1 of 26

Astudiaethau Crefyddol A2

Athroniaeth

2 of 26

Nod ac Amcan

​

  • I atgyfnerthu eich dealltwriaeth o anffyddiaeth ac agnostigaeth
  • I atgyfnerthu eich dealltwriaeth o ddatblygiad anffyddiaeth
  • I atgyfnerthu eich dealltwriaeth o resymau dros wrthod duwdodau
  • I ddeall sut i ateb cwestiwn ar y pwnc yma

Anffyddiaeth – Gwrthod syniadau mewn duwdodau

3 of 26

Beth sydd yn y fanyleb?

4 of 26

a. Esboniwch y gwahaniaeth rhwng agnosticiaeth ac anffyddiaeth (atheistiaeth) (30)

  1. Olrheiniwch dwf anffyddiaeth newydd (gwrth theistiaeth) (30)

a. Olrheiniwch dwf anffyddiaeth/gwrthod cred mewn duwdodau (30)

a. Archwiliwch resymau dros dwf Anffyddiaeth (30)

  1. Eglurwch pam mae rhai pobl yn gwrthod y gred mewn duwdodau (30)

a. Eglurwch brif feirniadaeth anffyddiaeth o gred grefyddol (30)

​

Anffyddiaeth (atheistiaeth)

Enghreifftiau o gwestiynau (a) posibl…

5 of 26

Geirfa

​

Duwdodau – deities (duwiau/ffigyrau dwyfol)

Anffyddiaeth/Atheistiaeth – Atheism

Anffyddiwr – atheist

Anffyddwyr/atheistiaid- atheists

Agnosticiaeth - Agnosticism

6 of 26

Cwestiwn Enghreifftiol.

1. (a) Olrheiniwch dwf anffyddiaeth /Gwrthod cred mewn Duwdodau (30)

​

(A) 5ed Ganrif cc Anffyddiaeth Groegaidd

(D) 21 Ganrif

Diagoras o Melos

427 ccc - 347 ccc

Socrates

470 ccc - 399 ccc

Datblygiad Twf Anffyddiaeth/Atheistiaeth

(B) 15-16 Ganrif

Y Dadeni a’r Diwygiad

(Renaissance a Reformation)

(C)17-18 Ganrif

Oes y Goleuo

(Age of Enlightenment)

(CH) 20 Ganrif

0

7 of 26

(a) Anffyddiaeth Groegaidd

Mae Groeg hynafol yn cael ei gweld fel man dechrau athroniaeth. Dyma ble wnaeth pobl ddechrau meddwl am fodolaeth duwiau a chrefydd. Roedd sawl Groegwr hynafol yn amheus ynghylch y cysyniad o Dduw/crefydd. Er enghraifft:

• Protagoras: Ysgrifennodd: "Dyn yw mesur pob peth." hynny yw, dyn sydd fwyaf deallus – mae’n gosod bodau dynol yn uwch na duwdodau. Cafodd ei alltudio o Athens a llosgwyd ei holl waith oherwydd y gosodiad.

• Aristotle (384-322 cc): Roedd Aristotle yn amheus ac yn feirniadol o syniadau mwy traddodiadol am dduwiau. Er enghraifft; dadleuai " Mae gweddîau ac ebyrth i'r duwiau yn ofer“

Socrates – gweld y syniad o dduwdod yn blentynnaidd ac yn gywilydd/embaras

• Diogenes (412-323 BCE) doedd crefydd na duwiau ddim yn berthnasol i fywyd bob dydd. Dadleuai : " Pan edrychwyf ar forwyr, gwyddonwyr, ac athronwyr, dyn yw y doethaf o bob peth. Pan edrychwyf ar offeiriaid, proffwydi, a dehonglwyr breuddwydion, nid oes dim mor ddirmygus."

(B) 15-16 Ganrif

Y Dadeni a’r Diwygiad

(Renaissance a Reformation)

​

Bathwyd y term Atheist/Anffyddiaeth fel term sarhaus i bobl oedd ddim yn credu mewn duwdod

8 of 26

(C) Oes yr Oleuedigaeth

• Cyfnod wnaeth newid athroniaeth a gwyddoniaeth Ewropeaidd yn sylweddol yn ystod y 18fed ganrif.

• Roedd meddylwyr goleuedigaeth yn cwestiynu awdurdod traddodiadol ac yn croesawu'r syniad y gellid gwella dynoliaeth trwy feddwl a newid rhesymegol. Un o ganlyniadau’r oes oleuedigaeth oedd gwrthod syniadau traddodiadol gan gynnwys y rhai a gyflwynwyd gan grefyddau fel Cristnogaeth.

• Enghreifftiau o feddylwyr y gwyddoch amdanynt yw

• Bentham a Mill mewn Iwtilitariaeth h.y. wedi'i gynllunio i wrthod moeseg grefyddol draddodiadol

• Hume h.y. yn feirniadol o syniadau crefyddol traddodiadol fel gwyrthiau, dadleuon cosmolegol a theleolegol

(CH) Yr Ugeinfed Ganrif

• Gwelodd llawer nad oedd bellach yn dderbyniol arddel y safbwynt traddodiadol am Dduw h.y. bod hollalluog. Yn hytrach, roedden nhw'n dadlau bod Duw yn symbolaidd, yn symbol pwerus sy'n byw yn y meddwl dynol. Fodd bynnag, nid oes gan Dduw fodolaeth wrthrychol nac empirig yn y byd go iawn.

• Cefnogodd yr Esgob John Robinson yr uchod. Cafodd ei ysbrydoli gan waith Jung, oedd yn dysgu mai o fewn y meddwl oedd y cysyniad o dduw. Mae diwinyddiaeth grefyddol draddodiadol yn gosod Duw y tu allan ac uwchlaw ein byd. Fodd bynnag, mae Robinson yn gosod Duw fel rhan o'r meddwl dynol. Felly, dadleuodd fod angen i bawb edrych y tu mewn iddynt eu hunain i ddod o hyd i Dduw.

  • Daeth Comiwnyddiaeth yn amlwg mewn amryw o wledydd, oedd yn gweld crefydd fel bygythiad i awdurdod
  • Roedd teithio yn haws – roedd pobl yn dysgu am amrywiol grefyddau ac yn eu gweld yn gwrthddweud ei gilydd

9 of 26

(D) 21ain Ganrif

• Mae'r 21ain ganrif wedi gweld datblygiad ffurf fwy cadarn o wrthod cred yn Nuw. Mae wedi cael ei fathu yn ‘Anffyddiaeth Newydd’.

• Mae'n mynd mor bell â honni bod crefydd nid yn unig wedi dyddio ond yn fygythiad i oroesiad yr hil ddynol gyfan. Bathwyd y term gan Christopher Hitchens.

10 of 26

Beth yw Anffyddiaeth?

  • Y gred nad oes Duw
  • (** Gwyliwch and ydych yn ei ddiffinio fel “person sydd ddim yn credu” – mae hyn yn anghywir gan fod anffyddiwr YN CREDU nad oes yna dduw.)
  • Y gred mai gwyddoniaeth sydd â’r atebion nid crefyddau

4 math o Anffyddiaeth

‘Anffyddiaeth wan (Negyddol)’ – nid yw’r anffyddiwr yn gwneud yr honiad cadarnhaol nad yw Duw yn bodoli. Mae'r anffyddiwr yn dweud nad yw'n credu mewn Duw ond nid yw'n dadlau bod y safbwynt hwn yn wir. Ni fyddai anffyddiwr gwan/negyddol yn dweud “Dyma pam nad wyf yn credu yn Nuw”

‘Anffyddiaeth gryf (Cadarnhaol)’ – byddai’r anffyddiwr yn rhoi rhesymau i amddiffyn ei gred. Mae anffyddiwr cryf/cadarnhaol yn rhoi rhesymau dros ei gred. Felly, byddent yn dweud “Dyma pam nad wyf yn credu yn Nuw”

‘Anffyddiaeth brotest’ – Gwrthodiad llwyr o Dduw yw anffyddiaeth brotest. Tra bod anffyddiaeth yn anghrediniaeth yn Nuw, mae'r anffyddiwr brotest yn gwrthod derbyn bod Duwyn bodoli, ac os fyddai duw yn bodoli, nid yw’n deilwng o addoliad. Er enghraifft, dadleuodd anffyddiwr protest Stephen Fry, hyd yn oed pe bai Duw yn bodoli, na fyddai eisiau dim i'w wneud ag ef oherwydd nad yw yn gallu cyfiawnhau dioddefaint diniwed ac felly na fyddai’n deilwng o addoliad.

‘Anffyddiaeth newydd’ (gwrth-theistiaeth) – y gred bod crefydd yn fygythiad i oroesiad (survival) yr hil ddynol

11 of 26

Beth yw Agnostigaeth?

Y gred nad ydi hi’n bosibl i wybod os oes yna Dduw neu ddim. Ystyr y term ‘agnostig’ yn y Groeg gwreiddiol yw ‘heb wybodaeth’.Mae gwybodaeth ddynol yn gyfyngedig ac felly ni allwn wybod os oes yna dduw neu ddim. Tydi person agnostig ddim yn barod i ddweud bod yna Dduw, ond chwaith ddim yn barod i ddweud nad oes yna Dduw.

3 math o Agnostigaeth

Agnosticiaeth gryf - Y farn nad yw’r cwestiwn o fodolaeth neu ddiffyg bodolaeth Duw yn hysbys oherwydd cyfyngiadau sydd ar wybodaeth ddynol h.y. allwn ni byth wirio y credoau yn empirig

Agnosticiaeth gwan - Y farn bod bodolaeth neu ddiffyg bodolaeth Duw yn anhysbys ar hyn o bryd (ond efallai y daw’r wybodaeth yn y dyfodol) felly, bydd yr agnostig gwan yn atal dyfarniad hyd nes y bydd tystiolaeth addas, os o gwbl, ar gael.

Agnosticiaeth ddifater - Y farn na all unrhywddadl brofi na gwrthbrofi bodolaeth Duw, ac os oes un duwdod neu fwy yn bodoli, nid yw'n ymddangos eu bod yn poeni am dynged bodau dynol. Felly, nid yw eu bodolaeth yn cael fawr ddim effaith ar ei fywyd

12 of 26

13 of 26

Gwrthod y syniad o dduwdod

Meddyliwch

Ydych chi yn credu fod Duw yn bodoli? Pam?

14 of 26

http://www.bbc.co.uk/religion/religions/atheism/beliefs/reasons_1.shtml

Pam tydi rhai pobl ddim yn credu fod Duw yn bodoli?

  • Problemau gyda nodweddion Duw
  • Magwraeth
  • Rhagdybiaeth
  • Diffyg tysiolaeth/methu dilysu Duw
  • Gwyddoniaeth/Empiriaeth
  • Occam’s Razor -
  • Dadleuon Athroniaeth yn wan/ cael eu herio (e.e. Ontolegol, Teleolegol)
  • Problem Drygioni
  • Seicoleg yn cysylltu crefydd gyda emosiwn /niwrosus
  • Cymdeithaseg – rheoli cymdeithas
  • Cyfryngau
  • Ffigyrau carismataidd

Dyma rai rhesymau pam mae pobl yn gwrthod y syniad o dduwdod.

​

Faint o’r rhain rydych chi yn gallu eu hesbonio? A fyddech chi yn gallu ysgrifennu paragraff byr am bob un?

15 of 26

Pam tydi rhai pobl ddim yn credu fod Duw yn bodoli?

  • Problemau gyda nodweddion Duw – mae rhai syniadau am Dduw tu hwnt i resymeg – ddim yn gwneud synnwyr ee Duw trosgynnol (tu hwnt I’r byd) ond eto yn Dduw personol, Duw Hollalluog – gall greu carreg sydd mor drwm na all ei godi, hollgariadus – pam ydyn ni yn dioddef?
  • Magwraeth – tyfu fyny mewn teulu/cymdeithas seciwlar, byw mewn gwlad gomiwnyddol, addysg yn gallu dysgu rhywbeth gwahanol i grefydd
  • Rhagdybiaeth - Mae llawer o bobl yn dechrau eu trafodaeth am Dduw drwy beidio credu mewn Duw yn gyntaf, ac felly yn anffyddwyr. Maent yn disgwyl i gael eu perswadio ei fod yn bodoli.
  • Diffyg tysiolaeth/methu dilysu Duw – tydi pawb ddim wedi cael profiad crefyddol e.e. gwyrthiau, gweledigaethau, ateb i weddiau.
  • Gwyddoniaeth/Empiriaeth - ‘Does dim angen Duw – bellach, mae’n bosibl egluro popeth yn y bydysawd heb y syniad o Dduw. ‘Does dim pwynt dweud fod Duw yn bodoli. Mae dulliau empirig gwyddonol yn well tystiolaeth e.e. y glec fawr, esblygiad, detholiad naturiol.

16 of 26

Pam tydi rhai pobl ddim yn credu fod Duw yn bodoli?

  • Occam’s Razor - syniad athronyddol gan William o Occam yn y 14 ganrif. – yr ateb symlaf yw’r ateb cywir. Mae’n haws credu fod y bydysawd wedi dechrau drwy hap a damwain, esblygiad a detholiad naturiol, felly dyna’r ateb gorau. Tydi credu mewn “Duw” ddim yn syml, ac felly ddim yn ateb da!
  • Dadleuon Athroniaeth yn wan/ cael eu herio (e.e. Ontolegol, Teleolegol) cofiwch am wendidau y dadleuon o’ch cwrs athroniaeth ym mlwyddyn 12. e.e y ddadl ontolegol yn ddim mwy na chwarae gyda geiriau, Hume yn gwrthwynebu cydweddiadau yn y ddadl teleolegol, dadl cosmolegol – os yw popeth angen cael ei achosi gan rywbeth arall, beth wnaeth achosi Duw?
  • Problem Drygioni – cofiwch y gwaith wnaethoch ym mlwyddyn 12 – os yw Duw hollalluog, hollgariadus yn bodoli, pam ein bod yn dioddef pan gallai Duw eu stopio. Byddai Duw hollgariadus ddim eisiau i ni ddioddef
  • Seicoleg yn cysylltu crefydd gyda emosiwn /niwrosus – gweler syniadau Freud am y meddwl crefyddol – newrosus, diffyg cydbwysedd yn y meddwl, blanced gysur, syniadau plentynaidd wrth beidio gallu delio gyda realiti bywyd, euogrwydd am gymhlethdod Oedipws

17 of 26

Pam tydi rhai pobl ddim yn credu fod Duw yn bodoli?

  • Cymdeithaseg – rheoli cymdeithas yw bwriad crefydd.Tydi Duw ddim yn real. e.e. Emile Durkheim – rôl crefyddau yw uno cymunedau gyda’i gilydd. Karl Marx – rhith yw crefydd, tydi Duw ddim yn bodoli. Ffordd o reoli ymddygiad pobl ydyw. Pobl sydd wedi creu Duw nid Duw sydd wedi creu pobl

​

  • Cyfryngau a Ffigyrau carismataidd – mae’r cyfryngau yn dehongli crefydd yn hen ffasiwn, yn ei gysylltu ag eithafiaeth/terfysgaeth, cael ei weld yn ormesol (oppressive). Mae arweinwyr Anffyddiaeth Newydd yn amlwg yn y cyfryngau

18 of 26

Anffyddiaeth Newydd

Anffyddiaeth Newydd yw sefydliad o anffyddwyr yr unfed ganrif ar hugain sy’n ceisio disodli syniadau crefyddol. Teimlid na ddylai cymdeithas fodern ddioddef syniadau crefyddol na ofergoeledd (superstition). Mae eu dylanwad yn codi mewn llywodraeth, addysg a gwleidyddiaeth. Maent yn ceisio dangos pa mor afresymol yw syniadau crefyddol.

Pwy y’r anffyddwyr newydd? Maent yn awduron llyfrau sydd yn hybu anffyddiaeth yn eu llyfrau yn yr unfed ganrif ar hugain.

Y pedwar awdur mwyaf nodedig yw

Richard Dawkins

(The God Delusion)

Sam Harris

(The End of Faith),

Daniel Dennett

(Breaking the Spell)

Christopher Hitchens

(God is Not Great)

19 of 26

Y Pedwar Marchog

20 of 26

Beirniadaeth Anffyddiaeth Newydd o gred grefyddol

​

  1. Cred heb feddwl
  2. Plentynaidd
  3. Llesteirio cynnydd gwyddonol

21 of 26

1. Cred heb feddwl

  • Mae Richard Dawkins yn ei lyfr “The Selfish Gene” yn dweud mai ffydd ddall (blind faith) yw ffydd grefyddol - does dim rhesymeg na thystiolaeth. Mae’r gred yn bodoli heb allu meddwl pa mor afresymol ydyw. Dywed fod crefydd yn gweithio yn erbyn tystiolaeth wyddonol. Mae Dawkins hefyd yn dweud fod crefydd yn ddrygioni (evil) gan nad yw’n gorfod cyfiawnhau eu honiadau/ffeithiau ac nid yw crefydd yn gallu goddef dadleuon yn ei erbyn.Mae crefydd yn gwbwl afresymol . Mae Dawkins hyd yn oed yn awgrymu fod gwersi Addysg Grefyddol yn fath o gamdriniaeth (abuse)! Mae hefyd yn cysylltu crefydd gyda eithafiaeth

​

22 of 26

1. Cred heb feddwl

​

  • Mae Harris yn dweud fod crefydd yn rhoi caniatad i bobl gredu heb dystiolaeth – mae hyn yn afresymol ac yn ddim byd mwy na dymuniadau (wishful thinking ( tebyg i be ddywed Freud)) . Mae’n cwestiynu ydi credinwyr WIR yn credu fod Duw yn bodoli, neu ydynt ddim ond yn “dweud” ei fod yn bodoli. Yr unig beth all brofi bodolaeth pethau/tystiolaeth yw gwyddoniaeth empirig. Mae diffyg tystiolaeth yn fygythiad mawr i grefydd – mae mwy o dystiolaeth nad yw yn gallu bodoli na sydd dros brofi ei fodolaeth. Mae’r syniadau am Dduw hollalluog, hollbwerus a chariadus yn deillio o draddodiadau lleol yn hytrach na thystiolaeth. Mae crefyddau yn wrthgymdeithasol yn y gymdeithas fodern

Sam Harris

23 of 26

2. Plentynaidd

  • Fel Sigmund Freud, mae Anffyddiaeth Newydd yn gweld cred grefyddol yn blentynaidd. Methu delio gyda realiti a bygythiadau bywyd – angen “rhywun” pwerus i edrych ar ein holau, sydd byth yn mynd i’n gadael.
  • Mae syniadau crefyddol yn bathetig o gymharu gyda syniadau empirig gwyddoniaeth.
  • Does dim angen Duw yn y byd modern – yn y God Delusion mae Dawkins yn pigo beiau ar Dduw

‘jealous and proud of it; a petty, unjust, unforgiving control-freak; a vindictive, bloodthirsty ethnic cleanser;

a misogynistic, homophobic, racist, genocidal…..capriciously malevolent bully’.

24 of 26

3. Llesteirio cynnydd gwyddonol �(Mae crefydd yn oedi/dal gwyddoniaeth yn ôl)

  • Mae crefydd a gwyddoniaeth yn gwbl wahanol i’w gilydd. Mae gwyddoniaeth yn dibynnu ar arbrofion a thystiolaeth empirig, mae crefydd yn dibynnu ar ffydd ddall.
  • Mae gwyddoniaeth yn rhesymegol, tydi crefydd ddim
  • Mae gwyddoniaeth yn datblygu dealltwriaeth ac yn addasu ei syniadau os daw tystiolaeth Newydd – tydi llyfrau sanctaidd ddim yn addasu a newid – mae gwyddoniaeth yn ddeinamig, tydi crefydd ddim
  • Mae crefydd yn llesteirio ar wyddoniaeth gan nad yw yn fodlon newid ac anghofio am syniadau hen ffasiwn

25 of 26

Gwirio - Ydw i yn deall rhain bellach?

26 of 26