1 of 15

O dan CYNLLUN DAWES a’r ’ CYNLLUN YOUNG , roedd yr Almaen wedi cael benthyg arian gan America i helpu dalu’r iawndal.

Yn 1929 cwympodd gwerth stociau a chyfrannau ar Gyfnewidfa Stoc America.

Bancwyr a busnesau America yn colli symiau mawr o arian ac felly angen arian yn syth.

CWYMP WALL STREET 1929

2 of 15

Roedd angen arian ar America,

felly galwodd ar Yr Almaen

i ad-dalu’r holl arian

roedd wedi cael benthyg

ers Cynllun Dawes.

PA EFFAITH FYDDAI HYN WEDI CAEL AR YR ALMAEN?

3 of 15

1. Yn 1924 anogwyd banciau a busnesau America i roi benthyg arian i fanciau’r Almaen. Dyma oedd Cynllun Dawes.

4 of 15

2. Dyma Gustav Kohl, roedd wedi gallu cael benthyciad mawr gan ei fanc i sefydlu ei fusnes ei hun yn Dresden yn Yr Almaen.

5 of 15

3. Yn 1925 defnyddiodd Gustav ei fenthyciad banc i brynu ffatri a chyflogi gweithwyr.

6 of 15

4. Ond, yn 1929 digwyddodd Cwymp Wall Street yn America. Roedd angen arian ar fanciau a busnesau America, felly dechreuon nhw ofyn i’r Almaen ad-dalu benthyciadau Cynllun Dawes.

7 of 15

5. Roedd rhaid i fanciau’r Almaen ad-dalu eu benthyciadau i America. Gofynnodd ei fanc i Gustav Kohl ad-dalu’r benthyciad roedd wedi’i gael.

8 of 15

6. Gofynnodd Gustav a fyddai’n gallu ad-dalu ychydig ar y tro. Yn 1931, penderfynodd wneud newidiadau i’w ffatri er mwyn arbed arian.

9 of 15

7. Ond roedd angen mwy o arian ar y banciau yn Yr Almaen o hyd. Gofynnon nhw i Gustav ad-dalu’r holl arian roedd wedi’i fenthyg. Doedd Gustav ddim yn gallu fforddio hyn. Felly, bu rhaid iddo fe gau ei ffatri am byth.

Sori -

Wedi Cau!

10 of 15

Wyt ti’n lwcus, dw i ddim hyd yn oed yn gallu fforddio pensil!

8. Roedd Gustav a’i holl weithwyr nawr yn ddi-waith. Collodd llawer eu cartrefi oherwydd nad oeedden nhw’n gallu fforddio’r rhent.

RHOWCH YN

HAEL

11 of 15

Caeodd ffatrioedd oherwydd doedd ganddyn nhw ddim arian i gadw i fynd, collodd pobl eu swyddi. Edrychwych ar y ffigyrau di-weithdra hyn.

1932

6 miliwn

1928

1.7 miliwn

1929

2.9

miliwn

1930

3.2

miliwn

1931

4.9

miliwn

12 of 15

Roedd economi’r Almaen wedi bod yn ddibynnol ar economi America.

Roedd yr UDA wedi bod yn help iddyn nhw gyda’r taliadau iawndal ac i wella busnesau yn Yr Almaen.

Yn ddi-gartref a di-waith, roedd y dynion hyn yn byw ar dir wâst yn ninas Berlin, 1930. Yr arwydd maen nhw wedi ei roi ar y wal ydy ‘Gwesty’r Gornel Aur’.

13 of 15

Roedd rhai fel y bobl uchod wedi colli mwy na’u gwaith, roedden nhw wedi colli eu cartrefi oherwydd ail ddirwasgiad Yr Almaen.

Ysgrifenyddes ddiwaith gydag arwydd yn dweud ‘Helo, rydwi’n chwilio am waith. Gallaf deipio a gwneud llaw-fer. Gallaf siarad Ffrangeg a Saesneg a dwi’n fodlon gwneud unrhyw waith tŷ...’

Mae’r dynion hyn wedi talu am gael cysgu ‘ar y lein’ mewn ystafell dwym yn ystod gaeaf 1930. Y rhaff oedd yn eu dala lan pan oedden nhw’n cysgu..

14 of 15

Petaech chi’n uno’r bobl hyn, beth fyddech chi’n ei wneud i wella’ch sefyllfa? Ceisiwch feddwl am un peth o leiaf y gallech chi ei wneud..

15 of 15

Ffynhonnell A�‘Allan o gors’ Poster etholiadol ar ran Plaid Genedlaethol Pobl yr Almaen. Dangosir yr Almaen yn wynebu dyfodol gwell , 1924.

Dangosir y flywyddyn 1918 yn gyfnod o dywyllwch a dioddefaint. Pa ddigwyddiadau y 1918 mae’r fffynhonnell yn cyfeirio atynt?

Rhowch enghreifftiau o ddigwyddiadau rhwng 1918 – 1924 oedd hefyd yn cynnwys llawer o ddioddef