1 of 20

2 of 20

Dadansoddi Satin Doll�gan Duke Ellington

​

Bwriad y fidio hwn ydy eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau dadansoddi.

Roedd Duke Ellington yn un o arweinwyr band mwyaf llwyddiannus jazz. Eto i gyd, mi allech ddefnyddio’r technegau dadansoddi a geir yma i ddadansoddi unrhyw ddarn o feysydd jazz, pop neu theatr gerdd.

3 of 20

Mae dysgu dadansoddi cerddoriaeth yn golygu deall sut mae’r

cyfansoddwr/trefnydd yn defnyddio elfennau cerddorol i greu darn gorffenedig.

Bydd hyn o gymorth i chi wrth ddadansoddi unrhyw ddarnau o feysydd astudiaeth CBAC

        • Maes Astudio B: Roc a Phop (1965-1990)
        • Maes Astudio C: Theatr Gerdd (4 cyfansoddwr cynrychiadol)
        • Maes Astudio Ch: Jazz (1940-1965)

hefyd, yn rhoi syniadau pellach ynglŷn â Pherfformio (byrfyfyrio yn enwedig) a Chyfansoddi.

4 of 20

Dyma rai o’r elfennau cerddorol y byddwn yn edrych arnyn nhw yn y cyflwyniad hwn:

​

  • Adeiledd
  • Gwead
  • Alaw
  • Iaith harmonig
  • Arddull a chyfnod cyfansoddi
  • Byrfyfyr (creu ar y pryd, ‘improvise‘)
  • Geiriau

5 of 20

Ar y dudalen nesaf mae copi o’r gân sy’n dangos

  • Alaw
  • Llinell fas (gwreiddyn pob cord)
  • Braslun o’r harmoni
  • Adrannau’r ffurf 32-bar

​

Tasg 1

  1. Stopiwch y cyflwyniad hwn

​

  • Ewch ati i ddysgu canu neu chwarae’r alaw a’r cordiau / arpeggi.

 

(ceir copïau ar gyfer offerynnau Bb ac Eb yn yr Atodiad)

 

​

6 of 20

7 of 20

Tasg 2

Yn yr atodiad i’r cyflwyniad hwn, mae copïau ar gyfer offerynnau C, Bb ac Eb sydd yn esbonio

    • pa nodau sydd ym mhob cord
    • y graddfeydd (scales) sy’n sail i syniadau melodaidd

​

Dechreuwch greu syniadau yn erbyn un o’r traciau cefndir e.e. https://www.youtube.com/watch?v=hmjaZtZfPSY&list=RDhmjaZtZfPSY&start_radio=1

​

Canolbwyntiwch ar un cymal ar y tro. Cymerwch y dilyniad Dm7 - G7 sydd ym marrau 1 a 2. Defnyddiwch nodau o raddfa C fwyaf ac ychwanegwch rythmau diddorol. Yna, ewch at farrau 3 a 4 - Em7 - A7. Wedyn, rwy’n awgrymu eich bod yn arbrofi efo cordiau bar 5 ar ei ben ei hun. Gwnewch hynny efo bar 6 ac yn y blaen.

8 of 20

Dau gymal 4-bar sy’n symud oddi mewn i gyfwng 4ydd perffaith (C→G, D→A)

Cymal 4-bar yn F fwyaf (is-lywydd) 17-20, yna cymal 4-bar yn G fwyaf (llywydd) 21 – 24

Adran A2 yn union fel yr Adran gyntaf sy’n arferol i ganeuon mewn ffurf 32-bar

Cymalau 2-far

Cordiau ii – V mewn cyweiriau gwahanol

9 of 20

Gwead, Offeryniaeth ac Adeiledd

  • Trefniannau ar gyfer band mawr arferol gafwyd yn y dyddiau cynnar a’r sgôr gan Billy Strayhorn

https://www.youtube.com/watch?v=Gj42JotNUko y tro hwn efo’r rhagarweiniad

  • Cerddorfaeth arferol sy’n defnyddio’r adrannau’r band ar wahân fel soli; ymchwiliwch i sut oedd hyn yn wahanol i sgorau mwy arbrofol Ellington (e.e.
  • Dim unawdau [=solo] byrfyfyr ac eithrio unawd fer gan y bas dwbl
  • Sacsoffonau’n chwarae yn Adran A yn homoffonig / soli efo’r alto yn chwarae’r alaw, trombonau’n dod i mewn ar ddiwedd y cymal yna cord gan y trwmpedi ym mar 8
  • Sacsoffonau isel yn chwarae alaw Adran B efo’r trombonau’n trawsacennu ac yn rhoi cymal bach cromatig ym marrau 19 – 20
  • Trwmpedi forte ac mewn cwmpas uchel yn chwarae alaw ail gymal Adran B (barrau 21 – 24) a’r sacsoffonau’n arwain A2
  • Corws byr (dechrau efo Adran B) efo’r bas dwbl yn cael unawd efo’r piano
  • Sacsoffonau’n chwarae 8 bar cyntaf Adran A yna rhagarweiniad piano fel coda (‘outro’)

10 of 20

  • Yn ogystal â’r trefniannau a chwaraewyd gan fandiau eraill (gweler y sleid nesaf), cafwyd nifer o sgorau amrywiol gan fand Ellington yn ôl yr achlysur e.e. https://www.youtube.com/watch?v=CI2ieY4qqYQ efo intro mawr a vamp bas cyn i Ella Fitzgerald ddechrau canu neu
  • https://www.youtube.com/watch?v=W8bIU_2ehXs (1969) efo Wild Bill Davies yn rhoi unawd estynedig ar organ drydan

​

  • Tasg 3

​

  • Gwrandewch ar y 2 fersiwn hyn a thrafodwch

y gwahaniaethau sydd rhyngddynt a’r

fersiwn wreiddiol

​

​

Duke Ellington wrth y piano

11 of 20

Mae Satin Doll yn cael ei hystyried fel ‘jazz standard ’ sef y corff o ganeuon y mae artistiaid eraill yn ei defnyddio’n gyffredin. Gwrandewch ar ymdriniaeth y perfformwyr canlynol o Satin Doll

​

​

Gerry Mulligan ac eraill

​

y pianydd Michael Petrucciani

​

12 of 20

  • Roedd Satin Doll yn hit cyn i’r geiriau gael eu hychwanegu
  • Mae rhai’n cyfeirio at y gân yn aml fel “pop hit” olaf Ellington
  • Cafodd ei recordio yn 1953
  • Yn ôl Mercer Ellington (mab Duke Ellington) cyfansoddwyd y gân i’w feistres Bea ‘Evie’ Ellis
  • Billy Strayhorn fu’n gyfrifol am harmoneiddio’r alaw – rhywbeth oedd yn gyffredin iawn o ran cynnyrch ‘pop’ Ellington
  • O ran ei ffurf 32-bar, cyweiredd mwyaf/lleiaf (nid moddol) a chordiau oedd wedi bod yn gyffredin i jazz ers blynyddoedd), gellid ei pherthnasu i repertoire Ellington o’r 30’au a’r 40’au (e.e. Don’t Get Around Much Anymore, Take the A Train ac I’m Beginning to See the Light)
  • Er y llwyddiant, nid yw Satin Doll yn arddangos nodweddion jazz cyfoes a glywyd yng ngwaith cerddorion eraill o’r cyfnod hwn.

​

13 of 20

Duke Ellington a’i fand – cyfnod y Cotton Club

Tasg 4

Ymchwiliwch i bwysigrwydd y Cotton Club yng ngyrfa Duke Ellington

Mae manyleb CBAC yn cyfeirio at

​

  • pwrpas a bwriad y cyfansoddwr/perfformiwr (e.e. sut gall amgylchiadau penodol effeithio ar sut cafodd y gerddoriaeth ei chyfansoddi)
  • sut mae jazz wedi newid gydag amser (e.e. sut mae’r arddulliau wedi trawsffrwythloni)
  • geirfa a therminoleg gerddorol mewn perthynas â’r maes astudio.

14 of 20

Diweddglo

O fod wedi dadansoddi’r elfennau cerddorol yn Satin Doll,

  • Adeiledd
  • Gwead
  • Alaw
  • Iaith harmonig
  • Arddull a chyfnod cyfansoddi
  • Byrfyfyr (creu ar y pryd)
  • Geiriau

 

Dilynwch y patrwm uchod o ddadansoddi caneuon ac ewch ati i ddadansoddi er enghraifft In A Sentimental Mood, Take the A Train neu unrhyw gân gan Duke Ellington fel unawdydd neu gyda’i fand.

​

Gallech roi cynnig ar ddefnyddio un neu ragor o elfennau’r gân fel sail i gyfansoddiadau gwreiddiol.

Y cam nesaf...

Ac wedi hynny...

15 of 20

Diolch am wrando a

phob hwyl gyda’r dadansoddi!

16 of 20

ATODIADAU

​

Alaw Satin Doll

ar gyfer offerynnau Bb

17 of 20

 

 

 

 

 

Alaw Satin Doll

ar gyfer offerynnau Eb

 

 

18 of 20

Cordiau a graddfeydd

Satin Doll

ar gyfer offerynnau Bb

​

Mae’r graddfeydd yno i’ch helpu i fyrfyfyrio – ond cofiwch mai canllaw yn unig ydy’r rhain!�

19 of 20

Cordiau a graddfeydd

Satin Doll

ar gyfer offerynnau Eb

​

Mae’r graddfeydd yno i’ch helpu i fyrfyfyrio – ond cofiwch mai canllaw yn unig ydy’r rhain!�

�

​

20 of 20

Cordiau a graddfeydd

Satin Doll

ar gyfer offerynnau C

​

Mae’r graddfeydd yno i’ch helpu i fyrfyfyrio – ond cofiwch mai canllaw yn unig ydy’r rhain!

​