1 of 17

Sesiwn 4

Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Gradd unigol (1 TGAU)

Uned 1: Twf, datblygiad a llesiant dynol

Arholiad ysgrifenedig:

1 awr 30 munud

40% o gymhwyster

Dyddiad yr arholiad = Yr 20fed o Fai 2024

2 of 17

Topig

Cynllun y sesiwn heddiw - Ffyrdd o hybu a chefnogi twf, datblygiad a llesiant.

Rhaglenni sgrinio babanod a phlant

Rhaglenni sgrinio oedolion

Gwasanaethau

Canllawiau a mentrau y llywodraeth

Cyfranogiad y gymuned

3 of 17

CÔD AR GYFER RHAGLENNI SGRINIO BABANOD / PLANT :

C

S

1000

4 of 17

Clyw babanod

Caiff un neu ddau o fabanod o bob 1000 eu geni â nam ar y clyw a all effeithio ar ddatblygiad eu lleferydd ac iaith. 

Mae sgrinio clyw babanod yn helpu i ddod o hyd i'r babanod hynny a chynnig help a chymorth o'r dechrau.

Smotiau gwaed Babanod

Yng Nghymru, mae pob babi’n cael cyfle i gael prawf sgrinio am y cyflyrau sy’n dilyn.

Mae’n digywdd yn ystod y 5 diwrnod cyntaf o enedigaeth

1000 Diwrnod cyntaf

Mae’n cynnig cymorth i bob teulu wneud dewisiadau iach. Mae'n cynnwys imiwneiddiadau, gwybodaeth iechyd, adolygiadau datblygiadol, a mynediad at ystod o wasanaethau ac adnoddau cymunedol. Gall rhaglenni’r blynyddoedd cynnar gael effeithiau cadarnhaol hirdymor. Mae darparu gwasanaeth yn allweddol i leihau anghydraddoldebau iechyd.

Ymyrryd yn gynnar a chymryd camau ataliol - Rhaglenni sgrinio plant

5 of 17

CÔD AR GYFER RHAGLENNI SGRINIO OEDOLION:

A

B

C

C

S

6 of 17

Ymyrryd yn gynnar a chymryd camau ataliol - Rhaglenni sgrinio Oedolion

Aorta - Ymlediad Aeortig Abdomen

Ar gyfer dynion 65 oed. Mae’n sgan uwchsain syml a di-boen i fesur yr aorta abdomenol. Mae dynion chwe gwaith yn fwy tebygol o gael YAA na menywod.

Bron

Rhaglen i fenywod 50 oed a hŷn yn unig yw rhaglen sgrinio’r fron, gan fod y risg o gael canser y fron yn cynyddu wrth i rywun fynd yn hŷn. 

Coluddyn (Bowel)

Mae'r pecyn prawf sgrinio wedi'i gynllunio i fesur faint o waed sydd yn eich carthion (pw), a gall cael ei gyflawni yn eich tŷ. 

Mae dynion a menywod rhwng 58 a 74 oed ac sydd yn byw yng Nghymru yn cael ei gwahodd i gymryd y prawf sgrinio'r coluddyn bob dwy flynedd.

Cyn geni

Sgrinio am syndrom Down, syndrome Edwards a syndrome Patau

Profion gwaed sy’n chwilio am heintiau ac anhwylderau ar y gwaed,Sganiau uwchsain sy’n chwilio am dyddiad y beichiogrwydd, nifer y babanod, annormaleddau yn y babi

Serfigol

Gall sgrinio serfigol atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei godi yn gynnar. Mae’n dod o hyd i newidiadau i gelloedd yn gynnar, gall sgrinio atal canser ceg y groth rhag datblygu. Gwahoddir menywod rhwng 25 a 64 oed am sgrinio serfigol yng Nghymru.

7 of 17

Mae llawer o wasanaethau ar gael a all helpu i hyrwyddo a chynnal twf, datblygiad a llesiant.

Gwasanaethau meddyg teulu/canolfan iechyd

Mae meddygon teulu yn rhoi diagnosis ac yn trin unigolion sydd â salwch. Maent hefyd yn rhoi cyngor i unigolion er mwyn gwella iechyd, megis cyngor ar ddeiet, rhoi’r gorau i ysmygu ac imiwneiddio.

Mae Nyrsys Cymunedol hefyd yn rhan o'r gwasanaeth meddygon teulu. Maent yn chwarae rôl enfawr gan helpu unigolion na allant adael eu cartref eu hunain. Gallant newid rhwymynnau, rhoi meddyginiaeth, cymryd pwysedd gwaed a theimlo curiad calon rhywun ac ati

Gall ymarferwyr nyrsio roi triniaeth a chyngor ar gyfer llawer o broblemau y byddai unigolyn, o bosibl, wedi gweld meddyg yn eu cylch yn y gorffennol. Eu prif feysydd arbenigedd yw rheoli afiechydon cyffredin a chyflyrau hirdymor.

Mae ymwelwyr iechyd yn helpu rhieni i fagu plentyn hapus ac iach. Maen nhw’n cynnig cefnogaeth a chyngor ar sut i fod yn rhiant da a sut i fodloni anghenion y plentyn.

8 of 17

Mae ffisiotherapyddion yn trin unigolion sy’n dioddef o broblemau corfforol yn sgil anaf, clefyd, afiechyd a heneiddio. Eu nod yw gwella ansawdd bywyd unigolion drwy ddefnyddio amrywiaeth o driniaethau i leddfu poen ac i adfer gweithrediad aelodau’r corff, y cymalau, y gwddf neu’r cefn, neu leihau effeithiau camweithrediad tymor hir.

Mae deietegwyr yn aml yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i drin cyflyrau cymhleth fel diabetes, anhwylderau bwyta a phroblemau’n ymwneud â’r coluddyn. Gallan nhw hefyd gynnig cyngor ar fwyta’n iach i unigolion sydd am wella eu hiechyd neu sydd angen colli pwysau. Byddan nhw’n rhoi cymorth i unigolion sy’n dioddef o alergeddau hefyd.

Gall ymarferwyr nyrsio roi triniaeth a chyngor ar gyfer llawer o broblemau y byddai unigolyn, o bosibl, wedi gweld meddyg yn eu cylch yn y gorffennol. Eu prif feysydd arbenigedd yw rheoli afiechydon cyffredin a chyflyrau hirdymor.

Mae fferyllfeydd yn paratoi meddyginiaethau yn ddiogel ar gyfer unigolion. Gallan nhw hefyd gynnig cyngor ar iechyd rhywiol ac amrywiaeth o fân afiechydon a chlefydau. Maen nhw’n cynnig cyngor ar fyw’n iach hefyd, er enghraifft cyngor ar sut i roi’r gorau i ysmygu.

9 of 17

Gwasanaethau ysbyty

Mae gan ysbytai amrywiaeth o adrannau ac yn yr adrannau hynny mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael i unigolion. Gall hyn gynnwys: iechyd galwedigaethol, ffisiotherapi, fflebotomi, cardioleg, iechyd cymunedol ac yn y blaen.

Mae therapyddion galwedigaethol yn helpu unigolion i oresgyn effeithiau anabledd ac yn helpu i atal anabledd pellach. Gall yr anabledd fod yn gorfforol neu'n seicolegol.

Mae gweithwyr gofal iechyd cymunedol yn gweithio mewn ysbyty neu leoliadau cymunedol o dan arweiniad gweithiwr gofal iechyd.

Mae gweithwyr gofal iechyd cymunedol hefyd yn gweithio ochr yn ochr â bydwragedd cymwys mewn gwasanaethau mamolaeth.

Mae'r mathau o ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol:

  • helpu unigolion i symud
  • helpu unigolion i fyw bywydau annibynnol
  • sicrhau cysur cleifion yn gyffredinol
  • monitro cyflyrau cleifion drwy gymryd eu tymheredd, eu pwls, gwirio eu hanadlu
  • paratoi cleifion ar gyfer therapi
  • cynorthwyo therapyddion wrth roi'r driniaeth.

10 of 17

Gwasanaethau clinigau iechyd plant

Cynhelir clinigau iechyd plant mewn canolfannau iechyd ac maent yn cael eu rhedeg gan ymwelwyr iechyd.

Ei rôl yw hybu iechyd ac atal salwch, yn enwedig i blant o dan 5 oed a phobl oedrannus.

Bydd yn ymweld â'r fam yn ei chartref, gyda'r babi am y 10 diwrnod cyntaf wedyn bydd y fam a'r plentyn yn dod i'r clinig iechyd plant.

Bydd yn rhoi cyngor i famau newydd ar ddeiet, diogelwch, twf a datblygiad eu babanod, rhaglenni imiwneiddio, hylendid a heintiau cyffredin mewn plentyndod. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar anghenion iechyd y gymuned leol ac yn rhoi cyngor i unigolion sydd â salwch hirdymor ar sut i ymdopi â'u cyflwr.

11 of 17

Gwasanaethau clinigau menywod a dynion iach

Eu nod yw diwallu anghenion unigolion er mwyn gwella iechyd cyffredinol ond gallant asesu a rhoi cyngor ar bryderon iechyd rhyw benodol.

Byddai clinig menyw iach yn cael ei redeg gan weithwyr iechyd proffesiynol benywaidd, fel meddygon a nyrsys. Maent yn cynnwys gwasanaethau sy'n cynnwys:

  • Sgrinio serfigol
  • Clefyd y fron
  • Materion gynaecolegol.

Mae clinigau dynion iach yn cynnig gwasanaethau amrywiol. Cânt eu rhedeg yn breifat yn bennaf. Ymhlith y gwasanaethau hyn mae:

  • Archwiliad pwysedd gwaed
  • Profion gweithrediad yr ysgyfaint
  • Profion y clyw a'r golwg
  • Pwyso a mesur taldra.

12 of 17

Gwasanaethau cynllunio teulu ac iechyd rhywiol

Mae clinigau cynllunio teulu ac iechyd rhywiol yn wasanaethau am ddim wedi'u hanelu at unigolion o oedran gwahanol.

Eu nod yw gwella iechyd rhywiol ac addysgu unigolion am atal clefydau/heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, rhoi cyngor ar ddulliau atal cenhedlu ac unrhyw bryder arall o ran iechyd rhywiol. Gallant hefyd gynnal profion ar gyfer clefydau/heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

13 of 17

Gwasanaethau Symudol

Mae rhaglen sgrinio'r fron y GIG wedi ei hanelu at fenywod 50 oed a throsodd. Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig mewn ysbytai, ond hefyd fel gwasanaeth symudol sy'n teithio o amgylch y wlad i safleoedd gwahanol a'r enw ar y gwasanaeth hwn yw Bron Brawf Cymru.

14 of 17

Cwnsela

Mae gwasanaethau cwnsela i unigolion sydd â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl. Mae'n therapi siarad gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig sy'n helpu unigolion i oresgyn eu problemau emosiynol ac iechyd meddwl.

15 of 17

Eraill sy’n cyfrannu tuag at iechyd a lleiant unigolyn

Mae nyrsys ysgol yn cynnig rhaglenni sgrinio clyw a golwg pan fydd plentyn yn dechrau yn yr ysgol, a rhaglenni imiwneiddio ar adegau allweddol ym mywyd plentyn. Maen nhw hefyd yn cynnig cyngor ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys byw’n iach ac afiechydon a chlefydau yn ystod plentyndod. Bydd nyrs ysgol yn gweithio’n agos gyda theuluoedd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw

Gall hyfforddwyr personol helpu i wella iechyd unigolyn drwy deilwra rhaglenni hyfforddiant i fodloni ei anghenion. Gall y rhaglenni hyn gael eu hanelu at golli pwysau, gwella lefelau ffitrwydd cyffredinol neu ffyrfhau’r corff. Maen nhw’n sicrhau bod unigolion yn ymarfer corff yn ddiogel er mwyn lleihau’r risg o anaf.

Mae athrawon ysgol yn cynnig cefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr a gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar eu llesiant meddyliol. Gall athrawon annog ffyrdd o fyw iach hefyd drwy hybu arferion bwyta’n iach, annog myfyrwyr i yfed digon o ddŵr a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol maen nhw’n eu mwynhau, er mwyn meithrin brwdfrydedd oes tuag at weithgarwch corfforol.

Mae therapyddion cyfannol yn defnyddio amrywiaeth o driniaethau i helpu cleifion i fod yn gyfrifol am eu llesiant eu hunain a sicrhau’r iechyd gorau posibl. Gallai’r triniaethau hyn gynnwys aciwbigo, homeopathi a thylino, yn ogystal â chwnsela perthynas a chwnsela ysbrydol.

16 of 17

Fferyllfa

• Meddygfa/canolfan iechyd

• Ysbyty

• Ffisiotherapi

• Therapi galwedigaethol

• Gofal cymunedol a chwnsela

Ysgrifennu presgriptiwn - Trefnu amrywiaeth o driniaethau gan gynnwys pecynnau rhew a gwres pecynnau i leddfu poen ac ysgogi gwaed cylchrediad

Trefnu gofal yn y cartref

Rhoi gwell dealltwriaeth i'r claf o sut bydd arthritis yn effeithio ar y cymalau a'r cyhyrau a rhoi cyngor ar sut i reoli'r boen.

Rhoi ymarferion a allai helpu i leihau poen arthritis; a/neu gryfhau'r cyhyrau a'r cymalau.

Cynyddu lefelau ffitrwydd cyffredinol

Darparu offer a/neu addasiadau tŷ

Awgrymu grwpiaucymorth/cwnsela

17 of 17