Sesiwn Fyw
Cymraeg
Uwch Gyfrannol
Mawrth 2024
Cymraeg Uwch Gyfrannol
Sesiwn 1 – ‘Siwan’ Cyfeiriadaeth a Delweddau
Sesiwn 2 – ‘Siwan’ Pwysigrwydd Act 3
Sesiwn 3 – Gramadeg – adolygu a chywiro
Trystan, Esyllt a Marc – Siwan, Gwilym a Llywelyn
Mae yma driongl cariad.
• Mae Llywelyn yn hŷn na Siwan ac mae Marc yn hŷn nag Esyllt.
• Mae Gwilym Brewys a Trystan yn farchogion ifanc, golygus a dewr.
• Mae Trystan yn cael ei wella o’i glwyfau gan Esyllt ac mae Siwan yn gwneud yr un fath i Gwilym – yn ôl y ddrama.
• Mae hanes Trystan ac Esyllt a stori Siwan a Gwilym yn dangos sut mae’r cymeriadau yn ildio i serch a’u teimladau cryf at ei gilydd.
Mae Trystan yn cael ei ladd gan Marc ac mae Gwilym yn cael ei ddienyddio gan Llywelyn.
Calan Mai a’r fedwen
Roedd y fedwen yn symbol o ffrwythlondeb ac fe arferai pobl ifanc ddawnsio o amgylch bedwen wrth ddathlu Calan Mai. Fe gofiwn i Llywelyn gymharu Siwan â bedwen arian yn Act III. Mae’n bosibl mai oherwydd bod Siwan, fel y fedwen, yn hardd ac yn osgeiddig y mae Llywelyn yn tynnu’r gymhariaeth.
Sant Ffransis
Roedd Ffransis yn fab i fasnachwr cyfoethog iawn mewn tref o’r enw Assisi yn yr Eidal yn ystod yr Oesoedd Canol. Cafodd dröedigaeth, a deallodd fod dilyn esiampl Crist yn ffordd well o fyw. Felly cafodd wared ar ei eiddo personol a’i arian a byw bywyd syml a da. Sefydlodd urdd o fynachod a ddilynai reolau Cristnogol clir. Gwisgent wisg lwyd ac roeddent yn byw bywyd tlawd, gan wneud cymaint â phosib i wella bywyd pobl oedd yn dioddef. Yn sicr, mae tebygrwydd rhwng Ffransis a Gwilym, fel y noda Siwan yn Act I. Y gwahaniaeth yw bod Ffransis wedi cefnu ar bethau melys bywyd er mwyn byw bywyd gwell a bod Gwilym yn ymdrechu i fwynhau y pethau hyn gymaint â phosib
Y Goron
Mae’r goron yn ‘flinder’ i Siwan ar ddechrau’r ddrama. Wrth ei gwisgo a gorfod llywyddu’r noson, ni chafodd fwynhau ei hun ac ymroi i’r rhamant y mae Alis mor ymwybodol ohono. Nid symbol o statws a chyfrifoldeb yn unig yw’r goron i Siwan ond rhywbeth sy’n ei chaethiwo hefyd ac yn ei rhwystro rhag gwneud yr hyn y mae hi’n ei ddymuno ei wneud. Teimla Siwan fod ganddi fwy o ryddid wedi tynnu’r goron oddi ar ei phen – dyma pryd y mae hi’n godinebu ac yn ildio i’w dyheadau am nwyd a serch.
Y Gwely
Yn draddodiadol y mae’r gwely priodasol yn lle arwyddocaol sydd wrth wraidd creu teulu a pherthynas rhwng gŵr a gwraig, ond mewn teulu brenhinol ceir yr elfen ychwanegol o greu llinach. Llygrir y gwely priodasol trwy odineb ac mae’r gwely’n troi’n symbol o fethiant y briodas. Nid yw Llywelyn a Siwan yn rhannu’r gwely am flwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r deyrnas yn mynd i argyfwng. Ar ddiwedd Act III ceir cytundeb rhwng Siwan a Llywelyn i rannu gwely unwaith eto. Er bod y cytundeb rhwng y ddau’n amherffaith a bod gan y ddau resymau dros beidio â dychwelyd i’r gwely gyda’i gilydd, maent yn cytuno i wneud hynny. Mae’r gwely erbyn hyn yn symbol o obaith felly – gobaith i’r ddau ohonynt yn eu perthynas ond hefyd gobaith y bydd Gwynedd yn cael ei diogelu.
Pethau i’w cofio:
Sgwrs arwyddocaol rhwng Alis a Llywelyn. Alis yn cynghori
Pellter Siwan a Llywelyn
Cyfaddawd mawr Llywelyn a Siwan
Araith Llywelyn/Cyffes cariad
Dymuniad olaf Siwan
Cyffes Cariad Llywelyn
Arglwyddes, doedd ein priodas ni’n ddim byd ond gwleidyddiaeth ac roedd gwahaniaeth o bum mlynedd ar hugain rhyngom ni o ran oed. Wel, mae hynny’n digwydd yn aml i bobl fel ni, dioddef ac adeiladu gyda’n gilydd wrth i ni greu cytundeb rhwng gwledydd.
Ond pan ddest ti yma i Eryri yn wyryf ifanc, hardd, roeddwn i wedi fy syfrdanu. Ond ddywedais i ddim byd am fy nheimladau, doeddwn i ddim eisiau rhoi braw i ti gyda chusanau trwsgl a chofleidiau chwyslyd. Rheolais f’emosiynau ac roeddwn i’n araf, yn gwrtais ac yn ffurfiol gyda thi. Doeddwn i ddim eisiau i ti fy ngweld i’n ffiaidd.
Stopiodd dy nerfusrwydd a thyfodd dy hyder, ac roeddwn i’n teimlo fel petaet ti’n gallu fy nioddef i o gwmpas y lle yn y cefndir. Addolais i ti o bell, heb ddweud bron dim. Stopiais fy hun rhag dweud geiriau cariadus a thynnais i ti i mewn i fy mywyd trwy ddilyn dy gyngor wrth drefnu fy nheulu a’r deyrnas. Rhoddais bob cyfle i ti ddefnyddio dy ymennydd gwych.
Dw i’n cofio pan ddest ti adre ar ôl i ti berswadio dy dad i dynnu’n ôl rhag ymosod ymhellach arnom. Roeddet ti’n bymtheg oed a newydd gael Dafydd ddeufis ynghynt. Dest ti adre wedi achub fy mywyd a sicrhau llwyddiant tywysogaeth Dafydd. Y noson honno ti wnaeth fy nghofleidio i a doeddwn i ddim yn gallu siarad oherwydd ‘mod i mor hapus. Cedwais reolaeth arnaf i fy hun; –
Ar ôl y noson honno roeddwn i’n llwyddiannus yn erbyn fy ngelynion, cymerais diroedd Ceredigion, Powys a Deheubarth yn rhan o’r deyrnas, a hynny i gyd i Dafydd yn unig. Roedd hyn yn erbyn ein traddodiad ni’r Cymry, ac er i mi ddigio fy nheulu, mynnais fod Dafydd a’i ach bur yn cael ei gydnabod gan frenin Lloegr a’r Pab.
Gwnes hyn i hyn i gyd er mwyn dangos cymaint oeddwn i’n dy garu di.
Dyfyniadau Allweddol Act 3
Neilltuaeth, nid carchar Llywelyn wrth Alis
Seremoni yw byw i deulu brenhinol Alis wrth Llywelyn
Dechrau nabod ei gilydd mae pob gwr a gwraig, boed bythefnos neu ugain mlynedd Llywelyn wrth Alis
roedd hi’n ifanc ei hysbryd cyn ei charchar Alis wrth Llywelyn
Mae etifeddiaeth Dafydd yn y fantol Siwan wrth Llywelyn
Gan wybod fod coron Aberffraw a theyrnas Gwynedd Ar antur enbyd y crogais i Gwilym Brewys Llywelyn wrth Siwan
Dyfyniadau Allweddol
Rhoddaist iddo farwolaeth dihiryn a lleidr pen ffordd… S wrth Ll
Drawodd o ar dy feddwl di, Siwan, Y gallai ’mod i’n dy garu fel Gwilym Brewys? Ll wrth S
Dd’wedi di wrthyf i beth a welodd Gwilym? Yn enw ugain mlynedd o orwedd ynghyd, Mae gen’ i hawl i wybod. S wrth Ll
Roedd dy Wilym yn nes ata’ i, Fe’m gwelodd o fi fel person Ll wrth S
Felly’r addolais i di, fy fflam, o bell ac yn fud… Ll wrth S
Bernaist yn dy ddirmyg ohonof mai polisi piau fy enaid Ll wrth S
Rhyngom yn y gwely os dof bydd drewdod halogiad dy serch. S wrth Ll
Rhyngom yn y gwely os doi bydd celain yn crogi wrth raff Ll wrth S
Fi yw’r tân sy’n dy grino a’th ladd di,… Ll wrth S
Fi yw’r tân sy’n dy grino a’th ladd di,…. …hen wr sy’n fwy o sefydliad nag o ddynoliaeth, y gwleidydd yn y gwely. Ll wrth S
Gwallau Cyffredin
ei gilydd
Y ffurfiau sy’n gallu cael eu defnyddio gyda ‘gilydd’ yw:
ei gilydd
ein gilydd
eich gilydd
Sylwer dydy eu gilydd ddim yn y rhestr, ac felly, mae’n angyhywir. Gwall cyffredin yw defnyddio ‘eu’ pan yn sôn am rywbeth lluosog. Nid yw hyn yn gywir. Yr ‘ei’ unigol sydd ei angen BOB TRO. Wrth esbonio dylech ddweud:
Angen y rhagenw blaen unigol ‘ei’ o flaen ‘gilydd’.
mewn ac yn
Mae llawer yn cymysgu rhwng yr arddodiaid ‘yn’ a ‘mewn’. Dyma’r rheol:
Defnyddio mewn gyda lle amhendant (yn cyfateb i’r Saesneg ‘in a…’)
e.e. Rydw i’n byw mewn ffermdy
Rydw i mewn dosbarth braf yn yr ysgol
Defnyddio yn gyda lle pendant (yn aml, bydd y fannod neu priflythyren yn dilyn)
e.e. Rydw i yn y dosbarth gorau yn yr ysgol
Rydw i’n byw yn y tŷ olaf yn y rhes.
PWYSIG – Cofiwch am y treiglad trwynol ar ôl yr arddodiad ‘yn’
e.e. yn Ninbych, ym Mhrestatyn, yng Nghaer
PE ac OS
Os ydym yn defynyddio berf yn yr amodol, mae’n rhaid i ni ddefnyddio PE nid OS. Felly dylem ddefnyddio PE BUASAI nid OS BUASAI. I gywiro’r gwall yma byddem yn dweud:
Rhaid defnyddio ‘pe’ o flaen berf yn yr amodol
Gydag OS, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau fod amod yn y frawddeg – os nad oes amod, ni ddylem ddefnyddio OS.
e.e. Dydw ddim yn siwr os fydda i yma yfory
Mae’r frawddeg yn anghywir gan nad oes amod yn y frawddeg. Yn hytrach, cwestiwn annuniongyrchol sydd yma. Y cywiriad fyddai
Dydw i ddim yn siwr a fyddai i yma yfory
Wrth esbonio’r gwall yma, dylem ddweud:
Does dim amod yn y frawddeg. Cwestiwn annuniongyrchol sydd yma.
Pan
Rhaid dilyn y gair ‘pan’ gyda berf e.e. pan gerddais. Mae’r frawddeg ‘pan yn cerdded’ yn anghywir. Y cywiriad fyddai:
Rhaid dilyn y cysylltair ‘pan’ gyda berf
Pryd
Mae pryd yn gofyn cwestiwn penodol e.e
‘Pryd mae’r wers yn gorffen?’
Mae hwn yn wall cyffredin gan fod y drefn yn y Gymraeg yn wahanol i’r Saesneg.
e.e. llyfr Sian > Sian’s book
Yn y Saesneg, gellir defnyddio ffordd arall o fynegi’r genidol
e.e. the capital of England
Yn y Gymraeg, prifddinas Lloegr sy’n gywir nid prifddinas o Loegr
DYDYN NI DDIM YN CYFIEITHU’R ‘OF’ I’R GYMRAEG.
Mae dweud ‘tudalen olaf o’r llyfr’ felly yn anghywir. Y cywiriad yw ‘tudalen olaf y llyfr.
Cywirwch y gwallau canlynol:
Dylem ddarllen pennod olaf o’r nofel yn y wers yfory.
Mae gan Sian ofn o’r athro.
y genidol (sef dangos pwy sy’n berchen ar rywbeth)
adnabod a gwybod
Mae’n holl bwysig ein bod yn gallu gwahaniaethu rhwng y ddau ferfenw yma:
adnabod rhywun
gwybod rhywbeth
e.e. Rydw i’n adnabod Sian ers blynyddoedd
Rydw i’n gwybod yr ateb i’r cwestiwn
Yn aml iawn, diffyg gwahaniaethu rhwng y ddau sy’n achosi’r gwall yma, ac felly wrth esbonio dylem ddweud:
Defnydd o ferfenw anghywir. Dylid defnyddio (gwybod i ddangos gwybodaeth o ffaith/ adnabod i ddangos adnabyddiaeth o berson)
treulio a gwario
Mae’n holl bwysig ein bod yn gallu gwahaniaethu rhwng y ddau ferfenw yma:
Rydych chi’n gwario ARIAN ond yn treulio AMSER
Defnydd o ferfenw anghywir. Dylid defnyddio TREULIO wrth sôn am amser a GWARIO wrth sôn am arian.
Diolch yn fawr
Pob lwc!