E-bostio
Mae’r mwyafrif o bobl heddiw yn fwy cyfarwydd â derbyn e-bost na’r post traddodiadol ynghylch eu materion personol a phreifat megis taliadau ceir, morgais, a ffonau symudol. Mae’n wasanaeth dyddiol y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio ar gyfrifiaduron, ffonau symudol a thabledi i gyfathrebu â theulu, ffrindiau a gwasanaethau cwsmeriaid ac ati. Mae’n caniatáu i’r defnyddiwr gyfathrebu ag unrhyw un sydd â chyfeiriad e-bost unrhyw le yn y byd.
Gellir anfon e-byst yn gyflym iawn o’i gymharu â phost traddodiadol. Gellir eu hanfon 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ac nid yn unig pan fydd y swyddfa ar agor. Gellir anfon e-byst a’u darllen unrhyw le yn y byd sydd â chysylltiad rhyngrwyd.
Mae e-byst yn gymharol rad i’w hanfon gan fod y data’n cael ei anfon dros y rhyngrwyd. Hyd yn oed i ddefnyddwyr system deialu (band llydan), ac nid band eang, dim ond cost eiliadau sydd i anfon e-bost.
Gwefannau ac apiau rhwydweithio cymdeithasol
Mae gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol yn blatfform ar-lein a ddefnyddir gan bobl i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol neu berthnasoedd cymdeithasol gyda phobl eraill sy’n rhannu’r un diddordebau, gweithgareddau, cefndiroedd neu gysylltiadau bywyd yn bersonol neu’n broffesiynol.
Blogiau
Mae blog yn wefan sy’n gweithredu fel dyddiadur ar-lein lle gallwch chi rannu eich meddyliau a’ch diddordebau, ac mae’n galluogi pobl eraill i ddarllen eich postiadau ac edrych ar eich lluniau a’ch fideos.
Negeseua sydyn
Mae negeseua sydyn yn galluogi’r defnyddiwr i anfon negeseuon rhwng dau neu fwy o bobl mewn amser real dros y rhyngrwyd. Mae pobl yn defnyddio negeseua sydyn i sgwrsio â ffrindiau, teulu, cydweithwyr a hefyd i wneud ffrindiau newydd.
Mae negeseua sydyn yn anffurfiol iawn ac yn dueddol o gyfleu gwybodaeth yn gyflym iawn.
Fideo-gynadledda
Mae fideo-gynadledda yn gyfarfod fideo byw rhwng dau neu fwy o bobl mewn gwahanol leoliadau gan ddefnyddio dyfeisiau wedi’u galluogi gan fideo.
Mae fideo-gynadledda yn caniatáu i nifer fawr o bobl gwrdd a chydweithio wyneb yn wyneb, ond o bell trwy drosglwyddo sain, fideo, testun a chyflwyniadau mewn amser real dros y rhyngrwyd.
Cwestiwn!
Dulliau cyfathrebu mewnol ac allanol ar gyfer busnesau
Fideo-gynadledda
• Prif bwrpas fideo-gynadledda yw galluogi cyfathrebu wyneb yn wyneb rhwng dau neu fwy o bobl mewn gwahanol leoliadau.
• Mae’n ddewis arall poblogaidd yn lle cynadledda ffôn i fusnesau ac mae’n ddull rhad o gyfathrebu i ddefnyddwyr unigol.
Teleweithio
• Mae teleweithio yn rhoi’r cyfle i gael amserlen fwy hyblyg i weithwyr a’r rhyddid i weithio o bell.
E-bostio
• Mae e-bost busnes yn ddull cyflym a phroffesiynol o gyfathrebu â chleientiaid, darpar gleientiaid, cyflenwyr, staff, eich rheolwr banc a diwydiannau ar draws y byd.
Apiau
• Apiau amrywiol sy’n galluogi gweithwyr cwmni i gyfathrebu â’i gilydd a chwsmeriaid, megis Slack.
Dulliau cyfathrebu mewnol ac allanol ar gyfer busnesau
Hyrwyddo
• Prif nod hyrwyddo yw sicrhau bod cwsmeriaid yn ymwybodol o fodolaeth a lleoliad cynhyrchion.
• Defnyddir hyrwyddo hefyd i berswadio cwsmeriaid bod y cynnyrch yn well na chynnyrch cystadleuwyr, ac i atgoffa cwsmeriaid pam y gallen nhw fod eisiau prynu.
Dulliau hyrwyddo: hysbysebu, marchnata, gwefannau
• Mae hysbysebu ar-lein, a elwir hefyd yn marchnata ar-lein, hysbysebu ar y rhyngrwyd, hysbysebu digidol neu hysbysebu ar y we, yn fath o farchnata a hysbysebu sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i gyflwyno negeseuon marchnata hyrwyddo i ddefnyddwyr a chwsmeriaid.
Cwestiwn!
Cwestiwn!
Cwestiwn!