UG Astudiaethau Crefyddol
(Athroniaeth Crefydd)
Nod ac Amcan
Problem Drygioni a Dioddefaint
Cwestiwn enghreifftiol
1 (a) Eglurwch broblem drygioni a dioddefaint i gredinwyr crefyddol (30)
BETH YW DRYGIONI (EVIL) A DIODDEFAINT?
Beth yw’r cysylltiad rhwng drygioni a dioddefaint?
Drygioni Moesol
Unrhyw ddioddef sydd yn ganlyniad i weithredoedd asiant ewyllys rydd (pobl). Mae gan bobl y gallu i ddewis i wneud gweithredoedd ‘da’ neu ‘ddrwg’. Pan maen nhw yn dewis gwneud drwg, mae’n achosi dioddefaint, Yn syml, dioddefaint sydd wedi cael ei achosi gan bobl.
Drygioni Naturiol
Unrhyw ddioddef sydd o ganlyniad i weithredoedd tu hwnt i reolaeth asiantiaid ewyllys rydd – fel arfer y rheini sydd wedi digwydd o ganlyniad i drefn naturiol. Yn syml, mae’r dioddefaint yn digwydd yn naturiol.
Drygioni Moesol a Naturiol
Ydych chi yn gallu esbonio’r ddau fath yma o ddrygioni?
Drygioni Moesol yw …
Drygioni naturiol yw…
DRYGIONI NATURIOL NEU FOESOL?
Meddyliwch ac Esboniwch ai drygioni naturiol neu foesol yw rhain? Pam?
Sut mae drygioni a dioddefaint yn gallu bod yn broblem i bobl sy’n credu mewn bodolaeth Duw?
Beth yw’r broblem?
?
Problem drygioni a dioddefaint
i gredinwyr crefyddol
Allwch chi feddwl am 8 nodwedd sydd yn perthyn i Dduw
Rhestrwch nodweddion sy’n perthyn i Dduw
Problem drygioni a dioddefaint
i gredinwyr crefyddol
SUT MAE DRYGIONI A DIODDEFAINT YN GALLU EFFEITHIO AR Y CREDOAU YMA?
Allwch chi feddwl am 8 nodwedd sydd yn perthyn i Dduw
Rhestrwch nodweddion sy’n perthyn i Dduw
Problem drygioni a dioddefaint
i gredinwyr crefyddol
DEFNYDDIWCH Y TERMAU I’CH HELPU
Allwch chi feddwl am 8 nodwedd sydd yn perthyn i Dduw
Rhestrwch nodweddion sy’n perthyn i Dduw
Duw Hollalluog + drygioni/dioddefaint yn y byd =
Duw Hollgariadus +drygioni/dioddefaint yn y byd =
Duw y creawdwr + drygioni/dioddefaint yn y byd =
Duw Hollwybodus + drygioni/dioddefaint yn y byd =
Duw Hollbresennol + drygioni/dioddefaint yn y byd =
Problem Drygioni a Dioddefaint i gredinwyr crefyddol
Duw y Tad + drygioni/dioddefaint yn y byd =
Duw cyfiawn + drygioni/dioddefaint yn y byd =
Duw teg + drygioni/dioddefaint yn y byd =
Mae’r athronwyr yma yn cael eu nodi yn y fanyleb – mae’n rhaid eich bod yn cyfeirio atynt mewn ateb i gwestiwn ar broblem drygioni a dioddefaint
Pa athronwyr sydd wedi sôn am broblem drygioni a dioddefaint?
Either God wants to abolish evil, and cannot;
or he can but does not want to.
If he wants to, but cannot, he is impotent.
If he can, but does not want to, he is wicked.
If God can abolish evil and God really wants to
do it, why is there evil in the world?
(Epicurus - The Wrath of God)
Athronydd Groegaidd oedd Epicurus (342-270cc) -
Naill ai y mae Duw am ddileu drygioni, ac ni all;
neu nid yw'n dymuno gwneud hynny.
Os yw am wneud, ond na all, mae'n analluog.
Os gall, ond nid yw eisiau, y mae yn ddrwg.
Os gall Duw ddileu drygioni a bod Duw wir eisiau gwneud hynny, pam y mae drwg yn y byd ? (Epicurus - Digofaint Duw)
Y Triawd anghyson (The Inconsistent Triad)
- J L Mackie
Ydi hyn yn gweithio?
Sut fyddai crediwyr crefyddol yn ymateb i hyn?
Fersiwn modern o broblem drygioni a dioddefaint
Y Triawd anghyson (The Inconsistent Triad)
- J L Mackie
Ydi hyn yn gweithio?
Sut fyddai crediwyr crefyddol yn ymateb i hyn?
Y Triawd anghyson (The Inconsistent Triad)
- J L Mackie
Ydi hyn yn gweithio?
Sut fyddai crediwyr crefyddol yn ymateb i hyn?
Mae Mackie yn ceisio dangos ei fod yn anghyson i’r tri datganiad yma fodoli ar yr un pryd.
HOLLALLUOG - Pe bai Duw yn hollalluog fe fyddai ganddo’r pwêr i gael gwared o ddrygioni a byddai’n gallu creu byd heb ddrygioni a dioddefaint,
HOLLGARIADUS - Os yw Duw yn hollgariadus byddai am gael gwared o ddrygioni fel nad yw ei greadigaeth yn dioddef.
DRYGIONI A DIODDEFAINT - mae bodolaeth drygioni yn amlwg yn y byd ac mae gwadu ei fodolaeth yn hurt ac yn sarhaus i unrhywun sydd wedi dioddef.
Felly nid yw’n bosib i’r tri datganiad yma fodoli gyda’i gilydd.
William Rowe - Dioddefaint Dwys + Dioddefaint Anifeiliaid
Dioddefaint Dwys
Pa ddaioni all ddod allan o’r dioddefaint dwys sydd i’w weld yn y byd? Pam mae dioddefaint dibwrpas a di-angen yn ddyddiol yn y byd?
Pam fyddai Duw hollgariadus yn achosi dioddefaint mor ddwys yn y byd? Os oes pwrpas i ddioddefaint (e.e. dysgu gwers, cosb, prawf ewyllys rhydd) pam mae rhaid i Dduw adael i ddioddefaint mor fawr ddigwydd? Meddyliwch am raddfa dioddefaint sy’n cael ei achosi yn ddiweddar -Rhyfeloedd, salwch, heintiau a phandemig fel Covid 19, hil laddiad fel yr Holocaust. Beth oedd pwynt rhain? A oedd angen CYMAINT o ddioddef?
Gallwn fod wedi dysgu gwersi gyda llai o bobl yn dioddef a marw. A oedd angen i 6 miliwn o Iddewon farw yn ystod yr holocaust?
Sut all dioddefaint mor eang a dwys ddangos cariad Duw hollalluog ac hollgariadus? Mae’n rhaid y byddai Duw wedi gallu gwneud hyn mewn ffordd ble byddai dim angen dioddefaint mor ddwys â hyn.
Dioddefaint anifeiliaid
Mae Rowe yn defnyddio enghraifft o garw ifanc, sydd wedi’i ddal mewn tân coedwig. Mae’n cael ei losgi’n ofnadwy ac yn gorwedd mewn poen am ddyddiau cyn marw. Beth oedd pwynt hyn? Pa ddaioni a allai ddod o ganlyniad i farwolaeth y carw ifanc?
Un o anifeiliaid Duw oedd y carw ifanc. A fyddai Duw hollgariadus eisiau hyn ddigwydd i un o’r greadigaeth?
Yn ôl Gregory S. Paul mae’n amhosib i Dduw cyfiawn, moesol a hollgariadus fodoli. Y rheswm dros hyn oedd ei fod wedi gweld bod cymaint o fabanod diniwed yn dioddef oherwydd afiechydon amrywiol, nam cenhedlu ac yn marw yn gynamserol, cyn dod i’r byd..
Mae Gregory Paul yn amcangyfrif fod 50 biliwn o blant wedi marw yn naturiol cyn iddynt gyrraedd aeddfedrwydd i ddeall y gwahaniaeth rhwng gweithred dda a drwg. Mae Paul yn galw hyn yn “Holocaust of the Children”. Mae miliynau o blant diniwed yn dioddef ac yn marw heb gael siawns i ddefnyddio a phrofi eu hewyllys rydd – maen nhw yn ddioddefwyr diniwed – tydyn nhw ddim wedi gwneud unrhywbeth o’i le.
Byddai Duw holl gariadus a hollalluog ddim yn gadael i hyn ddigwydd
Felly, nid oes Duw
David Hume
Athronydd arall…
David Hume (athronydd anffyddiol (atheist)) -Yn ei lyfr ‘Dialogues Concerning Natural Religion’ edrychodd Hume ar nodweddion hollalluog, hollddaioni a drygioni.
1 Tydy Duw ddim yn hollalluog, neu
2 Tydy Duw ddim yn Dduw da, neu
3 Tydy drygioni ddim yn bodoli.
Daeth Hume i’r casgliad nad yw Duw yn gallu bodoli.
Cwestiwn enghreifftiol
1 (a) Eglurwch broblem drygioni a dioddefaint i gredinwyr crefyddol (30)
Ydych chi yn gallu esbonio rhain?
Beth yw safon fy ngwaith?
1 (a) Eglurwch broblem drygioni a dioddefaint i gredinwyr crefyddol (30)