Cymraeg
Uwch Gyfrannol
Siwan
Pwysigrwydd Act 3
Cynnwys y sesiynau:
Cymraeg Uwch Gyfrannol
Sesiwn 1 – ‘Siwan’ Cyfeiriadaeth a Delweddau
Sesiwn 2 – ‘Siwan’ Pwysigrwydd Act 3
Sesiwn 3 – Defnyddio Iaith – adolygu a chywiro
Cymraeg Safon Uwch
Sesiwn 1 – Adnabod y Gynghanedd
Sesiwn 2 – Cefndir Dafydd ap Gwilym a Trafferth mewn Tafarn
Sesiwn 3 – Gwerthfawrogi Rhyddiaith
Uwch Gyfrannol: Cymraeg
Nod y sesiwn–Trafod pwysigrwydd Act 3 yn y ddrama‘Siwan’.
Pethau i’w cofio
Cyffes cariad Llywelyn – tud 80
Arglwyddes, doedd ein priodas ni’n ddim byd ond gwleidyddiaeth ac roedd gwahaniaeth o bum mlynedd ar hugain rhyngom ni o ran oed. Wel, mae hynny’n digwydd yn aml i bobl fel ni, dioddef ac adeiladu gyda’n gilydd wrth i ni greu cytundeb rhwng gwledydd.
Cyffes cariad Llywelyn – tud 80
Stopiodd dy nerfusrwydd a thyfodd dy hyder, ac roeddwn i’n teimlo fel petaet ti’n gallu fy nioddef i o gwmpas y lle yn y cefndir. Addolais i ti o bell, heb ddweud bron dim. Stopiais fy hun rhag dweud geiriau cariadus a thynnais i ti i mewn i fy mywyd trwy ddilyn dy gyngor wrth drefnu fy nheulu a’r deyrnas. Rhoddais bob cyfle i ti ddefnyddio dy ymennydd gwych.
Dw i’n cofio pan ddest ti adre ar ôl i ti berswadio dy dad i dynnu’n ôl rhag ymosod ymhellach arnom. Roeddet ti’n bymtheg oed a newydd gael Dafydd ddeufis ynghynt. Dest ti adre wedi achub fy mywyd a sicrhau llwyddiant tywysogaeth Dafydd. Y noson honno ti wnaeth fy nghofleidio i a doeddwn i ddim yn gallu siarad oherwydd ‘mod i mor hapus. Cedwais reolaeth arnaf i fy hun; –
Ar ôl y noson honno roeddwn i’n llwyddiannus yn erbyn fy ngelynion, cymerais diroedd Ceredigion, Powys a Deheubarth yn rhan o’r deyrnas, a hynny i gyd i Dafydd yn unig. Roedd hyn yn erbyn ein traddodiad ni’r Cymry, ac er i mi ddigio fy nheulu, mynnais fod Dafydd a’i ach bur yn cael ei gydnabod gan frenin Lloegr a’r Pab.
Gwnes hyn i hyn i gyd er mwyn dangos cymaint oeddwn i’n dy garu di.
Dyfyniadau Allweddol
Dyfyniadau Allweddol