Caerdydd
Gan Osian
Caerdydd yw prifddinas Cymru. Mae llawer o bethau diddorol i’w gweld a’u gwneud yno. Mae tua 500,000 o bobl yn byw yn y brifddinas. Dewch gyda ni i ddarganfod mwy am Gaerdydd – mae’n le anhygoel!
Stadiwm Principality yw’r stadiwm mwyaf yng Nghymru. Mae’n lle enfawr lle mae llawer o gemau rygbi a chyngherddau mawr yn digwydd. Pan fydd y stadiwm yn llawn, gall dros 70,000 o bobl eistedd yno i wylio’r gemau a’r perfformiadau. Mae Stadiwm Principality yn lle gwych i weld perfformiadau byw gan artistiaid enwog! Mae’r canwr enwog Ed Sheeran wedi perfformio yn Stadiwm Principality sawl gwaith, gan gynnwys ei daith ÷ (Divide) yn 2018. Yn 2023, perfformiodd y band roc poblogaidd Coldplay gyfres o gyngherddau anhygoel fel rhan o’u taith Music of the Spheres. Mae’r canwr byd-enwog Beyoncé hefyd wedi cynnal cyngerdd yno yn ystod ei thaith Formation yn 2016, gan ddenu miloedd o gefnogwyr. Mae to’r stadiwm yn gallu cau,felly hyd yn oed os yw’n bwrw glaw, gallwch fwynhau’r digwyddiadau y tu mewn. Mae’n lle cyffrous iawn i ymweld ag ef!
Cliciwch ar y galon i fynd i wefan Stadiwm y Principality
Castell Caerdydd yw un o’r adeiladau mwyaf enwog yn y ddinas. Mae’n gastell mawr a hardd gyda llawer o hanes. Adeiladwyd y castell dros fil o flynyddoedd yn ôl, ac mae ganddo dyrau uchel a muriau trwchus. Y tu mewn i’r castell, gallwch weld ystafelloedd hardd a dysgu am y bobl a oedd yn byw yno yn yr hen amser. Mae hefyd parc mawr o gwmpas y castell lle gallwchfynd am dro a chwarae. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd twneli Castell Caerdydd fel llochesi rhag bomiau i amddiffyn pobl rhag yr ymosodiadau awyr. Roedd y twneli’n gallu dal hyd at 1,800 o bobl ac roedd ganddynt gegin fach i ddarparu bwyd a diod boeth i’r rhai oedd yn ceisio lloches. Adeiladwyd rampiau pren mawr i helpu pobl i fynd i mewn i’r llochesi, ac roedd balŵn rhwystr yn cael ei hedfan o’r tir castell i rwystro awyrennau gelyn.
Blwyddyn | Nifer o ymwelwyr |
2020 | 195,000 |
2021 | 372,000 |
2022 | 450,000 |
2023 | 500,000 |
2024 | 520,000 |
Mae llawer o bobl yn ymweld â’r gastell bob blwyddyn!
Canolfan Mileniwm Cymru yw un o’r lleoedd mwyaf cyffrous yng Nghaerdydd. Agorwyd Canolfan Mileniwm Cymru gan y Frenhines Elisabeth II ar y 26ain o Dachwedd 2004. Roedd yr agoriad yn ddigwyddiad arbennig gyda pherfformiadau gan artistiaid adnabyddus.
Mae’n adeilad mawr a hardd lle mae llawer o sioeau a chyngherddau gwych yn digwydd. Mae’r adeilad yn edrych yn arbennig iawn gyda’i waliau copr a’r geiriau mawr ar y blaen. Y tu mewn, gallwch weld perfformiadau anhygoel fel cerddoriaeth, drama, a dawns. Mae hefyd lle i blant fynd i ddysgu am y celfyddydau a chael hwyl. Mae’n lle gwych i fynd gyda’r teulu!
Techniquest yw canolfan darganfod gwyddoniaeth yng Nghaerdydd, lle gallwch ddysgu am �wyddoniaeth mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Mae ganddo ddwy lawr o arddangosfeydd� ymarferol, sioeau gwyddoniaeth byw, a phlanedariwm. Mae’n lle gwych i blant ac oedolion fel ei gilydd.
Mae Techniquest yn lle gwych i fynd gyda’r teulu a chael hwyl wrth ddysgu!
Techniquest
Ffaith ddiddorol
Hunan asesu