1 of 32

Adolygu Bioleg SU

(Mr B Davies)

​

Uned 4.3 Etifeddiad

Nodau’r sesiwn

-Adnoddau

-Trefnydd gwybodaeth

-Ymarfer hen gwestiynnau

2 of 32

Angen cynllun da ar gyfer beth i’w wneud pryd.

Mae CBAC/Tanio efo nifer o adnoddau da iawn/Gwybodaeth ymlaen llaw

https://www.cbac.co.uk/cymwysterau/bioleg-tgau/#tab_keydocuments

https://www.cbac.co.uk/home/cefnogaeth-i-fyfyrwyr/adnoddau-adolygu/dysgu-cyfunol-newydd/

3 of 32

Creu trefnydd gwybodaeth

Bwriad y trefnydd gwybodaeth yw casglu holl wybodaeth yr uned yng nghyd er mwyn dwyn i gof y ffeithiau pwysig.

Mae angen ail wneud y trefnyddion er mwyn iddynt fod yn effeithiol, dydy creu un poster del un tro ddim yn mynd i wasgu’r wybodaeth bynciol i gyd mewn i’r pen!

Pan gallwch chi ail greu y trefnydd gwybodaeth heb gorfod edrych yn ol ar eich nodiadau, mae’r wybodaeth bycniol gennych ac bydd angen wedyn cymhwyso eich gybodaeth

Cofiwch 50% dwyn i gof, 50% cymhwyso

4 of 32

Uned 3.4 Etifeddiad

Chi sgwar

Mwtaniadau

5 of 32

Prawf ystadegol yw’r prawf Chi Sgwar/𝛘2 . Sy’n profi os oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng canlyniadau disgwyliedig a’r canlyniadau a gafwyd o data “go iawn”

Enghraifft

Dychmygwch eich bod wedi gwneud arbrawf geneteg fel yma Lle mae ‘R’ yn un ffenoteip ac ‘r’ yn nodi un arall.

Y canlyniadau disgwyliedig yw 75% nodwedd ‘R’ a 25% o ‘r’

Neu os oes 40 organeb, byddech yn disgwyl 30 o ‘R’ a 10 o ‘r’

Ond.. beth os oes 29 ‘R’ ac 11 ’r’. Neu 25 ‘R’ a 15 o ‘r’? Ydi rhain yn ddigon agos i’r disgwyliedig neu oes rhywbeth arall yn effeithio’r croesiad geneteg? Dyma lle mae’r prawf Chi sgwar yn ddefnyddiol

6 of 32

Rhagdybiaeth nwl

Cyn gwneud unrhyw prawf ystadegol. Rhaid cael rhagdybiaeth i brofi. Felly rhaid ffurfio rhagdybiaeth nwl. Mae rhain fel arfer yn dilyn patrwm tebyg iawn.

“DOES DIM GWAHANIAETH YSTADEGOL ARWYDDOCAOL RHWNG YN CANLYNIADAU WEDI ARSYLWI AR CANLYNIADAU DISGWYLIEDIG”

7 of 32

Cyfrifo gwerth Chi2

Cam 1: Gweithio allan canlyniadau disgwyliedig (E)

Cam 2: Casglu data go iawn (O)

Cam 3: Gwahaniaeth (O-E)

Cam 4: Sgwario’r gwerthoedd. (O-E)2

Cam 5: Rhannu’r efo’r gwerth disgwyliedig ((O-E)2 /E)

Cam 6: Adio rhain ∑ ((O-E)2 /E)

Cam 7: Cymharu efo’r gwerth χ2

8 of 32

O

E

O-E

(O-E)2

(O-E)2/E

“R”

“r”

∑ =

Cyfrifo gwerth Chi2

9 of 32

Gwerth critigol

Os ydi’r gwerth Chi2 yn LLAI na’r gwerth critigol rydych yn DERBYN y rhagdybiaeth nwl

10 of 32

Casgliad

  1. Cymharwch y gwerthoedd Chi sgwar a’r gwerth critigol.
  2. Derbyn neu gwrthod y rhagdybiaeth nwl
  3. Nodwch lefel yr arwyddocad (tebygolrwydd)
  4. Beth mae hyn yn olygu.

Enghraifft

Gwerth 𝛘2 (rhif) yn llai na’r gwerth critigol (rhif) ar lefel arwyddocad o 0.05 sy’n golygu ein bod yn derbyn y rhagdybiaeth nwl. Mae etifeddiad mendelaidd yn digwydd/cysylltedd/rheswm arall dros canlyniadau annisgwyliedig

11 of 32

Bydd angen gweithio allan beth yw’r canlyniadau wedi arsylwi (sy’n dod yn syth or cwestiwn)

Wedyn gweithio allan y rhai disgwyliedig (rhain wedi gweithio allan, fel arfer ar ol gwneud croesiad, cofiwch gall rhain fod yn groesiad deurywaidd)

Mae ‘B’ yn codio ar gyfer lliw ffwr du mewn gerbils, ac mae ‘b’ ar gyfer lliw ffwr brown. Mewn croes rhwng dau gerbils heterosygaidd, cynhyrchwyd 29 gerbil du a cynhyrchwyd 7 gerbil brown wedi'u geni. Ysgrifennwch ragdybiaeth nwl ar gyfer hyn, dangoswch y groes a chynhaliwch brawf 𝛘2 i ymchwilio i'r rhagdybiaeth nwl.

​

Rhagdybiaeth nwl -

Does dim gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng y canlyniadau wedi arsylwi, ar canlyniadau disgwyliedig

Croesiad 2 gerbil heterosygaidd Bb x Bb

​

​

​

​

​

​

​

​

​

Wrth defnyddio’r sgwar punnet yma gwelwn for cymhareb 3:1 yn ddisgwyliedig. Mae cyfanswm o 36 gerbil wedi geni. Y canlyniadau wedi ARSYLWI yw 29 gerbil du a 7 gerbil brown (or cwestiwn). Y canlyniadau DISGWYLIEDIG yw. 36 gerbil÷ 4 = 9, ac wedyn 9x3 yn 27 (wedi cyfrifo)

12 of 32

Defnyddiwch y tabl i weithio allan eich gwerth.

Cofiwch bod marciau ar gael ar gyfer gweithio allan. Felly os nad ydych yn hyderus yn cyfrifo gallwch chi wastad ennill marc o lenwi’r tabl.

Mae angen gofal efo’r rhan yma, gwiriwch eich cywirdeb pob tro!

Mae ‘B’ yn codio ar gyfer lliw ffwr du mewn gerbils, ac mae ‘b’ ar gyfer lliw ffwr brown. Mewn croes rhwng dau gerbils heterosygaidd, cynhyrchwyd 29 gerbil du a cynhyrchwyd 7 gerbil brown wedi'u geni. Ysgrifennwch ragdybiaeth nwl ar gyfer hyn, dangoswch y groes a chynhaliwch brawf 𝛘2 i ymchwilio i'r rhagdybiaeth nwl.

​

Cyfrifo Gwerth Chi Sgwar 𝛘2

O

E

O-E

(O-E)2

(O-E)2/E

Du

Brown

∑ =

13 of 32

Mae Biolegwyr wastad yn dewis lefel tebygolrwydd o 0.05 neu 5% (sy’n golygu bod o’n digwydd mwy na 5% or amser, sydd ddim yn llawer) Mae’r graddau rhyddid wastad 1 un llai na’r categoriau sydd (fydd yn 4 categori neu 3 gradd rhyddid efo croesiad deurhywaidd)

Cyfrifo gwerth critigol- Wastad dewis lefel tebygolrwydd o 0.05 neu 5%. Mae un gradd rhyddid yn llai na’r nifer o categoriau sydd.

14 of 32

Cofiwch gynnwys y 4 peth sydd yn y casgliad ar gyfer marciau llawn.

  1. Cymharwch y gwerthoedd Chi sgwar a’r gwerth critigol.
  2. Derbyn neu gwrthod y rhagdybiaeth nwl
  3. Nodwch lefel yr arwyddocad (tebygolrwydd)
  4. Beth mae hyn yn olygu.

CASGLIAD

Enghraifft

Gwerth 𝛘2 (......)yn llai na’r gwerth critigol (......) ar lefel arwyddocad o 0.05 sy’n golygu bod yn derbyn y rhagdybiaeth nwl mae etifeddiad mendelaidd yn digwydd/cysylltedd/rheswm arall dros canlyniadau annisgwyliedig

15 of 32

  • Mwtaniad yw newid mewn swm, trefniant neu strwythr y deunydd genetig
  • Mae Mwtaniadau yn:
  • 1. gallu effeithio genyn unigol neu cromosom cyfanc
  • 2. digwydd yn y celloedd somatig fel arfer
  • 3. cael eu etifeddu os yn digwydd yn y gametau yn unig
  • 4. digwyddiadau digymell (deunydd ar gyfer detholiad naturiol)
  • 5. digwydd ar gyfraddau isel, felly mae gan mwtaniadau llai o effaith ar esblygiad na amrywiad arall

​

  • Yn gyffredinol mae gan organebau efo cylchred bywyd byrrach,ac sydd yn profi meiosi mwy aml yn dangos cyfraddau uwch o fwtaniadau

Mwtaniadau

16 of 32

  • Mae mwtaniadau yn digwyd yn naturiol ar gyfradd isel ond mae’r cyfradd yma yn cynyddu os ydi’r organeb ym mhresenoldeb Mwtagenau (pethau sydd yn cynyddu cyfradd mwatniadau:
  • 1. Pelydrau X
  • 2. Pelydrau Gamma
  • 3. Golau UV
  • 4. hydrocarbonau Polycyclic a nitrosaminau mewn mwg sigaret.
  • Mwtagen sydd yn achosi canser yw carsinogen
  • Gall mwtaniad ddigwyd mewn 2 ffordd:
  • 1. DNA ddim yn cel ei gopio yn gywir cyn cellrniad, dyma camgymeriad mewn un genyn a’I gelwir yn mwtaniad GENYNNOL neu PWYNT.
  • 2. Os caiff cromosomau eu torri neu difrodi gan hyn effiethio nifer fawr o enynnau. Dyma mwtaniad CROMOSOM

Achosion mwtaniadau

17 of 32

  • Mwtaniad genyn yw newid yn y basau o fewn y genynnau. Gall hwn fod oherwydd.
    • Adio - ychwanegu bas. Unai 1 neu 3 bas
    • Dyblygu – cynnwys yr un bas dwywaith
    • Tynnu – dileu bas
    • Amnewid – Bas gwahanol
    • Gwrhtdroi – Basau cyfagos ar yr un edefnyn yn newid lle

Mathau o mwtaniadau genynnol/pwynt

18 of 32

Val

  • Newidiadau mewn genyn unigol oherwydd cam gopio un neu mwy niwcleotid

​

  • Dileu/tyny neu adio yn achosi newid patrwn cyfan (frameshift:)�

C A T G C G

T C A G A T

A

Codon 1

Codon 2

Codon 3

Codon 4

Tyr

Ala

Ser

Leu

Arg

19 of 32

Mathau o mwtaniadau cromosomaidd

  • Dileu
  • Dyblygu
  • Amnewid
  • Trawsleoli

A

B

C

D

E

20 of 32

Enghraifft o mwtaniad pwynt

​

  • Dyma engraifft o mwtaniad genyn/pwynt lle mae’r cell coch yn siap cryman yn hytrach na siap deugeugrwm arferol.
  • Amnewid un bas yn y moleciwl DNA yn golygu bod yr asid amino anghywir yn cael ei ymgorffori ir gadwyn polypeptid (Hb) Gan achosi siap cryman gell yn y cell coch.
  • Cynhyrchir Haemoglobin S yn hytrach na’r haemoglobin arferol. Oherwydd mae un bas sy’n achosi I Falin cael ei amnewid am asid glwtamic ar y 6ed codon at y gadwyn beta globulin.
  • Y cod ar gyfer asid glwtamic yw CTT ac CTC, y dau cod ar gyfer Falin yw CAT a CAC. Yn y ddau achos mae amnewid A am T yn achosi cynhyrchu haemoglobin S.

21 of 32

Enghraifft o mwtaniad cromosom

​

  • Newid yn strwythr neu nifer cromosomau cyfan
  • Yn debygol o ddigwydd yn ystod meiosis pan mae parau homologaidd yn yn gosod ar cyhydedd y gell cyn tyny ar wahan.
  • Cromosomau ddim yn cael eu rhannu yn hafal rhwng yr epil.
  • Newid mewn strwythr-
  • Yn ystod proffas meiosis 1. Pan mae cromosom yn ail gyfuno ar ol croesi drosodd. Trefn genynnau gwahanol, Sy’n gwneud paru fyny yn ysod meiosis yn amhosib
  • Newid mewn rhif
  • Anwahaniad yw’r colled neu ennill o gromosom cyfan, sy’n ffurfio gametau fo’r nifer anghywir o gromosomau.
  • Syndrom Down yw engraifft lle mae’r par 21af efo cromoom ychwanegol trisomaidd. (trisomy 21) 1 mewn 700 genedigaeth
  • Mae nam yn cynhyrchiant yr ofwm nid y sberm ac maen fwy cyffredin mewn merched hyn. (20 oed, 1 mewn 2000 genedigaeth. 40 oed , 1 mewn 100 genedigaeth. 45, 1 mewn 30)

22 of 32

Enghraifft o mwtaniad cromosom

​

  • Newid mewn setiau o gromosomau-
  • Fe’i gelwir yn polyploid. Nam mewn Meiosis yn achosi gamet I gael 2 set o gromosom
  • Bydd gamet diploid sy’n cael ei ffrwythloni yn triploid. Fel arfer mae’r gamet yn anffrwythlon oherwydd does dim parau homologiad yn ffurfio.
  • Gall Tetraploidy ddigwydd os yw 2 gamet diploid yn cyfuno, neu os yw ffrwythloniad yn normal ond y cromosomau yn dyblug ond ddim yn gwahanu
  • Mae Polyploidy yn gyffredin mewn planhigion blodeuol ac yn cael ei gysylltu a odwedion ffarfiol. (e.e. tomatos a gwenith).

​

23 of 32

Arwyddocad/pwysigrwydd Mwtaniadau

​

  • Mae mwtaniad yn achosi newid yn y ffenoteip oherwydd:
  • Mae trefn penodol o fasas
  • Mae newid yn y trefn
  • Trefn gwahanol/anghywir o asidau amino
  • Protein gwahanol (Mae’r rhan fwyaf o broteinau yn ensymau sydd yn catalyddu adweithiau penodol e.e cynhyrchu melanin (albino)

24 of 32

Arwyddocad/pwysigrwydd Mwtaniadau

​

  • Mae mwtaniadau yn bwysig oherywdd meant yn cynyddu amrywiad mewn poblogaeth. Mae’r rhan fwyaf o fwtaniadau yn achosi niwed ond gall rhai fod yn fuddiol.
  • 1. Os yw mwtaniad yn digwydd mewn cell corf gall achosi canser e.e. golau UV yn achosi canser croen.
  • 2. Os yw’r mwtaniad mewn gamet gall effeithio’r epil
  • 3. Mae mwtanidadu yn digwydd yn gyflym ac yn achosi newidiadau amlwg rhwn unigolion ac felly yn sail i amrywiad amharhaus.
  • 4. Mae’r rhan fwyaf o fwtaniadau oherwydd alel enciliol ac felly angen cyfuno efo alel enciliol arall er mwyn dangos yn ffenoteip yr epil.
  • Cynhyrchu protein newydd/gwell:�Canlyniad: ennill mantais dros aelodau eraill or boblogaeth
  • Mwtaniad Niwtral:�Canlyniad: Dim newid
  • Cynhyrchu protein salach neu dim protein:�Canlyniad: Achosi clefyd neu gall fod yn farwol.

25 of 32

Carsinogenau

​

  • Yw rhywbeth sy’n achosi canser. Mae rhai mwtagenau yn carcinogenig.
  • Maent yn effeithio DNA canlyniad hyn yw mwtaniad mewn cell somatig
  • Weithiau caiff ei adnabod gan y system imiwn a’u lladd.
  • Mae Cancer yn dechrau pan mae’r genyn sydd yn rheoli cellraniad yn mwtanu.
  • Mae celloedd yn ymrannu yn gyflym gan achosi tiwmor anfalaen (benign) lle mae modd eu diddymu efo llawdriniaeth
  • Gall celloedd fudo i meinweoedd eraill ac achosi tiwmorau malaen (malignant).
  • Mae annormaleddau yn y genyn TP53 atal tiwmorau yn achosi cynhyrchu protein p53 sydd wedi’w ddarganfod mewn dros ½ or holl ganserau mewn bodau dynol.

26 of 32

Carsinogenau

​

Protein p 53 normal

Protein p53 Mwtan

Ysgogi atgyweirio DNA wedi’w niweidio

Dim atgyweirio DNA

Atal y gell rhan mynd trwy cyfnod S mitosis, gan cadw yn cyfnod G lle mae’r DNA yn cael ei atgyweirio

Call efo DNA wedi’w niweidio yn mynd trwy cellraniad cyflawn

Cychwyn apoptosis os nad oes modd atgywirio DNA

Celloedd mwtan yn goroesi

27 of 32

Oncogenynnau

​

  • Mae celloedd yn ymrannu ar gyfer twf ac atgyweirio meinwe.
  • Rheoli’r y broses gan enynnau or enw proto-oncogenyn
  • Os yw mwtaniad yn achosi i gromosom aildrefnu gan roi proto-oncogenyn wrth genyn sy’n ei ysgogi yn barhaol.
  • Copi ychwanegol or proto-oncogenyn fel mae mwy o ‘brotein cellraniad’ yn cael ei gynhyrchu
  • Mae mwg tybaco yn cynnwys 4000 o gemegion (40 yn carsinogenig a dros 400 yn wenwynig) (hydrocarbonau rhwng basau yn gwneud dyblygiad anghywir)

28 of 32

Rheoli mynegiant genynnau

​

  • Dilyniannau DNA ar amgylchedd arwahan sydd yn achosi amrywiad biolegol
  • OND, mae tystiolaeth i ddweud bod yr amgylchedd yn cael effaith ar y DNA, trwy effeithio ar sut maen cael ei drawsgrifio.
  • Dyma yw EPIGENETEG
  • Maen effeithio ar y genynnau ond nid dilyniant y basau.

29 of 32

Rheoli mynegiant genynnau

​

  • Wrth i gelloedd bonyn ymrannu mae nifer o genynnau yn cael eu diffodd oherwydd nad oes eu hangen (croen/retina)
  • Mae gwahanol newidiadau epigenetig yn digwydd i gelloedd o fewn yr un feinwe sy’n caniatáu gwahaniaethau enfawr rhwng mynegiad genynnau yn ngwahanol gelloedd organeb
  • Mae niwed yn digwydd i DNA tua 60,000 o weithiau pob dydd ac mae’r rhan fwyaf yn cael ei atgyweirio
  • Ond yn y safle atgyweirio gall newidiadau epigenetig barhau
  • Tystiolaeth o hyn mewn efeilliaid monosygotig lle mae gwahaniaethau yn cynyddu fel maent yn heneddio oherwydd DNA yn methylu a’u histonau yn asetyleiddio
  • Argraffu genomig – lle mae’r methylu yn cael ei etifeddu. NOEY2 sy’n cynyddu’r risg o rhai canserau
  • Anacritfadu X – Lle mae cromosom cyfan yn cael ei diffodd. Cathod trilliw
  • Mae newidiadu epigenetig yn cael eu beio am sawl cyflwr (awtoimiwn, salwch meddwl, diabetes, a llawer o ganserau) Bydd astudio rhain yn y dyfodol yn bwysig iawn er mwyn canfod a trin clefyd.

30 of 32

Cwestiynnau ymarfer

​

31 of 32

Cwestiynnau ymarfer

​

32 of 32

Draw atoch chi rwan!!

  1. Mae beth sydd fan hyn ychydig o dechnegau ac ymarfer ar sut i adolygu
  2. Cofiwch bod nifer o ffyrdd gwahanol o adolygu ac maen rhaid i chi ffeindio’r un sy’n gweithio yn dda i chi.
  3. Cofiwch bod angen dwyn gwybodaeth o gof a’i gymhwyso i hen gwestiynnau er mwyn llwyddo.
  4. Y peth pwysiaf ydi gweithio’n galed!!
  5. Pob lwc yn eich arholiad.

Diolch yn fawr