1 of 22

Astudiaethau Crefyddol UG

-Athroniaeth

2 of 22

Nod ac Amcan

​

  • I atgyfnerthu eich dealltwriaeth o sut mae Irenaeus yn ymateb i broblem drygioni a dioddefaint
  • I ddeall sut i ateb cwestiwn gwerthuso ar y pwnc yma drwy edrych ar rai o gryfderau a gwendidau y theodiciaeth

Ymateb i broblem Drygioni a Dioddefaint

-Theodiciaeth Irenaeus

3 of 22

4 of 22

Theodiciaeth Irenaeus

“Delw” Duw “Llun” Duw

‘Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni”’ Genesis 1:26

- “Dyffryn Creu Eneidiau”

- Pellter Epistemig

- Cyfiawnhad eschatolegol (bydd Duw yn achub pob person o ddioddefaint (hyd yn oed ar ôl marw))

Beth yw ystyr “Theodiciaeth”? Theodiciaeth yw dadl sydd yn ceisio amddiffyn Duw yng ngwydd drygioni a dioddefaint yn y byd

5 of 22

Theodiciaeth Irenaeus 130-202 oc (Archesgob Lyon)

  • Yn wahanol i Awstin, roedd Irenaeus yn credu bod drygioni’n bodoli yn fwriadol yn y byd, mae’r rhan o drefn y creu oherwydd bod Duw hollgariadus yn fwriadol wedi’i osod yno am reswm
  • Y rheswm hwn yw er mwyn datblygu rhinweddau mewn bodau dynol a fyddai’n ein gwneud yn berffaith yn ysbrydol.
  • FELLY, mae Duw WEDI creu drygioni a dioddefaint, ac y mae hwnnw yma am reswm
  • Tydi Duw ddim wedi creu pobl i fod yn berffaith o’r dechrau, mae tasg gan bob person i berffeithio eu hunain tra eu bod ar y ddaear

​

Mae syniadau Irenaeus wedi selio ar ei ddehongliad o Genesis 1:26

‘Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni”’

6 of 22

Theodiciaeth Irenaeus

“Delw” Duw “Llun” Duw

‘Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni”’ Genesis 1:26

7 of 22

‘Dywedodd Duw, “Gwnawn ddyn ar ein delw, yn ôl ein llun ni”’�

Ar lun a delw

  • Gwelodd Irenaeus y bywyd hwn fel lle i fodau dynol i ddatblygu eu potensial ac i dyfu a datblygu o fod ar “ddelw” Duw i fod yn debycach i berffeithrwydd Dduw sef “llun” Duw
  • . Mae Irenaeus yn gweld datblygiad yn y geiriau “delw” a “llun”. Mae pobl yn dod i’r byd ar “ddelw” Duw ac i ddefnyddio bywyd fel ffordd o wella a pherffeithio eu hunain i ddod ar “lun” Duw (h.y. i fod yn agosach at Dduw ac yn debycach iddo!)
  • Pan mae pobl yn dod i’r byd, maent yn bell oddi wrth Duw. Maent fod i ddefnyddio profiadau bywyd fel ffordd o ddod yn debycach i Dduw ac i uno gydag ef erbyn iddynt adael y byd. Rydym i aeddfedu’n ysbrydol tra’n bod ni yma ar y ddaear. Yn union fel ma rhiant yn rhoi rhyddid i blentyn gan adael iddynt ddioddef weithiau er mwyn ei ddysgu a pherffeithio, mae Duw yn gwneud yr un peth gyda’i blant Ef (pobl).

Sut?

  • Byddent yn gwneud hyn wrth wynebu’r problemau amrywiol a’r penderfyniadau maent yn gwneud wrth wynebu’r heriau hyn. I bob penderfyniad moesol sydd yn cael ei wynebu lle penderfyniad da yn cael ei wneud yn gwbl rhydd, yna mae’r unigolyn hwnnw’n datblygu aeddfedrwydd ysbrydol. Mae ein penderfyniadau mewn bywyd ddefnyddio ewyllys rydd i wneud penderfyniadau da yn datblygu a pherffeiddio ein moesoldeb
  • Yn amlwg, byddai rhai pobl ddim yn gwneud penderfyniadau da, ac felly dyma pam mae drygioni moesol yn y byd (fel wnaeth Adda ac Efa ei brofi)

​

 

​

8 of 22

Datbygiad Drygioni Moesol

  • Mae drygioni’n agwedd angenrheidiol mewn bywyd sydd yn rhoi’r cyfle i fodau dynol i ddatblygu a pherffeithio (symud o “delw” i “llun” Duw)
  • Heb ddrygioni, ni fyddai gwerth i’r penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud. Er enghraifft ni fyddai person yn gwerthfawrogi bod yn iach heblaw ei fod wedi bod yn sâl. Ni all rhinweddau fel dewrder, amynedd a dyfal barhad cael eu datblygu os nad oes her mewn bywyd er mwyn eu datblygu. I Irenaeus roedd gallu bodau dynol i ddewis yn gwbl rhydd i wneud daioni yn allweddol er mwyn cyflawni pwrpas Duw i’w greadigaeth. Mae Irenaeus yn galw hyn yn ddaioni eilradd, sef y daioni moesol sydd yn dod trwy wrthsefyll a goresgyn drygioni a pherffeithio ein hunain drwy wneud dewisiadau da.
  • Tydi Duw ddim yn gallu stopio pobl rhag gwneud penderfyniadau drwg oherwydd fod gennym ewyllys rhydd – dyma ble daw drygioni moesol

9 of 22

Cydweddiad

  • Mae Irenaeus defnyddio y cydweddiad o Dduw fel cerflynydd yn gweithio gyda bodau dynol.
  • Dylid gadael Duw i’n ffurfio i fod yn berffaith trwy wneud penderfyniadau cywir yn ystod ein bywydau

Gobaith

  • Mae Irenaeus yn gorffen ei theodiciaeth gyda nodyn gobeithiol
  • Gan fod Duw yn dduw cyfiawn a hollgariadus, bydd yn dangos trugaredd i bawb.
  • Bydd y rhai wnaeth fyw yn dda ar y ddaear (dod yn “llun” Duw) yn mynd i’r nefoedd.
  • Bydd y rhai wnaeth wneud penderfyniadau drwg yn cael eu cosbi yn uffern, ond nid yn dragwyddol. Byddent yn cael eu puro ac yn y diwedd yn perffeithio i ddod ar “llun “ Duw
  • Cyfiawnhad Eschatolegol – bydd PAWB yn y diwedd yn cael eu hachub gan Dduw ar yn perffeithio i fod ar “llun” Duw, efallai ddim yn y bywyd yma, ond yn y bywyd nesaf.

10 of 22

  • Datblygodd John Hick ymhellach ar theodiciaeth Irenaeus yn ei lyfr

“Evil and the God of Love” (1966).

  • Disgrifiodd theodiciaeth Irenaeus fel theodiciaeth sydd yn datblygu’r enaid.

Mae’r byd yn cael ei weld fel dyffryn ble gellir datblygu a pherffeiddio’r enaid

​

  • Pellter Epistemig – oherwydd ewyllys rydd, roedd rhai i Dduw gadw pellter oddi wrth dynoliaeth er mwyn iddynt wneud y penderfyniadau cywir. Roedd hyn yn rhoi ryddid i fodau dynol i ymateb i Dduw yn eu ffordd nhw eu hunain. Ni all Duw fod wedi creu bodau dynol ysbrydol berffaith oherwydd bod daioni sydd yn cael ei ddatblygu trwy ddewis rhydd llawer mwy gwerthfawr na daioni sydd wedi’i creu yn barod. Rhaid rhoi cyfle i bobl ddod ddeall ac adnabod Duw ac agosau ato (dod ar “lun” Duw)
  • Cytunodd Hick bod trugaredd a chariad Duw yn gadael i fodau dynol i gwblhau’r broses o ddatblygu perffeithrwydd ysbrydol – os nad yn y bywyd hwn yn y nesaf.
  • Cyfiawnhad Eschatolegol – Y Nefoedd yw’r nod i bawb.
  • Mae Duw yn defnyddio’r bywyd yma i fowldio pobl i fod yn bobl gwell. Bydd y rhai sydd yn gwrthod Duw yn cael eu cosbi ar ôl marw. Ond mae Duw yn fodlon achub pobl o ddioddefaint yn y bywyd nesaf. Caiff y bobl hyn gyfle i gael maddeuant hyd yn oed ar ôl marw. Tydi rhai pobl ddim yn cael cyfle i berffeithio’r enaid yn ystod eu bywyd ar y ddaear. Felly, mae Duw yn dda a chyfiawn drwy ganiatau iddynt berffeithio yn y bywyd nesaf.
  • Drygioni naturiol – ni allai Duw fod wedi creu byd perffaith heb ddrygioni naturiol – byddai bywyd yn rhy hawdd ac ni fyddai pobl yn gallu cael siawns i berffeithio’r enaid.

John Hick Dyffryn Creu Eneidiau

11 of 22

Ydyn

Nac Ydynt

​

  • Mae addasiadau modern ar y theodiciaeth wedi helpu pobl i weld dilysrwydd yn theodiciaeth Irenaeus,
  • Mae’r syniad o amherffeithrwydd yn datblygu i berffeithrwydd yn cydfynd gyda theoriau gwyddonol o berffeithio drwy esblygiad a detholiad naturiol
  • Mae datblygu aeddfedrwydd ysbrydol yn atseinio cred nifer o grefyddau gwahanol nid yn unig Cristnogaeth.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

 A yw theodiciaethau sy'n seiliedig ar un Irenaeus yn gredadwy yn yr 21ain ganrif.

Problem - Dibynnu os ydych yn credu fod Genesis 1:26 yn hanes neu ddim

12 of 22

Ydyn

Nac Ydynt

​

​

​

​

​

​

​

​

​

Heriau i Theodiciaeth Irenaeus

*Ni ddylai dioddefaint ddod o Dduw hollgariadus. Dywed Dewi Z Phillips na all achosi niwed i unrhywbeth gael ei gyfiawnhau. Ni ddylai Duw Hollgariadus ddefnyddio drygioni fel offeryn i berffeithio pobl

*Dydy derbyn gwobr o berffeithrwydd ysbrydol ddim yn gwneud iawn am y dioddefaint dwys mae rhai yn wynebu.

*Dydy dioddefaint ddim yn cael ei rannu’n deg – awgryma hyn anghysondeb mewn mecanwaith perffeithrwydd Duw. Pam fod rhai pobl yn dioddef mwy nag eraill?

*Os mae pob bod dynol yn mynd i gyrraedd perffeithrwydd yn y pendraw (heb gymryd i ystyriaeth yr hyn maent wedi gwneud yn yn y gorffennol), sut mae hyn yn annog ymddygiad moesol da yma nawr? Beth yw pwynt ewyllys rydd?

*Mae’r cysyniad o iachawdwriaeth gyffredinol i bawb yn tanseilio ymdrech bodau dynol i ddatblygu aeddfedrwydd eu hunain. Os ydy Duw yn y pen draw yn mynd i osod pawb mewn stad o berffeithrwydd, onid yw hyn yn dangos bod ewyllys rydd wedi’i gyfyngu? h.y does gan fodau dynol ddim y rhyddid i wrthod perffeithio’n ysbrydol? Os ydi pawb yn mynd i gael eu hachub yn y diwedd, yna mae Duw wedi gwneud y penderfyniad drosom!

* Os yw pawb yn cael maddeuant yn y diwedd, mae’n gwneud Iesu Grist yn ddi bwynt. Daeth Iesu i’r byd i gynnig maddeuant trwy gredu ynddo. Doedd dim angen i Iesu farw drostom os yw pawb yn cael maddeuant yn y diwedd beth bynnag!

*Mae dwyster y dioddefaint sydd yn cael eu profi yn gwneud y theodiciaeth i fod yn yn un sy’n torri’r enaid nid yn un sydd yn creu enaid. Mae dwyster y dioddefaint yn rhy fawr i’w weld fel peth da sy’n perffeithio pobl. Oni fyddai Duw wedi gallu dewis ffyrdd haws o berffeithio pobl.

*Marwolaethau cynamserol, sut mae’r unigolion sydd yn marw yn ifanc yn cyfle i berffeithio? (Ond mae cyfiawnhad eschatolegol yn ateb y ddadl yna)

 A yw theodiciaethau sy'n seiliedig ar un Irenaeus yn gredadwy yn yr 21ain ganrif.

Problem - Dibynnu os ydych yn credu fod Genesis 1:26 yn hanes neu ddim

13 of 22

Ydyn

Nac Ydynt

​

  • Mae addasiadau modern ar y theodiciaeth wedi helpu pobl i weld dilysrwydd yn theodiciaeth Irenaeus,
  • Mae’r syniad o amherffeithrwydd yn datblygu i berffeithrwydd yn cydfynd gyda theoriau gwyddonol o berffeithio drwy esblygiad a detholiad naturiol
  • Mae datblygu aeddfedrwydd ysbrydol yn atseinio cred nifer o grefyddau gwahanol nid yn unig Cristnogaeth.

​

​

​

​

​

​

​

​

Heriau i Theodiciaeth Irenaeus

*Ni ddylai dioddefaint ddod o Dduw hollgariadus. Dywed Dewi Z Phillips na all achosi niwed i unrhywbeth gael ei gyfiawnhau. Ni ddylai Duw Hollgariadus ddefnyddio drygioni fel offeryn i berffeithio pobl

*Dydy derbyn gwobr o berffeithrwydd ysbrydol ddim yn gwneud iawn am y dioddefaint dwys mae rhai yn wynebu.

*Dydy dioddefaint ddim yn cael ei rannu’n deg – awgryma hyn anghysondeb mewn mecanwaith perffeithrwydd Duw. Pam fod rhai pobl yn dioddef mwy nag eraill?

*Os mae pob bod dynol yn mynd i gyrraedd perffeithrwydd yn y pendraw (heb gymryd i ystyriaeth yr hyn maent wedi gwneud yn yn y gorffennol), sut mae hyn yn annog ymddygiad moesol da yma nawr? Beth yw pwynt ewyllys rydd?

*Mae’r cysyniad o iachawdwriaeth gyffredinol i bawb yn tanseilio ymdrech bodau dynol i ddatblygu aeddfedrwydd eu hunain. Os ydy Duw yn y pen draw yn mynd i osod pawb mewn stad o berffeithrwydd, onid yw hyn yn dangos bod ewyllys rydd wedi’i gyfyngu? h.y does gan fodau dynol ddim y rhyddid i wrthod perffeithio’n ysbrydol? Os ydi pawb yn mynd i gael eu hachub yn y diwedd, yna mae Duw wedi gwneud y penderfyniad drosom!

* Os yw pawb yn cael maddeuant yn y diwedd, mae’n gwneud Iesu Grist yn ddi bwynt. Daeth Iesu i’r byd i gynnig maddeuant trwy gredu ynddo. Doedd dim angen i Iesu farw drostom os yw pawb yn cael maddeuant yn y diwedd beth bynnag!

*Mae dwyster y dioddefaint sydd yn cael eu profi yn gwneud y theodiciaeth i fod yn yn un sy’n torri’r enaid nid yn un sydd yn creu enaid. Mae dwyster y dioddefaint yn rhy fawr i’w weld fel peth da sy’n perffeithio pobl. Oni fyddai Duw wedi gallu dewis ffyrdd haws o berffeithio pobl.

*Marwolaethau cynamserol, sut mae’r unigolion sydd yn marw yn ifanc yn cyfle i berffeithio? (Ond mae cyfiawnhad eschatolegol yn ateb y ddadl yna)

 A yw theodiciaethau sy'n seiliedig ar un Irenaeus yn gredadwy yn yr 21ain ganrif.

Problem - Dibynnu os ydych yn credu fod Genesis 1:26 yn hanes neu ddim

14 of 22

Pa nodweddion o dduw theistig clasurol mae Irenaeus yn ceisio eu hamddiffyn?

  • Hollalluog?
  • Hollwybodus?
  • Trugarog?
  • Hollgariadus?
  • Creawdwr?
  • Teg (fair)?
  • Cyfiawn/da (righteous)?

​

15 of 22

Llwyddo

Dim yn llwyddo

- Duw Hollgariadus – wedi rhoi dioddefaint i ni allu gwella pherffeithio er mwyn dod yn agosach at Dduw a gallu mynd I’r nefoedd (OND Duw caredig? Teg? A fyddai Duw perffaith yn gallu gwneud hyn heb ddioddef?)

- Duw Trugaredd – John Hick - mae Duw yn rhoi cyfle I bawb gael eu hachub – hyd yn oed ar ol marwolaeth

- Duw trugarol a hollgariadus – fe fydd pobl drwg yn mynd i’r nefoedd yn y diwedd

​

​

  1. Duw Cyfiawn/teg – fe fydd pobl drwg yn mynd i’r nefoedd yn y diwedd. Ble mae’r ewyllys rydd roddodd Duw i ni – dylai pechaduriaid gael yr hawl i ddewis uffern!
  2. Tydi rhoi maddeuant i bobl “ddrwg” ddim yn deg – Duw cyfiawn a theg? Pam ddylen ni fyw yn dda os ydym yn cael maddeuant beth bynnag?Beth yw’r wobr o fyw yn “dda”
  3. Duw Cyfiawn/teg – pam mae rhai pobl yn dioddef mwy na’r lleill
  4. Ni ddylai dioddefaint ddod o Dduw hollgariadus. Dywed Dewi Z Phillips na all achosi niwed i unrhywbeth gael ei gyfiawnhau.
  5. Iesu yw Mab Duw – beth oedd pwynt ei ddioddefaint/aberth os yw pawb yn cael eu hachub yn y pen draw?
  6. Dioddefaint dwys – yn torri’r enaid, dim yn ei ffurfio – Duw cas dim Duw cariadus

​

I ba raddau y mae theodiciaeth Irenaeus yn llwyddo i amddiffyn Duw Theistiaeth Glasurol.

Problem - Dibynnu os ydych yn credu fod Genesis 1:26 yn hanes neu ddim. Mae ei ddadl wedi ei sylfaenu ar y frawddeg yma. Os nad yw’n hanesyddol wir, yna nid yw yn amddiffyn Duw

Duw Theistiaeth Glasurol = Hollalluog, Hollwybodus, Hollgariadus, Maddeugar, Cyfiawn, Creawdwr, Trugarol

16 of 22

4. (b) 'Nid yw theodiciaethau sy'n seiliedig ar un Irenaeus wedi llwyddo i ymateb i broblem drygioni erioed.’

Gwerthuswch y safbwynt hwn. [AA2 30]

​

 Mae hygrededd yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys ar gyfer pwy y gall y theodiciaethau fod yn gredadwy. Os mai ar gyfer credinwyr crefyddol o'r traddodiad Cristnogol yr ateb yna mae'r hygrededd yn debygol o fod yn llawer uwch nag y byddai i unrhyw un arall y tu allan i'r traddodiad hwnnw.

 Gallai hygrededd yr adnod yn y Beibl fel ffaith hanesyddol hefyd beri problem o ran hygrededd. Os derbynnir bod bodau dynol yn wir wedi’u gwneud yn ‘imago Dei’ yna byddai’r dilyniant hwn o ddelwedd i debyg yn hybu hygrededd, gan fod pob crefydd yn dysgu bod angen i fodau dynol ddatblygu eu haeddfedrwydd ysbrydol – yn aml trwy dreialon a gorthrymderau personol – yn enwedig rhai moesol.Gallai theodiciaeth sy'n seiliedig ar un Irenaeus, o'i derbyn, achosi i bobl gwestiynu natur holldrugarog Duw os mai pwrpas bywyd yw tyfu drwy ddioddef. Does bosib y byddai Duw o'r fath yn meddwl am ddull mwy tosturiol i alluogi Ei greadigaeth i dyfu a datblygu tuag Ato?

 Nid yw'r syniad o ddioddef yn arwain at ddatblygiad moesol/ysbrydol yn brofiad hollgyffredinol. Mae'n bosibl i rai unigolion ddatblygu ac i eraill beidio â gwneud hynny. Mae rhai mathau o ddioddefaint yn achosi marwolaeth yn hytrach na datblygiad. Mae unigolion eraill yn datblygu rhinweddau moesol ac aeddfedrwydd ysbrydol heb ddioddef gormod.

 Nid yw'r theodiciaeth yn ystyried y lefel uchel o ddrygioni/dioddefaint y mae rhai yn ei brofi; nid yw'n datrys dioddefaint ymhlith anifeiliaid; nid yw'n esbonio pam mae dioddefaint wedi'i ddosbarthu'n annheg ychwaith.

 Mae'r cysyniad o iachawdwriaeth hollgyffredinol yn foesol anghyson – os yw pawb yn mynd i'r nefoedd yn y pen draw nid oes cymhelliant i wneud daioni yn hytrach na drygioni.

​

​

 Fodd bynnag, gall rhai ystyried bod y theodiciaeth sy'n seiliedig ar un Irenaeus yn darparu pwrpas ar gyfer dioddefaint. Mae'r theodiciaeth yn hyrwyddo twf/datblygiad dynol i gyflawni'r rhinwedd foesol fel nod allweddol mewn bywyd ac mae'n annog unigolion i ymddwyn yn gadarnhaol mewn cymdeithas

 Yn wahanol i Awstin, mae cysyniad Irenaeus o ddatblygiad yn cydweddu â'r farn wyddonol am esblygiad.

 Mae'r theodiciaeth hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb dynol gwirioneddol, sydd felly'n parchu'r athrawiaeth sy'n ymwneud ag ewyllys rydd ddynol wirioneddol

 Mae'r theodiciaeth hefyd yn cynnal cred mewn bywyd ar ôl marwolaeth a phwrpas hynny.

17 of 22

  • 3. (a) Eglurwch sut mae theodiciaethau teip Ireneaidd yn ymateb i broblem drygioni. [AA1 30]

​

  • Mae theodiciaethau Ireneaidd yn seiliedig ar Genesis 1:26 ‘Gadewch inni wneud dyn yn ein delw ni yn ôl ein lun Ef.’ Ac mae’n canolbwyntio ar y cysyniad o ddatblygiad moesol ac ysbrydol bodau dynol trwy ddewisiadau moesol ewyllys rhydd wrth iddynt symud o fod ar ddelw (potensial) Duw i’w lun (cyflawniad).
  • Credai Irenaeus fod presenoldeb drygioni yn y greadigaeth yn weithred fwriadol gan Dduw hollgariadus, a oedd am i'w greadigaeth ddatblygu'r rhinweddau a fyddai'n eu gwneud yn berffaith yn foesol ac yn ysbrydol.
  • Yn ôl Irenaeus, roedd rhai rhinweddau moesol yn digwydd yn naturiol o fewn bodau dynol ond mae ei theodiciaeth yn dangos sut y gallai rhinweddau moesol eraill megis dewrder, maddeuant a thosturi ddatblygu dim ond fel ymateb i ddioddefaint – dioddefaint yr unigolyn a dioddefaint y rhai o’u cwmpas.
  • Credai Irenaeus, heb bresenoldeb angenrheidiol drygioni yn y byd, na fyddai gan y penderfyniadau a wneir gan fodau dynol, fel asiantau ewyllys rydd, unrhyw werth gwirioneddol ac felly na fyddai'n werth eu gwneud, o ran eu datblygiad moesol ac ysbrydol. Felly, roedd dioddefaint nid yn unig yn galluogi bodau dynol i ddod yn gryfach roedd hefyd yn caniatáu iddynt werthfawrogi daioni yn fwy. Dyma sut y cyflawnodd Duw ei bwrpas ar gyfer ei greadigaeth.
  • Mae Irenaeus yn defnyddio cyfatebiaeth o Dduw fel crefftwr sy’n gweithio gyda bodau dynol fel ei ddeunydd crai ac awgrymodd y dylai bodau dynol ganiatáu i Dduw eu mowldio i berffeithrwydd trwy weithredu mewn ffydd tuag ato a chaniatáu i brofiadau bywyd, yn gadarnhaol ac yn negyddol, ein gwneud yn fodau cwbl grefftus. • Datblygwyd syniadau Irenaeus gan John Hick yn ei waith ym 1966: Evil and the God of Love. Yn y gwaith hwn, mae Hick yn datgan mai theodiciaeth ‘creu enaid’ yw theodiciaeth Irenaeus – yn yr ystyr ei fod yn helpu eneidiau unigolion i ddatblygu’n berffeithrwydd trwy ddioddefaint.
  • Mae Hick hefyd yn datgan, er mwyn i fodau dynol gael gwir ewyllys rhydd yna eu bod wedi cael eu creu ar bellter epistemig oddi wrth Dduw - fel nad oedd eu gwybodaeth ohono yn amlwg ond y gellid ei ddarganfod - gan ganiatáu ar gyfer gwneud dewisiadau gwirioneddol rydd.�

18 of 22

Ydw i’n deall?

19 of 22

Genesis 1:26

Cryfderau

Gwendidau

Dyffryn creu

eneidiau

John Hick

Gwerthuso

Theodiciaeth

Irenaeus

Cyfiawnhad Eschatolegol

20 of 22

21 of 22

22 of 22