TGAU BUSNES
Testun-Hyfforddiant
Diffiniad-I ddysgu sgil penodol i weithiwr drwy gyfarwyddiadau ac ymarfer dros gyfnod o amser .
Pwysigrwydd a Buddion Hyfforddiant:-
Lleihau gwastraff wrth gynhyrchu
Ansawdd nwyddau neu wasanaeth yn gwell
Llai o gamgymeriadau
Llai o ddamweiniau
Tip arholiad-Cofiwch ddatblygu eich ateb. Dyma 2 esiampl
Esiampl 1
Lleihau gwastraff wrth gynhyrchu…….gall hyn arwain at leihau costau’r busnes
Esiampl 2
Ansawdd y gwasanaeth yn gwell……..gall hyn arwain at well boddhad gan y cwsmer….Ffyddlondeb?
Sefyllfaoedd Hyfforddiant
Problemau Hyfforddiant
Hyfforddiant yn y Gwaith
Hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith
Manteision ac Anfanteision Hyfforddiant yn y Gwaith
Manteision ac Anfanteision o Hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith
Cwestiynau Arholiad
Cwestiynau Arholiad
Cwestiwn Arholiad Estynedig
Tip Arholiad
Cofiwch feddwl am ddulliau hyfforddiant sy’n berthnasol i wahanol swyddi neu ddiwydiannau.
e.e. Ar gyfer cyfnod sefydlu (induction) ar gyfer gweithwyr newydd, hyfforddiant yn y gwaith sy’n addas gan mai pobl o fewn y busnes sy’n adnabod y gweithle orau.
e.e. Ar gyfer hyfforddiant ar beiriant newydd a pheryglus, hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith sydd orau gan fod angen gwybodaeth fanwl gan arbenigwr.
Cymhellu Rhan 1
Pam fod pobl yn gweithio?
Wrth gwrs arian a chyflog yw’r prif gymhelliant ond mae gan wahanol bobl gwahanol gymhellion.
Mae rhai pobl yn hoff o’r ochr gymdeithasol o’r Gwaith.
Eraill yn hoff o’r amrywiaeth a gwneud gwahanol dasgau.
Rhai yn hoff o’r cyfle i gael dyrchafiad (promotion)
Mae rhai yn hoff o statws y swydd
Eraill yn hoff o’r ffordd y maent yn cael eu trin gan y cyflogwr.
Pwysigrwydd Cymhelliant
Mae cadw gweithwyr yn hapus a bodlon yn holl bwysig.
Pam?
Llai tebygol o fod yn absennol drwy salwch sy’n arwain at gysondeb yn y lefel cynhyrchu
Cadw gweithwyr rhag gadael/Ffyddlondeb-Ystyr hyn yw lefel isel o drosiant staff. Mae colli staff yn arwain i’r busnes orfod llenwi’r swydd wag, hysbysebu ac hyfforddi, sy’n cymryd amser ac arian
Gwell perthynas rhwng rheolwyr a gweithwyr gan eu bod yn dod i adnabod eu gilydd yn well.
Gan fod y gweithwyr yn fwy tebygol o hoffi y gweithle a’u cydweithwyr gall:
Perfformiad wella
Gwell ansawdd o’r nwyddau sy’n cael eu creu
Gwell gwasanaeth cwsmeriaid
Gall hyn gyd arwain at bodlonrwydd a ffyddlondeb cwsmer yn cael eu greu.
Cwestiwn Arholiad