1 of 18

Sesiwn 3

​

Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

​

Gradd unigol (1 TGAU)

​

Uned 1: Twf, datblygiad a llesiant dynol

​

Arholiad ysgrifenedig:

​

1 awr 30 munud

​

40% o gymhwyster

​

Dyddiad yr arholiad = Yr 20fed o Fai 2024

2 of 18

Topig

Rhif sleids

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

Cynllun y sesiwn heddiw

Cyfranogiad gweithredol

Gwydnwch

Meddylfryd twf

Ymwybyddiaeth ofalgar

Amgylchiadau

3-6

7+8

9+10

11-12

13-17

3 of 18

Mae cyfranogiad gweithredol yn cydnabod hawl plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bywyd bob dydd mor annibynnol â phosibl.

Cyfranogiad gweithredol

Drwy wneud hyn, mae'r unigolyn yn bartner gweithredol yn ei ofal a'i gymorth ei hun, yn hytrach na'i fod yn cael y gofal a'r cymorth y mae pobl eraill yn credu y mae eu heisiau a'u hangen arno.

Sut ydy hyn yn digwydd?

Mae’r unigolyn yn cael ei annog ac yn cael ei addysgu am ffyrdd y gallai ei helpu ei hun i ddatblygu, i fod yn iachach neu i wella o salwch.

4 of 18

Annog unigolyn i fod yn rhan o gynllunio ei anghenion gofal a chymorth.

Enghreifftiau o gyfranogiad gweithredol

Arsylwi rhwystrau posibl a defnyddio adnoddau eraill i helpu, er enghraifft ffisiotherapydd os yw symudedd yn dirywio, therapydd lleferydd os yw'n cael trafferth siarad yn effeithiol.

Helpu darllenydd brwd i “ddarllen” eto drwy ddefnyddio llyfrau sain os yw eu golwg wedi amharu ar eu gallu.

Y defnydd o symbolau neu luniau i gynorthwyo cyfathrebu a chaniatáu iddynt leisio dewisiadau a chwestiynau.

Dod o hyd i offer priodol os oes angen i hwyluso ymgymryd â thasgau fel gofal personol neu baratoi prydau yn fwy annibynnol.

Mynediad hawdd at ffôn a gwybodaeth gyswllt fel y gallant gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.

5 of 18

6 of 18

5 marc=

​

Ymateb rhagorol sy'n dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl i egluro'r

manteision bod yn bartner gweithredol ar les Dorothy.

​

Mae'r ymateb yn esbonio'n drylwyr ac yn cynnwys enghreifftiau perthnasol i ddangos yn glir y pwyntiau a wnaed.

7 of 18

Mwy o annibyniaeth ac ymreolaeth o ddydd i ddydd.

Manteision corfforol - mwy actif.

Cyfle i leisio barn a gwneud penderfyniadau am y pethau sy’n bwysig iddi hi - pobl yn gwrando.

Cysylltiad cymdeithasol gwell - Rhyngweithio, perthnasoedd, cymryd rhan mewn gweithgareddau.

Mwy o hunanymwybyddiaeth a gwell cyfranogiad yn y pethau sy’n bwysig iddi hi.

Cyfleodd i ddysgu a datblygu sgiliau, gwybodaeth, addysg a chyflogaeth.

Llesiant gwell, mwy o hunan barch a hyder oherwydd ei fod yn chwarae rôl pwysig yn ei gofal.

Côd?

3 MMM, 3CCC, Ll

8 of 18

Mae'r gair 'gwydnwch' yn disgrifio gallu rhywbeth neu rywun i 'fownsio'n ôl' o bethau sy’n achosi straen. Gwydnwch yw'r gallu i ddelio â thrallod, straen, trawma, trasiedi a bygythiadau.

Gwydnwch

Bydd pobl gwydn:

  • yn fwy tebygol o gymryd risgiau
  • yn chwilfrydig
  • yn archwilio
  • yn ymwybodol o'u cyfyngiadau ac yn fodlon gwthio eu hunain i fynd y tu hwnt iddynt
  • ag agwedd gadarnhaol ac optimistiaeth
  • yn gallu datrys problemau
  • yn gallu adeiladu ar fethiannau.

Ni chaiff plant eu geni â gwydnwch, byddant yn ei feithrin dros amser a thrwy brofiadau. Mae rhai plant yn gallu meithrin gwydnwch yn hawdd tra bydd angen mwy o gymorth ar blant eraill.

9 of 18

Beth sy’n dylanwadu ar eich gwydnwch?

10 of 18

Beth yw meddylfryd twf (Growth Mindset)?

Meddylfryd twf yw'r gred eich bod yn rheoli eich gallu eich hun, ac yn gallu dysgu a gwella. Meddylfryd twf yw'r syniad bod modd datblygu deallusrwydd, galluoedd a sgiliau os bydd unigolyn yn buddsoddi digon o ymdrech ac yn astudio digon

Maent yn gweld ymdrech fel ffordd i wella eu galluoedd.

Mae unigolion sydd a meddylfryd twf yn gweld methu fel rhan naturiol o’r broses ddysgu ac felly mae plant sy’n credu bod yr ymennydd yn gallu tyfu, yn gwneud yn well yn yr ysgol gan eu bod nhw’n canolbwyntio ar wella

Mae cael meddylfryd twf yn ddefnyddiol iawn ar gyfer addysg ac astudio ond gall fod yn fuddiol ym mhob agwedd ar fywyd gan ei fod o gymorth i ymdopi â heriau a phroblemau sy'n codi.

11 of 18

Mae’n bosib i’r ysgol dysgu iddo sut i ymgysylltu yn ei amgylchedd academaidd a dysgu er mwyn bod yn fwy gwydn, e.e. Ateb cwestiynau, cymryd cyfrifoldeb o gwaith grŵp, ymaelodi a cyngor yr ysgol.

Gall yr ysgol gwneud iddo deimlo fel ei fod yn perthyn a bod ganddo dargedau ar gyfer y dyfodol a fydd yn ei helpu i ymdopi'n well pan ddaw cyfnodau anodd.

Bondio/gwario amser gyda model rôl cadarnhaol yn yr ysgol a allai ei helpu i deimlo ei fod yn perthyn – gallai hyn ei helpu i ddod yn fwy gwydn.

Ei helpu i lywio trwy gyfnodau anodd - Mae’r ysgol yn ail gartref sy'n saff a diogel iddo.

Gall gwersi lles fod yn rhan bwysig o feithrin gwydnwch/hunanreoleiddio.

Mae’n bosib iddo cymryd rhan mewn gweithgareddau llais y disgybl/cwnsela.

Mynychu lybiau y tu allan i oriau ysgol a darparu gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol ac adnoddau eraill, e.e. gweithgareddau creadigol, cerddoriaeth, chwaraeon a gwirfoddoli.

12 of 18

Beth yw ymwybyddiaeth meddylgar (Mindfulness)?

Ymwybyddiaeth ofalgar yw ffordd o dalu sylw i'r presennol, gan ddefnyddio technegau fel myfyrdod, anadlu ac ioga.

Mae gan ymwybyddiaeth ofalgar y potensial i helpu unigolion i deimlo'n fwy cadarnhaol a’u grymuso drwy leihau pethau fel meddyliau a theimladau hunanddinistriol.

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu gyda sawl cyflwr, gan gynnwys straen, gorbryder, iselder, ymddygiad caethiwus fel camddefnyddio alcohol neu sylweddau a gamblo. Dangoswyd hefyd ei bod yn gallu helpu gyda phroblemau corfforol fel gordensiwn, clefyd y galon a phoen cronig.

Mae'n helpu unigolion i ddod yn fwy ymwybodol o'u teimladau a'u meddyliau, felly yn hytrach na chael eu llethu ganddyn nhw, byddan nhw'n gallu eu rheoli yn well.

13 of 18

13

1 marc = Disgrifiad sylfaenol

2-3 marc = Disgrifiad cywir ac addas i Katie

Helpu Katie i rheoli ei theimladau a meddwl

Gwella iechyd meddwl

Hepu wrth ffocysu ei hunain

Mae’n helpu hi os yw pethau anffafriol yn digwydd

Mae’n llai debygol o boeni am bethau

Mae’n help wrth lleihau tyndra a ceisio ymlacio

Mae’n helpu hi i gysgu yn well

Mae’n helpu hi delio gyda sefyllfaoedd yn well/haws

Disgrifiwch sut byddai cael gwersi ymwybyddiaeth ofalgar yn yr ysgol yn gallu helpu person sydd yn y cam bywyd glasoed (3)

14 of 18

Amgylchiadau disgwyliedig ac annisgwyliedig

DISGWYLIEDIG

DISGWYLIEDIG

Dechrau teulu, enedigaeth brawd neu chwaer

Symud ty a priodi/rhan o bartneriaeth sifil

Dechrau a gadael addysg

Ymddeol

Dechrau gweithio, newid cyflogaeth

Damwain, anaf,

Glasoed

Menopos

ANNISGWYLIEDIG?

Ysgariad

Damwain, anaf, salwch difrifol

Anabledd

Profedigaeth (Bereavement)

Symud i ofal preswyl

Gall amgylchiadau unigolyn effeithio ar ddatblygiad a llesiant. Digwyddiadau bywyd yw'r term arall a ddefnyddir ar gyfer yr amgylchiadau hyn.

Digwyddiadau disgwyliedig bywyd yw’r rhai y gallwn ni eu rhagweld, felly fyddan nhw ddim yn synnu’r unigolyn.

15 of 18

✅

✅

C= Cwsg, bwyta, hylendid

D= Methu canolbwyntio, colli ysgol/gwaith, dangos dim diddordeb

E= Trist, unig, ofnus, straen, isel, sioc,

C = Unig, ynysu, colli pwrpas, cadw pellter o eraill

16 of 18

Yn gymdeithasol, gallai Hazel golli ffrindiau a chyfleoedd i gymdeithasu, oherwydd gallai'r rhan fwyaf o'i ffrindiau fod yn y gwaith, ond ar y llaw arall, gallai ymddeoliad roi mwy o amser iddi gymdeithasu â ffrindiau a theulu a dechrau hobïau newydd.

Yn emosiynol, gall Hazel fod yn teimlo'n ysgafnach ei chalon ei bod bellach wedi ymddeol, ond gall ymddeoliad wneud i rywun deimlo'n ofidus, oherwydd yr incwm y mae'n ei golli.

Yn ddeallusol, efallai na fydd dim byd yn ysgogi Hazel mwyach a bydd yn mynd i deimlo'n ddiflas, ond pe bai'n dechrau hobi newydd y mae'n ei fwynhau gallai hyn ysgogi ei meddwl.

17 of 18

Yn gymdeithasol, gallai priodas fod yn rhywbeth cadarnhaol gan y bydd gan Haydn a Beth yr un ffrindiau a gallant gymdeithasu gyda'i gilydd, ond ar y llaw arall, efallai y byddant am dreulio amser gyda'i gilydd ac na fyddant felly yn gweld ffrindiau mor aml â hynny.

Yn emosiynol, gall priodas greu ymdeimlad o ddiogelwch a hapusrwydd i Haydn a Beth. Ond, gall priodas hefyd achosi straen a phryder oherwydd gallai'r briodas wynebu anawsterau yn y dyfodol.

18 of 18

Efallai y bydd Lana yn ei chael hi'n anodd gwneud ffrindiau newydd a bod yn rhan o grŵp newydd. Ond, gall wneud mwy o ffrindiau y mae'n mwynhau treulio amser gyda nhw. Bydd hefyd yn gallu treulio mwy o amser gyda'i mam-gu a'i thad-cu.

Gall Lana fod yn teimlo'n drist ac yn ofnus ynglŷn â symud cartref. Gall fod yn gweld eisiau ei ffrindiau hefyd, a allai wneud iddi deimlo'n anhapus. Ar y llaw arall, gall fod yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd a darganfod yr ardal newydd.

Gallai hyn fod yn tarfu ar gwsg Lana a gallai hefyd olygu nad oes awydd bwyd arni am ei bod yn poeni am y sefyllfa newydd.