CYFNEWID DIWYLLIANNOL
Gemau i’w chwarae ar yr iard o wahanol rannau o’r byd
� Crëwyd yr adnodd gan Jasmine Kay o Wood Ley Primary School
�Cafodd yr adnodd hwn ei ddylunio ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, ond gellid ei ddefnyddio neu ei addasu ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 neu 3 hefyd.��Mae gan rai o'r sleidiau nodiadau i gefnogi cyflwyno’r dysgu a'r gweithgareddau.
Canllaw cyflwyno
Heddiw, rydym yn ymuno gydag ysgolion ar draws y wlad i gymryd rhan mewn Diwrnod o Groeso.
Bydd yn ein helpu i ddeall a rhannu straeon mudo, yn enwedig y teithiau hynny a gafodd eu gwneud gan ffoaduriaid.
Bydd yn dangos sut y gall ein cymuned fod yn lle pwerus a chroesawgar.
Mae Diwrnod o Groeso yn nodi dechrau’r
“Mudo yw hanes dynoliaeth.”
Michael Rosen
Darllenwch ac ystyriwch y canllaw hwn cyn cyflwyno’r wers (Saesneg yn unig).
Os oes gennych chi ddisgyblion sy’n ffoaduriaid yn eich ysgol…
Mae'n hanfodol bod yn ymwybodol o anghenion unrhyw blant y mae gan eu teulu gefndir o fod yn ffoaduriaid neu o geisio lloches cyn cyflwyno’r wers hon.
Os yw hyn yn berthnasol i unrhyw un o'ch plant, mae'n bwysig siarad gyda nhw cyn y gweithgaredd, a chynllunio yn unol â hynny.
���
Maen nhw'n bobl sydd yn cael eu gorfodi i adael eu gwlad i ffoi rhag perygl, ac sydd ddim yn gallu dychwelyd, neu sydd ddim yn gallu cael eu dychwelyd, i'w mamwlad.�
Pwy ydy ffoaduriaid?
Mae ffoaduriaid yn bobl gyffredin sy'n byw trwy gyfnodau rhyfeddol
Mae gan bawb yr hawl i geisio a mwynhau lloches rhag erledigaeth mewn gwledydd eraill.
Erthygl 14 o’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948
Beth sydd gan yr holl blant o gwmpas y byd yn gyffredin?
Mae plant ar draws y byd i gyd yn unigryw, ond un peth sydd ganddyn nhw i gyd yn gyffredin yw'r awydd i chwarae.
Pa heriau fyddai plant sy'n chwarae mewn ardal rhyfel neu wersyll ffoaduriaid yn eu hwynebu?
Rydyn ni'n mynd i archwilio gemau chwarae sydd yn cael eu chwarae ar yr iard o nifer o wahanol wledydd.
Petasech chi'n symud i wlad arall, pa gemau, arferion a thraddodiadau fyddech chi’n eu cyflwyno i'ch ffrindiau newydd?
Beth fyddai'r pethau cyntaf yr hoffech chi eu profi neu roi cynnig arnynt petasech chi'n symud i wlad arall?
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys rhai o’r gemau sydd yn cael eu chwarae ar yr iard o'r gwledydd canlynol:
Myanmar �Wcráin�Swdan�De Swdan�Somalia�Eritrea�Affganistan�Prydain
Mae pob un heblaw am Brydain, yn wledydd lle mae nifer sylweddol o bobl wedi cael eu dadleoli yn ystod y blynyddoedd diwethaf
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Myanmar ar y map?
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Myanmar ar y map?
Mae plant ym Myanmar yn mwynhau amrywiaeth o gemau cyffrous i’w chwarae ar yr iard, sydd ddim yn unig yn eu diddanu ond sydd hefyd, yn helpu i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a'u ffitrwydd corfforol. Un gêm boblogaidd ydy 'Chinlone.' I chwarae Chinlone, mae'r chwaraewyr yn ffurfio cylch ac yn pasio pêl rattan ymysg ei gilydd yn defnyddio eu traed, eu pen-gliniau, a'u pennau, heb adael i’r bêl gyffwrdd â'r ddaear. Y nod ydy cadw'r bêl yn yr awyr am mor hir â phosib a thrwy hynny, dangos cydweithrediad a gwaith tîm anhygoel. Wrth chwarae, mae plant yn annog ei gilydd ac yn bloeddio, gan greu teimlad o gymuned a chyfeillgarwch.
Gemau o Myanmar i’w Chwarae ar yr Iard
Gêm arall boblogaidd ym Myanmar ydy "Oon," sy'n debyg i'r gêm Duck, Duck, Goose. I ddechrau Oon, mae'r chwaraewyr yn eistedd mewn cylch tra bod un chwaraewr yn cerdded o amgylch y tu allan, ac yn tapio pawb sydd yn cymryd rhan ar y pen ac yn dweud “Oon” bob tro maen nhw’n tapio. Pan fyddant yn penderfynu dewis rhywun, maen nhw’n gweiddi “Oon!” a rhaid i'r chwaraewr hwnnw sefyll ar unwaith a rhedeg ar ôl y sawl a’u tapiodd o gwmpas y cylch. Os ydynt yn llwyddo i'w tagio nhw cyn iddyn nhw ddychwelyd i'w lle, maen nhw’n cymryd eu lle; fel arall, mae'r chwaraewr a ddewisodd rhywun yn cario ‘mlaen i redeg. Mae'r gêm hon yn llawn cyffro a chwerthin, gan fod angen cyflymder a meddwl cyflym.
EICH HER
Tynnwch lun ohonoch chi’n chwarae'r gemau hyn a'i sticio yma. Fel arall, tynnwch lun o'r gemau’n cael eu chwarae I greu llyfr arbennig y gellir ei ddefnyddio yn eich ysgol yn ystod amser cinio a phan fyddwch yn chwarae.
HER YCHWANEGOL
Allwch chi ddysgu plentyn iau i chwarae un o'r gemau hyn heddiw?
Ydych chi’n gallu dod o hyd i’r Wcraín ar y map?
Ydych chi’n gallu dod o hyd i’r Wcraín ar y map?
Yn Wcráin, mae iardiau chwarae yn lleoedd bywiog sy’n llawn chwerthin a chyffro, lle mae plant yn mwynhau ystod o gemau yn ystod eu hamseroedd egwyl yn yr ysgol.
Un o'r gemau chwarae traddodiadol mwyaf poblogaidd ydy “Kozak,” sef fersiwn glasurol o tag. Yn y gêm hon, mae un plentyn yn cael ei ddewis fel y ‘Kozak’ neu ‘Cossack,’ a’u rôl nhw ydy dal y chwaraewyr eraill. Os ydynt yn cael eu tagio, mae'n rhaid i'r chwaraewr aros yn llonydd tan y bydd aelod arall o’r tîm yn eu hachub trwy gropian o dan eu coesau. Mae hyn yn annog gwaith tîm a strategaeth.
EICH HER
Tynnwch lun ohonoch chi’n chwarae'r gemau hyn a'i sticio yma. Fel arall, tynnwch lun o'r gemau’n cael eu chwarae i greu llyfr arbennig y gellir ei ddefnyddio yn eich ysgol yn ystod amser cinio a phan fyddwch yn chwarae.
HER YCHWANEGOL
Allwch chi ddysgu plentyn iau i chwarae un o'r gemau hyn heddiw?
Gemau o Wcráin i’w Chwarae ar yr Iard
Cossack
Aelod o boblogaeth Wcráin a De Rwsia, sydd yn enwog am eu sgiliau marchogaeth a'u sgiliau milwrol eithriadol.
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Swdan ar y map?
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Swdan ar y map?
Yn Swdan, mae chwarae gemau ar yr iard yn rhan hanfodol o blentyndod, yn debyg i lawer o wledydd eraill. Mae gemau traddodiadol wedi cael eu chwarae am genedlaethau. Un gêm boblogaidd iawn ydy 'Tama', sydd yn cael ei chwarae drwy ffurfio dau dîm cyfartal. Nod y gêm ydy gwthio chwaraewyr y tîm arall drosodd trwy daflu pêl atyn nhw. Ar ôl i chi gael eich taro, rhaid ichi adael yr ardal chwarae; mae’n creu awyrgylch cyffrous a chystadleuol sy'n annog gwaith tîm a strategaeth.
EICH HER
Tynnwch lun ohonoch chi’n chwarae'r gemau hyn a'i sticio yma. Fel arall, tynnwch lun o'r gemau’n cael eu chwarae i greu llyfr arbennig y gellir ei ddefnyddio yn eich ysgol yn ystod amser cinio a phan fyddwch yn chwarae.
HER YCHWANEGOL
Allwch chi ddysgu plentyn iau i chwarae un o'r gemau hyn heddiw?
Gemau o Swdan i’w Chwarae ar yr Iard
Gêm arall sydd yn cael ei mwynhau yn fawr yn Swdan ydy ‘Al-Masara,’ gêm debyg i tag, sy'n golygu bod chwaraewyr yn rhedeg ar ôl ei gilydd mewn ardal benodol. Mae'r gêm hon fel arfer yn cynnwys llawer o chwerthin a llawenydd, wrth i chwaraewyr redeg o gwmpas yn ceisio osgoi cael eu tagio tra'n ceisio tagio eraill ar yr un pryd, ac wrth iddynt geisio profi eu cyflymder a'u hyblygrwydd. Atyniad gemau fel Al-Masara yw nad oes angen unrhyw offer arbennig i’w chwarae, sy’n ei gwneud nhw’n hygyrch i bob plentyn.
�
Ydych chi’n gallu dod o hyd i De Swdan ar y map?
Ydych chi’n gallu dod o hyd i De Swdan ar y map?
Yn Ne Sudan, mae plant wrth eu bodd yn chwarae amrywiaeth o gemau cyffrous yn ystod eu hams rhydd. Mae’r gemau hyn nid yn unig yn darparu pleser ond hefyd, yn dod â ffrindiau a theulu at ei gilydd, ac yn creu ymdeimlad o gymuned. Un o’r gemau mwyaf poblogaidd ydy ‘Koma,’ gêm draddodiadol sy’n debyg iawn i ‘tag’. Yn Koma, mae un chwaraewr yn cael ei ddewis i fod 'y tagwr' ac mae'n gorfod rhedeg ar ôl y chwaraewyr eraill o gwmpas yr iard, a cheisio eu cyffwrdd. Os yw chwaraewr yn cael ei dagio, nhw wedyn, ydy’r tagiwr newydd. Mae'r gêm hon yn boblogaidd oherwydd ei bod yn syml, ac mae’r gêm yn caniatáu i blant ddatblygu eu sgiliau rhedeg.
EICH HER
Tynnwch lun ohonoch chi’n chwarae'r gemau hyn a'i sticio yma. Fel arall, tynnwch lun o'r gemau’n cael eu chwarae i greu llyfr arbennig y gellir ei ddefnyddio yn eich ysgol yn ystod amser cinio a phan fyddwch yn chwarae.
HER YCHWANEGOL
Allwch chi ddysgu plentyn iau i chwarae un o'r gemau hyn heddiw?
Gemau o De Swdan i’w Chwarae ar yr Iard
Gêm draddodiadol arall sydd yn cael ei chwarae yn Ne Swdan ydy "Boli." Mae angen pêl feddal i chwarae’r gêm hon, ac mae’n cael ei chwarae mewn timau. Y nod ydy taflu'r bêl dros linell, a rhaid i'r tîm sy’n cystadlu yn eu herbyn geisio ei dal. Os ydynt yn methu, mae'r tîm a daflodd y bêl yn ennill pwyntiau. Mae Boli yn datblygu gwaith tîm a chydweithio, gan fod angen i chwaraewyr gyfathrebu’n effeithiol a gweithio gyda’i gilydd i lwyddo.
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Somalia ar y map?
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Somalia ar y map?
Gêm boblogaidd sydd yn cael ei chwarae ar yr iard yn Somalia ydy "Ciyaar," a gellir cyfieithu’n fras i ‘chwarae’ yn Saesneg. Mae Ciyaar yn debyg i’r gêm tag, ac mae hi’n aml yn cael ei chwarae mewn grwpiau mawr. Mae plant yn rhedeg ar ôl ei gilydd o amgylch ardaloedd penodol, ac yn "tagio" ei gilydd drwy eu cyffwrdd. Mae'r cyffro'n codi wrth i'r chwaraewyr rasio o gwmpas, ac wrth iddynt osgoi a phlygu i osgoi cael eu dal. Mae'r gêm hon yn hyrwyddo ffitrwydd corfforol, ac mae hi’n ffefryn yn ystod amseroedd egwyl yn yr ysgol.
EICH HER
Tynnwch lun ohonoch chi’n chwarae'r gemau hyn a'i sticio yma. Fel arall, tynnwch lun o'r gemau’n cael eu chwarae i greu llyfr arbennig y gellir ei ddefnyddio yn eich ysgol yn ystod amser cinio a phan fyddwch yn chwarae.
HER YCHWANEGOL
Allwch chi ddysgu plentyn iau i chwarae un o'r gemau hyn heddiw?
Gemau o Somalia i’w Chwarae ar yr Iard
Yn ychwanegol at y gemau hyn, mae llawer o blant yn Somalia yn mwynhau 'Ludo,' gêm a ddechreuodd yn India, sydd wedi dod yn boblogaidd ar draws y byd, gan gynnwys mewn ysgolion yn Somali. Mae Ludo yn cael ei chwarae ar fwrdd lliwgar gyda dis a thocynnau, lle mae chwaraewyr yn rasio i gael eu darnau o'r dechrau i'r diwedd. Mae plant yn dysgu cyfrif, ac yn dysgu amynedd ac i aros eu tro, sy'n sgiliau hanfodol tu mewn a thu allan i’r dosbarth.
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Eritrea ar y map?
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Eritrea ar y map?
Mae Eritrea yn wlad yn Nwyrain Affrica. Un gêm boblogaidd yno ydy "Tigrinya Keren," sydd yn cael ei chwarae’n aml gan grŵp mawr o blant. I chwarae'r gêm hon, mae angen i chi ddewis chwaraewr i fod yn ‘fe / hi.’ Mae’r person hwn yn sefyll yng nghanol cylch sydd wedi cael ei ffurfio gan y chwaraewyr eraill. Yna, mae’r chwaraewyr yn cymryd tro i siantio odl, tra’n neidio o gwmpas gyda’i gilydd. Mae'r plentyn sy'n ‘fe/ hi' yn ceisio tagio unrhyw un sy'n camu tu allan i’r cylch - a chadw’n llonydd hefyd wrth i bawb neidio. Os bydd chwaraewr yn cael ei dagio, rhaid iddynt ymuno â’r ‘ef/hi’ yn y canol a'i helpu, sy’n gwneud y gêm hyd yn oed yn fwy cyffrous.
EICH HER
Tynnwch lun ohonoch chi’n chwarae'r gemau hyn a'i sticio yma. Fel arall, tynnwch lun o'r gemau’n cael eu chwarae i greu llyfr arbennig y gellir ei ddefnyddio yn eich ysgol yn ystod amser cinio a phan fyddwch yn chwarae.
HER YCHWANEGOL
Allwch chi ddysgu plentyn iau i chwarae un o'r gemau hyn heddiw?
Gemau o Eritrea i’w Chwarae ar yr Iard
Gêm gyffredin arall ydy"Gubella," sy'n debyg i gêm Brydeinig o tag, ond gyda thro. Yn Gubella, mae chwaraewyr yn defnyddio cerrig bychain. Mae un chwaraewr yn dal carreg fechan ac yn ceisio tagio eraill trwy eu cyffwrdd yn ysgafn gyda hi. Os ydych chi’n cael eich cyffwrdd, rhaid i chi rewi, ac mae gan chwaraewr arall y cyfle i'ch rhyddhau trwy gropian trwy eich coesau. Mae'r gêm yn parhau hyd nes bod pawb wedi cael eu dal neu wedi cael eu tro fel yr un sy'n dal y garreg fechan.
Allwch chi feddwl am sut allwn ni addasu'r gêm hon ar gyfer ein hamgylchedd ysgol? Beth allwn ni ei ddefnyddio yn lle cerrig bychain?
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Affganistan ar y map?
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Affganistan ar y map?
Ar iardiau ysgol yn Affganistan, mae gêm o'r enw 'jozbazzi' yn cael ei chwarae. Yn y gêm hon, mae chwaraewyr yn tynnu llun o dempled ar y llawr gyda sialc. Dylai'r chwaraewr cyntaf sefyll mewn cylch a thaflu carreg fechan at y rhan gyntaf. Yna, bydd angen iddynt neidio at y rhif un heb roi eu troed arall ar y llawr. Pan fydd y chwaraewr yn cyflawni hyn, gallant dargedu'r ail ran ac yn y blaen. I wneud y gêm yn fwy anodd, gallwch dynnu llun o grid enfawr!
EICH HER
Tynnwch lun ohonoch chi’n chwarae'r gemau hyn a'i sticio yma. Fel arall, tynnwch lun o'r gemau’n cael eu chwarae i greu llyfr arbennig y gellir ei ddefnyddio yn eich ysgol yn ystod amser cinio a phan fyddwch yn chwarae.
HER YCHWANEGOL
Allwch chi ddysgu plentyn iau i chwarae un o'r gemau hyn heddiw?
Gemau o Affganistan i’w Chwarae ar yr Iard
Ydych chi’n gallu dod o hyd i Brydain ar y map?
Ydych chi’n gallu dod o hyd I Brydain ar y map?
Yn debyg, mae "Duck, Duck, Goose" yn gêm ddifyr, sy'n cynnwys plant yn eistedd mewn cylch tra bod un plentyn yn cerdded o gwmpas yn tapio eraill ar y pen, ac yn dweud “duck / hwyaden” tan eu bod yn dewis rhywun fel y “goose / gŵydd,” sydd wedyn, yn gorfod rhedeg ar eu hôl nhw o gwmpas y cylch. Mae'r gêm hon yn pwysleisio meddwl cyflym ac ystwythder.
A fedrwch chi feddwl am unrhyw gemau traddodiadol Prydeinig eraill?
Gemau o Brydain i’w Chwarae ar yr Iard
EICH HER
Tynnwch lun ohonoch chi’n chwarae'r gemau hyn a'i sticio yma. Fel arall, tynnwch lun o'r gemau’n cael eu chwarae i greu llyfr arbennig y gellir ei ddefnyddio yn eich ysgol yn ystod amser cinio a phan fyddwch yn chwarae.
HER YCHWANEGOL
Allwch chi ddysgu plentyn iau i chwarae un o'r gemau hyn heddiw?
Ymhlith y gemau traddodiadol Prydeinig, mae 'Hopscotch' yn boblogaidd iawn gyda llawer o blant. I chwarae’r gêm hon, rhaid tynnu llun o grid gyda rhifau arno a thaflu carreg ar rif, yna neidio ar un droed i'w nôl eto. Boed yn neidio'n ofalus neu'n neidio gyda hyder, mae'r gêm hon yn gwella cydbwysedd a chydlyniant.!
CHWARAE!
Allwch chi a'ch ffrindiau chwarae cymaint o'r gemau hyn a phosib? Pan fyddwch wedi dod o hyd i gêm rydych chi'n ei hoffi, allwch chi ei dysgu i rywun arall?
CYNNWYS TEULUOEDD GARTREF
Allwch chi ofyn i'ch cymuned ysgol am y gemau gorau? Sgwn i os oes gan eich rhieni gartref unrhyw syniadau am gemau roedden nhw’n mwynhau eu chwarae pan oeddant yn eu harddegau.
CREU ARDDANGOSFA
Cymerwch luniau neu tynnwch luniau ohonoch chi a’ch ffrindiau yn chwarae rhai o'r gemau hyn. Argraffwch nhw wrth ymyl sleidiau o'r PowerPoint hwn, i greu arddangosfa sy’n dangos ac esbonio gemau o ddiwylliannau gwahanol.
Dim ond chi sy’n gallu penderfynu beth ydych chi eisiau ei wneud gyda'r dysgu hwn, ond dyma rywfaint o syniadau!
CREU LLYFR O GEMAU
Casglwch yr holl wybodaeth o'r adnodd hwn a’i roi mewn llyfr cyfeirio, y gall plant ei ddefnyddio yn ystod amseroedd chwarae.
��Os oes gennych gwestiwn, farn neu deimlad am y wers hon yr hoffech eu rhannu, nawr yw eich cyfle i'w hysgrifennu neu i dynnu llun ohonynt a’u rhoi i’ch athro.���Peidiwch ag anghofio cynnwys eich enw, os hoffech i'ch athro wybod pwy sydd wedi ei rannu.
Cyfle I Rannu
Byddai ysgolion eraill wrth eu boddau’n gweld beth mae eich dosbarth yn ei gynhyrchu.
Gallech ei bostio ar X i @DayOfWelcome gyda’r hashnod #DayOfWelcome #RefugeeWeek a #SchoolofSanctuary
Ydy eich ysgol yn Ysgol Noddfa?
Nod Ysgol Noddfa yw bod yn lle diogel a chroesawgar i bawb.
Rydym yn adeiladu mudiad o groeso!
Mae Ysgolion Noddfa yn rhwydwaith o 1000+ o ysgolion cynradd ac uwchradd, meithrinfeydd a chweched dosbarth ar draws y DU, sydd i gyd wedi ymrwymo i greu diwylliant o groeso a chynhwysiant i ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches.
Sicrhau bod ymarfer ysgol yn cefnogi ac yn croesawu newydd-ddyfodiaid yn effeithiol
Ysgol Noddfa:
Gallwch ddarganfod mwy yma
Codi ymwybyddiaeth ynghylch dadleoli trwy rym a mudo
Eiriolwyr dros ein gweledigaeth o groeso a thosturi
16-22 Mehefin
Mae hi’n Wythnos Ffoaduriaid yr wythnos nesaf!
Mae yna lwyth o weithgareddau a digwyddiadau sy'n gyfeillgar i deuluoedd ar draws y wlad, ac mae llawer ohonynt yn rhad ac am ddim.
Cyfeiriwch rhai o weithgareddau'r Wythnos Ffoaduriaid yn lleol i'ch staff ac i deuluoedd eich disgyblion.
Ewch at ein hadnoddau lleol
Ewch at ein tudalen Addysg i Ffoaduriaid
Cyrchwch archif Diwrnod o Groeso
Ymunwch â’n mudiad i wneud pob dydd yn Ddiwrnod o Groeso i bobl sy'n ceisio lloches.
Ewch i’n gwefan
dayofwelcome@uk.cityofsanctuary.org