Sesiwn Carlam Safon Uwch�Cyfres 2024
Sesiwn 1 Poblogaeth a Ecosystemau Rhan 1
Sesiwn 2 Poblogaeth a Ecosystemau Rhan 2
Sesiwn 3 Atgenhedlu mewn Planhigion Rhan 1
Sesiwn 4 Atgenhedlu menw Planhigion Rhan 2
Carlam Safon Uwch Bioleg
Atgenhedlu Planhigion Rhan 1
Peillio
Adeiledd cyffredinol blodyn deugotyledon sy'n cael ei beillio gan bryfed
Blodyn sy’n cael ei beillio gan y gwynt
Cwestiwn 2 U4 2023
Gwahaniaeth rhwng blodyn sy’n cael ei beillio gan y gwynt a pryfed 1
Blodyn sy’ cael ei beillio gan y gwynt | Blodau sy’n cael ei beilio gan bryfed |
Petalau bach gwyrdd neu ddim petalau o gwbl. Mae'r blodau wedi'u lleoli uwchben y dail, neu'n cael eu cynhyrchu ar ddechrau'r gwanwyn i fanteisio cymaint â phosibl ar geryntau gwynt, heb i ddail amharu arnynt. | Petalau mawr lliwgar, sy'n aml yn cynnwys canllawiau at y neithdarleoedd i ddenu'r pryfed sy'n eu peillio nhw. |
Gwahaniaeth rhwng blodyn sy’n cael ei beillio gan y gwynt a pryfed 2
Blodyn sy’ cael ei beillio gan y gwynt | Blodau sy’n cael ei beilio gan bryfed |
Stigmâu mawr pluog yn hongian y tu allan i'r blodyn i ddal paill o geryntau gwynt yn yr aer. | Stigma gludiog i ddal gronynnau paill ar y tu mewn i'r blodyn, lle mae pryfed yn rhwbio yn ei erbyn fel bod y paill yn cael ei adael yno. |
Gwahaniaeth rhwng blodyn sy’n cael ei beillio gan y gwynt a pryfed 3
Blodyn sy’ cael ei beillio gan y gwynt | Blodau sy’n cael ei beilio gan bryfed |
Antheri mawr yn hongian y tu allan i'r blodyn i ryddhau gronynnau paill i geryntau gwynt. | Antheri ar ffilamentau anhyblyg, y tu mewn i'r blodyn: lle mae'n rhaid i'r pryf rwbio yn eu herbyn. Mae hyn yn cynyddu'r siawns bod y paill yn glynu ar gorff y pryf. |
Gwahaniaeth rhwng blodyn sy’n cael ei beillio gan y gwynt a pryfed 4
Blodyn sy’ cael ei beillio gan y gwynt | Blodau sy’n cael ei beilio gan bryfed |
Cynhyrchu niferoedd enfawr o ronynnau paill bach, ysgafn â muriau llyfn sy'n hawdd i'r gwynt eu cludo. | Mae'r gronynnau paill yn fawr ac mae ganddynt furiau pigog sy'n glynu ar gyrff pryfed. |
Lluniau o wahanol fathau o baill
Cwestiwn 3 U4 2019
Datblygiad y Paill
Cwestiwn 1 U4 2019
Cwestiwn 1 U4 2019
Peilliad
Trosglwyddo gronynnau paill o’r anther i'r stigma aeddfed mewn planhigyn o’r un rhywogaeth.
Mae dau fath o beilliad – Hunanbeilliad a Trawsbeilliad 1
Hunanbeilliad | Trawsbeilliad |
Trosglwyddo paill o anther blodyn i stigma aeddfed yr un blodyn neu flodyn arall ar yr un planhigyn. | Trosglwyddo paill o anther blodyn i stigma aeddfed blodyn arall ar blanhigyn arall o'r un rhywogaeth. |
Mae dau fath o beilliad – Hunanbeilliad a Trawsbeilliad 2
Hunanbeilliad | Trawsbeilliad |
Arwain at hunanffrwythloniad, sy'n arwain at fewnfridio. | Trosglwyddo paill o anther blodyn i stigma aeddfed blodyn arall ar blanhigyn arall o'r un rhywogaeth. |
Hunanbeilliad 3 | Trawsbeilliad 3 |
Mae amrywiad genetig yn dibynnu ar: • trawsgroesiad yn ystod proffas I meiosis, • rhydd-ddosraniad yn ystod metaffas I meiosis, • mwtaniad. | Mae amrywiad genetig yn dibynnu ar: • trawsgroesiad yn ystod proffas I meiosis, • rhydd-ddosraniad yn ystod metaffas I meiosis, • mwtaniad, A • Cyfuno genoteipiau gametau o ddau unigolyn gwahanol. |
Mae dau fath o beilliad – Hunanbeilliad a Trawsbeilliad 4
Hunanbeilliad | Trawsbeilliad |
Llai o amrywiad genetig. Mwy o siawns o ddau alel enciliol allai fod yn niweidiol yn cyfuno. | Mwy o amrywiad genetig. Llai o siawns o gynhyrchu cyfuniadau niweidiol o alelau. |
Mae dau fath o beilliad – Hunanbeilliad a Trawsbeilliad 5
Hunanbeilliad | Trawsbeilliad |
Gwarchod genomau llwyddiannus, sy'n fantais mewn amgylchedd sefydlog, ond yn anfantais os yw'r amgylchedd yn newid yn sydyn. | Mantais yn nhermau esblygiad, oherwydd os yw'r amgylchedd yn newid yn sydyn, mae'n debygol y bydd rhai unigolion o fewn y boblogaeth â chyfuniad o alelau fydd yn caniatáu i'r rhywogaeth oroesi. |
Addasiadau Blodau i Hybu Trawsbeilliad 1
Addasiadau Blodau i Hybu Trawsbeilliad 2
Addasiadau Blodau i Hybu Trawsbeilliad 2
Addasiadau Blodau i Hybu Trawsbeilliad 3
Cwestiwn Arholiad