1 of 31

Astudiaethau Crefyddol A2

Athroniaeth

2 of 31

Nod ac Amcan

​

  • I atgyfnerthu eich dealltwriaeth o farn Sigmund Freud o’r meddwl crefyddol

​

​

Seicoleg Crefydd – Sigmund Freud

3 of 31

4 of 31

5 of 31

  • Roedd Sigmund Freud (1858-1939) yn seicolegydd enwog o Awstria, a ystyrir yn un o sylfaenwyr Seicoleg.
  • Ceisiodd atebion i’r cwestiwn ‘pam bod bodau dynol yn teimlo’r angen i fod yn grefyddol?’
  • O deulu Iddewig ond yn angnrediniwr ei hun

Pwy oedd Sigmund Freud?

6 of 31

Llyfrau Freud am Grefydd

TOTEM AND TABOO (1913)

​

THE FUTURE OF AN ILLUSION (1927)

​

CIVILIZATION AND ITS DISCONTENTS (1930)

​

MOSES AND MONOTHEISM (1939)

Darllen ymhellach…

7 of 31

Tystiolaeth hanesyddol (???) – Totem and Taboo

Tystiolaeth wyddonol (???) – Damcaniaith Haid Wreiddiol

Crefydd/Duw yn alldafliad o ofnau/euogrwydd atgofion taboo yn yr Id

Rhydweithiol – y meddwl sydd wedi creu Duw

8 of 31

9 of 31

Yr ID - Dyma’r rhan anymwybodol o’r meddwl, dyma ble mae chwantau a dyheadau sydd yn sbarduno pobl e.e. yr awydd am bleser a awydd rhywiol (Libido). Dyma ran nad yw pobl eraill yn ei weld. Syniadau/greddf na fyddai cymdeithas yn eu derbyn. MAE’R MEDDWL CREFYDDOL YN DEILLIO O’R MEDDWL ANYMWYBODOL

Yr EGO - Dyma’r rhan ymwybodol o’r meddwl, mae’n delio gyda realiti; bod yn ymwybodol o’n ffurf gorfforol. Yr ego sydd yn creu ein personoliaeth, dyma mae pobl yn y gymdeithas yn ei weld yn y byd allanol. Mae’r ego yn ceisio cadw’r Id dan reolaeth.

 

“the main aim of id is pleasure and the main aim of the ego is safety” (Michael Palmer)

 

Yr Uwch Ego - mae’n cael ei gysylltu â agwedd unigolyn at ei rieni a chymdeithas/diwylliant. Yr uwch ego yw’r gwrthwyneb i’r id. Tra bod yr id yn anifeilaidd, yn reddfol ac yn hunanol (rhoi pleser i unigolyn), mae’r uwch ego yn ceisio ymddwyn yn berffaith - cydwybod (conscience) cryf am bopeth - ceisio ymddangos yn berffaith/dda. Mae gwerthoedd (values) rhieni, diwylliant ac addysg yn pasio normau/ymddygiad canmoladwy yn ei flaen.

 

Mae’r id, ego a’r uwch ego yn brwydro yn erbyn ei gilydd ac mae hyn yn gallu achosi dryswch (disorder) seicolegol. Mae’r ego yn ceisio atal yr id rhag ymddangos yn y byd tu allan. Mae’r uwch ego yn ceisio gweithio gyda’r id a’r ego drwy geisio gosod safonau sydd wedi eu dysgu gan rieni a chymdeithas.

 

“Thus the ego has to satisfy the instinctual demands of the id and the moral dictates of the super-ego” - Michael Palmer

10 of 31

Tyfodd Freud i fyny mewn teulu Iddewig, ond yr oedd ef ei hun yn anghrediniwr (atheist) ei hun.

Yr oedd yn gwrthod y syniad o dduw yn gyfangwbl. I Freud, yn y meddwl yn unig oedd crefydd yn bodoli.Dyma sy’n cael ei alw yn Rhydweithiol. Tydi crefydd ddim yn realiti allanol. Roedd yn gweld mai “rhith” (illusion) oedd crefydd, cynnyrch y meddwl yn unig. Tydi Duw ddim yn reality allanol.

• Rhydweithiol (Reductive) – cynnyrch y meddwl dynol yw crefydd. Mae'n achosi i bobl berfformio defodau crefyddol diystyr, sydd heb unrhyw sail mewn gwirionedd (maent yn ddibwrpas).

11 of 31

Mae Credinwyr Crefyddol yn Blentynaidd!!

Wrth dyfu i fyny, mae pobl yn aeddfedu ac yn mynd yn fwy annibynnol. Mae rhai pobl yn methu delio gyda hyn. Maent yn methu delio gyda realiti bywyd.

​

Nid ydynt yn gallu delio gyda bywyd creulon sy’n llawn dioddefaint. Nid ydynt yn gallu troi at eu rhieni OND mant angen rhywbeth i’w cysuro a’u helpu mewn bywyd

​

​

​

Beth yw cyfrifoldeb rhieni?

12 of 31

I Freud, mae crefydd yn cwrdd â anghenion seicolegol bodau dynol mewn 2 ffordd

a) Ffordd o ddelio gyda bygythiadau naturiol sydd yn y byd trwy greu Duw sy’n rheoli dros y byd naturiol. Mae bygythiad grym natur mor bwerus ac ofnus – rhaid i ni greu Duw pwerus i’w reoli.

b) Ffordd o reoli greddf/chwant dynol – yn enwedig greddf rhywiol (libido) a greddf ymosodol i ladd (aggressive). Mae gan grefydd set o reolau sy’’n rheoli y greddfau hyn e.e.

Greddf

Enghreifftiau o reolau crefydd sy’n cadw trefn ar y greddfau

Rhyw

 

 

Ymosod a lladd

 

 

Meddyliwch

Felly, beth mae’r pobl hyn yn ei wneud??????!!!!

13 of 31

SUPER RHIANT!!!!

  • Creu rhiant newydd sydd hyd yn oed yn fwy pwerus na’r rhai gwreiddiol….sef

​

​

DUW!!!

14 of 31

Duw = Y Rhiant Newydd

“Ein TAD yn y Nefoedd ……!!!!!”

Pa gredoau am Dduw sydd yn debyg i rôl rhiant?

___________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________

Cysuro

Edrych ar ôl

Dysgu da a drwg

Cosbi

Helpu ni

Sicrwydd

Amddiffyn ni

15 of 31

Rhestr ddymuniadau (wish list)

Blanced Gysur (Safety Blanket)

Cred Grefyddol yn Blentynaidd

16 of 31

Mae Crefydd yn dangos� "Y Teimlad Cefnforol" (Oceanic Feeling)�

Teimlad cyfriniol (mystic) cryf mae pobl crefyddol yn ei gael o uno gyda Duw. Canlyniad y teimlad cefnforol oedd crefydd. Roedd hwn yn deimlad cyffredin mae pawb yn ei deimlo meddai ef. ..

Oherwydd ein ofnau, mae pobl eisiau teimlo’n ddiogel. Mae pob unigolyn yn cofio diogelwch pan yng ngroth ei fam – maent yn ysu am y diogelwch hwnnw.

Mae pobl felly yn cael teimlad o uno gyda “bod” pwerus i’w cadw yn ddiogel

17 of 31

Cefndir – Datblygiad y Seici (meddwl) dynol yn ôl Freud

Y 5 cam yn natblygiad personoliaeth yn ôl Freud ac maent yn ymwneud â sut mae libido (chwant rhywiol) yn datblygu,

1. Cam Geneuol (oral) 0-18 mis: y ceg yw prif ffynhonell pleser i’r plentyn. Mae’r plentyn yn chwilio am ddiogelwch e.e. bwyta, sugno bawd. Mae’r “id” yn bresennol gryf, mae’n cyflawni dyhead (urges) hunanol.

​

​

2.Cam Rhefrol (anal) - 2 i 4 oed. Yr anws yw prif ffynhonnell pleser. Mae’r babi yn dysgu rheolaeth dros ei gorff a’i anghenion ei hun. Dyma pryd mae babi yn deall nad yw yn gallu cael ei ddyhaeadau (urges) ac mae’r ego yn dechrau datblygu. Meddyliwch – mae dyheadau hunanol yn dechrau cael eu ffrwyno e.e. “potty training”

3. Cam Ffalig (phallic) 4 i 7 oed. Ystyried rhyw yn “anaeddfed”. Mae’r bachgen ifanc yn dyheu am berthynas rywiol gyda’i fam, ond nid yw hyn yn bosibl oherwydd y tad. Mae’r bachgen yn ofni y bydd y tad yn ei ysbaddu (castrate) ac felly yn dyheu am ladd y tad. Mae’r syniad hwn yn rhy

boenus, ac felly mae’r bachgen yn uniaethu gyda’r tad. Drwy wneud hyn mae’r bachgen yn mewnoli gwerthoedd y tad ac mae’r UWCHEGO (cydwybod) yn datblygu. Dyma’r cyfnod mwyaf tebygol sy’n ymwneud mwyaf â chrefydd. Ffrwyno arferion tabw/anerbyniol gan gymdeithas.

4. Cam Cêl - 8 i 12 oed. Does fawr ddim datblygiad i bersonoliaeth person yn y cyfnod hwn medd Freud

5. Cam Rhywiol - 12 i 18 oed. Dyma ble mae awydd rhywiol yn cael ei ddatblygu a pherthnasau rhywiol yn cael eu gweithio allan. Bydd unigolyn yn ystyried y reddf rhywiol gyda phobl o’r un oed. Ystyried rhyw yn “aeddfed”

Erbyn 18 oed mae person wedi datblygu ei bersonoliaeth llawn yn ôl Freud.

18 of 31

Pam mae crefydd yn cael ei weld yn niwrosis?

 

ATCHWELIAD (Regression) - ble mae’r meddwl yn mynd nôl i gyfnod plentynaidd (nôl i un o’r 5 cam datblygiad personoliaeth)

 

ATALIAD/ATALNWYD (Repression) - stopio unrhyw feddyliau/atgofion anymwybodol (Id) gwrthgymdeithasol rhag amlygu eu hunain yn ein personoliaeth yn y gymdeithas tu allan. (Mae “blocio’r” meddyliau hyn yn achosi niwrosis yn ôl Freud)

 

ALLDAFLIAD (Projection) - Mae unrhyw atgof amhleserus/wrthgymdeithasol sydd yn y meddwl anymwybodol yn cael ei arddangos yn y byd tu allan trwy weithred; gwneud neu ddweud rhywbeth. Mae crefydd yn alldafliad oherwydd chwantau rhywiol, euogrwydd ac ofnau sydd yn y meddwl anymwybodol. Alldafliad o gynnwys yr Id yw crefydd yn ôl Freud. Mae pobl crefyddol yn gwrthod hyn ac yn ceisio gwrthbrofi mai alldafliad yw crefydd.

19 of 31

Ataliad meddyliau yw proses pan mae’r mae’r meddwl yn stopio atgof/teimlad o unrhyw ddigwyddiad amhleserus yn y gorffennol rhag pasio o’r meddwl anymwybodol i’r meddwl ymwybodol. “Blocio” atgofion trawmatig/meddyliau drwg! Mae ataliad meddyliau yn amddiffyn y meddwl ymwybodol rhag gorfod delio gyda’r digwyddiadau/emosiynau yn y gorffennol. Mae ataliad fel math o “bouncer” wrth ddrws y meddwl ymwybodol sydd yn cadw meddyliau amhleserus o’r gorffennol i ffwrdd!

20 of 31

ATALIAD/ATALNWYD = creu niwrosis obsesiynol

21 of 31

  • Dyma sylfaen theori Freud ar grefydd - CYMHLETHDOD OEDIPWS, sydd wedi ei enwi ar ôl chwedl roegaidd am frenin Oedipus a laddodd ei dad a phriodi ei fam. Mae PAWB yn dioddef o hyn yn ôl Freud.
  • Gwaith Ymchwil - Darllenwch Chwedl Oedipws.

​

22 of 31

Crefydd yn Newrosis Obsesiynol

Roedd Freud yn gweld tebygrwydd rhwng ei gleifion oedd yn dioddef o OCD (Obsessive Compulsive Disorder) a phobl crefyddol

​

​

Gosod dillad neu glustogau mewn trefn arbennig

Cyffwrdd rhywbeth nifer arbennig o weithiau

Checio rhywbeth sawl tro

Obsesiwn glendid

Ofergoelion

Rhestrwch rhai o arferion Obsesiynnol Seicolegol

23 of 31

Allwch chi feddwl am arferion “obsesiynol” mewn crefyddau?

Rhaid ymolchi cyn gweddio

Rhaid mynd i Mecca unwaith yn eich bywyd

Dim bwyta yn ystod Ramadan

Rhaid gweddio 5 gwaith pob dydd…, nid 4 ac nid 6….ond 5!!!!

Peidio bwyta rhywbeth yn ystod Grawys (lent)

Dim bod yn berchen eiddo

Dim rhyw o gwbl

Rhaid gwisgo’r 5k

Rhaid i gig fod wedi cael ei ladd mewn ffordd arbennig

Dim cymysgu cig a llaeth!

Beth yw canlyniad torri un o’r rheolau hyn yn ôl credinwyr?

Pa emosiwn a achosir wrth beidio gwneud hyn?

EUOGRWYDD ac OFN!!!

24 of 31

Dechreuad Crefydd

- Totem and Taboo

Tystiolaeth Hanesyddol o Gymhlethdod Oedipws?

25 of 31

Tystiolaeth Hanesyddol - Dechreuad Crefydd -�Totem and Taboo�

  • Un o lyfrau Freud am grefydd yw TOTEM AND TABOO. Casgliad o 4 traethawd wedi eu selio ar astudiaeth Freud ar gymdeithas gyntefig (primitive). Mae’r gwaith yn cael ei alw yn “some points of agreement between the mental life of savages and neurotics”. Mae Freud yn amlwg yn gweld tebygrwydd rhwng bobl cyntefig a rhai o’i gleifion (patients) oedd yn dioddef yn feddyliol. Astudiodd Freud sut oedd cymdeithas gyntefig yn gweithio cyn fod cymdeithasau wedi datblygu yn fwy soffistigedig.
  • GWERTHUSO – Pan ysgrifenwyd Totem and Taboo, doedd fawr ddim dealltwriaeth o gymdeithasau cyntefig, ac felly, does gan yr hyn a ddywed Freud ddim sail bendant na thystiolaeth.

​

  • Mae Freud yn gweld sut mae crefydd yn ymddangos ym mhatrwm bywyd llwythau (tribes) cynnar. Yn ôl Freud, roedd gan bobl gyntefig totem (polyn) arbennig mewn siap anifail a byddai ganddynt ddwys barch ac ofn y symbol/totem hwn. Byddai aelodau’r llwyth yn rhannu’r totem ac yn diffinio eu rheolau cymdeithasol eu hunain yn ôl gofynion y totem. (Gwneud beth oedd y Totem am iddynt ei wneud!). Byddent yn perfformio defodau (rituals) o gwmpas y totem (arferion “crefyddol”).

​

  • Fe ddarganfyddodd Freud 2 arfer (custom) yn ymwneud â’r totem:-

​

  • 1. Ni ddylid hela, lladd na bwyta’r anifail a oedd ar ben y totem
  • 2. Byddai gwledd (feast) flynyddol yn cael ei chynnal a fyddai yn cynnwys defodau (rituals) ble byddai’r anifail ar ben y totem yn cael ei ladd a’i fwyta yn y gobaith o uno/fewnoli gyda’r anifail

26 of 31

O ble ddaeth y Totem?

​

Theori Freud oedd fod y llwythau wedi eu trefnu yn batriarchaidd (rheoli gan un dyn). Byddai gan y PATRIARCH (arweinydd gwrywaidd), bwer dros bawb a phopeth, rheolau rhywiol a phynciau tabw (rhywbeth sydd wedi ei wahardd neu yn cael ei anghymeradwyo (disapprove) gan y llwyth). Byddai angen ar bob llwyth i gael rheolau llym am ryw er mwyn sicrhau perthynas gywir rhwng aelodau’r llwyth. Mae’r rheolau hyn yn sail i’n diwylliant heddiw yn ôl Freud.

​

Byddai’r patriarch yn gwahardd y dynion ifanc rhag cael rhyw gyda’r merched yn eu llwyth eu hunain ac yn cadw’r merched i gyd iddo ei hun. Byddai’r dynion ifanc yn dod at ei gilydd oherwydd eu chwant rhywiol ac yn gwrthryfela a lladd y patriarch er mwyn gwireddu eu chwantau rhywiol o fewn y llwyth. Wedi hynny, byddent yn teimlo yn euog am ladd y patriarch ac angen rhywbeth i gymryd lle y patriarch. Byddent yn ffurfio totem allan o bren i gymryd ei le ac yn rhoi pwerau “duwiol”/”goruwchnaturiol” iddo. Byddent yn dewis anifail ar ben y totem i gynrychioli’r Patriarch. Byddent yn gwahardd hela yr anifail er mwyn ei barchu. Ond, ar un adeg o’r flwyddyn, byddent yn lladd yr anifail ac yn ei fwyta mewn gwledd (feast) er mwyn ceisio uniaethu gyda’r anifail/patriarch

MEDDYLIWCH - Ydych chi yn gallu gweld arfer Cristnogol tebyg?

​

Mae Freud yma yn gweld tebygrwydd/cysylltiad gyda stori/Cymhlethdod Oedipus, sy’n dweud fod pob dyn yn chwantu (to desire) am ei fam ac yn dyheu i ladd eu tad (Tipyn o taboo!!!). Cred Freud oedd fod ymddygiad y llwythau cyntefig yn arddangos Cymhlethdod Oedipws

27 of 31

Damcaniaeth Llu gwreiddiol

- Charles Darwin

O BLE Y CAFODD FREUD Y SYNIAD AM Y LLWYTHAU CYNNAR?

Tystiolaeth Wyddonol o Gymhlethdod Oedipws?

28 of 31

Mae Freud yn ail greu/addasu “Damcaniaeth Llu Gwreiddiol” gan Charles Darwin”. (Darwin’s Primal Horde Theory). Yn ôl Freud, byddai pobl gyntefig yn adlewyrchu ffordd o fyw yr epa (“apes”). Roedd y grŵp yn cael ei reoli gan un epa. Byddai’r prif epa anfon pob epa ifanc allan o’r grŵp i gael partner er mwyn atal llosgach. Byddai’r “tad” yn uchel ei barch, ond byddai “meibion” y grŵp yn genfigennus ohono ac yn ei gasau; byddent eisiau ei ladd! Byddai’r “meibion” yn dod at ei gilydd ac yn lladd y “tad” er mwyn cael pwer a dilyn eu dyheadau rhywiol. Wedi lladd y “tad” byddent yn teimlo EUOGRWYDD. Byddent yn gwasgaru allan i grwpiau epa eraill. Mae’r syniad o dduw yn gwneud iawn am deimladau rhywiol annerbyniol ac euogrwydd o ladd y tad. Ar ôl lladd y tad, byddai’r tad yn dod yn dduw drwy’r totem sy’n ei gynrychioli. Mae Freud yn awgrymu fod Cristnogaeth yn profi damcaniaeth Llu Gwreiddiol drwy stori Iesu – Iesu yw’r ffigwr tad sydd yn cael ei ladd ar y groes ac yn ddiweddarach yn cael ei goffau a’i anrhydeddu drwy addoliad! Mae Freud yn ceisio profi ei ddadl yn wyddonol.

MAE FREUD YN GWELD HYN YN DEBYG SUT OEDD Y LLWYTHAU CYNNAR YN BYW AC YN ARDDANGOS CYMHLETHDOD OEDIPWS!

29 of 31

Tystiolaeth hanesyddol (???) – Totem and Taboo

Tystiolaeth wyddonol (???) – Damcaniaith Haid Wreiddiol

Crefydd/Duw yn alldafliad o ofnau/euogrwydd atgofion taboo yn yr Id

Rhydweithiol – y meddwl sydd wedi creu Duw

Ydw i’n deall…?

30 of 31

2. Esboniwch safbwynt Freud ar gred grefyddol. [AA1 30] (2018).

  • Roedd Freud yn cydnabod arwyddocâd crefydd i gylch gweithgarwch dynol, a threuliodd lawer o'i fywyd a'i waith yn myfyrio ar y berthynas rhwng cred grefyddol ac ymddygiad dynol. Mae ei waith yn awgrymu, i raddau helaeth, nad yw crefydd yn helpu pobl i ddatblygu aeddfedrwydd seicolegol iach, a'i fod o'r farn ei bod yn weithgaredd 'plentynnaidd' sy'n atal pobl rhag cyflawni eu potensial.
  • Roedd Freud o'r farn mai rhith a/neu niwrosis oedd crefydd. Credai mai 'defod obsesiynol gyffredinol' ydoedd a oedd yn caniatáu i'w dilynwyr osgoi anffawd ddychmygus (Uffern, damnedigaeth, ac ati) ac ymgolli mewn arferion a oedd yn hybu dymuniadau ymosodol a myfïol.
  • Defnyddiodd Freud chwedl Oedipus i fyfyrio ar y berthynas gymhleth rhwng rhieni a phlant a sut oedd hyn yn achosi i seice'r plentyn adweithio a datblygu. Cydnabuwyd bod materion yn ymwneud â chariad, casineb, cenfigen, cystadleuaeth a dibyniaeth yn deillio o'r perthnasoedd hyn ac y gallent arwain at gythrwfl emosiynol dwys yn yr unigolyn. Un o swyddogaethau allweddol crefydd, o safbwynt Freud, oedd rhoi naratif i'r perthnasoedd hyn a oedd yn caniatáu i'r profiad ddod yn un cymdeithasol yn hytrach nag unigol. Felly, hyrwyddwyd y syniad bod ffigurau tadol yn 'hollalluog' yn y ffigur Dwyfol, a'r syniad bod mamau'n 'wyryfol' - y mae'r ddau syniad wedi'u sefydlu'n gadarn yn y naratif Cristnogol. Rhoddodd hyn dderbynioldeb cymdeithasol i ystyriaethau a fyddai'n cael eu hystyried yn amhriodol pe bydden nhw'n cael eu hyrwyddo gan yr unigolyn heb gyd-destun o'r fath.
  • Hyrwyddodd Freud y syniad o 'gof' dynol cyfunol yn ei ddamcaniaeth llu gwreiddiol. Roedd y syniad hwn (yr oedd wedi'i seilio ar waith Darwin) yn awgrymu bod hynafiaid dynol wedi lladd gwryw alffa yn y llu oherwydd eu bod yn genfigennus o'r dyn hwn yr oedd ganddo ef yn unig hawl i gael cyfathrach rywiol â menywod y llu gan ei fod yn gryfach ac yn fwy deallus. Achosodd hyn adwaith difrifol o euogrwydd oherwydd bu'r gwryw alffa hwn yn destun parch ac ofn mawr ymhlith y llu hefyd. Yna, mae'r euogrwydd yn canolbwyntio ar dotem sydd, yn ei dro, yn dod yn wrthrych defosiwn ac addoli, ac mae'r gwryw alffa a lofruddiwyd yn dod yn dduw. Roedd hyn hefyd yn esbonio damcaniaeth Freud bod crefydd yn fodd o atal trawma.
  • Roedd Freud hefyd o'r farn bod crefydd yn fodd o wireddu breuddwydion ac yn adwaith yn erbyn diymadferthedd; roedd crefydd yn darparu fframwaith a oedd yn caniatáu i'r rhai a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu rhwystro gan eu profiadau mewn bywyd wneud synnwyr o'r byd trwy eu cred grefyddol a chael eu grymuso trwy ddilyn ei defodau a'i mytholeg.

31 of 31