Adran F: Adferfau
Uned 1
Termau Pwysig
Beth yw adferf?
Mae adferfau (adverbs) yn disgrifio berfau (verbs) neu ferfenwau (verb-nouns) ac yn cynnig mwy o wybodaeth am y weithred (yr hyn sy’n cael ei wneud). e.e.
yn araf
yn ddireidus
yn dawel
yn gyflym
yn hapus
Mae’r ferch fach yn rhedeg yn araf.
berf
(verb)
enw cyffredin
(common noun)
ansoddair
(adjective)
Felly, mae adferf yn cael ei ddefnyddio er mwyn dweud wrthym sut mae berf/ berfenw, neu weithred, yn cael ei wneud. e.e.
berfenw (verb-noun)
adferf
(adverb)
Gwenodd Dafydd yn ddireidus.
enw priod (proper noun)
adferf
(adverb)
berf
(verb)
Eich tro chi nawr!
Cerddodd Steffan i’r parc yn araf.
Mae Mam yn chwerthin yn uchel.
Mae’r gwynt yn chwipio yn arw.
Cysgais yn drwm neithiwr.
Neidiodd y ferch yn bell.
Cerddodd Steffan i’r parc yn araf.
Mae Mam yn chwerthin yn uchel.
Mae’r gwynt yn chwipio yn arw.
Cysgais yn drwm neithiwr.
Neidiodd y ferch yn bell.
Dewch i wirio’r atebion
Fe sylwch chi fod ‘yn’ (neu ‘yn traethiadol’) yn dod o flaen yr adferf.
Dydy adferfau sy’n dechrau gyda ‘ll’ a ‘rh’ ddim yn treiglo ar ôl ‘yn’
Rheol dreiglo
Mae adferfau sy’n dechrau gyda p, t, c, b, g, d ac m yn treiglo’n feddal ar ôl ‘yn’:
Carlamodd y ceffyl yn wyllt.
Sgwrsiodd y plant yn fyrlymus.
Mae Tomos yn siarad yn gyflym.
Eich tro chi nawr!
Rhedodd Dafydd yn cyffrous i lawr y grisiau.
Gwyliais yn tawel wrth i’r plant berfformio.
Mae Anna’n bwyta’i bwyd yn gofalus bob dydd.
Hedfanodd y barcud yn pert yn yr awyr.
Adroddodd y dosbarth yn da yn y gwasanaeth.
Sgrechiodd fy chwaer yn brawychus y tu ôl i’r drws.
Dewch i wirio’r atebion
Rhedodd Dafydd yn gyffrous i lawr y grisiau.
Gwyliais yn dawel wrth i’r plant berfformio.
Mae Anna’n bwyta’i bwyd yn ofalus bob dydd.
Hedfanodd y barcud yn bert yn yr awyr.
Adroddodd y dosbarth yn dda yn y gwasanaeth.
Sgrechiodd fy chwaer yn frawychus y tu ôl i’r drws.
Beth yw adferf?
Mae adferfau (adverbs) yn disgrifio berfau (verbs) neu ferfenwau (verb-nouns) ac yn cynnig mwy o wybodaeth am y weithred (yr hyn sy’n cael ei wneud). e.e.
yn araf
yn ddireidus
yn dawel
yn gyflym
yn hapus
Adferf ar ddechrau brawddeg
Cofiwch y gall adferf ddod ar ddechrau brawddeg hefyd, nid yn unig ar ganol neu ar ddiwedd brawddeg. Gall hyn fod yn dechneg effeithiol wrth greu naws mewn stori, ayyb. e.e.
Yn araf, agorodd Erin ddrws yr hen dŷ gwag.
Yn ansicr, syllodd y bachgen ar y gynulleidfa o’i flaen.
Yn hyderus, gwthiodd y bwli i flaen y ciw.
Mae’r rheol dreiglo yn parhau yr un fath, waeth beth yw lleoliad yr adferf o fewn y frawddeg.