1 of 1

Mat cymorth creu bwrdd gwybodaeth 📋

Dyma enghraifft o fwrdd gwybodaeth ym mhentref Myddfai.🧾

Cam 1🌼

Meddyliwch am bennawd ar gyfer eich bwrdd:

  • Planhigion Pwerus
  • Moddion Myddfai

Cam 2🧄

Cyflwynwch frawddeg yn sôn am fanteision defnyddio planhigion e.e.

“Mae planhigion yn tyfu ym mhobman ac maen nhw yn gallu eich gwella.”

Cam 3🌿

Ysgrifennwch frawddeg yn cyflwyno hanes Meddygon Myddfai e.e.

“Roedd teulu pwysig yn byw ym Myddfai oedd yn gwella pobl sâl gan ddefnyddio perlysiau, planhigion a blodau.”

Cam 4🌷

Rhestrwch enwau ychydig o berlsyiau, planhigion neu flodau a’r hyn maent yn gwella e.e.

  • Brenhinllys (basil) – annwyd
  • Camri (chamomile) – bola tost
  • Ffenigl (fennel) – pen tost