Miles Hermann
Athro Daearyddiaeth
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Sesiwn 3 - Adolygu Hydref 2023
Achosion a chanlyniadau datblygiad anghyson ar raddfa fydeang ac o fewn un wlad incwm isel (LIC) ac un wlad newydd ei diwydianeiddio (NIC).
Thema 6.2 Materion Datblygiad ac Adnoddau
Cynnwys
6.2.1 Beth yw achosion a
chanlyniadau datblygiad
anghyson ar raddfa fyd-eang?
6.2.2 Beth yw'r ymatebion i
ddatblygiad anghyson ar
raddfa fyd-eang?
Masnach (Trade) = Prynu a gwerthu
Allforion (exports) = newyddau wedi eu cynhyrchu mewn un gwlad yn cael eu gwerthu i wlad arall
Mewnforion (imports) = nwyddau mae gwlad yn prynu o wlad arall
Gwlad incwm isel - Malawi (pam oes ddatblygiad anghyson)
Allforio nwyddau cynradd e.e blodau sy’n rhad
Gorfod mewnforio nwyddau wedi gweithgynhrychu megis peirannau amaethyddiaeth sy’n drud
Masnach - nid ydynt yn gwneud digon o arian o’i allforion dalu am ei mewnforion ac felly colli arian, mewn cylch tlodi ac yn gorfod benthyg arian a mynd mewn i ddyled
Blociau masnach + Cwota
MAE GWLEDYDD TU ALLAN BLOC MASNACH YN METHU ALLAN YN ECONOMAIDD : gwledydd Incwm Isel yw rhain. Bydd gwlad o fewn Bloc Masnach e.e. Undeb Ewropeaidd yn rhoi toll mewnforio a treth ar nwyddau sy’n cael mewnforio o wlad tu allan i’r bloc. Mae’n anodd iawn i wledydd Affrica e.e Ghana werthu nwyddau tu mewn i floc masnach e.e Yr Undeb Ewropeaidd. Mae nhw’n gwynebu TOLLAU a CWOTA cyn mynd a’i cynyrch e.e Banana’s i mewn i’r wlad fellt um colli arian = DIFFYG MASNACH
Pobl, syniadau, arian a nwyddau yn creu
gwe fyd-eang yn fwy cymhleth. Mae’r broses
yn cysylltu pobl a llefydd o bob gwlad a chyfandir.
Defnyddir y term hefyd i ddisgrifio Cwmnioedd
Trawswladol (multi national company) sydd yn
edrych ar y byd cyfan yn hytrach na’u hardaloedd
lleol fel man i gyflenwi llafur, adnoddau crai a
marchnadoedd.
Beth yw Globaleiddio?
Cwmni sy’n rheoli cynnyrch neu darparu
gwasanaethau mewn mwy nag un gwlad.
Mae pencadlys (headquarters) rheoli y
cwmni mewn un gwlad ond mae’n
gweithredu mewn nifer o wledydd ar draws y
byd. e.e Coca Cola – Pencadlys yn yr UDA,
gweithgynhyrchu yn India a’r farchnad yn
Ewrop.
Beth yw Cwmni Traws Wladol (CTW) ?
Cyflogau is | Mae cwmniau yn gallu cyflogi mwy o bobl am llai o arian sy’n golygu bod costau gwiethgynhyrchu yn is gan arwain at fwy o elw. |
Cyflogi llafur lleol | Mewn nifer o GII mae prionder swyddi felly mae’r poblogaeth lleol yn fodlon gwneud swyddi caled am oriau hir. nid yw’r fath yma o waith mor apelgar mewn GIU |
Buddsoddi arian yn y wlad | Bydd y cwmniau yn adeiladu ffatrioedd ac is-adeiledd yn y wlad er mwyngallu cludpo nwyddau i mewn ac allan. bydd hyn yn denu cwmniau eraill i gosod i fyny yn yr un lleoliad. |
Defnyddio mwynau naturiol y wlad | Gall CTW torri costau cludo a mewnforio nwyddau trwy defnyddio adnoddau lleol. Bydd hwn yn gglluogi’r cwmni i gwblhau gweithgynhyrchu yn gyflwymach ac yn cynyddu’r elw. |
Rent tir ac adeiladau isel | Mewn ymgyrch i ddenu CTW mae llywodraethau yn cynnig cymhelliant e.e tir rhad neu gostyngiad trethi er mwyn i’r CTW ymsefydlu yno a chyflogi’r poblogaeth lleol. |
Rheolau llai llyn ymglyn a safonau oechyd a diogelwch a’r amgylchedd | Mae’n rhaid i CTW talu llawer o arian er mwyn cwrdd a rheolau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol emwn GIU. Trwy sefydlu mewn gwledydd lle nad oes rheolau mae’r cwmni yn gallu posgoi y gost ychwanegol hym gan gynyddu elw’r cwmni./ |
Agos i farchnadoedd newydd yn y gwledydd hynny. | Mae China yn gartref i 1.4bn o bobl. Trwy agor ffatrioedd yn y wlad mae cwmniau fel Nike gyda’r potensial i droi y 1.4nm o bobl yma i mewn i gwsmeriaid a gwerthu nwyddau iddynt. |
Manteision globaleiddio - Nike yn Vietnam
Gwaredu tlodi
Argaeledd swyddi/cyflogaeth
Addysg
Buddsoddiad tramor
Amodau gwaith gwael
Anfanteision
DIweithdra
Afiechydon bywoliaeth (Increased Lifestyle Diseases
Ailddosbarthiad gweithwyr Displacements of Workers
Darllen a deall
Datblygiadau diweddar sy’n gyrru diwydiant twristiaeth byd –eang
Pa ddull graffigol gall y data yma cael ei harddangos? Pam?
Gwlad Newydd eu Ddiwydianeiddio
Pam mae’r wlad wedi profi twf economiadd cyflym?
Cynydd mewn disgwyliad oes a bobl yn ymddaeol yn cynnar yn golygu mae mwy o bobl hen yn teithio. | Cymdeithasol |
Cyflogau uwch yn golygu bod gan bobl mwy o arian i wario | Economaidd |
Teithiau awyren mwy modern fely awyr deithiau cyflymach. | Technoleg |
Cynydd mewn cwniau gwyliau wedi gwneud prynu gwyliau yn haws a rhatach. Bydd twristiaid fel arfer yn prynu gwyliau ‘pecyn’ sy’n cynnwys, awyrdaith, gwesty a prydiau o fwyd yn y pris. | Economaidd |
Mae’r we yn gwenud hi’n haws i bobl ddarganfod cyrchfanau gwyliau ac i brynu gwyliau yn gyfleus o’ch cartref. | Technoleg |
Llywodraeth mwy o wledydd yn fwy sefydlog erbyn hyn gan wneud teithio yn fwy diogel. | Cymdeithasol |
Mwy o ymwybyddiaeth trwy hysbysebion neu rhaglenni teledu. | Technoleg |
Agwedd bobl—teimlo eu bod yn haeddi gwyliau gan eu bod yn gweithio’n galed | Cymdeithasol |
Teithiau awyr rhatach gyda mwy o amrywiaeth o gwmniau yn cynnig awyrdeithiau ar wefannau cymharu prisiau. | Economaidd |
Mwy o amser hamdden gan fod bobl yn cael tua 4 wythnos o wyliau wedi talu o’i gwaith y flwyddyn. Mae tuedd o fynd ar fwy nag un gwyliau y flwyddyn. | Technoleg |
Effeithiau/Canlynidau twf twristiaeth India
. Cyflogi tua 41, 622 milwin o bobl yn y wlad gan greu 9.4 % o CGC y wlad, sef $275.5 biliwn. |
Mae twristiaeth yn hybu gwella sgiliau ieithyddol e.e tywyswyr lleol a dreifwyr tacsi. |
Swyddi tymhorol felly llawer yn colli ei swyddi yn ystod y tymor gwlyb (monswn) pan bydd llai o dwristiaid. |
Nifer o ddatblygiadau twristiaeth yn cael ei berchen gan cwmnioedd dramor. Felly nid yw’r elw yn aros yn y wlad—elw coll. |
Gall achosi dirywiad i ddiwylliant a thraddodiadau lleol e.e colli iaith, mwy yn siarad Saesneg. |
Hyrwyddo (promote) diwylliant a ffordd o fyw y wlad a chyfle i drio bwydydd newydd. Creu safleoedd treftataeth (heritage) i gael ei amddiffyn e.e Taj Mahal. |
arwain at Colli Elw (leakage) Arian y twristiaid yn aros gyda’r cwmniau gwyliau CTW yn hytrach na busnesau lleol.
Poblogaeth lleol fel arfer ddim yn cael defnyddio cyfleusterau sydd wedi darparu ar gyfer twristiaid… hyd yn oed traethau.
Gyda gwyliau holl gymhwysfawr ( all inclusive) mae gwesteuon wedi talu am fwyd a diod cyn adael cartref ac yn anhebygol o wario arian gyda’r busnesau lleol
Problem gyda thwristiaeth clofan a mordaith
‘Mae twristiaeth o fudd i ddatblygiad gweldydd Newydd Ddiwydianeiddio / Incwm Isel’ I ba raddau rydych chi’n cytuno gyda’r gosodiad hwn? (8 marc)
Marc | Lefel | Eglurhad | Cyfathrebu |
1-2 | 1 | Ateb syml sydd yn son bod y manteision a/neu anfanteision o dwristiaeth. Rhai ystadegau ond dim eglurhad yn dweud pam. | |
3-4 | 2 | Dealltwriaeth o fanteision a/neu anfanteision twristiaeth. Defnyddio ystadegau i ddangos y gwahaniaeth ond yn cael trafferth i egluro’r patrymau. | Strwythur yr ateb yn weddol glir. Peth termau daearyddol wedi eu ddefnyddio. Sillafu, atalnodi a gramadeg yn weddol gywir. |
5-6 | 3 | Dealltwriaeth manwl o fanteision a anfanteision twristiaethac yn medru egluro’r patrymau hefyd e.e mae hyn yn hybu datblygiad yn y wlad. Defnydd da o astudiaeth achos. | Strwythur yr ateb yn glir. Rhai termau daearyddol wedi eu defnyddio yn dda. Sillafu, atalnodi a gramadeg yn gywir. |
7-8 | 4 | Dealltwriaeth manwl gywir o fanteision a anfanteision twristiaethac yn medru egluro’r patrymau hefyd e.e mae hyn yn hybu datblygiad yn y wlad. Defnydd da o astudiaeth achos. Yn trafod effaith ar economi ac amgylchedd. | Strwythur clir i’r ateb. Termau daearyddol wedi eu ddefnyddio yn gyson ac yn gywir. Sillafu, atalnodi a gramadeg o safon uchel. |
Eglurwch sut gall twristiaeth dod a manteision ac anfanteision i economi ac amgylchedd un neu fwy o ranbarth rydych wedi astudio [8]
90% o’r boblogaeth yn yw ar llai na $2 y dydd!
Gwlad Incwm isel
Pam fod Malawi dal yn dlawd?
6.2.2 Beth yw’r ymatebion i ddatblygiad anghyson ar raddfa byd eang?
INEQUALITY
Hir dymor/Cymorth datblygiad Amlochrog Cymorth brys/Byr dymor
Dwy ochrog Sefydliad Anllywodraethol Dileu dyled
Dwy ochrog | Cymorth ariannol, neu fwyd, dillad neu gymorth brys arall, sy’n cael ei roi yn uniongyrchol gan lywodraeth un wlad i un arall. |
Cymorth Amlochrog | Cyllid sy’n cael ei roi gan lawer o wledydd. |
Cymorth Brys | Help sy’n cael ei roi ar frys ar ôl trychineb naturiol neu wrthdaro er mwyn diogelu bywyd y goroeswyr. |
Hir dymor/Cymorth datblygiad | Help sy’n cael ei roi i fynd i’r afael â thlodi a gwella ansawdd bywyd yn y tymor hir i wella addysg neu ofal iechyd. |
Dileu dyled | Gwelydd cyfoethog yn dileu dyled o wledydd tlawd |
Sefydliad anllywodraethol | Cymorth trwy elusenau fel Oxfam a Achub y Plant (Save the Children) |
Cenhedloedd Unedig (United Nations)
Sefydliad aml llywodraethol i hybu cydweithrediad byd eang.
**Term pwysig**
intermediate technology
Technoleg sy’n briodol ar gyfer mewn gwlad incwm isel gan nad oes angen rhannau drud nag atgyweriadau uwch-dechnoleg.
Cymorth yn helpu lleihau anghydraddoldeb mewn gwlad incwm isel : MALAWI |
Mae Masnach Deg yn gweithio gyda ffermwyr a gweithwyr fel y gallant wella eu safonau byw, buddsoddi yn eu cymunedau a busnesau, a diogelu ein hamgylchedd a rennir.
Mae Masnach Deg yn cyflawni hyn drwy ralïo cymuned fyd-eang o filiynau – ffermwyr a gweithwyr, partneriaid cadwyn gyflenwi, brandiau, manwerthwyr, siopwyr, ysgolion, y llywodraeth – i dalu prisiau teg a chynnal safonau ac arferion cynhyrchu teg.
Mae prisiau teg yn darparu achubiaeth uniongyrchol i ffermwyr a gweithwyr sy'n cael trafferth gydag incwm isel ac sydd dan anfantais oherwydd masnach fyd-eang.
Economaidd | Cymdeithasol | Amgylcheddol |
Mae Isafswm Pris Masnach Deg yn cefnogi’r ffermwyr sy’n tyfu cynnyrch fel coco, coffi a bananas i ddod yn fwy sicr o ran incwm ac yn llai agored i dlodi. Mae Masnach Deg yn raddol yn grymuso cymunedau i drefnu'n gwmnïau cydweithredol a gwella eu sefyllfa negodi o fewn y gadwyn gyflenwi. Gall hyn eu galluogi i drafod pris uwch am eu cynnyrch na phris confensiynol y farchnad. Mae Masnach Deg yn gwella mynediad i wasanaethau amaethyddol fel hyfforddiant organig a marchnadoedd premiwm. O ganlyniad, mae gan ffermwyr gymhelliant i ffermio’n well a gwerthu mwy. Mae incwm ychwanegol drwy’r Premiwm Masnach Deg yn cefnogi ffermio gwell, mentrau cydweithredol cryf a buddsoddiad mewn asedau cyfunol i wella cnydau a chynnyrch. | Mae'r Safonau Masnach Deg yn ymdrin â meysydd allweddol ar gyfer diogelu'r amgylchedd, gan gynnwys lleihau allyriadau ynni a nwyon tŷ gwydr, ansawdd pridd a dŵr, rheoli plâu, diogelu bioamrywiaeth, gwahardd organebau a addaswyd yn enetig a chemegau niweidiol, a rheoli gwastraff. Mae’r Safonau Masnach Deg yn hyrwyddo hyfforddiant i ffermwyr, a all gynnwys cyngor ar newid i arferion ecogyfeillgar, megis datblygu priddoedd llawn maetholion sy’n cynnal planhigion iach ac annog bywyd gwyllt i helpu i reoli plâu a chlefydau. I rai ffermwyr, mae’r Safonau Masnach Deg (ac organig) wedi arwain at newid i blaladdwyr llai gwenwynig, sydd, yn ogystal â bod yn well i’r amgylchedd, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd cynhyrchwyr. Gall Masnach Deg ddarparu mynediad at gyllid, cymorth ac arbenigedd wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gan gefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol hirdymor. | Mae ffermwyr a gweithwyr sy'n dewis cymryd rhan mewn Masnach Deg yn aml yn teimlo synnwyr gwirioneddol o reolaeth dros eu dyfodol gyda mwy o rym a llais. Gall Masnach Deg gefnogi gweithwyr i wireddu eu hawliau a thrafod telerau ac amodau eu gwaith trwy undebau llafur a chydfargeinio. Gall Masnach Deg ddarparu cefnogaeth ac arbenigedd cynhyrchwyr i ddyfnhau cydraddoldeb rhywiol. I weithwyr a gyflogir ar blanhigfeydd ardystiedig Masnach Deg, mae buddsoddi Premiwm Masnach Deg mewn addysg, gwell tai, gwell ysgolion, a chyfleusterau meddygol yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Mae buddsoddi Premiwm Masnach Deg gan gwmnïau cydweithredol mewn prosiectau datblygu cymunedol yn gwella ansawdd bywyd cymunedau gwledig. Mae cyflawni effaith datblygu yn broses hirdymor ac mae canlyniadau'n amrywio'n sylweddol yn seiliedig ar gyd-destun rhanbarthol, cynnyrch, manylion cadwyn gyflenwi, a ffactorau allanol. |
Meini Prawf Llwyddiant
Targedau datblygu yw targedau a osodir gan wledydd unigol neu sefydliadau amlwladol, er enghraifft y Cenhedloedd Unedig, i wella agweddau penodol ar ddatblygiad gwlad. Mae sefydliad y Cenhedloedd Unedig yn cael ei gefnogi gan 192 o wledydd. Un o'i nodau yw annog datblygiad dynol. Er mwyn helpu i gyflawni'r nod hwn, yn 2015 gosododd y Cenhedloedd Unedig 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy, i'w cyflawni erbyn 2030. Mae'r nodau wedi'u rhestr isod. Byddwn yn astudio dau ohonynt:
Cyrchnodau Datblygiad Cynaliadwy
Gwaith Sefydliadau Anllywodraethol (NGO’s)
| Llywodraeth | Sefydliad Anllywodraethol |
Enghraifft | Y Deyrnas Unedig | Oxfam |
Cymorth Brys (Byr Dymor) | Llywodraeth y DU yn rhoi £20 miliwn o bunnoedd i Haiti yn ystod y daeargryn yn 2010. | Cyhoedd y DU yn codi ac yn rhoi arian i Oxfam er mwyn iddynt eu ddefnyddio i brynu ac i ddarparu adnoddau fel blancedi, dŵr deunydd adeiladu a bwyd i bobl Haiti ar ôl Daeargryn. |
Cymorth Datblygu (Hir Dymor) | Mae ‘Adran dros Ddatblygiad Rhyngwladol’ y DU wedi gwario £8.5 biliwn dros y 10 mlynedd diwethaf er mwyn sicrhau mi fydd bechgyn a merched ym mhob man yn gallu cwbwlhau o leiaf 5 mlynedd o addysg.
| Mae Oxfam wedi cydweithio gyda ADESAH yn Mali a Niger igynorthwyo plant sydd yn dod o deuluoedd ffermwyr nomadig i fynd i’r ysgol. Mae’r cynllun wedi annog merched i fynd i’r ysgol ac wedi prynu adnoddau dysgu i’r ysgol fel llyfrau. |
A oes Cynnydd ? |
|
|
Cymorth brys yn achub bywydau | Prosiectau cymorth datblygu fel COVAMS yn gwella safo byw yn y hir dymor. |
Elw o projectau mwr (Top i lawr) yn gallu mynd i gwmnioedd amlwladol yn lle y bobl sydd ei angen fwyaf n y wlad. | Mae cymorth datblygu adnoddau naturiol yn fuddiol i’r economi byd-eang |
Nid yw cymorth o hyd yn cyrraedd y bobl sydd angen oherwydd mae llywodraeth rhai gweldydd yn llygredig | Mae cymorth i wledydd yn creu swyddi a mae cymorth i ddulliau ffermio yn cynyddu cflenwad bwyd |
Gall y wlad ddod yn ddibynnol ar cymorth gan wlad arall. | Cymorth hyfforddiant gofal imeddygol yn gwella uechyd bob. |
Gall wld sy’n rhoi cymorth rhoi pwysau gweildyddol ar lywodraaeth gwlad arall |
|
Dadleuon o blaid ac yn erbyn cymorth?
Diffinio pa fath o gymorth sydd wedi cael ei ddefnyddio (cymorth datblygu hirdymor) |
|
Nodi pa Wlad Newydd ei Diwydianeiddio y byddwch yn ei thrafod, ynghyd â'r ddau Nod Datblygiad Cynaliadwy |
|
Nod 5: Egluro yn gryno pa broblemau y mae menywod yn eu hwynebu |
|
Egluro o leiaf bedwar peth sydd wedi cael ei wneud i leihau'r anghydraddoldeb |
|
Nod 3: Eglurwch yn gryno pa broblemau y mae plant ifanc yn eu hwynebu |
|
Eglurwch o leiaf bedwar peth sydd wedi cael ei wneud i leihau'r anghydraddoldeb |
|
Defnyddio enghreifftiau penodol ac ystadegau |
|
Cwestiwn arholiad : Amlinellwch sut y gall cymorth rhyngwladol gan sefydliadau'r llywodraeth a rhai anllywodraethol helpu i leihau anghydraddoldeb mewn un Wlad Incwm Isel neu Wlad Newydd ei Diwydianeiddio o'ch dewis.
Diolch yn fawr