1 of 27

Sesiwn 1

Uned 1 - Hybu Iechyd a Llesiant

2 awr

50% o’r cymhwyster UG

​

Dydd Iau 16eg o Fai

2 of 27

Nod y sesiwn hon:

Diffiniadau o iechyd

Y 3 model Iechyd

Diffiniadau o lesiant

3 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Mae yna 3 diffiniad o iechyd

Iechyd = C,N,C/H

Ystyr ac enghreifftiau?

Cadarnhaol = Cyflawni a chynnal ffitrwydd corfforol a sefydlogrwydd meddyliol

Negyddol = absenoldeb afiechyd corfforol, clefyd a thrallod meddwl

Cyfannol =cyflwr o lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyflawn yn hytrach na’r ffaith bod afiechyd neu wendid yn absennol yn unig

Cadarnhaol = e.e dewis ymarfer, bwyta yn iach hapusrwydd, pwysau corff rhesymol.

Negyddol = e.e, Pan fydd unigolyn yn credu bod ei iechyd mewn cyflwr da am nad oes unrhyw beth yn bod arno; ‘rwy’n iach’ am nad oes gennyf i salwch nac anabledd’.

Cyfannol =e.e, Pan fydd holl anghenion person yn cael eu diwallu. Dylai pob agwedd ar anghenion pobl, gan gynnwys eu hanghenion seicolegol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol, gael eu hystyried yn eu cyfanrwydd.

4 of 27

5 of 27

Diffiniad cadarnhaol: cyflawni a chynnal ffitrwydd corfforol a sefydlogrwydd meddyliol. Gallai Mr Williams fod yn fwy rhagweithiol wrth ofalu am ei iechyd a'i lesiant yn y presennol a'r dyfodol.

Mae'r diffiniad cadarnhaol yn golygu bod Mr Williams yn gwneud yr ymdrech i wella ei iechyd a'i lesiant drwy fabwysiadu ffordd iach o fyw e.e. â'i ddeiet a'i ymarfer corff.

Mae'r diffiniad cadarnhaol yn golygu bod Mr Williams yn defnyddio rhaglenni sgrinio a brechu sydd ar gael iddo ac yn ceisio gwella ei iechyd a'i lesiant, gan gymryd cyngor am faterion iechyd e.e. rhoi'r gorau i ysmygu.

6 of 27

Mae'r diffiniad cyfannol yn golygu bod Mr Williams yn gofalu am ei iechyd meddwl felly, er enghraifft, mae'n cynnal cysylltiadau cymdeithasol rheolaidd ac yn ymwybodol o grwpiau cefnogi ar gyfer iselder a gorbryder, pe bai eu hangen.

Diffiniad cyfannol: cyflwr o lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyflawn yn hytrach na dim ond diffyg clefyd neu wendid. Gallai Mr Williams ystyried pob un o'r ffactorau iechyd a llesiant CDEC (corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol) a'r elfennau ysbrydol ar fywyd.

Mae'r diffiniad cyfannol yn ystyried yr unigolyn cyflawn a sut mae'n rhyngweithio â'r amgylchedd - ymagwedd at fywyd sy'n ystyried iechyd a llesiant meddwl yn ogystal â chorfforol.

7 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Ll,A,A,A,I,S,P,C

Llesiant cymdeithasol ac economaidd

​

Mae yna 3 diffiniad o lesiant

Llesiant = P.O.P

Côd ar gyfer llesiant person

Cyfrannu at fy mywyd cymdeithasol

Dydw i ddim yn byw mewn tlodi

Rwy’n cael cymorth i weithio

Byw yn annibynnol

Cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg

8 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Ll,A,A,A,I,S,P,C

Mae yna 3 diffiniad o lesiant

Llesiant = P.O.P

Côd ar gyfer llesiant person

Dysgu a datblygu

Gweud y pethau sy’n bwysig i mi

Addysg, Hyfforddiant a gweithgareddau hamdden

9 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Ll,A,A,A,I,S,P,C

Mae yna 3 diffiniad o lesiant

Llesiant = P.O.P

Côd ar gyfer llesiant person

Yn gallu lleiso fy mhryderon

Yn gallu amddiffyn y bobl sy’n bwysig i mi

Amddiffyn rhag gamdriniaeth ac esgeulustod

10 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Ll,A,A,A,I,S,P,C

Mae yna 3 diffiniad o lesiant

Llesiant = P.O.P

Côd ar gyfer llesiant person

Cartref sy’n fy helpu i sicrhau fy llesiant

Addasrwydd Llety Byw/Preswyl

11 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Ll,A,A,A,I,S,P,C

Mae yna 3 diffiniad o lesiant

Llesiant = P.O.P

Côd ar gyfer llesiant person

Rwy’n iach

Iechyd corfforol, meddwl ac emosiynol

Rwy’n weithgar

Rwy’n gwneud pethau i gadw fy hun yn iach

Rwy’n hapus

Rwy’n cael y gofal a’r cymorth cywir

12 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Ll,A,A,A,I,S,P,C

Mae yna 3 diffiniad o lesiant

Llesiant = P.O.P

Côd ar gyfer llesiant person

Mae fy llais yn cael ei glywed

Sicrhau hawliau a hawlogaethau

Rwy’n cyfrannu at y penderfyniadau sy’n effeithio ar fy mywyd.

Mae fy amgylchiadau unigol yn cael eu hystyried

13 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Ll,A,A,A,I,S,P,C

Mae yna 3 diffiniad o lesiant

Llesiant = P.O.P

Côd ar gyfer llesiant person

Rwy’n perthyn

Perthnasoedd domestig teuluol a phersonol

Rwy’n cyfrannu at berthnasoedd diogel ac iach

14 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Ll,A,A,A,I,S,P,C

Mae yna 3 diffiniad o lesiant

Llesiant = P.O.P

Côd ar gyfer llesiant person

Rwy’n ymgysylltu a’m gymuned ac yn cyfrannu ati

Cyfraniad a wneir at y gymdeithas

Rwy’n cael fy ngwerthfawrogi mewn cymdeithas

15 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Llesiant = P.O.P

Rheolaeth ar fywyd pob dydd - Gwneud dewisiadau da am ffordd o fyw, delio gyda straen, cydbwysedd gwaith ac amser hamdden, cymryd meddyginiaeth fel sydd angen, rhan o berthnasoedd iach.

Cymryd rhan mewn gwaith - Rhoi pwrpas, gwerth a chyfrifoldeb i’r unigolyn. cyfrannu’n bositif i’r economi, ddim yn dioddef o dlodi, cadw’r ymennydd yn actif,

16 of 27

Diffiniadau a chysyniadau i iechyd a llesiant

Diffiniadau o lesiant:

  1. Person
  2. Oedolyn
  3. Plentyn

Llesiant = P.O.P

Datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol (CDECY).

17 of 27

Cwestiwn arholiad

​

18 of 27

Llesiant cymdeithasol ac economaidd - Cyfle i chwarae, gweud ffrindiau, rhyngweithio

​

Addysg, Hyfforddiant a gweithgareddau hamdden - Ysgol, coleg, gweithgareddau.

Amddiffyn rhag gamdriniaeth ac esgeulustod - Yn derbyn cariad, diwallu anghenion.

Addasrwydd llety preswyl - a cysgod, yn gynnes, yn ddiogel.

Iechyd corfforol, meddwl ac emosiynol - Mynediad i wasanaethau, rhydd o salwch.

Sicrhau hawliau a hawlogaethau - a llais, yn cael ei grymuso, pobl yn gwrando.

Perthnasoedd domestig teuluol a phersonol - Cefnogol, cariad, diogel.

Cyfraniad a wneir at y gymdeithas - parchu’r ardal lleol, cyfranogi mewn gweithgareddau.

19 of 27

Datblygiad corfforol - Tyfu a datblygu yn iachus, rhydd o afiechydon a salwch

​

Datblygiad deallusol - Ysgol, adnoddau, darllen, datrys problemau, cof, iaith.

Datbygiad emosiynol - Hapus, bodlon, rheolaeth dros emosiynnau, empathi i eraill.

Datblygiad cymdeithasol - Ffrindiau, rhyngweithio, cyfleoedd, diddordebau, perthyn.

Datblygiad ymddygiadol - Rheoli ymddygiad, modelau rôl effeithiol, ymateb i sefyllfaoedd

20 of 27

Modelau iechyd, anabledd a llesiant

21 of 27

Modelau iechyd, anabledd a llesiant

Biofeddygol = Mae’r model biofeddygol yn ddull traddodiadol o hybu iechyd a llesiant. Mae’r pwyslais i gyd ar y ffactorau biolegol a chorfforol sy’n effeithio ar iechyd a chlefydau, heb ystyried ffactorau eraill.

Mae'n fodel gofal meddygol sy'n cael ei ymarfer gan feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol ac mae'n gysylltiedig â diagnosio, gwella a thrin afiechyd.

Mae'r model wedi bod yn esblygu ers blynyddoedd lawer, gan arwain at welliannau mewn gwyddoniaeth feddygol, technoleg a chynydd mewn iachâd a thriniaethau e.e. brechiadau.

Mae'r pwyslais ar ddiagnosis a thrin unigolion heb ystyried ei hamodau neu ei ffordd o fyw. Y model hwn sydd yn derbyn y mwyaf o arian gan y llywodraeth.

22 of 27

Modelau iechyd, anabledd a llesiant

BioseIcogymdeithasol = Mae'r model biosecogymdeithasol iechyd yn ymgorffori dulliau rhyngweithio rhwng ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol er mwyn helpu i benderfynu pam fod gan unigolyn anhwylder o bosibl.

Bio - Mae dylanwadau biolegol ar iechyd yn cynnwys cyfansoddiad genetig unigolyn ac mae’n cymryd i ystyriaeth os ydynt hefo hanes o trawma corfforol neu haint.

Seico - yn cynnwys emosiynau ac ymddygiadau e.e. straen seicolegol, credoau ofn / osgoi ( e.e. ddim eisiau mynd at y meddyg oherwydd bod nhw ofn newyddion drwg), dulliau ymdopi unigolion. Mae’r cydarn yma o’r model yn canolbwyntio ar salwch y meddwl ei hun ond hefyd effaith iechyd gwael neu salwch ar y meddwl.

Cymdeithasol - economaidd-gymdeithasol, cymdeithasol-amgylcheddol a diwylliannol fel materion gwaith, amgylchiadau teuluol ac arian.

23 of 27

Modelau iechyd, anabledd a llesiant

Cymdeithasol= Mae'r model cymdeithasol iechyd yn ystyried ystod ehangach o ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd a lles, er enghraifft, amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol

Mae’r model cymdeithasol yn nodi nad oes gan wahanol unigolion yr un cyfleoedd yn y gymdeithas ar ddechrau ac ar ddiwedd eu hoes. Oherwydd hyn, bydd rhai yn wynebu mwy o rwystrau mewn bywyd nag eraill.

Mae statws cymdeithasol ac economaidd gwael yn golygu bod canlyniadau iechyd a llesiant gwael yn llawer mwy tebygol, gan gynnwys disgwyliad oes byrrach.

Mae’r model cymdeithasol yn gosod cyfrifoldeb yn gyfan gwbl ar ysgwyddau’r gymdeithas. Y gymdeithas, o ganlyniad i rwystrau cymdeithasol sy’n ei gwneud hi’n anodd i bobl anabl gyflawnu eu llawn botensial.

24 of 27

Modelau iechyd, anabledd a llesiant

Mae’r model cymdeithasol yn rhoi pwyslais cryf bod angen ymyrryd yn gynnar.

Mae’n lleihau gwahaniaethau cymdeithasol trwy geisio cynnig yr un cyfleoedd i bawb. Er mwyn gwneud hyn rhaid cymryd i ystyriaeth ei rhyw, ethnigrwydd, cyflwr economaidd, lle bynnag mae nhw yn byw a’r ffactorau amgylcheddol a all effeithio arnynt.hyn, bydd rhai yn wynebu mwy o rwystrau mewn bywyd nag eraill.

Mae’n grymuso unigolion a chymdeithasau trwy addysgu, rhoi’r cyfle iddynt ennill sgiliau a bod hefo’r hyder i wneud penderfyniadau doeth am ei iechyd a’i bod yn cymryd rhan mewn ymddygiad iach.

25 of 27

26 of 27

Model biofeddygol – mae'n pwysleisio trin unigolion ar wahân i'w ffordd o fyw/amodau byw, gan ganolbwyntio ar y clefyd, yr afiechyd neu'r anabledd a helpu i wella'r unigolyn i'w gyflwr cyn yr afiechyd. Nid yw'r rhesymau dros yr afiechyd yn sail i'r model biofeddygol.

Nid yw'r model biofeddygol yn hybu ffordd iach o fyw e.e. os bydd unigolyn yn byw bywyd afiach heb unrhyw effaith andwyol, dylai barhau, tra bod y model cymdeithasol yn mynd ati'n rhagweithiol i annog unigolion i fyw bywyd iach.

Mae'n tybio bod salwch neu glefyd yn bodoli ac mae pwyslais ar diagnosis clinigol ac ymyrraeth feddygol wrth drin clefyd neu ei symptomau.

27 of 27

Mae'r model cymdeithasol yn mynd i'r afael â materion ehangach ynghylch iechyd, drwy ddefnyddio 'dull gweithredu cymunedol' er mwyn atal afiechyd. Mae'r model cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i ffordd o fyw ac ymddygiad ac mae'n annog yr angen am newid cymdeithasol.

Mae'r model cymdeithasol yn seiliedig ar y syniad bod yn rhaid newid ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd er mwyn gwneud gwelliannau. Mae'r model biofeddygol yn tybio y bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn gallu trin afiechyd/clefyd a bydd yr unigolyn yn cymryd rôl oddefol.

Mae rhwystrau mewn cymdeithas, nid iechyd, nam na'r hyn sy'n eu gwneud yn wahanol sy'n allgáu unigolion, gall rhwystrau fod yn gorfforol neu'n agweddol (attitudinal). Gall rhwystrau wneud bywyd yn fwy anodd i unigolion.