1 of 5

Crynodeb Cwricwlwm

Ysgol Evan James

2 of 5

Cafodd gweledigaeth ein hysgol ei chreu dros gyfnod o flwyddyn drwy ymgynghori â’n rhanddeiliaid. Trwy gyfrwng cyfarfodydd staff, cyfarfodydd effaith gyda llywodraethwyr yr ysgol a thrwy holiaduron rhieni, gweithiwyd ar y cyd i lunio gweledigaeth ar gyfer ein hysgol. Yn ganolog i’n gweledigaeth mae llais ein disgyblion, eu dymuniadau a’u dyheadau. Rhannwyd ein gweledigaeth mewn noson arbennig ar gyfer rhieni a llywodraethwyr ym mis Mehefin 2022 ac yna ar ein gwefan. Mae’r ysgol yn ddiolchgar i’r holl randdeiliaid am gefnogi pob disgybl y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol gan ddeall mai partneriaeth a fydd yn sicrhau llwyddiant i bob un o’n disgyblion. Nid ydym yn gweithio’n ynysig a chofiwn arwyddair ein hysgol:

“Gyda’n gilydd, gallwn...”

Ein cwricwlwm sydd yn ein galluogi i wireddu ein gweledigaeth. 

Fel rhan o ddyluniad cwricwlwm: 

Wrth ddylunio cwricwlwm mae holl staff yr ysgol wedi elwa o ddysgu proffesiynol ers lansiad y ddogfen Dyfodol Llwyddiannus. 

Rhoddwyd sylw teilwng i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cwricwlwm yn ein cynllun gwella ysgol ers y cychwyn cyntaf gan bennu diwrnodau HMS ar gyfer datblygu gwaith ar y Pedwar Diben yn ogystal â phob Maes Dysgu a Phrofiad. 

Rydym yn manteisio ar arbenigedd staff yn fewnol ac hefyd wedi gwahodd arbenigwyr niferus i’r ysgol i’n helpu wrth ddylunio cwricwlwm eang a chytbwys.

Mae cyd-destun yr ysgol a’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu yn llywio’r profiadau rydym am i’n disgyblion eu cael. Rydym yn dathlu doniau a rhinweddau pob disgybl a’n gwneud ein gorau i ddiwallu eu hanghenion. Gwnawn hyn oll gyda’r pedwar diben yn gyrru’r dysgu.

Mae athrawon wedi gweithio gyda staff o'r ysgolion clwstwr i gefnogi ei gilydd wrth gynllunio ein cwricwlwm, gan sicrhau cynnydd ar hyd y continwwm 3-16. Bydd y gwaith hwn yn parhau a’n esblygu wrth i ni fyfyrio ar lwyddiannau a heriau a gyfyd dros y flwyddyn nesaf.  

Byddwn yn parhau i gynnwys pob dysgwr mewn trafodaethau ar ddechrau a diwedd themâu dysgu, gan roi llais i ddysgwyr yn yr hyn y maent yn ei ddysgu. 

Mae’r ysgol yn cydweithio ac yn ymgynghori ag ystod o ddarparwyr o’r gymuned leol ac ehangach ar ddarparu profiadau unigryw a chyfoethog i ddysgwyr gan gynnwys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) ac Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith (CWRE).

Gweledigaeth a mewnbwn ein cymuned

3 of 5

Yma yn Ysgol Evan James rydym yn dathlu pob disgybl gan ddeall eu bod i gyd yn unigryw. O ganlyniad, mae cwricwlwm ein hysgol yn addas ar gyfer pob dysgwr a bydd yn eu galluogi i wireddu’r Pedwar Diben. Pa fath o ddysgwyr ydym am eu meithrin? Fel ysgol byddwn yn hwyluso’u datblygiad fel unigolion.  Cofiwn am weledigaeth yr ysgol: 

“Teulu hapus a chroesawgar sy’n annog Cymru Cymraeg balch”

Mae’n cwricwlwm yn ystyried ac yn ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau unigryw sy’n cyflwyno eu hunain i unigolion a grwpiau o ddysgwyr yn ein hysgol. Mae cwricwlwm ein hysgol yn eang a chytbwys ac yn cynnwys cyfleoedd dysgu o fewn ac ar draws pob un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Mae’n cwmpasu’r cysyniadau yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn darparu cynnydd priodol yn unol a’r egwyddorion cynnydd. Mae hefyd yn cyd-fynd â gofynion gorfodol o addysgu Cymraeg, Saesneg a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) a’r elfennau gorfodol o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh). Mae sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wedi’u hymwreiddio drwy’r cwricwlwm.

Y Pedwar Diben

4 of 5

Credwn bod cynnydd ac asesu yn allweddol i sicrhau ein bod yn cyflawni gweledigaeth ein hysgol. Caiff ein trefniadau asesu eu llywio gan yr egwyddorion cynnydd hyn. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu ar sail tystiolaeth i alluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol. 

• Asesiadau rheolaidd yn y dosbarth

• Defnyddio asesiadau safonedig (fel yr Asesiadau Personol Ar-lein Cenedlaethol)

• Adborth gan athrawon a'r defnydd o Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu e.e. Pinc Perffeithio a Gwyrdd Gwych

• Casglu gwaith disgyblion a dadansoddiadau gan Arweinwyr Camau/Aelodau'r Uwch Dîm Arwain

• Cyfarfodydd cynnydd a thrafodaethau myfyriol gydag aelodau'r staff

• Cynllunio ar draws y clwstwr ar fframwaith cyffredin o ddealltwriaeth o ddilyniant ar draws y Meysydd Dysgu

  • Dechrau defnyddio system asesu a thracio Taith360

Rydym yn sicrhau bod ein prosesau yn nodi dysgwyr sydd angen cymorth neu her bellach ac yn darparu gwybodaeth ansoddol gyfoethog i ni er mwyn llywio’r camau nesaf mewn dysgu ar gyfer unigolion a grwpiau o ddysgwyr. Mae ein trefniadau asesu yn sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhwng dysgwyr ac athrawon ac mae’n seiliedig ar fyfyrio parhaus ar leoliad dysgwr, beth yw ei gamau nesaf a beth sydd ei angen i’w gefnogi i gyflawni’r rhain.

Cynnydd ac asesu

5 of 5

Bydd cwricwlwm ein hysgol yn cael ei adolygu'n barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein dysgwyr ac yn adlewyrchu gweledigaeth ein hysgol. Drwy gydol y flwyddyn bydd amrywiaeth o weithgareddau hunanwerthuso i lywio ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ein cwricwlwm a’r adolygu gofynnol. Byddwn yn gweithio o fewn ein hysgol, ar draws y clwstwr ac mewn partneriaeth â llywodraethwyr, y consortia rhanbarthol, yr awdurdod lleol, a’n partneriaeth AGA i ddatblygu ymhellach ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac i sicrhau continwwm dysgu 3-11 o ansawdd uchel i bawb.

Adolygu