Uned 6
Termau ar gyfer ysgrifennu anllenyddol
Adran A: Adroddiad
Adran A: Adroddiad
Ysgrifennu Adroddiad
(Report)
Adroddiad
Testunau posib
llyfr ffeithiol e.e. daearyddiaeth
catalog
taflen wybodaeth
llythyr
darn o wybodaeth mewn gwyddoniadur
teithlyfr i dwristiaid
prosiect ysgol ar thema arbennig
Cynllunio Adroddiad Syml
Pryd?
Beth?
Pwy?
Ble?
rhagor o wybodaeth os oes angen
gwybodaeth wedi ei threfnu mewn categorïau
prif bwyntiau o fewn y categori
Pwnc
Nodweddion Ieithyddol
Mewn adroddiad (non chronological report) rydyn ni’n cyflwyno gwybodaeth am destun. Rhaid meddwl am gynnwys y testun a dewis a dethol yr hyn sydd angen ei gynnwys a’i drefnu yn baragraffau fel y gwelwyd yn y sleid flaenorol. Gall adroddiad fod yn destun sy’n cyflwyno gwybodaeth ar unrhyw fformat e.e. erthygl, llythyr, taflen wybodaeth ayyb.
Wrth ysgrifennu adroddiad ffeithiol rhaid defnyddio:-
Defnyddio’r amser presennol
e.e. Gwlad yng ngorllewin Ewrop yw Ffrainc. Mae hi’n wlad sy’n ffinio gyda sawl gwlad arall
Ceir pob math o fywyd gwyllt ar draethau Cymru.
Gwelir sawl math o adeiladau amrywiol yn nhref Llandysul.
Geirfa Sy’n Cyffredinoli
e.e. Ar wastadoedd Affrica mae’r rhan fwyaf o sebraod yn byw.
NID: Mae Swsi’r Sebra a’i ffrindiau yn byw yn hapus, braf gyda’i gilydd ar wastadoedd Affrica.
Disgrifiadau Ffeithiol
e.e. Fel arfer fe gewch chi arwyddion clir bod llosgfynydd ar fin echdorri. Yn gyntaf, bydd y ddaear yn dechrau crynu. Yna wrth i’r graig grasboeth gronni o dan yr wyneb, bydd ochrau’r côn yn chwyddo a bydd nwyon annifyr yn dianc o holltau yn y graig.
NID: Mae’n berffaith amlwg pan fydd llosgfynydd ar fin ffrwydro’n wyllt i’r ffurfafen. Yn gyntaf, bydd y ddaear yn crynu ac yn ysgwyd fel deilen cyn i’r graig grasboeth gronni o dan yr wyneb a chreu pwysau aruthrol na all y tir ei atal rhag rhwygo’r copa yn gafnau agored.
Geirfa Sy’n Berthnasol i’r Pwnc
E.e. Os ydych yn trafod llosgfynyddoedd defnyddiwch eirfa megis echdorri, cramen, mantell, deunydd tawdd ayyb.
Sicrhewch eich bod wedi ymchwilio i’r pwnc cyn ei gyflwyno i’r disgyblion a bod yr eirfa berthnasol gyda chi wrth law.
Iaith ffrufiol yn y trydydd person
E.e. Wrth drafod y tywydd dylech ddefnyddio termau megis glaw trwm yn hytrach na bwrw hen wragedd a ffyn, neu haul crasboeth yn hytrach na haul berwedig.
Cyflwyno gwybodaeth yn glir
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cyflwyno’r wybodaeth yn yr adroddiad ffeithiol mewn modd clir a threfnus. Gallwch wneud hyn wrth: