ail grefydd

21 of 22

O ble daw drygioni dioddefaint?

Eich ail grefydd – ________________________________

​

  • ___________________________________________________________________________________________________________________________________________________

22 of 22