1 of 27

Miles Hermann

Athro Daearyddiaeth

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

​

Sesiwn 1 - Adolygu Hydref 2023

Dinasoedd Global

Thema 2.3

2 of 27

Cynnwys yr uned

2.3.1 Beth yw Patrymau trefoli yn fyd-eang?

2.3.2 Beth yw canlyniadau trefoli mewn dwy ddinas global?

Addis Abba, Ethiopia

Llundain, DU

2.3.3 Sut mae dinasoedd global yn cysylltu â’i gilydd?

3 of 27

Beth yw Trefoli?

Trefoli yw'r broses lle mae ardaloedd trefol yn tyfu o ran maint yr ardal maen nhw'n ei chwmpasu yn ogystal â nifer y bobl sy'n byw ynddyn nhw. Heddiw, mae 55% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardal drefol ac mae hyn yn debygol o godi i 68% erbyn 2050 yn ôl y CU.

​

Mae’r trefoli yma wedi digwydd o ganlyniad i: 

  • Mudo—naill ai o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol neu mudo rhyngwladol 
  • Cynnydd naturiol yn y boblogaeth pryd mae mwy o enedigaethau na marwolaethau pob blwyddyn 

​

4 of 27

Beth yw mega-ddinas

​

Mae dinasoedd yn amrywio o ran eu maint. Mae dinasoedd mawr gyda phoblogaethau sy’n uwch na 10 miliwn yn cael eu galw’n mega-ddinasoedd. Yn 2015, roedd 28 mega-ddinas yn fyd-eang. 

Mae poblogaeth trefol byd-eang yn parhau i dyfu. Mae disgwyl iddo godi o 3.9 biliwn (2014) i 6.0 biliwn erbyn 2045. Disgwylir i’r twf fwyaf fod yn India, China a Nigeria. Ond, nid y megaddinasoedd sy’n tyfu fwyaf cyflym ond y dinasoedd gyda phoblogaethau dan 500,000. Mae llawer o ddinasoedd y byd sy’n tyfu gyflymaf wedi’u lleoli yn Affrica Is-Sahara ac Asia. 

�

5 of 27

Cwestiynau posibl

Astudiwch y graff isod sy’n dangos y newid yn y poblogaethau gwledig a threfol yn fyd-eang.

A) Disgrifiwch y newid i boblogaeth trefol byd-eang rhwng 1950 a 2015.[3]

B) Cymharwch y newidiadau sy’n cael ei rhagfynegi mewn poblogaeth trefol a gwledig byd-eang rhwng 2015 a 2030. [3] 

Meini Prawf Cwestiwn Disgrifio

Tueddiad - patrwm cyffredinol

Cynyddu/ gostwng (uchafbwynt/ isafbwynt)

Data i gefnogi

Ateb Enghreifftiol

Gallwn weld yn y graff poblogaeth trefol sy’n cynyddu o 1950 i 2015. Gweler isafbwynt poblogaeth trefol yn 1950 gyda 20 miliwn i 40 miliwn yn 2015.

6 of 27

Disgrifiwch ddosbarthiad Megadinasoedd y byd [3]

Meini Prawf Llwyddiant

​

  • Cyfandiroedd
  • Cyfeiriad Cwmpawd
  • Patrwm cyffreidnol e.e os mae’n dweud cyhyddedd/ trofnannau

7 of 27

Beth yw’r newid mewn cyfanswm poblogaeth Efrog Newydd o 1950 i 2010?[1]

​

(iii) Beth yw’r newid mewn cyfanswm poblogaeth Tokyo o 1950 i 2010?[1] 

​

(ii) Beth oedd cyfanswm poblogaeth megaddinasoedd Asia yn 1950?

Dangoswch eich gwaith cyfrifo’r ateb. [2] 

​

(iv) Beth yw cymedr poblogaeth megaddinasoedd Asia yn 1950?Dangoswch eich gwaith cyfrifo’r ateb. [2]

(iv) Beth yw cymedr poblogaeth megaddinasoedd Asia yn 2010?Dangoswch eich gwaith cyfrifo’r ateb. [2]

​

8 of 27

Beth yw dinasoedd global? 

Mae pob dinas yn cael dylanwad rhanbarthol. Maent yn rhyngweithio gyda'r ardal sy'n eu hamgylchynu, er enghraifft: 

 denu cymudwyr(Commuters) dyddiol i weithio 

 darparu gwasanaethau arbenigol megis ysbytai a phrifysgolion 

 gweithredu fel canolfannau trafnidiaeth ar gyfer rhwydweithiau rheilffyrdd neu feysydd awyr rhanbarthol. 

�

Fodd bynnag, mae rhai dinasoedd yn cael mwy o ddylanwad nag eraill. Dinasoedd global yw’r dinasoedd hynny sy'n rhyngweithio â llefydd eraill ar raddfa fyd-eang.

​

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Globaleiddio a'r Byd Dinasoedd wedi nodi dros 300 o ddinasoedd sydd â chysylltiadau â rhannau eraill o'r byd. 

Mae gan y DU 13 o ddinasoedd global. Mae Llundain yn y safle 1af ond y nesaf yw Manceinion ar 78eg. Mae Caerdydd yn safle 248eg. 

9 of 27

Ymarfer Arholiad

​

Rhowch un rheswm pam mae rhai dinasoedd yn dod yn ddinasoedd global [2]

​

Un rheswm + Datblygiad

​

(felly, achos, oherwydd)

10 of 27

Astudiaeth Achos 1 – Dinas mewn Gwlad Incwm Isel, sef Addis Ababa yn Ethiopia

Addis Ababa yw prifddinas Ethiopia. Yn 2015 roedd 19.5% o boblogaeth Ethiopia yn byw mewn trefi a dinasoedd. Er bod y ganran yn edrych yn isel, mae’r gyfradd trefoli flynyddol o 4.9% yn uchel iawn.

Disgrifiwch leoliad Addis Ababa. [3]

​

​

Meini Prawf Llwyddiant

  • Cyfeiriad cwmpawd
  • Gwledydd cyfagos
  • Graddfa
  • Unrhyw bethau arall perthnasol o’r map

​

11 of 27

Beth yw’r rhesymau dros dwf poblogaeth Addis Ababa ?

​

  • Rheswm 1 : newid naturiol – cyfradd geni yn codi a disgwyliad oes yn cynyddu

​

  • Rheswm 2 : mudo – ffactorau tynnu trefoli

Tlodi - diwethdra gwledig

Diffyg addysg

Mynediad i ddwr glan

Cyfleoedd swyddi

Cyfleodd addysg

Mynediad at ddwr glan/ glanweithdra

Mynediad at ofal iechyd

Gwaith anffurfiol - amcangyfrif tua 50% o weithwyr trefol Ethiopial

Term Allweddol

Economi Anfffurfiol - Swyddi anghyson ble nad ydych yn gorfod talu trethi a does dim hawliau ar gyfer gweithwyr - enghreiffitau yn cynnwys golchi esgidiau neu casglu sbwriel

Byw yn trefi shanti/ slymiau - tai o ansawdd anaddas. 100,000 ar y strydoedd yn Addis Ababa

Trosedd (gangiau)/ dwyn

Gorboblogi, dwysedd uchel, afiechydon yn lledaenu

Swyddi - gallu ennill cyflog

Iechyd - hawl i gael meddigyniaeth/ ysbytai

Gwell mynediad at addysg

Mudo Gwledig-Trefol

12 of 27

Beth yw’r Sialensiau trefol sydd yn wynebu Addis Ababa ?

 

Astudiwch y ffotograffau sydd ar y sgrin ? Pa broblemau / sialensiau sydd yn wynebu dinasoedd mewn gwledydd incwm isel fel Addis Ababa?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn posibl

​

Awgrymwch un broblem wrth fyw mewn anheddiad fel hyn? [Defnyddiwch dystiolaeth o’r ffotograff]

13 of 27

  1. Darparu Tai

Un o’r materion pwysicaf i drigolion Addis Ababa yw darganfod tai fforddiadwy i fyw mewn. Mae 630,000 o gartrefu yn Addis Ababa ac mae dros 385,000 yn cael eu rhentu. Mae prisiau rhent wedi cynyddu’n sylweddol ac felly rhaid i bobl fyw mewn cartrefi llai o faint sydd wedi eu lleoli ymhellach o ganol y ddinas. Mae’r awdurdodau a’r llywodraeth yn ceisio uwchraddio’r slymiau.

Mae dros 1 miliwn o bobl wedi cofrestru ar gyfer un o gynlluniau cartrefu’r llywodraeth. Mae’r cynllun 10/90 yn targedu’r bobl dlotaf ac wedi derbyn dros 800,000 o gofrestriadau, tra bod y cynllun 40/60 wedi anelu at y dosbarth canol ac wedi derbyn 160,000 o gofrestriadau.

14 of 27

Dyma lun o safle adeiladu sy’n rhan o’r cynllun 40/60 yn Addis Ababa

Mae ‘Habitat for Humanity Ethiopia’ (HFHE) yn elusen o’r DU sydd gyda’r gred y dylai pawb yn y byd gael rhywle diogel a glân i fyw. Ers 1993 maent wedi adeiladu cartrefi mewn 11 cymuned yn Addis Ababa. Mae teuluoedd yn cymryd rhan mewn cynllun hunangymorth (self help) ac yn gwneud tua 65% o’r gwaith adeiladu ar gartrefi aelodau’r gymuned gan oruchwyliaeth penseiri.

Mae’r rhan fwyaf o gartrefi Ethiopia wedi cael eu gynllunio yn yr arddull ‘Chika’ sydd â waliau mwd, ffyn a gwellt, ac sydd yn gallu dymchwel yn hawdd. Mae’r cartrefi’n gyfyng, gyda lloriau pridd, dim ffenestri ac maent yn agored i’r tywydd a phryfed. Mae awyriad gwael ar gyfer tannau coginio yn achosi problemau anadlu ac mae 90% o’r cartrefi heb fynediad at lanweithdra (hygiene) ac mae 73% heb gyflenwad dŵr glân sy’n arwain at afiechydon difrifol.

15 of 27

Cyflenwad Trydan

Problem arall yn Addis Ababa yw’r amhariad cyson i’r cyflenwad trydan. Er bod Ethiopia yn gwerthu trydan i Djibouti (80% o anghenion y wlad) a Sudan, mae’n parhau i fethu cyflenwad di-dor i ardal drefol Addis Ababa.

Tlodi a Iechyd

Mae cynllun ‘AMREF Health Africa’ yn slym Kechene yn ceisio gwella safonau iechyd trwy ddarparu mynediad i ddŵr glan a gwasanaethau glanweithdra (hygiene) i’r trigolion

Mae slym Kechene wedi’i lleoli 4km i’r gogledd o ganol Addis Ababa.

Am flynyddoedd yn Kechene, mae HIV wedi bod yn thema tabŵ. Mae AMREF yn cynnal cyfarfodydd wythnosol sydd wedi helpu lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig ag HIV ac wedi arwain at gynnydd yn nifer y boblogaeth sy’n cael eu profi ar gyfer HIV.

 

Afiechyd HIV

16 of 27

Pa heriau sy’n wynebu Addis Abba?

Her e.e Newid Hinsawdd

Esboniad e.e Achosi tymheredd i godi

Esboniad pellach ac enghraifft e.e Sychder ac yn tymhorau llifogydd, pobl yn di-gartref yn ardaloedd megis Kechene

Cwesitwn posibl

​

Esboniwch heriau sy’n wynebu un ddinas global mewn gwlad incwm isel/ incwm canolig [6]

17 of 27

iii)

​

Gallaf weld yn y llun rheilffyrdd yn symud trwy y slymiau sydd yn agos iawn i dai y bobl ac yn amlwg yn peri broblemau diogelwch ac yn gallu golygu anafiadau posibl.

​

Dengys y llun tai â dwysedd poblogaeth uchel, gall hyn golygu fe fydd afiechydon yn lledaenu’n gyflym o ganlyniad i’r dwysedd uchel yma. O ganlyniad i’r afiechydon lledaenu gall olygu cyfradd marw uchel a chyfradd marw babanod uchel yn yr ardal yma.

18 of 27

Astudiaeth Achos – Dinas mewn Gwlad Incwm Uchel, sef Llundain yn y Deyrnas Unedig

​

Yn 2015 roedd 82.6% o boblogaeth y DU yn byw mewn trefi a dinasoedd.

Llundain yw prifddinas y Deyrnas Unedig. Ei phoblogaeth yw 8.9 miliwn, a hi yw’r ddinas fwyaf yn Ewrop a’r chweched lle cyfoethocaf yn y byd. Cyfradd twf blynyddol Llundain yw 1.2% (100,000 o bobl y flwyddyn).

​

1. Disgrifiwch leoliad Llundain [3]

19 of 27

  • Ardaloedd gwledig ddim yn rhoi bywyd cymdeithasol ac adloniant cystal
  • Elfen o gymuned yn gallu fod yn ormod
  • Gwasanaethau gallu fod yn brin e.e. GP
  • Mwy o gyfleodd swyddi amrywiol a chystadleol
  • Bywyd y ddinas mwy diddorol
  • Cyfloedd addysg

​

  • Digartrefedd uchel
  • Gorboblogi
  • Marchnad rhentu yn amhosibl/ prisoedd tai yn cynyddu anfforddiadwy
  • Mwy o amrywiaeth ethnigrwydd - bwyd newydd a diwylliannau diddorol e.e. Siop Pwyleg
  • Tirfeyddanwyr yn gallu neud elw da
  • Agor mwy a mwy o gyfleodd swyddi
  • Cyfle da ar gyfer buddsoddiad busnesau newydd

20 of 27

Beth yw’r rhesymau dros dwf poblogaeth Llundain ?

​

Mae poblogaeth Llundain wedi cynyddu’n sylweddol er 1800.

Mae poblogaeth Llundain wedi cynyddu oherwydd :

  • economi ffyniannus y brifddinas
  • atyniadau i fewnfudwyr
  • cyfradd geni sy’n cynyddu
  • cyfradd marw sy’n disgyn

​

Pwy yw’r mewnfudwyr i Lundain ?

Llundain sydd gyda’r nifer fwyaf o fewnfudwyr yn y DU. Mae’r tabl yn dangos dosbarthiad y boblogaeth y cafwyd eu geni tramor o fewn y DU. Yn 2014 roedd 36.9% ohonynt yn byw yn Llundain tra roedd gan Gymru cyfran fach iawn, sef 2.3%.

Llundain sydd gyda’r nifer fwyaf o fewnfudwyr yn y DU. Mae’r tabl yn dangos dosbarthiad y boblogaeth y cafwyd eu geni tramor o fewn y DU. Yn 2014 roedd 36.9% ohonynt yn byw yn Llundain tra roedd gan Gymru cyfran fach iawn, sef 2.3%.

21 of 27

  1. Tlodi

. Di-gartrefedd yn Llundain

Mae’r graff isod yn edrych ar y gyfran o bobl sy’n cael eu cyfrif fel digartref. Mae’r graff yn cymharu Llundain gyda’r rhanbarthau eraill yn Lloegr ac yna’n edrych ar sut mae Llundain yn cymharu â dinasoedd eraill yn Lloegr.

​

22 of 27

Meini Prawf Llwyddiant

​

  • Brawddeg 1 - Cytuno ar y cyfan/ anghytuno ar y cyfan
  • Ar Un ochr…
  • Ar yr ochr arall…
  • Cyfeirio at bob un ffynhonell
  • Mae XXX yn awgrymu…
  • Cysyllteiriau
  • Iaith Mynegi Barn

23 of 27

Beth yw globaleiddio ?

Globaleiddio yw’r broses lle mae’r byd yn dod yn fwy cysylltiedig o ganlyniad i’r cynnydd mewn :

  1. Masnach
  2. Cludiant / Trafnidiaeth
  3. Twristiaeth
  4. Cyfryngau a Chyfathrebu

Golyga hyn bod llifoedd o bobl, syniadau, arian a nwyddau yn creu gwe fyd eang sy’n cysylltu pobl a lleoedd.

 

  1. Sut mae masnach yn cysylltu dinasoedd global ?

Mae masnach wedi hybu globaleiddio a chynyddu cynhyrchiant nwyddau a gwasanaethau oherwydd bod cwmnïau mawr a elwir yn gorfforaethau amlwladol (multinational companies) gyda changhennau mewn nifer o wledydd. Mae McDonalds yn gorfforaeth amlwladol fawr o UDA sydd gyda 30,000 o dai bwyta mewn 119 o wledydd. Pan mae cwmni o dramor yn buddsoddi mewn gwlad e.e. trwy adeiladu ffatri, gelwir hyn yn fuddsoddiad mewnol.

 

24 of 27

Mae’r rhan fwyaf o gorfforaethau amlwladol yn dod o Wledydd Incwm Uchel megis UDA a’r DU. Mae corfforaethau amlwladol yn buddsoddi mewn gwledydd newydd eu diwydianeiddio ac incwm isel e.e. mae gan B&Q siopau yn China erbyn hyn. Er bod globaleiddio wedi helpu creu mwy o gyfoeth mewn Gwledydd Incwm Isel - nid yw’n helpu lleihau’r bwlch rhwng y gwledydd tlotaf a’r gwledydd cyfoethocaf.

 

Y ffactorau sy’n denu corfforaethau amlwladol i wlad yw :

  • Deunyddiau crai rhad
  • Llafurlu rhad
  • Trafnidiaeth dda
  • Mynediad at farchnadoedd lle mae’r nwyddau’n cael eu gwerthu
  • Polisïau ‘cyfeillgar’ gan y llywodraeth

Mae sawl ffactor allweddol wedi dylanwadu ar y broses o globaleiddio:

  • Gwelliannau trafnidiaeth - mae llongau cargo mwy yn golygu bod y gost o gludo nwyddau rhwng gwledydd wedi lleihau. Mae gwelliannau trafnidiaeth hefyd yn golygu bod nwyddau a phobl yn gallu teithio’n gynt.
  • Rhyddid masnach – mae mudiadau fel y ‘World Trade Organisation’ yn hybu masnach rydd rhwng gwledydd.
  • Gwelliannau mewn cyfathrebu - mae’r rhyngrwyd a thechnoleg symudol wedi caniatáu cyfathrebu gwell rhwng pobl mewn gwledydd gwahanol.
  • Argaeledd llafur a sgiliau – mae gan wledydd megis India gostau llafur is (tua 1/3 o gost gweithiwr yn y DU) a hefyd lefel uchel o sgiliau. Mae diwydiannau llafur dwys megis dillad yn gallu manteisio ar gostau llafur rhatach a’r cyfyngiadau cyfreithiol llacach sydd mewn Gwledydd Incwm Isel.

​

Sut mae masnach yn cysylltu dinasoedd global ?

Mae masnach wedi hybu globaleiddio a chynyddu cynhyrchiant nwyddau a gwasanaethau oherwydd bod cwmnïau mawr a elwir yn gorfforaethau amlwladol (multinational companies) gyda changhennau mewn nifer o wledydd. Mae McDonalds yn gorfforaeth amlwladol fawr o UDA sydd gyda 30,000 o dai bwyta mewn 119 o wledydd. Pan mae cwmni o dramor yn buddsoddi mewn gwlad e.e. trwy adeiladu ffatri, gelwir hyn yn fuddsoddiad mewnol.

2. Sut mae cludiant / trafnidiaeth yn cysylltu dinasoedd global ?

  • canolfan trafnidiaeth (transport hubs)
  • porthladdoedd
  • meysydd awyr

25 of 27

26 of 27

Awgrymwch ddau reswm sut mae dinasoedd global wedi’i gysylltu [4]

​

​

Meini Prawf Llwyddiant

  • Rheswm + Datblygu
  • Cysyllteiriau
  • Enghraifft

Ateb enghreifftiol

Masnach + allforio a mewnforio o ganlyniad i fusnesau yn rhyngweithio e.e CTW fel McDonalds

​

Trafnidiaeth + Meysydd awyr rhyngwladol e.e Heathrow yn golygu mae’r dinasoedd wedi cysylltu yn dda ble mae’n hawdd i deithio o un ddinas global i un arall o fewn diwrnod

​

27 of 27

Unrhyw gwestiynau

​

hermannm10@hwbcymru.net

miles.hermann@gwentiscoed.cymru

​

​

​

Diolch yn fawr