1 of 49

Gwersi Carlam Bioleg UG�Gwanwyn 2024

2 of 49

  • Sesiwn 1 – Bioamrywiaeth Rhan 1
  • Sesiwn 2 – Bioamrywiaeth Rhan 2
  • Sesiwn 3 - Maethiad 2 Rhan 1
  • Sesiwn 4 – Maethaid 2 Rhan 2

3 of 49

Sesiwn 3 UG 2024

Maethiad 2– Rhan 1

4 of 49

Atgoffa o Maethiad Rhan 1 diwethaf

  • Recap o beth oedd yn wers diwethaf.
    • Gwahanol fathau o faethiad, e.e.
      • Awtotroffig
      • heterotroffig
      • Saproffytau
      • Parasitiaid
      • Cydymddibyniaeth
    • Holosoig

    • Ymalen i’r colydd

5 of 49

Maethiad

  • Maethiad yw'r broses mae organebau'n ei defnyddio i gael egni i gynnal swyddogaethau bywyd a mater i greu a chynnal adeiledd.
  • Mae egni a mater yn dod o faetholion.
  • Mae dau brif fath o faethiad:
    • Awtotroffig
    • Heterotroffig

6 of 49

Awtotroffig

  • Gwneud molecylau cymhleth o folecylau anorganic symlach.
  • Mae dau fath:
    • Ffotosynthetig
    • Cemosynthetig

7 of 49

Heterotroffig

  • Dydy heterotroffau ddim yn gallu syntheseiddio eu bwyd organig eu hunain.
  • Mae'n rhaid iddynt fwyta defnydd bwyd organig cymhleth sydd wedi'i gynhyrchu gan hunanborthwyr.
  • Rydyn ni'n eu galw nhw'n ysyddion.
  • Mae heterotroffau'n cynnwys anifeiliaid, ffyngau, rhai mathau o brotoctistau a bacteria.

8 of 49

Mathau o faethiad heterotroffig

  • Ymborthwyr holosöig
  • Mae hyn yn cynnwys bron bob anifail. Maent yn cymryd bwyd i'w cyrff ac yn ei ddadelfennu ym mhroses treuliad. Mae ganddynt system dreulio arbenigol.
  • Enhgreifftiau yw :
    • Cigysyddion
    • Llysysyddion
    • Hollysyddion
    • Detrysyddion

9 of 49

Saproffytau neu saprobiontau

10 of 49

Parasitiaid

  • Mae parasit yn byw mewn, neu ar, organeb fyw arall ac yn achosi niwed i'r organeb letyol.
  • Ectoparasit – yn byw ar tu allan y organeb lletyol.
  • Endoparasit – yn byw tu fewn y organeb lletyol.

11 of 49

Cydymddibyniaeth neu symbiosis

  • Mae hyn yn golygu cysylltiad agos rhwng aelodau o ddwy wahanol rywogaeth, ond yn yr achos hwn mae'r berthynas o fudd i'r naill a'r llall.
  • Enghraifft yw bacteria mewn rumen gwartheg.

12 of 49

Cwestiwn 2 U2 2018

13 of 49

14 of 49

15 of 49

16 of 49

17 of 49

18 of 49

19 of 49

20 of 49

Y coludd dynol

21 of 49

Adeiledd coludd mamolyn

  • Ar ei hyd i gyd, o'r geg i'r anws, mae wal y coludd yn cynnwys pum haen o feinweoedd o gwmpas ceudod y coludd neu'r lwmen:
    • Serosa
    • Cyhyr hydredol
    • Cyhyr crwn
    • Isfwcosa
    • Mwcosa

22 of 49

Chwarennau

23 of 49

Treuliad Carbohydrad

24 of 49

Treuliad Proteinau

25 of 49

26 of 49

Amsugniad

27 of 49

Llun o Amsugniad Glwcos

28 of 49

Y Coluddyn Mawr

  • Mae'r coluddyn mawr tua 1.5 metr o hyd
  • Ei rannau yw'r caecwm, y pendics, y colon a'r rectwm.
  • Mae dŵr a halwynau mwynol yn cael eu hamsugno o'r colon ynghyd â fitaminau wedi'u secretu gan ficro-organebau sy'n byw yn y colon
  • Y bacteria hyn sy'n gyfrifol am wneud fitamin K ac asid ffolig.

29 of 49

Y Coluddyn Mawr

  • Erbyn iddo gyrraedd y rectwm, mae'r bwyd heb ei dreulio mewn cyflwr lled-solid.
  • Mae’n cynnwys gweddillion cellwlos heb ei dreulio, bacteria a chelloedd marw.
  • Mae cynnwys y colon yn mynd drwy'r colon ac yn cael ei garthu fel ymgarthion; enw'r broses hon yw ymgarthiad

30 of 49

31 of 49

Defnyddio cynhyrchion treuliad

Mae pob un o’r cynnyrch treulio yn cael eu cymhathu (assimilate) i’r corff. Dyma sut mae pob un yn cael ei wneud:

Glwcos - Mae glwcos yn cael ei:

  • amsugno o'r gwaed gan gelloedd i'w ddefnyddio i ryddhau egni wrth resbiradu.
  • caiff gormodedd glwcos ei storio fel braster

32 of 49

Defnyddio cynhyrchion treuliad

Asidau amino

  • synthesis proteinau (celloedd, meinweoedd ac ensymau newydd)
  • does dim modd storio felly mae'n cael ei ddadamineiddio yn yr iau (tynnu'r grŵp amino a'i drawsnewid yn wrea, a thrawsnewid y gweddill yn garbohydrad a'i storio).

33 of 49

34 of 49

Defnyddio cynhyrchion treuliad

Lipidau

  • Rydyn ni'n defnyddio lipidau ar gyfer cellbilenni a hormonau.
  • Caiff gormodedd ei storio fel braster. Mae braster yn storfa egni ac yn ynysydd.

35 of 49

Addasiadau i wahanol ddeietau

  • Mae ymlusgiaid ac amffibiaid yn llyncu bwyd yn gyfan.

36 of 49

Addasiadau i wahanol ddeietau

  • Mae gan famolion daflod sy'n gwahanu'r llwybr aer (ceudod y trwyn) a'r geg.
  • Mae hyn yn golygu bod bwyd yn gallu cael ei gadw yn y geg yn hytrach na'i lyncu'n gyfan rhwng anadliadau.
  • Mae coludd cigysydd yn fyr, sy'n adlewyrchu pa mor hawdd yw treulio protein.
  • Mae coludd llysysydd yn hir oherwydd mae hi'n anodd treulio defnydd planhigol.

37 of 49

Addasiadau y dannedd

  • Gan fod y bwyd yn cael ei gadw i'w dorri, ei falu, ei fathru neu ei rwygo gan ddibynnu ar y deiet
  • Oherwydd hyn mae mamolion wedi esblygu gwahanol fathau o ddannedd, a phob math wedi arbenigo ar gyfer gwahanol swyddogaeth.
  • Mae gan lysysyddion a chigysyddion ddannedd sydd wedi arbenigo i weddu i'w deietau.

38 of 49

Addasiadau y dannedd

39 of 49

Deintiad llysysyddion

  • Blaenddannedd i dorri ar yr ên isaf yn unig (pad corniog ar y top)
  • Mae'r dannedd llygad yn union yr un fath â'r blaenddannedd
  • Mae'r ên isaf yn symud o ochr i ochr ar blân llorweddol i falu'r bwyd.
  • Diastema i adael i'r dafod wthio defnydd planhigol yn ôl tuag at y gogilddannedd a'r cilddannedd.

40 of 49

Deintiad llysysyddion

  • Dim ysgithrau. (gweler cigysyddion)
  • Mae gan y gogilddannedd a'r cilddannedd arwyneb mawr ar gyfer malu a gwrymiau enamel miniog i falu defnydd planhigol yn effeithlon (Siap M a W)
  • Does dim angen i gyhyrau'r ên fod yn bwerus oherwydd mae'r bwyd yn annhebygol o ddianc
  • Mae gan y gogilddannedd a'r cilddannedd system gwreiddiau agored ac maent yn parhau i dyfu drwy gydol oes y llysysydd.

41 of 49

42 of 49

Deintiad Cigysyddion

  • Blaenddannedd i ddal a rhwygo cnawd ar yr ên uchaf a'r ên isaf.
  • Dannedd llygad mawr crwm i dorri cnawd a dal ysglyfaeth, i rwygo cyhyrau ac i ladd.
  • Mae'r ên isaf yn symud yn fertigol, ddim o ochr i ochr. Mae'r ên yn gallu agor yn llydan.
  • Dim diastema rhwng y dannedd llygad a'r gogilddannedd.

43 of 49

Deintiad Cigysyddion

  • Ysgithrau sy'n llithro heibio i'w gilydd fel llafnau siswrn i dorri cyhyr oddi ar yr asgwrn.
  • Mae gan y gogilddannedd a'r cilddannedd gysbau, sef mannau miniog sy'n torri ac yn malu.
  • Cyhyrau gên datblygedig a phwerus i ddal ysglyfaeth yn dynn a malu esgyrn.
  • Dydy'r gogilddannedd a'r cilddannedd ddim yn treulio a dydyn nhw ddim yn parhau i dyfu.

44 of 49

Cwestiwn 6 U2 2019

45 of 49

46 of 49

47 of 49

48 of 49

49 of 49