DULLIAU YMCHWIL UG
Pa ddull i ddefnyddio?
Sut mae Cymdeithasegwyr yn dewis dull?
Yn amlwg, mae'r penderfyniad pwysig nesaf sydd angen ei wneud yn ymwneud â natur y data. Mae hyn yn ymwneud â phwrpas yr ymchwil. Ar ôl penderfynu ar y perspective ymchwil, gellir dewis o blith amryw o ddulliau i'w defnyddio.
Mae gan bob dull set o ddadleuon damcaniaethol sy'n cyfeirio at cryfderau a gwendidau a materion ymarferol a moesegol y dull.
�Bydd Positifitwyr yn casglu data meintiol, a bydd Gwrth-bositififistwyr a Rhyngweithwyr yn casglu data ansoddol.
Nodwch pa ddulliau sy’n cynhyrchu data ansoddol a pha rai sy’n cynhyrchu data rhifol. Cofiwch fod rhai dulliau yn medru cynhyrchu data ansoddol a meimtiol.
Mathau o Ddata Cynradd
Gall cymdeithasegwyr fynd ati i gasglu data mewn amryw o wahanol ffyrdd. Gallant gasglu'r wybodaeth y mae arnynt ei hangen eu hunain. Gelwir hyn yn casglu data cynradd, a gelwir y broses yn ymchwil cynradd neu'n casglu data cynradd.
Mae nifer o wahanol ddulliau o gasglu data cynradd. Y rhai mwyaf cyffredin yw arolygon sy'n defnyddio holiaduron a chyfweliadau, ond mae arsylliadau ac arbrofion hefyd yn bwysig. Disgwylir i gymdeithasegwyr ysgrifennu am eu dulliau pan fyddant yn cyhoeddi eu hymchwil ar ddu a gwyn, fel bod modd i eraill arfarnu ansawdd y dulliau a ddefnyddiwyd.
�Mae'n gymharol hawdd casglu data cynradd. Er hynny, mae'n anodd iawn gwneud hyn yn dda; dyma pam fod astudio methodoleg gymdeithasegol mor bwysig. Mae'r mathau o ymchwil sy'n nodweddiadol o ymchwil cynradd yn unig yn ymchwil ar raddfa fach, sy'n canolbwyntio ar broblemau neu faterion penodol.
Bydd cymdeithasegwyr yn casglu data cynradd os ydynt yn dymuno gweithio ar destun nad yw wedi'i astudio'n llawn o'r blaen, neu os ydynt eisiau gwneud gwaith gwreiddiol.
DULLIAU YMCHWIL MEINTIOL
Mae ymchwil meintiol yn seiliedig ar y syniad y dylai gwaith ymchwil cymdeithasol fod yn wyddonol (postifiaidd). Mae’n cael ei defnyddio i ddarganon patrymau ymddygiad ac, os yw’n bosibl, i sefydlu perthynas neu gydberthynas achosol. Nod positifwyr yw cynhyrchu data dibynadwy, felly byddan nhw’n defnyddio dulliau sy’n gallu cael eu hailadrodd neu eu defnyddio gan gymdeithasegwyr eraill.
Dyma’r prif ddulliau meintiol:
Holiaduron
Cyfweliadau strwythuredig
Arsylwi agored
Defnyddio data eilaidd o ystadegau swyddogol
Dulliau Ymchwil ansoddol
Mae ymchwil ansoddol yn seiliedig ar y syniadau y dylai gwaith ymchwil cymdeithasol chwilio am ystyr a dealltwriaeth. Mae dehongliadwyr yn dadlau y dylen ni geisio deall profiadau bywyd pobl yn well.
Ethnograffeg - astudio yr ymatebwyr yn eu sefyllfaoedd bywyd go iawn. Bydd ethnograffwyr yn defnyddio mwy nag un dull fel arsylwi cyfranogol/o’r tu mewn,dyddiaduron a chyfweliadau anstrwythuredig.
Dullian ansoddol:
Arsylwadau
Cyfweliadau
Grwp ffocws
Data eilaidd ffynonellau preifat; dyddiaduron neu llythyron.
Bydd Cymdeithasegwyr yn defnyddio'r dull cyfweld yn aml. Mae nifer o ddulliau cyfweld. Fe'i cysylltir fel arfer â dulliau ymchwil ansoddol ble edrychir am ddyfnder ac ystyr. Mae'n ddull mwy personol na holiaduron Cyfweliad yw sefyllfa ble ceir sgwrs ag atebwr.
Mantais o gyfweliad yw eu bod yn hyblyg; ond hefyd mae’n haws cynnwys cymysgedd o gwestiynau agoed a chaeddig, fel bod modd casglu data meintiol ac ansoddol.
Ceir tri brif fath:
Cyfweliadau Strwythuredig
Cyfweliadau anstrwythuredig/cyfweliadau distrwythur
(a) Grwpiau sensitif
(b) Pynciau sensitif
(c) Safbwynt atebwr
(ch) Dilysrwydd a manylder
(d) Agweddau ac ystyron
Problemau gyda cyfweliadau anstrwythedig
(a) Tuedd Ymchwilydd
(b) Dilysrwydd
Cyfweliadau Lled- Strwythuredig:
Mae cyfweliadau lled-strwythuredig yn gyfuniad o'r cyfweliad strwythuredig a distrwythur.
Rhwng y ddau begwn hyn o gyfweld wyneb yn wyneb, ceir unrhyw nifer o bosibiliadau ar gyfer trefn y drafodaeth, a gelwir y rhain yn gyfweliadau lled-strwythuredig. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall y cyfwelydd ofyn cwestiynau ychwanegol neu cwestiynau sy'n gofyn am eglurhad yn ogystal â chrisialu ystyr y cwestiwn cyfweld gwreiddiol.
�Dilynir sgript ond mae modd addasu neu holi yn ddyfnach yn ôl yr angen. Mantais hyn yw bod modd cyfuno cryfderau'r ddau fath arall o gyfweliadau. Mae cyfweliadau lled-strwythuredig yn enghraifft o driongli o fewn dull.
Trefnu sefyllfa gyfweld
Er mwyn i gyfweliadau lwyddo, rhaid i'r cyfwelydd/cyfwelai ymlacio. Mae Barker, yn ei hastudiaethau o'r Moonies, yn disgrifio'r broses hon yn ofalus. Roedd hi'n ceisio gwneud ei gorau glas i gael ei chyfwelai i ymlacio a gwneud iddynt deimlo'n hapus gyda'r sefyllfa. Gwnaed hyn wrth osod yr ystafell yn ofalus.
Roedd angen iddi osgoi creu sefyllfa ymosodol neu anodd mewn unrhyw ffordd. Mae hefyd yn bwysig i gyfwelydd baratoi'n dda, sy'n gofyn am gryn waith trefnu a chynllunio.
Mae cyfweliadau yn cymryd cryn dipyn o amser, ac os bydd angen ailadrodd cyfweliadau, yna mae'n bwysig bod y cyfwelai yn teimlo bod yr amser a dreuliwyd yn y cyfweliad gwreiddiol yn ddigon gwerthfawr i'w ailadrodd.�Mae angen cynllunio'r cwestiynau neu'r pynciau i'w trafod eu hunain yn ofalus. Gall cwestiynau fod yn 'agored' neu'n 'gaeedig.' Mae cwestiynau caeedig yn cynnig atebion ond mae angen datblygu ar gwestiynau agored.
Mae'n bwysig annog y cyfwelai i fod yn agored, felly rhaid i'r cyfwelydd osgoi cwestiynau y gellir eu hateb gyda 'ie' neu 'na.' Gellir gofyn cwestiynau mewn mwy nag un fformat, ac weithiau bydd caniatáu distawrwydd yn ddigon i ennyn ymateb.
Gall materion moesegol difrifol fod ynghlwm â chyfweliadau. Yn ei hastudiaeth yn 2003 o bobl ifanc gwyn dosbarth gweithiol a chyflogaeth, bu Linda McDowell yn cyfweld nifer o fechgyn o ardaloedd difreintiedig.. Wrth gyfweld yng Nghaergrawnt, defnyddiodd ei chegin ei hun i gynnal y cyfweliadau. Wrth edrych yn ôl, gwelodd bod peryglon difrifol o wneud hyn, er nad oedd hi byth ar ei phen ei hun yn y tŷ gyda'r atebwyr a'u bod hwythau dros 16 oed ac wedi cael caniatâd eu rhieni.
Cwestiwn 1c (20 marc)
RHAID CYNNWYS GWAITH CYMDEITHASEGWYR YN EICH ATBEION!
DDECC
Cwestiwn 1c (20 marc)
CRYFDERAU:
Dealltwriaeth o gysyniad cyfweliadau lled-strwythuredig: cynhyrchu data ansoddol yn bennaf, a pheth data meintiol.
Hyblygrwydd: gall y cyfwelydd ofyn rhai cwestiynau penodol ond holi ymhellach er mwyn cael mwy o wybodaeth neu eglurhad.
DILSYRWYDD - Gellir trawsgrifio'r data a gasglwyd a'u mynegi mewn geiriau, gan ddarparu gwybodaeth ddisgrifiadol am y bobl sy'n cael eu hastudio, fel yn yr Eitem.
DILSYRWYDD - Drwy'r cyfwelid gall yr ymchwilydd archwilio'r ystyron y mae'r bobl sy'n cael eu hastudio yn eu rhoi i weithredoedd, er enghraifft y penderfyniad i godi terfysg fel yn yr Eitem. • Mae'r data yn fwy dilys na dulliau megis holiaduron a chyfweliadau strwythuredig. • O gymharu ag ymchwil o holiaduron, mae gan y cyfwelydd amser i ddatblygu empathi a verstehen gyda'r rheini yr ymchwilir iddynt, Weber. •
ETHIGOL - Gellir trafod gweithgareddau/materion sensitif neu ddadleuol wrth i ymddiriedaeth gael ei meithrin. • Gall y cyfwelydd weld ffurfiau cyfathrebu dieiriau yn y ffordd y mae'r sawl y mae'n cyfweld ag ef yn cyflwyno ei hun.
Dylid cael cyfeiriad at astudiaethau a ddefnyddiwyd i ddangos y pwyntiau a wneir. Defnyddiodd Nayak gyfweliadau lled-strwythuredig yn ei ymchwil i Newcastle a “chavs, youth and class in the post-industrial city”, 2006
Gwendidau
• Cymharedd - nid yw'r cyfweliadau’n safonedig felly mae’n bosibl eu bod yn llai dibynadwy: mae'n anodd iawn eu hailadrodd dros amser a rhwng grwpiau. Ychydig o ddata meintiol o gymharu â'r holiadur, fel yn yr Eitem •
Dibynadywedd- Diffyg trylwyredd gwyddonol; Popper
• Gall cyfweliadau lled-strwythuredig gymryd llawer iawn o amser a gallant fod yn gostus, er enghraifft treuliodd Eileen Barker 6-8 awr ar gyfartaledd yn cyfweld â 30 o'r Moonies ar gyfer ei hastudiaeth.
Dilsyrwydd - Os yw'r cyfweliadau wedi cael eu recordio yna mae angen trawsgrifio'r wybodaeth a gasglwyd a gall hyn gymryd oriau lawer ar gyfer awr o gyfweliad. Os nad yw'r cyfweliadau wedi cael eu recordio, yna gall gwneud nodiadau fod yn heriol gan fod yr ymchwilydd yn dibynnu ar ei gof.
Dilysrwydd - • Gall effaith y cyfwelydd fod yn broblem, oherwydd gall y cyfwelydd ddylanwadu ar atebion yr ymatebwr drwy iaith ei gorff neu ei dôn
• Gall dymunolrwydd cymdeithasol fod yn broblem: lle mae'r rhai sy'n cael cyfweliad am gyflwyno eu hunain mewn ffordd benodol a gall hyn effeithio ar ddilysrwydd yr ymchwil.
Gan ddefnyddio deunydd o’r eitem a gwybodaeth gymdeithasegol, esboniwch ddau reswm posibl pam mae cymdeithasegwyr yn dewis defnyddio cyfweliadau manwl (indepth) mewn ymchwil cymdeithasol. [20]
Cyfweliadau anstrwythedig
(a) Grwpiau sensitif
(b) Pynciau sensitif
(c) Safbwynt atebwr
(ch) Dilysrwydd a manylder
(d) Agweddau ac ystyron
Problemau gyda cyfweliadau anstrwythedig
(a) Tuedd Ymchwilydd
(b) Dilysrwydd
Dealltwriaeth o gysyniad cyfweliadau manwl: cynhyrchu data ansoddol yn bennaf, a pheth data meintiol.
• Gall cyfweliadau manwl fod yn werthfawr i gymdeithasegwyr ar eu pennau eu hunain neu gellir eu defnyddio ar y cyd â ffynonellau cynradd eraill megis yr arolwg yn yr Eitem.
DILYSRWYDD: Gall y cyfweliadau gael eu cynnal yn amgylchedd naturiol y cyfweleion lle y gallant deimlo'n fwy cyfforddus ac yn fwy tebygol i drafod pynciau yn fanwl.
• DILYSRWYDD: Hyblygrwydd: nid yw'r cyfwelydd wedi'i gyfyngu gan gwestiynau penodedig.
• Gellir trawsgrifio'r data a gasglwyd a'u mynegi mewn geiriau, gan ddarparu gwybodaeth ddisgrifiadol am y bobl sy'n cael eu hastudio.
• DILSYRWYDD: Mae cyfweliadau manwl yn galluogi'r rhai sy'n cael eu hastudio i ‘siarad drostynt eu hunain’; ni ydynt wedi'u cyfyngu gan gwestiynau penodedig.
• DILYSRWYDD:Drwy'r cyfweliad gall yr ymchwilydd archwilio'r ystyron y mae'r bobl sy'n cael eu hastudio yn eu rhoi i weithredoedd a bywyd yn gyffredinol.
ETHIGOL/DILYSRWYDD: Gan fod y cyfweliad yn cael ei gynnal dros gyfnod hwy, gall y cyfwelydd ddatblygu empathi a verstehen â'r bobl sy'n destun y gwaith ymchwil.
• ETHIGOL: Gellir trafod materion sensitif wrth i ymddiriedaeth ddatblygu.
• Gall y cyfwelydd weld ffurfiau cyfathrebu dieiriau yn y ffordd y mae'r sawl y mae'n ei gyfweld yn cyflwyno ei hun.
• Mae'r data'n fwy dilys na'r hyn a geir drwy ddulliau meintiol.
• Bydd cyfeirio at yr eitem.- cynnal cyfweliadau gyda 30 o aelodau/cyn aelodau o’r gang er mwyn sicrhau dealltwriaeth ansoddol
• Unrhyw bwynt perthnasol arall.
Hodkinson - Goths
Aeth Caroline Gatrell (2004) ati i ddefnyddio cyfweliadau anstrwythedig i gasglu data ansoddol ar mamau oedd yn gweithio.
Laud Humphreys (1970) - Heb ystyeid materion ethigol
Cymdeithasegwyr
Gan gyfeirio at yr eitem ac astudiaethau cymdeithasegol, trafodwch gryfderau a gwendidau cyfweliadau lled-strwythuredig. [20]
cynhyrchu data ansoddol yn bennaf | trawsgrifio'r data a gasglwyd | datblygu empathi | Eileen Barker |
gellir eu defnyddio ar y cyd â dulliau meintiol | Hyblygrwydd: | trafod gweithgareddau/materion sensitif | Zoe James |
archwilio'r ystyron | data yn fwy dilys na dulliau megis holiaduron | cyfeiriad at astudiaethau a ddefnyddiwyd | Nayak |
| | | Archer |
Cymharedd- diffyg dibynadwyedd |
Diffyg trylwyredd gwyddonol; Popper |
Ymarefol- llawer iawn o amser a gallant fod yn gostus, |
gwneud nodiadau fod yn heriol |
effaith y cyfwelydd |
dymunolrwydd cymdeithasol |
trawsgrifio'r gwybodaeth - gall hyn gymryd oriau |
Pob pwynt werth - 1 MARC