James Dyson
Bywgraffiad a Hanes James Dyson
BYWGRAFFIAD - James Dyson: Y Stori ‐ Roedd James Dyson yn hwfro ei dŷ pan sylweddolodd bod ei beiriant yn colli sugnad ac yn arafu. Roedd o wedi hyfforddi fel dylunydd diwydiannol, felly aeth ati i weithio a newid technoleg y peiriant glanhau er mwyn gwella’r broblem. Fodd bynnag, nid dyma ei unig her. Pymtheg mlynedd a mwy na 5,000 o brototeipiau yn ddiweddarach, lansiodd Dyson Limited i gynhyrchu ei ddyluniad pan doedd yr un gwneuthurwr arall eisiau mentro. Mae’n deimlad rhwystredig, pan mae rhywbeth rydych chi’n defnyddio pob dydd yn torri. Rydych chi’n dyheu am rywun i ddatrys y broblem. Dyma mae James Dyson yn ei wneud. Mae o’n ddyn sy’n hoffi gwella pethau. Ynghyd â’i dîm ymchwil mae o wedi datblygu cynnyrch sydd wedi cyflawni gwerthiant o dros $10 biliwn dros y byd. Yn 1978, wrth hwfro ei dŷ, sylweddolodd James Dyson bod bag ei beiriant glanhau yn colli pwer sugno yn gyson. Sylweddolodd bod y llwch yn atal llif yr aer i’r bag, felly roedd sugnad yr hwfer yn disgyn yn gyflym. Dechreuodd weithio i ddatrys y broblem. Pum mlynedd a 5,127 o brototeipiau yn ddiweddarach, daeth y peiriant glanhau heb fag cyclonic cyntaf yn y byd. Cynigiodd James Dyson ei ddyfais i brif wneuthurwyr. Cafodd ei wrthod un wrth un, oherwydd nad oeddynt â diddordeb mewn technoleg newydd. Ymddengys eu bod yn benderfynol o barhau i werthu bagiau gwerth $500 miliwn y flwyddyn. Yn ddiweddarach, dywedodd is-lywydd Hoover i Ewrop, Mike Rutter, ar deledu cenedlaethol, "I do regret that Hoover as a company did not take the product technology off Dyson; it would have lain on the shelf and not been used." Cerrig Milltir: 1978 daeth James ar draws y syniad o beiriant glanhau heb fag tra roedd o’n adnewyddu ei dŷ. 1979 Treuliodd bum mlynedd yn datblygu’r peiriant glanhau, ac adeiladodd 5,127 prototeip o’r Dual Cyclone™ .
James Dyson
1981 Ffeilio Cais Patent
1982 Treuliodd James Dyson ddwy flynedd yn chwilio am rywun i drwyddedu’r cynnyrch.
1983 Cynhyrchodd Dyson ei brototeip hwfer cyntaf, peiriant pinc o’r enw’r G‐Force
1985 Aeth Dyson a’i gynnyrch i Tsiapan i gyd-weithio gyda chwmni sy’n mewnforio Filofax.
1986 Mae’r Siapaniaid yn dechrau gwerthu’r G‐Force.
1992 Patent # 5,090,976 (UDA) a gyhoeddwyd yn 1992 ar gyfer hwfer Dual Cyclonic.
1995 Dyson DC01 yw’r hwfer sy’n gwerthu orau yn y Deyrnas Unedig.
1995 Lansiwyd y Dyson Dual Cyclone™ DC02, a’r ail werthwr uchaf.
1996 Lansiwyd DC02 Absolute, y cyntaf i gynnwys hidliad HEPA (filtration) a sgrin lladd baceria.
1997 Cyhoeddwyd hunangofiant James Dyson 'Against the Odds'
2001 Technoleg newydd Root8 Cyclone yw’r hwfer ar ei sefyll (upright) mwyaf pwerus ar y farchnad.
2005 The Dyson DC15 (The Ball™) yn newid olwynion confensiynol gyda phêl.
2002 Mae Dyson yn mynd a’r hwfer sy’n gwerthu orau yng Ngorllewin Ewrop i’r Unol Daleithiau.
2004 Mae Dyson yn lawnsio’r peiriant golchi twin drum.
2007 Lansiwyd y ffan heb lafn.
2008 Lansiwyd y Sychwr Dwylo Airblade.
2010 Hwfer cludadwy (portable).
2016 Sychwr gwallt Airblade
Gwaith:
● Adnabyddus am ei ddyluniau hwfer, berfa a Sea Truck.
● Mae’r weithred cyclonic yn arwain at y hwfer heb fag.
● Parhau i ddylunio hyd heddiw, Airblade yw ei gysyniad diweddaraf.
● Un o’r dylunwyr cyntaf i ddefnyddio’r bêl fel olwyn.
Prif Nodweddion:
● Cynnyrch unigryw yn y farchnad heddiw, tryloyw a phlastig lliwgar sy’n farc masnachol (trade mark) o’i waith.
● Product’s ‘technology/engineering’ is not hidden from user.
● Ddim yn ofni datblygu syniad sy’n bodoli neu gynnyrch ac edrych arno o ongl wahanol.
Dylanwad:
● Dechreuodd yn y Deyrnas Unedig, dechrau ei fusnes ei hun. (Credu ynddo ei hun)
● Ennill y cwmnioedd corfforaethol mawr.
● Mae’r syniad cyn-bwysicach a’r technoleg. Cysyniad y bêl a ddefnyddir yn yr hwfer ‘Dyson Ball’.
Amrediad a Llinell Amser Cynnyrch
Ball barrow
1974
Glanhawr G-force
1983
DC01
1993
CR01
2000
Yr hwfer cyntaf i’w werthu o dan yr enw Dyson oedd DA001, lansiwyd yn, mai 1993. Roedd o’n fodel a ddefnyddio’r patent "Dual Cyclone" technoleg oedd wedi ei wneud yn Chippenham, Lloegr.
Amrediad a Llinell Amser Cynnyrch
DC07
2001
Root Cyclone technology
Airblade
2006
Digital motor
2006
DC16 – Dyson Handheld
DC 16
2007
Amrediad a Llinell Amser Cynnyrch
Air Multiplier
2009
Sychwr Gwallt
360 Eye
2014
Mae sychwr gwallt Dyson wedi ei beirnianu i amddiffyn gwallt rhag niwed gwres eithafol.
Mwy o Fideos
James Dyson a methiant - Mae’n fwy na syniad. Mae’r golygu profi, newid a gwella cydsyniad hyd nes mae’n gweithio. Mae creu dyfais yn golygu peidio â rhoi’r gorau iddi er gwaethaf sawl methiant. Mae creu dyfais yn golygu cael yr agwedd gywir.
Datrys problemau mae eraill wedi eu hanwybyddu yw Dyson. Mae ein peirianwyr yn dyfeisio trwy rwystredigaeth. Maen nhw’n dechrau gyda syniad, ei ddatblygu, ei brofi, methiant -- ac maen nhw’n ceisio eto. Mae pobl yn Dyson yn angerddol am greu technoleg newydd sy’n gweithio -- perfformio’n well na’r cwmnioedd sy’n cystadlu yn erbyn Dyson. Rydyn ni’n dathlu methiant ac annog pobl i brofi pethau sydd heb ei wneud eisoes. Dyma sy’n ein cyffroi. Os nad ydych chi’n ofni methiant a gyda’r awydd i wneud pethau’n wahanol, yna gall gyrfa yn Dyson eich gweddu chi.
Fideos JAMES DYSON
Hysbyseb a rhaglen ddogfen sy’n dangos y prif faterion mae Dyson yn ceisio datrys gyda’i ddyluniadau
Rhaglen Ddogfen - yn dangos hanes a dyfeisiau newydd hyd at tua 2010
Dyson yn egluro egwyddorion y Bladeless Fan
Hysbyseb Dyson 360 Eye
Dyson yn egluro’r 360 Eye
Sychwr Gwallt Dyson
Cwestiynau i awgrymu ac arwain eich ymateb i’r asesiad:
Paratoi ar gyfer Arholiad
Ysgrifennwch draethawd byr ar James Dyson a chwmni Dyson.
Disgrifiwch hanes y cwmni gan gynnwys amrediad a’u cynnyrch, dyfeisiau newydd allweddol y cwmni a thechnoleg.
Gwefannau
Datblygiadau Y Dyfodol
sôn am geir Dyson