1 of 22

TGAU BUSNES

Twf Busnes

Dana Coaley

Ysgol Godre'r Berwyn

2 of 22

Cynnwys

  • Cwestiynnau pam a sut?
  • Ehangu organig ( twf mewnol)
  • Twf allanol 
  • Aros yn fach

3 of 22

Sut gallwn mesur maint busnes?

  • Gwerth gwerthiant cwmni (refeniw neu drosiant): Po fwyaf yw'r trosiant, y fwyaf yw'r busnes.
  • Gwerth y busnes: Gallwn edrych a yw gwerth y pris cyfranddaliadau (shares) wedi cynyddu neu ostwng. Byddai cynnydd yn y pris yn dangos bod y busnes wedi tyfu gan ei fod bellach yn werth mwy.
  • Nifer y gweithwyr cyflogedig: os yw nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu, yna byddai hyn yn awgrymu bod y busnes wedi tyfu, ac felly'r angen am fwy o staff.
  • Cyfran o'r farchnad: dyma gyfanswm cyfran y farchnad y mae busnes yn ei rheoli. Po fwyaf yw cyfran y farchnad, y fwyaf yw'r busnes.

​

4 of 22

5 of 22

Pam bod busnes eisiau tyfu?

  • Cynyddu elw:  Efallai mae'r perchnogion busnesau bach eisiau ennill mwy o arian er mwyn gwella eu ffordd eu hunain o fyw.�
  • Darbordion maint: Mae darbordion maint yn digwydd pan fydd y gost fesul uned yn gostwng wrth I fusnes ehangu. Golygai po fwyaf mae busnes yn ei gynhyrchu neu'n ei werthu nwyddau, y lleiaf y mae'n ei gostio i gynhyrchu neu werthu pob nwydd. �
  • Lleihau cystadleuaeth: Wrth tyfu ni all pob busnes cystadlu yn yr run marchnad. Felly wrth I fusnes tyfu,  ni all eu cystadleuwyr gadw i fyny o ran y nwyddau a gyflenwyd na'r pris a godir.�
  • Taenu risgiau: gall busnesau mwy gweithredu mewn nifer o farchnadoedd o ran ble maen nhw'n gwerthu neu'r hyn maen nhw'n ei gynhyrchu. Gellir gwrthbwyso gostyngiad mewn gwerthiant mewn un farchnad drwy gael gwerthiant parhaus mewn marchnad arall. Amrywiaethu yw'r enw ar hyn.

​

6 of 22

7 of 22

Mae darbordion maint yn digwydd pan fydd y gost fesul uned yn gostwng wrth I fusnes ehangu.

8 of 22

Gall Virgin Group gael budd o ddarbodion prynu drwy swmp-brynu, gall hyn fod yn mantais oherwydd po mwyaf o nwydddau sydd yn gael ei brynu ar unwaith po lleiaf yw'r cost prynu un nwydd.

9 of 22

Ehangu organig (mewnol) - Masnachfrentio (franchising)

Termau allweddol:�

Masnachfrentio: yw pan fydd rhywun yn talu perchenog masnachfraint I gael agor busnes sydd wedi'I sefydlu'n barod.�

Masnachfreintiwr: yw'r person sydd yn wethu'r fasnachfraint I ddeiliad y fasnachraint. �

Deiliad y fasnachraint: yn prynu'r fasnachfraint gan yr masnachfreintiwr. 

​

10 of 22

Manteision ac Anfanteision prynu masnachfraint

Manteision

Anfanteision

Ymuno gyda brand sefydlog ac adnabyddus. 

​

Cyfle i gael hyfforddiant a chyflenwadau, a gallwch ddysgu gan ddeiliad eraill y fasnachfraint. 

​

Rhannu'r costau marchnata gyda'r masnachfreintiwr.

Rhaid rhannu eich elw gyda'r masnachfreintwr 

​

Rhaid gweithio o fewn canllawiau'r masnachfreintwr. (Nid yw'n bosib bod yn hollol annibynnol). 

​

Rhaid cyfrannu at ymgyrch farchnata'r grŵp (llai o ryddid).

11 of 22

Manteision ac Anfanteision gwerthu masnachfraint

Manteision

Anfanteision

Gall y busnes dyfu'n gyflym.

​

Deiliad y fasnachfraint sy'n darparu cyllid.

​

Mae gan ddeiliad masnachfraint gymhelliant i wneud yn dda gan eu bod yn rhedeg busnes eu hun.

Colli rhywfaint o reolaeth.

​

Mae perygl gall brand cael ei niweidio.

​

Rhannu'r elw gyda'r deiliad y fasnachfraint.

12 of 22

13 of 22

Camgymeriadau cwestiwn arholiad! 

​

Dyma engraifft dda o gwestiwn arholiad gyda senario masnachfreintio. 

​

Mae'n bwysig ddarllen y senario a'r cwestiwn yn ofalus. Gofynwch, a yw'r cwestiwn o perspectif prynu neu perspectif werthu masnachfraint. 

​

Sylweddolwch bod yr cwestiwn yma yn dod o persectif deiliad masnachfraint sef y person sydd yn prynu'r fasnachfraint.

​

Nodir gan arholwr bod ysgrifennu ateb o'r perspectif anghywir yn golgu ni all ennill pwyntiau yn yr cwestiwn yma. Felly byddwch yn methu allan ar 8 marc!!!

14 of 22

Ehangu organig (mewnol) - E-fasnach

E-Fasnach

Masnachu ar lein

Agor I gwstemeriaid 24 awr y dydd

Cwstmeriad yn gallu prynu o unrhyw le

Hawdd I busnesau addasu pa nwyddau sydd ar gael

Gall busnes awgrymmu cynhyrchion eraill yn seiliedig ar eu hymddygiad gorffennol

Cwstmeriaid ddim yn gweld y cynhyrchion ffiesegol.

Mae angen I'r busnes gal system ddosbarthu effeithiol

Angen system I galluogi cwstmer dychwelyd (return) eitem

15 of 22

Ehangu organig (mewnol)

16 of 22

17 of 22

Twf allanol

Mae twf allanol yn digwydd pam fydd busnesau'n yumno a'I gilydd. Gall hyn hefyd ei galw yn intergreiddio.

​

Gall intergreiddio fod yn:

  • Llorweddol
  • Fertigol
  • Cyd-dyriad / amrywiaethu

​

18 of 22

Llorweddol

Bydd hyn yn digwydd pan fydd dau fusnes sydd yn yr un diwydiant ac ar yr un cam cynhyrchu yn dod yn un busnes. Hynny yw, maen nhw'n gwneud yr un cynnyrch neu'n darparu'r un gwasanaeth.

Manteision integreiddio llorweddol

  • Bydd arbedion cost eraill gan fod y busnes yn gofyn am lai o weithwyr, rheolwyr ac adeiladau.
  • Bydd gan y busnes newydd gyfran gynyddol o'r farchnad.
  • Bydd y busnes newydd yn fwy cystadleuol yn y farchnad a bydd hyn yn arwain at lai o gystadleuaeth.
  • Mae prynu brand sydd eisoes wedi ennill ei blwyf yn rhatach na datblygu'r brand o'r dechrau.

19 of 22

Fertigol

Dyma pryd mae dau fusnes sydd yn yr un diwydiant ond sydd ar wahanol gamau o'r gadwyn gyflenwi yn dod yn un busnes. Hynny yw, pan fydd busnes yn uno â busnes arall sy'n gweithredu ar gam cynhyrchu gwahanol. Er enghraifft, pan fydd gwneuthurwr esgidiau yn prynu ffatri sy'n cynhyrchu'r lledr neu gadwyn o siopau gwerthu esgidiau.

Mae dau fath o integreiddio fertigol:

Integreiddio fertigol ymlaen yw pan fydd busnes yn cydsoddi neu'n trosfeddiannu sylfaen cwsmeriaid. Er enghraifft, gwneuthurwr yn cydsoddi ag adwerthwr, neu fragdy'n prynu cadwyn o dafarndai. Mae hyn yn galluogi'r busnes i gyrraedd mwy o gwsmeriaid ac yn rhoi mwy o reolaeth i'r busnes dros y gadwyn gyflenwi, gan leihau costau a gwella cadwynau dosbarthu.

Integreiddio fertigol yn ôl yw pan fydd busnes yn cydsoddi neu'n trosfeddiannu â chyflenwr. Er enghraifft, pan fydd adwerthwr yn prynu busnes prosesu bwyd, neu pan fydd gweithgynhyrchwr dur yn prynu pwll glo. Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i fusnes dros ei gyflenwadau a all leihau costau a gwella ansawdd a chyflenwad deunyddiau crai a chydrannau.

​

​

20 of 22

Integreiddio cyd-dyriad / amrywiaethu 

Bydd hyn yn digwydd pan fydd dau fusnes sydd ddim yn gysylltiedig â'i gilydd yn cydsoddi. Mae'r busnesau'n gweithredu mewn marchnadoedd gwahanol ac nid oes unrhyw gysylltiad rhyngddyn nhw. Caiff hyn hefyd ei alw'n amrywiaethu.

Mantesion amrywiaethu i farchnadoedd cwbl anghysylltiedig

  • Gall y busnes newydd ledaenu ei risg – h.y. os yw'n profi dirywiad mewn gwerthiannau mewn un farchnad, gall y busnes fod yn llai agored i niwed gan y bydd y gwerthiant parhaus mewn marchnadoedd eraill yn ei helpu i wneud elw.
  • Mae'n bosibl gwerthu cynhyrchion presennol y naill gwmni a'r llall i gwsmeriaid newydd.

​

​

21 of 22

22 of 22

Aros yn fach

Mae rhai busnesau'n penderfynu aros yn fach o ran maint. Mae llawer o resymau dros hyn:

  • Nid yw rhai perchnogion busnes eisiau tyfu / maen nhw'n fodlon gweithredu fel busnes bach. Maen nhw'n hapus heb yr holl straen sy'n gysylltiedig â busnes sy'n tyfu.
  • Gall busnesau bach oroesi ar strwythur cost gymharol isel. Er enghraifft, mae modd iddyn nhw weithredu o'u cartref ac nid oes ganddyn nhw unrhyw gostau dal stoc, ac ati. Felly, nid oes angen iddyn nhw ehangu eu busnes.
  • Mae rhai busnesau bach yn gwasanaethu cloer marchnadoedd (niche markets) lle nad oes lle i dyfu. Efallai na fydd yn bosibl ehangu'r farchnad ac felly mae'r busnes wedi'i gyfyngu o ran ei faint.
  • Gellir darparu llawer o wasanaethau yn fwy effeithiol ar raddfa fach – e.e. trinwyr gwallt, hyfforddwyr personol, ac ati.
  • Mae rhai defnyddwyr yn hoffi prynu nwyddau gan gyflenwyr arbenigol / siopau bach. Gall busnes bach ddarparu rhywbeth unigryw neu ddarparu gwasanaeth personol y mae rhai sefydliadau mwy yn ei chael yn anodd ei gyflawni.
  • Gall busnesau bach addasu'n gyflymach na busnesau mawr. Mae addasu i newid yn gyflym yn enghraifft o hyn, fel sy'n ofynnol gyda thechnoleg a ffasiwn. O ganlyniad, gallan nhw fodloni anghenion cwsmeriaid yn fwy effeithiol na chwmnïau cyfyngedig cyhoeddus.

​

​