Uned 6
Termau ar gyfer ysgrifennu anllenyddol
Adran Dd: Trafodaeth
Adran Dd: Trarodaeth
Ysgrifennu Trafodaeth
(Discussion)
*
*
*
*
*
*
traethawd
taflen neu erthygl sy’n trafod dwy ochr o’r ddadl
ateb mewn arholiad ysgol uwchradd
erthygl olygyddol papur newydd
Trafodaeth
Testunau Posib
llyfr ffeithiol am bwnc arbennig (e.e. Cynhesu byd-eang)
ysgrifennu dadl
Mae testun trafod yn …
*yn cyflwyno dadleuon a gwybodaeth o safbwyntiau gwahanol
* ‘o blaid’ ac ‘yn erbyn’
*
*
*
*
*
*
Cyflwyniad yn cyflwyno’r testun rydych chi eisiau trafod
Crynodeb ac argymhellion posib. Gallwch hefyd ddod i gasgliad a mynegi barn yn y paragraff clo.
Nodweddion Ieithyddol
Wrth ysgrifennu trafodaeth rhaid defnyddio:-
*amser presennol
* enwau haniaethol
*y trydydd person
*brawddegau cymhleth
*confensiynau trafodaeth
Enwau Haniaethol
Enwau haniaethol ydy enwau ar bethau dydych chi ddim yn gallu eu gweld na’u cyffwrdd.
ateb
anobaith
gobaith
cred
tegwch
hyder
rheswm
posibilrwydd
gwirionedd
pryder
Mewn gwirionedd rhaid pwyso a mesur yn fanwl cyn dod i gasgliad.
Ar un ochr, mae pryder mawr am gynhesu byd eang, ond mae carfan arall yn gwadu’r broblem yn llwyr.
Iaith ffurfiol yn y trydydd person
Wrth ysgrifennu adroddiad ffeithiol dylech ddefnyddio iaith ffrufiol ac osgoi tafodiaith a iaith lafar
E.e. Wrth drafod y tywydd dylech ddefnyddio termau megis glaw trwm yn hytrach na bwrw hen wragedd a ffyn, neu haul crasboeth yn hytrach na haul berwedig.
Dylech hefyd ddefnyddio’r trydydd person gan eich bod yn ysgrifennu am rywun neu rywbeth arall, nid amdanoch chi eich hunan.
E.e. Mae e / hi
Maen nhw
Confensiynau Trafodaeth
* Ceisiwch gadw cydbwysedd e.e.
Ar y naill law…
Ar y llaw arall…
* Peidiwch â bod yn rhy benodol – defnyddiwch ymadroddion amodol
Mae rhai pobl yn dweud …
Mae eraill yn dadlau…
Barn merched sy’n smygu yw …
Ateb y meddygon yw…
Efallai mai...
Gellid dweud mai…
Efallai bod hyn yn golygu…
O bosib...
Brawddegau Cymhleth
Mae defnyddio brawddegau cymhleth (aml gymalog) yn gyffredin mewn testun trafod. Yn aml bydd yr awdur yn defnyddio atalnodi a chysyllteiriau rhesymeg wrth lunio brawddegau.
E.e. Mae ffônau clyfar yn rhan allweddol o fywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, gyda 90% o’r boblogaeth yn defnyddio ffônau clyfar yn ddyddiol ar gyfer pob math o ddibenion gan gynnwys cysylltu ag eraill, chwilio am wybodaeth ac hyd yn oed talu biliau.
Cysyllteiriau’n ymwneud â rhesymeg yn hytrach nag amser,
e.e. oherwydd, felly, mae hyn yn dangos/profi