1 of 24

Cymraeg Safon Uwch

​

​

Adnabod a deall

y Gynghanedd

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

2 of 24

Beth yw cynghanedd?

  • Gellir cyfieithu cynganeddu i ‘harmony’. Yn yr un ffordd y mae nodau gwahanol yn dod ynghyd i wneud cord, mae geiriau gwahanol yn dod ynghyd i greu cynghanedd.
  • Set o reolau yw’r gynghanedd sydd yn gwneud i farddoniaeth swnio’n gerddorol.
  • Hen system unigryw i’r Gymraeg sydd wedi cael ei defnyddio gan feirdd ers dros fil a phump cant o flynyddoedd.

3 of 24

Canu Caeth

Mae’r rheolau’r gynghanedd yn eitha cymhleth. Dyna pam mae o’n cael ei ddisgrifio fel ‘Canu Caeth’ – a pam y disgrifiodd yr Archdderwydd Mererid Hopwood o fel ‘singing in chains’.

 

Mae dysgu cynganeddu ychydig bach fel dysgu iaith neu offeryn.

4 of 24

Nod heddiw?

Dysgu sut i wrando ac adnabod cerdd gaeth.

 

Does dim rhaid i chi fod yn gerddor gwych i adnabod sŵn y gwahanol offerynnau.

 

Ond cyn dysgu’n iawn am y cynganeddion rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni’n deall ambell egwyddor pwysig

​

5 of 24

Odli

Dau gi bach yn mynd i’r coed

Esgid newydd am bob___

Dau gi bach yn dwad adre

Wedi colli un o’i ____

 

Dyma beth yw odl!

6 of 24

Cyfateb Cytseiniaid�

Mae geiriau sydd efo’r un cytseiniad ynddyn nhw yn perthyn i’w gilydd

​

 e.e Byd. Byw. Bedd. Bwyd/Gwaed. Gwawr. Gwin/ Croes. Craith. Crist

​

 Y mwyaf o gytseiniaid sy’n cael eu hateb y cryfaf ydi’r berthynas.

 

e.e. Gwario. Gwirion/ Bore. Barod/ Gofyn. Argyfwng

 

  • Allwch chi feddwl?

7 of 24

Acen a Phwyslais

Efo geiriau un sill (fel ‘dydd’, ‘pawb’, ‘tro’) mond un lle sydd i roi’r pwyslais.

 Ond lle mae’r pwyslais gyda geiriau gyda mwy nag un sillaf – geiriau fel ‘geiriau’, ‘ysgol’. ‘Arholiad’. ‘arholiadau’?

 Yn y Gymraeg mae’r pwyslais mewn geiriau gyda mwy nag un sillaf fel arfer yn glanio ar y sillaf olaf ond un.

 Ond mae na eithriadau e.e. ‘Cymraeg’ ‘Rhyddhad.’

​

 Lle mae’r acen yn gorffwys yn eich enw chi?

​

8 of 24

Cynghanedd Groes

Mae’r gynghanedd groes yn rhannu pob llinell yn ddwy ran. Mae’r cytseiniaid, sef y llythrennau caled (p, t,c) ar ddechrau’r llinell yn cael eu hail-adrodd yn yr ail hanner.

 

(Does dim rhaid i’r lythyren ar ddiwedd y rhan gynta gael ei hateb ar y diwedd)

 

Dirgelwch ydi’r galon

 

d rg l (ch) / d r g l (n)

​

Ydach chi’n clywed yr acen yn glanio ar ‘Dirgelwch’ a ‘galon’?

​

9 of 24

Cynghanedd Groes

​

Sŵn y dydd yw hi sy’n dod

 

Yn fan hyn, aeafau nôl

 

​

10 of 24

Cynghanedd Draws

Mae’r gynghanedd draws yn debyg i’r gynghanedd groes – ond bod gennych chi’r hawl i neidio dros rhai llythrenau yng nghanol y llinell. 

Y bardd trwm dan bridd tramor

 

b r dd tr m /d n br dd trm (r)

​

Weithiau mae bardd yn defnyddio’r gynghanedd draws i neidio dros lawer o lythrennau!

  

​

11 of 24

Cynghanedd Draws

a chawsom iaith er na chesiem hi

  

Yng Nghaerdydd mae nghariad i

 

Ydi hyn yn syniad da?

​

12 of 24

Cynghanedd Sain

Mae’r gynghanedd Sain yn rhannu yn dair rhan.

​

Mae gair ar ddiwedd rhan un yn odli gyda gair ar ddiwedd rhan dau, ac mae’r gair ar ddiwedd rhan dau yn cynganeddu efo gair ar ddiwedd rhan tri.

 

Dau gariad ar doriad y dydd

 

 

Fe’i gwelais, estynais stôl

 

​

13 of 24

Cynghanedd Lusg

Mae’r gynghanedd yma yn rhannu yn ddwy ran. Mae’r gair ar ddiwedd y rhan cyntaf yn odli gyda’r sillaf olaf ond un yn yr ail ran.

  

Yn rehab o dan label

 

Cawsom wlad i’w chadw

 

 

​

14 of 24

Yr Englyn Penfyr

Yr un fath â’r englyn ond heb y linell olaf.

 

Yn rehab y colli nabod – sŵn traed

sy’n troi’r awr ddiddarfod,

sŵn y byw diflasa’n bod.

​

15 of 24

Yr Englyn Milwr

Tair llinell o o gynghanedd 7 sillaf ar yr un odl.

  

Yn fan hyn, aeafau’n ôl,

yn ddifaddau o feddwol,

fe’i gwelais; estynnais stôl.

​

16 of 24

Y Cywydd

Mae hwn yn fesur poblogaidd iawn gan feirdd Cymraeg ers canrifoedd. Mae pob llinell yn saith sillaf ac mae pob dwy linell yn creu cwpled sy’n odli.

 

Wylit, wylit, Lywelyn

Wylit waed pe gwelit hyn.

Ein calon gan estron wr,

Ein coron gan goncwerwr,

A gwerin o ffafrgarwyr

Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwyr.

​

17 of 24

Y Wers Rydd Gynganeddol

Weithiau mae beirdd yn hoffi amrywio hyd eu llinellau a pheidio cynnwys odlau yn eu cerddi caeth fel yn ‘Etifeddiaeth’ Gerallt Lloyd Owen

 

Cawsom wlad i’w chadw,

darn o dir yn dyst

ein bod wedi mynnu byw.

 

Cawsom genedl o genhedlaeth

i genhedlaeth, ac anadlu

ein hanes ni ein hunain.

 

A chawsom iaith, er na cheisiem hi,

oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes

a’i grym anniddig ar y mynyddoedd.

​

18 of 24

19 of 24

20 of 24

21 of 24

22 of 24

23 of 24

24 of 24