Mr Aled Pemberton
https://carlam.cymru/cy/
Ffiseg Feddygaeth
Mae’r uned Ffiseg Feddygaeth yn astudio’r defnydd o’r canlynol mewn meddygaeth:
Y fideo hwn – Ffiseg Feddygaeth Rhan 2
3. Sganwyr MRI
4. Defnydd o belydriad niwclear mewn meddygaeth
Gwyliwch y fideo Ffiseg Feddygaeth Rhan 1 ar gyfer:
1. Pelydrau-X�2. Uwchsain
Delweddu Cyseiniant Magnetig�(Magnetic Resonance Imaging –MRI)
Mae sganwyr MRI yn defnyddio ffiseg cymhleth er mwyn creu delweddau andros o fanwl o’r corff. Yn ogystal, dydy’r dechneg ddim i’w weld yn beryglus o gwbl i gleifion, er nad yw’n ddiogel i rai pobl cael sgan o’r fath os oes ganddynt gemwaith fetel neu fewnblaniadau metelaidd e.e. esgyrn prosthetig, metelaidd. Mae hyn oherwydd yr anwythiad electromagnetig posib gyda’r meysydd magnetig cryf, newidiol.
Cefndir
Wrth osod claf mewn sganiwr MRI, bydd ei niwclysau hydrogen (protonau) yn parhau i gylchdroi, ond bydd y maes magnetig cryf yn achosi’r protonau i bresesu (to precess) o amgylch y maes magnetig ar amledd penodol.
Amledd Larmor
Mae amledd presesu’r niwclysau yn cael ei alw yn amledd Larmor ac yn ddibynnol ar ddau ffactor:
Cyseiniant Magnetig Niwclear
Er mwyn creu delwedd, rhaid pelydru’r claf gyda ffotonau gydag amleddau sy’n hafal i amledd Larmor (presesu) y niwclysau hydrogen. Bydd y niwclysau hydrogen yn amsugno’r egni yma ac yn cyrraedd stad uwch o egni.
Pan gaiff y maes magnetig ei ddiffodd, bydd y niwclysau hydrogen yn cyrraedd stad egni is eto ac yn allyrru eu hegni ar ffurf ffotonau.
Rôl tonnau radio mewn sganwyr MRI
Mae angen i’r tonnau radio fod gydag amledd sy’n hafal i amledd presesu’r niwclysau hydrogen. O ganlyniad, cewch gyseiniant rhwng amledd y ffotonau radio a’r amledd Larmor – sef amledd presesu’r niwclysau hydrogen.
Bydd ffotonau radio, felly, yn cael eu hamsugno gan y niwclysau hydrogen a bydd hyn yn achosi’r niwclysau hydrogen i bresesu mewn cyflwr egni uwch (perpendicwlar i’r maes magnetig).
Niwclysau hydrogen yn ymlacio
Amserau ymlacio
Meinwe | Amser ymlacio / ms |
Braster | 180 |
Iau | 270 |
Cyhyr | 600 |
Gwaed | 800 |
Dŵr | 2500 |
Lleoli allyriad ffotonau radio
Llun o sganiwr MRI
Cwestiwn arholiad Eduqas 2022
Meddygaeth Niwclear
Dos pelydriad niwclear
Yr uned safonol sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y dos o belydriad niwclear sy’n cael ei dderbyn ydy’r Gray (Gy).
Mae dos o 1 Gy yn golygu bod yna 1J o egni pelydrol wedi’i dderbyn i bob kg o feinwe.
Felly 1Gy = 1Jkg-1
Dydy’r dos, mewn unedau Gy, ddim yn rhoi’r darlun llawn oherwydd mae’n dibynnu hefyd ar ba fath o belydriad sydd wedi’i amsugno.
Er enghraifft, byddai dos hafal o ronynnau alffa yn llawer mwy peryglus na hynny o belydrau gama (neu belydrau-X).
Rhaid ystyried, felly, ffactor pwysoli’r pelydriad niwclear. I raddau, mae hyn yn dibynnu ar allu’r pelydriad niwclear i ïoneiddio.
Pelydriad | |
Pelydrau X a gama | 1 |
Beta | 1 |
Niwtron | 5-20 |
Proton | 5 |
Gronyn Alffa | 20 |
Dos cyfatebol
Uned: Sievert (Sv)
Ffactor pwysoli pelydriad niwclear
Dos (Gy)
Er mwyn cael y ddarlun llawn o ba mor beryglus yw dos pelydriad niwclear, rhaid hefyd ystyried bod meinweoedd gwahanol yn cael eu heffeithio i raddau mwy neu llai na’i gilydd.
Mae pelydriad sy’n ïoneiddio am gael mwy o effaith ar feinweoedd sy’n lluosi’n aml drwy fitosis.
Meinwe | |
Y stumog, y colon, yr ysgyfaint, mêr esgyrn, cyhyrau | 0.12 |
Yr organau atgenhedlu | 0.08 |
Y bledren, oesoffagws, yr iau, y thyroid | 0.04 |
Arwyneb esgyrn, yr ymennydd, croen, chwarennau poer | 0.01 |
Dos effeithiol (Sv)
Ffactor pwysoli meinwe
Dos cyfatebol (Sv)
Cwestiwn arholiad - Eduqas 2024
Olinyddion ymbelydrol
Technetiwm-99
Gan fod cyfradd metabolig tiwmorau canseraidd yn uwch na meinweoedd eraill byddent yn amsugno NaTcO4 ar gyfradd uwch. O ganlyniad, bydd arddwysedd uwch o belydrau gama yn cael eu hallyrru o’r ardaloedd hyn.
Mae hyn yn ffordd o wneud diagnosis o rai mathau o gancr.
Gallwch hefyd defnyddio Tachnetiwm-99 er mwyn adnabod lleoliadau clotiau gwaed.
Iodin-123
Tomograffeg allyrru positron�(Positron Emission Tomography – PET Scan)
Camera gama
(Tiwbiau ffotolluosydd)
(Cyflinydd)
Camera gama
Sganiwr PET
Sganwyr PET
Cwestiwn arholiad Eduqas 2023
Cwestiwn arholiad Eduqas 2024
Cymharu delweddau sganiau
Cwestiwn arholiad Eduqas 2024