Miles Hermann
Athro Daearyddiaeth
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Sesiwn 3 - Gwanwyn 2024
UG Daearyddiaeth
Adolygu Uned 2
Cynnwys
Cwestiynau Uned 2 Adran A
Cwestiynau Uned 2 Adran B : Gwaith Maes
2017
Defnyddiwch Ffigur 1 i ddisgrifio dosbarthiad incwm y pen yng Nghymru [5]
MPLl
2017 Archwiliwch pa mor ddifrifol yw dwy sialens sy’n wynebu cymunedau gwledig. [8]
Un sialens sy’n wynebu cymunedau gwledig yw ail-gartrefo sy’n broblem difiriol oherwydd fod yr iaith Gymraeg yn dirywio. Enghraifft o hyn yw ardaloedd yn Sir Benfro megis pentref Solfach sydd ond gyda un menyw sy’n siarad Gymraeg yn yr holl bentref ac felly, yn sialens difriol oherwtdd bod yr iaith Gymraeg yn dirywio yn yr ardaloedd yma ac felly, yn dinistrio diwylliant Cymru. Ar y naill law, gall rhai dadlau nad yw ail-gartrefi yn sialens difrifol oherwydd twf arian wrth i’r boblogaeth gynyddu ble mae’r trigolion newydd yn gwario arian i fusnesau lleol. Yn ogystal, codwyd dreth cyngor Sir Benfro i 300% ar gyfer ail gartrefi ac gallu y buddsoddiad o drethi ychwanegol cael effaith positif ar wasanaethau y cyngor ac felly gall dadlau mae’r sialens yma ddim mor ddifriol. Her ychwanegol yw darpariaeth gwasanaethau. Yn benodol mae gwasnaethau megis swyddfeydd post a banciau yn cau ac yn cael effaith syfyrdanol ar gymunedau gwledig ac anghysbell. Caewyd 242 banc dros y DU yn 2023 ac mae nifer yn canolbwynt i nifer o drigolion. Mae diffyg gwasnaethau yn golygu bydd allgau cymdeithasol ac yn golygu bydd dim ond darpariaeth y we er mwyn iddi nhw defnyddio gwasnaeth bancio. Yn ychwanegol, mae’n rhaid ystyried pa mor wael mae cyfleusterau y we e.e band llydan mewn ardaloedd gwledig ac felly yn golygu bydd darpariaeth gwasnaethau yn waeth nag ardaloedd trefol. Ar gyfartaledd mae cyflymder band llydan yn 7.5mb yr eiliad sy’n sylweddol is nag ardaloedd trefol. Dengys hyn felly mae heriau amlwg i gymunedau gwledig boed yn gwasnaethau neu risg ail gartefi.
8/8 Dealltwriaeth fanwl iawn gydag enghreiffitau. AA2 archwiliad o’r effaith a’r diffirfioldeb yn drylwyr
2017. (a) (i) Defnyddiwch Ffigurau 2a a 2b i nodi newidiadau sydd wedi digwydd yn yr ardal ddiwydiannol hon o Bilbao.
Gallwn weld cyn roedd yn ardal gyda chysylltiadau trafnidiaeth tren nawr wedi newid gyda dim ond trafinidaeth heol ond wedi gwella e.e. 2 ‘round about’ sy’n cysylltu ardaloedd gwahanol
Gallwn weld datblygiad o fflatiau newydd ar ol. Gallwn weld yn sgil y adfywiad gwellhad yn ardaloedd cyhoeddus gwyrdd gyda phresenoldeb o goed ac ardaloedd i gerdded trwy’r parc.
Cymharwch strwythur boblogaeth Cymru a Sir Powys [5]
MPLl
Yn gyffredinol
Yn debyg
Yn wahanol
DATA !!! e.e 2024 Benywiadd a Gwyriadd Powys 9%, Cymru = 13.3%
2018
Defnyddiwch dystiolaeth o Ffigur 1 i awgrymu sut gallai’r lleoliadau Olympaidd adfywio dwyrain Llundain.[5]
2018
Gallwn weld stadiwm olympaidd yng nghanol ffigwr 1, gall hyn denu ymwelwyr ar gyfer digwyddiadau chwaraeon trwy’r flwyddyn ac felly yn adfywio canfyddiad yr ardal. Gallwn weld pentre’r athletwyr sy’n adfywio’r ardal trwy adnewyddu’r tai i wella ansawdd y tai sydd yn yr ardal. Dengys y llun ‘Orbital Arcelor Mittal’ sy’n dangos adloniant newydd wrth adfywio ble mae pobl yn gallu dod trwy’r flwyddyn i fwynhau cyfleusterau adloniant trwy’r flwyddyn. Mae presenoldeb canolfan darlledu yn nogledd orllewin y llun yn dangos y posibilrwydd o gynnig safle darlledu gyda chyfleusterau technoleg ar gyfer teledu a gall hybu mwy o fuddsoddiad yn yr ardal ac yn y maes celfyddydau a chyfryngau.
2018
) Defnyddiwch Ffigur 2 i ddisgrifio sut mae’r crynodiad o gwmnïau digidol yn amrywio drwy’r DU (UK). [3]
2018
Dengys y map crynodiad mwyaf yn Lloegr ac yn benodol Llundain a’r siroedd cyfagos i Lundain. Yn gyffredinol mae’r crynodiad uwch yn Ne Ddwyrain Lloegr. Mae’r crynodiad uchaf yng Nghymru yng Nghaerdydd ac yn is yn ardaloedd arfordirol a gwledig Cymru e.e isel iawn yng Ngwynedd. Mae’r crynodiad lleiaf ar y cyfan yng ngogledd yr Alban e.e yr Hebredies Allanol.
2018 Awgrymwch sut gallai’r dull cyflwyno data sydd yn Ffigur 2 gael ei wella.
2018 ) Archwiliwch ganlyniadau’r ymgais i ailfrandio un neu fwy o ardaloedd gwledig wedi’u henwi.
Aseswch yr effaith mae llif newidiol pobl yn cael ar un ardal rydych chi wedi’i hastudio. [8]
Mae Uplands ac Abertawe yn wynebu nifer o broblemau o ganlyniad i’r fyfyrwyreiddio oherwydd y prifysgolion yr ardal leol. Caiff y myfyrwyr effaith enfawr ar economi lleol, amgylchedd a’r pobl oherwydd yr amseroedd maen nhw yn yr ardal ac felly yn gwario llawer o arian, ond hefyd pan nad ydyn felly yn effeithio ar yr economi lleol. Un effaith cadarnhaol economaidd yw fod y myfyrwyr yn gwario llawer o arain o fewn siopau lleol sydd felly yn dod ag arian i’r ardal leol. Yn ogystal gall rhai dadlau bod hyn yn effaith positif cymdeithasol oherwydd bod e’n cynhyrchu swyddi i’r ardal leol sy’n mynd i wella ansawdd bywyd y dirgolion. Ar y naill law, effaith negyddol cymdeithasol yw fod y myfyrwyr yn rhenti tai ond dim ond yn byw yn rhan amser e.e. Bryn Road ond 7/95 o’r tai yn drigolion lleol. Golgyga hyn fod y drigolion lleol gyda llai o dai i brynu oherwydd cymaint o HMO yn byw rhan amser sydd yn effaith cymdeithasol. I gloi ar ol ystyried yr effeithiau oll gwelwn mewnlifiad ansefydlog felly rhoi llawer o straen ar drigolion yn ariannol oherwydd mae’r myfyrwyr yn dod i’r ardal yn dymhorol.
⅝ Ateb da gyda ambell ffaith/ystadegyn - Diffyg efallai son am ba fath o effeithiau negyddol sydd, oes rhai amgylcheddol, beth mae’r trigolion lleol ddim yn hoffi, newid canfyddiad yr ardal?
Gwaith maes
1. Camau cynllunio’r ymholiad
2. Casglu data
3. Cyflwyno a dangos data
4. Dadansoddi a dehongli
5. Casgliad
6. Gwerthuso
2018
MPLl
+Ffynonellau dibynadwy ar gael
_ Anodd i’w darganfod
1. Cynllunio
2019 Gwerthuswch ddau benderfyniad gafodd eu gwneud wrth gynllunio eich ymchwiliad gwaith maes mewn daearyddiaeth ffisegol. [9]
Oedd y lleoliad yn addas? Oedd! Pam?
A wnaethom ni dreulio digon o amser yn cynllunio yr ymchwil a’r
tablau cofnodi? Oedd angen gwneud mwy o ymchwil cefndir? - O
bosib i leoliadau addas?
Oedden ni wedi dewis digon o nodweddion i’w mesur? Digon o
safleoedd i’w casglu?
Oedd y strategaeth samplu yn addas? Wedi gweithio’n effeithiol?
Oedd yr asesiad risg yn addas? A fyddai angen ystyried unrhyw
agweddau eraill?
Offer ddigonol?
Unrhyw broblemau eraill?
5. Gwerthuswch ddau ddull casglu data sydd wedi cael eu defnyddio yn eich ymchwiliad gwaith maes mewn daearyddiaeth ffisegol. [9]
Teitl: Sut a pham ydy peirannau Llyn Fan Fach a Fan Bwlch Chwyth ym Mannau Brycheiniog yn amrywio?
Un dull casglu data yw lluniau. Defnyddiais yr ap ‘stich’ i dynnu llun felly un mantais yw rydym yn gallu anodi lluniau i ddarganfod manylion pellach. Un gwendid yw maes ap dim wedi gweithio i bawb ac felly maen nhw yn dibynnu a phobl arall. Cryfder arall o’r dull yma yw maes’n hawdd i wneud ac mae mwyafrif o bobl yn gallu gwneud e.e er mwyn larlwytho, mwyafrif o bobl gyda ‘smart phone’. Gwendid arall yw mae pobl yn cael lluniau gwahanol achos maen nhw wedi tynnu lluniau o’r ongl arall. Cryfder arall yw mae dim yn ddibynu os yw person yn da yn braslunio. Dull casglu data arall yw defnyddio gwefan britice. Un gwendid yw mae yn data eilaidd felly llai dibynadwy achos ni ddim wedi casglu’r data ein hun. Cryfder o ddefnyddio y dull yma yw rydym yn gallu dod o hyd i arwynebedd, ongl a cefnfur y peiran ac mae’r data yn briodol iawn. Mantais arall yw os mae pawb yn defnyddio y gwefan bydd pawb yn cael yr un ystadegau felly mae’n ddibynadwy. Hefyd wrth ddefnyddio britice, defnyddiom clinomedr i fesur ongl a chyfeiriant y cefnfur ond un gwendid yw mae pobl gyda thaldra gwahanol ac felly yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol.
⅝ Gwerthusiad manwl o’r ddau ddull ond mannau aneglur, diffyg manylion wrth werthuso defnydd o luniau. Nodyn ar y diwedd yn aneglur ddim yn cysylltu gyda gwaith britice
Diolch yn fawr