Rolau Trafod
Rydych yn gweithio mewn grŵp. Bydd pawb o fewn y grŵp yn derbyn rôl bwysig gan yr athro. Rhaid i chi feddwl beth yw meini prawf llwyddiant eich rôl. Dyma rai syniadau o rolau trafod:
Arweinydd, Cadeirydd, Cwestiynwr/Holwr, Esboniwr, Crynhöwr
Adeiladu
perthynas
Sefydlu rolau o fewn grŵp
Holwr a chwilotwr
Beth wyt ti’n ei olygu pan rwyt ti’n dweud…?
Ydy hynny’n golygu….?
Alli di sôn mwy am…?
Wyt ti wedi ystyried…?
Pam dy fod yn credu hynny?
Pa dystiolaeth sydd gennyt o hynny?
Heriwr
Mae hynny’n wir ond wyt ti wedi ystyried…?
Rwyt ti wedi crybwyll… ond beth am…?
Ond, ochr arall y ddadl yw…
Deallaf dy bwynt ond cred rhai…
Ar y llaw arall…
Datblygwr syniadau
Cytunaf/Anghytunaf…
Hoffwn ychwanegu…
I ddatblygu ar y pwynt yna…
Yn gysylltiedig gyda’r hyn rwyt ti newydd
ei ddweud…
Symbylwr a chadeirydd
Rydym ni’n trafod…
Hoffwn ddechrau drwy drafod..
Hoffwn symud ymlaen i drafod…
Beth yw dy safbwynt di…?
Gadewch i ni fynd yn ôl at y pwynt dan sylw…
Crynhöwr
.
Felly, ein prif bwyntiau oedd…
I grynhoi…
Y prif safbwyntiau a godwyd heddiw oedd…
O’r drafodaeth, mae’n amlwg…
Aseswr
Cwblhewch y daflen asesu gan ystyried:
Sefydlu rolau o fewn grŵp
Rhaid i'r dysgwr groesholi'r person arall fel pe bai'n dditectif yn croesholi y sawl sydd dan amheuaeth, neu'n gyfreithiwr yn croesholi tyst. Dylai brocio ateb y person arall, gan edrych am anghysondebau a pheidio gadael iddo gael pardwn.
Mae dadleuydd y diafol bob tro yn rhoi ochr arall yr achos. Ei rôl yw cymryd beth bynnag mae'r person arall yn ei ddweud yna gofyn cwestiwn sy'n edrych ar bethau o'r safbwynt arall. Ac mae'n gwneud hyn bob tro.
Y tro hwn, dim ond cwestiynau 'Beth pe bai...?' y caiff y dysgwr eu gofyn. Rhaid i'w gyfraniadau i'r drafodaeth ddechrau efo'r geiriau 'Beth pe bai...?'
Yma, dim ond cwestiynau sy'n dechrau efo'r geiriau 'Ie, ond...' y caiff y dysgwr eu gofyn. Dylai wrando'n astud ar beth mae'r person arall yn ei ddweud, yna gofyn cwestiwn
sy'n dechrau efo 'Ie, ond...' Mae'n dal i wneud hyn am gyn hired ag y mae'n gallu.
Mae'r un anwybodus yn chwarae bod yn dwpsyn ac yn smalio nad yw'n deall unrhyw beth. Mae'n gofyn cwestiynau sy'n ymddangos yn sylfaenol, yn syml neu'n
amlwg. Y nod yw gwneud i weddill y grŵp egluro eu syniadau yn fwy manwl, ac i beidio cymryd dim yn ganiataol.