Sesiwn Fyw Safon Uwch
Cymraeg
Trosolwg o’r sesiynau
Beth yw cynghanedd?
Canu Caeth
Mae’r rheolau’r gynghanedd yn eitha cymhleth. Dyna pam mae o’n cael ei ddisgrifio fel ‘Canu Caeth’ – a pam y disgrifiodd yr Archdderwydd Mererid Hopwood o fel ‘singing in chains’.
Mae dysgu cynganeddu ychydig bach fel dysgu iaith neu offeryn.
Odli
Dau gi bach yn mynd i’r coed
Esgid newydd am bob___
Dau gi bach yn dwad adre
Wedi colli un o’i ____
Dyma beth yw odl!
Cyfateb Cytseiniaid�
Mae geiriau sydd efo’r un cytseiniad ynddyn nhw yn perthyn i’w gilydd
e.e Byd. Byw. Bedd. Bwyd/Gwaed. Gwawr. Gwin/ Croes. Craith. Crist
Y mwyaf o gytseiniaid sy’n cael eu hateb y cryfaf ydi’r berthynas.
e.e. Gwario. Gwirion/ Bore. Barod/ Gofyn. Argyfwng
Acen a Phwyslais
Efo geiriau un sill (fel ‘dydd’, ‘pawb’, ‘tro’) mond un lle sydd i roi’r pwyslais.
Ond lle mae’r pwyslais gyda geiriau gyda mwy nag un sillaf – geiriau fel ‘geiriau’, ‘ysgol’. ‘Arholiad’. ‘arholiadau’?
Yn y Gymraeg mae’r pwyslais mewn geiriau gyda mwy nag un sillaf fel arfer yn glanio ar y sillaf olaf ond un.
Ond mae na eithriadau e.e. ‘Cymraeg’ ‘Rhyddhad.’
Lle mae’r acen yn gorffwys yn eich enw chi?
Cynghanedd Groes
Mae’r gynghanedd groes yn rhannu pob llinell yn ddwy ran. Mae’r cytseiniaid, sef y llythrennau caled (p, t,c) ar ddechrau’r llinell yn cael eu hail-adrodd yn yr ail hanner.
(Does dim rhaid i’r lythyren ar ddiwedd y rhan gynta gael ei hateb ar y diwedd)
Dirgelwch ydi’r galon
d rg l (ch) / d r g l (n)
Ydach chi’n clywed yr acen yn glanio ar ‘Dirgelwch’ a ‘galon’?
Cynghanedd Draws
Mae’r gynghanedd draws yn debyg i’r gynghanedd groes – ond bod gennych chi’r hawl i neidio dros rhai llythrenau yng nghanol y llinell.
Y bardd trwm dan bridd tramor
b r dd tr m /d n br dd trm (r)
Weithiau mae bardd yn defnyddio’r gynghanedd draws i neidio dros lawer o lythrennau!
Cynghanedd Sain
Mae’r gynghanedd Sain yn rhannu yn dair rhan.
Mae gair ar ddiwedd rhan un yn odli gyda gair ar ddiwedd rhan dau, ac mae’r gair ar ddiwedd rhan dau yn cynganeddu efo gair ar ddiwedd rhan tri.
Dau gariad ar doriad y dydd
Fe’i gwelais, estynais stôl
Cynghanedd Lusg
Mae’r gynghanedd yma yn rhannu yn ddwy ran. Mae’r gair ar ddiwedd y rhan cyntaf yn odli gyda’r sillaf olaf ond un yn yr ail ran.
Yn rehab o dan label
Cawsom wlad i’w chadw
Cymraeg
Safon Uwch
Cefndir Dafydd ap Gwilym
Y Cywyddau
Y Chwedlau, Yr Hengerdd a’r Cywyddau – Arholiad ysgrifenedig
Cefndir y gerdd a’r bardd
Arddull y gerdd
traethawd
traethawd
¾ awr
Cefndir Dafydd ap Gwilym
Barddoni rhwng 1340-1370
Uchelwr
Cymeriad lliwgar
Geni: Brogynin, Llanbadarn Fawr
Bardd natur a serch
Teulu dylanwadol yn y Deheubarth.
Prif noddwr – Ifor Hael o Went
Merch di-enw
Morfudd?
Morfudd =
Beirdd y Tywysogion |
Bardd yn canu i un person mewn un lleoliad. |
1282 |
Diwedd cyfnod y tywysogion a diwedd y system nawdd bresennol. |
Y System Nawdd
Beirdd yr Uchelwyr
Uchelwyr yn noddi’r beirdd ac yn dechrau barddoni eu hunain
Clera
1282 – Cwymp y Tywysogion
Diwedd nawdd
Dosbarth newydd o dirfeddianwyr
Beirdd y Tywysogion
2 ganrif lewyrchus
Tywysogion yn noddi’r beirdd
Dylanwadau
Cymreig
Moeswers
Moeswers = stori bach a ddefnyddir i ddangos peryglon
arferion drwg.
Un o’r prif ddylanwadau ar y cywydd hwn.
Beth ydy moeswers?
Llun: http://www.flickr.com/photos/stmarysmemphis/3383062009/
Moeswers
Pregethwyr yr Oesoedd Canol yn adrodd moeswers yn eu pregethau.
Prif bechod Dafydd oedd balchder a chwant.
Moeswers
Nid yw Trafferth mewn Tafarn yn foeswers ddifrifol.
Parodi ar y foeswers Ganoloesol ydyw.
Cerdd Serch
- Awdlau serch Hywel ab Owain
- Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y carwr dioddefus.
- Dafydd yn gyfarwydd â cherddi Hywel ab
Owain .
Beirdd y Glêr
Ym mhle gallai Dafydd fod wedi dod ar draws cerddi Beirdd y Glêr?
Dylanwadau
Ffrengig
Fabliaux
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y fabliaux a Trafferth mewn Tafarn?
Trwbadwriaid a’r Trwferiaid
Yr Alba
Camp Dafydd ap Gwilym
Dafydd ap Gwilym = UNIGRYW!!!
Y gallu i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl ddylanwadau hyn.
Canlyniad = gwaith cwbl newydd a ffres
Dyma un o gywyddau enwocaf a mwyaf doniol Dafydd ap Gwilym - mae ei naratif bywiog a’i defnydd helaeth o hiwmor yn sicr yn apelio at gynulleidfaoedd modern, fel ag y byddai wedi apelio at gynulleidfa cyfnod Dafydd ap Gwilym. Cywydd storïol ydyw gyda’r bardd yn adrodd hanes ei anturiaethau. Fel y dywed Gwyn Thomas, “Dyna inni stori ddigri gyffrous ar gân.” Gwelir hyn yn glir yn y llinell gyntaf a thrwy gyfrwng yr holl sangiadau, , megis “tru tremyn” ac “alar fu.” Y bwriad oedd rhoi difyrrwch a mwynhad i’r gynulleidfa. Cerdd i’w pherfformio o flaen cynulleidfa yw hi gyda’r bardd, fwy na thebyg, yn gwneud pob math o ystumiau corfforol i ddwysáu effaith ei eiriau. Mae’n debyg y byddai’r gynulleidfa yn gyfarwydd gydag arddull yn llawn torymadroddi ac y bydden nhw’n gallu dilyn prif rediad yr ystyr yn ddigon rhwydd. Mae’r hunan-wawdio a geir yma yn pwysleisio’r berthynas agos rhyngddo fe a’i gynulleidfa. Roedden nhw’n deall ei gilydd i’r dim.
Cymraeg
Safon Uwch
Gwerthfawrogi Rhyddiaith
Cam 2 – Yr Adroddwr
��Cam 3– Awyrgylch
��Cam 4– Ieithwedd
Geiriau cyffredin, bob dydd, geiriau llafar, tafodieithol, bratiaith
Realistig, cyfarwydd
��Cam 5– Nodweddion Arddull
��Cam 6– Themâu
�����Beth yw pwynt cyfeiriadau synoptig?
�����Perthynas Mam a Phlentyn
�����Pam synoptig?
Cwestiynau?