1 of 22

UG BUSNES

Unedau 1 a 2

​

​

2 of 22

Strwythur

Uned 1 15%

Uned 2 25%

Uned 3 30%

Uned 4 30%

3 of 22

Strwythur

​

​

​

​

4 of 22

5 of 22

Gwneud defnydd effeithiol o wefan CBAC-Sgrolio lawr i waelod y dudalen gartref.

6 of 22

7 of 22

8 of 22

Amcanion Asesu

  • AA1 Gwybodaeth-Deall y testunau
  • AA2 Cymhwyso-Cysylltu’r testun i’r stori/cwestiwn
  • AA3 Dadansoddi-Datblygu’r ateb, dadansoddi ac edrych ar un ochr.
  • AA4 Gwerthuso-Edrych ar ddwy ochr, dod i farn, cyfiawnhau a chynghori.

Hanfodol deall yr Amcanion Asesu a sut i ateb y cwestiynau mewn modd effeithiol

9 of 22

Cynlluniau Busnes

10 of 22

Pwrpas Cynllun Busnes

  • Mae cynllun busnes yn cyflwyno set glir o gyfarwyddiadau i’r mentrwr ar sut i redeg y busnes.
  • Bydd cynllun busnes yn galluogi’r mentrwr wirio fonitro sefyllfa bresennol y busnes yn erbyn y cynllun-gall hyn fod o gymorth i adnabod pryd mae’r busnes yn rhedeg yn effeithiol neu os oes problemau sydd angen ymateb iddynt.
  • Mae banciau a buddsoddwyr angen gweld cynllun busnes cyn ymrwymo i roi arian. Bydd cynllun busnes manwl yn rhoi hygrededd i’r syniad.

11 of 22

Cynnwys Cynllun Busnes

  • Trosolwg neu’r crynodeb gweithredol
  • Nodau ac amcanion cyffredinol y busnes.
  • Cynllun marchnata-Ymchwil marchnata, sut i farchnata, adnabod y farchnad a’r gystadleuaeth.
  • Cynllun gweithredu-Lleoliad, Stoc, Cynhyrchu, Dosbarthu
  • Cynllun adnoddau dynol-Staffio
  • Cynllun ariannol-Rhagolwg Llif Arian, Cyfrifon Elw a Cholled, Ffynhonellau arian

12 of 22

Pwysigrwydd Cynllun Busnes

Manteision cynllun busnes

  • Mae’n rhoi cyfarwyddiadau clir ar sut i redeg y busnes.
  • Mae’n edrych ar brif ffwythiannau / adrannau sydd yn angenrheidiol i lwyddiant busnes.
  • Monitro a chymharu’r sefyllfa bresennol gyda’r cynllun gwreiddiol.
  • Cryfhau y siawns o gael cefnogaeth ariannol

13 of 22

Anfanteision cynllun busnes

  • Pwysig cofio mai AMCANGYFRIF yw llawer o agweddau o’r cynllun busnes.
  • Cost ac amser cario allan ymchwil marchnata-gall y busnes ddefnyddio’r arian a’r amser mewn rhannau arall o’r busnes.
  • Mae’n anodd rhagweld e.e. rhagweld y galw am eich nwyddau neu gwasanaethau, gall y busnes gael gormod neu dim digon o weithwyr.
  • Amcanion rhy uchelgeisiol
  • Glynu at y cynllun a pheidio addasu i newidiadau yn y farhcnad.

14 of 22

Ffynonellau Gwybodaeth

Llywodraeth Cymru

Cynghorau Sir Lleol

Syniadau Mawr Cymru

Menter a Busnes

Gyrfa Cymru

Prince’s Trust

Gwefannau sy’n arbennigo mewn rhoi cefnogaeth

Prime Cymru

15 of 22

Esiamplau o gwestiynau

Mae’r testun hwn yn dod fyny mewn amryw o wahanol ffyrdd o gwestiwn syml i rai sy’n estynedig ac yn gofyn am werthuso a barn.

16 of 22

Adnabod dwy ffynonell o wybodaeth a chymorth sydd ar gael i fentrwyr yng Nghymru. Peidiwch a defnyddio banciau. [2]

​

Mae hwn yn gwestiwn syml, ble mae’r marciau yn AA1-GWYBODAETH.

Dyw’r cwestiwn DDIM yn gofyn am eglurhad na disgrifiad.

​

Felly gellir dewis unrhyw ddau o sleid 14 e.e. Cyngor Sir neu Awdurdod lleol a Prince’s Trust.

​

17 of 22

Nodwch a disgrifiwch ddwy gydran allweddol cynllun busnes i rywun sydd eisiau cychwyn busnes newydd. [4]

Sleid 11

Cwestiwn syml sy’n gofyn i chi adnabod 2 adran a’i ddisgrifio.

1 marc am adnabod ac 1 marc am ddisgrifio.

18 of 22

19 of 22

Esboniwch ddau reswm pam mae Jemma’n cynghori pobl ifanc sydd eisiau cychwyn fel entrepreneuriaid i ‘lunio cynllun busnes da’. [4]

Cwestiwn sy’n gofyn i chi roi dwy fantais o greu cynllun busnes.

Mae 2 farc AO1 yma am egluro manteision a 2 farc AO3 am ddatblygu’r ateb.

20 of 22

21 of 22

Cwestiwn Arholiad

Gwerthuswch bwysigrwydd cynllun busnes. [10]

Cwestiwn estynedig sy’n gofyn i chi ddod i farn.

Y farn? A yw cynllun busnes yn bwysig neu ddim.

Er mwyn dod i farn rhaid edrych ar y manteision ac yr anfanteision o greu cynllun busnes.

Mae 3 Marc AA1

Mae 3 Marc AA3

Mae 4 Marc AA4

22 of 22

Felly er mwyn cyrraedd y marciau uwch rhaid:

  • Deall pwrpas a chynnwys cynllun busnes
  • Sicrhau fod eich pwyntiau yn rhai wedi eu datblygu
  • Edrych ar y manteision ac yr anfanteision a sicrhau fod CYD-BWYSEDD
  • Dod i farn.

Esiampl o ddatblygu ateb o AA1 i AA3

Mae cael adran adnoddau dynol yn bwysig i gynllun busnes er mwyn adnabod faint o staff sydd ei angen er mwyn rhedeg y busnes……

Gall adnabod hyn wneud yn siwr fod y busnes yn rhedeg yn effeithiol er mwyn peidio cael gormod o weithwyr, gall hyn helpu’r busnes drwy beidio gwastraffu arian ar weithwyr and oes eu hangen.

​