1 of 12

Adran A: Llafariaid a Chytseiniaid

Uned 1

Termau Pwysig

2 of 12

Llafariaid a Chytseiniaid

  • Mae’r wyddor Gymraeg yn cynnwys llafariaid (vowels) sydd i’w gweld mewn gwyrdd a chytseiniaid (consonants) sydd i’w gweld mewn melyn. Mae’r llythrennau mewn coch yn llythrennau dwbl.

Mae’r llythyren j yn dderbyniol mewn geiriau benthyg – e.e.

Jam

Project

3 of 12

Pam bod rhain yn bwysig?

  1. Mae llythrennau dwbl yn un llythyren yn Gymraeg – wrth chwarae “Hangman” neu greu chwilair, cofiwch bod llythrennau dwbl yn cyfri fel un llythyren – ac felly un blwch!

2. Mae deall pryd i ddefnyddio a/ac (and) ac y/yr (the) yn ddibynnol ar lafariaid a chytseiniaid.

e.e

afal ac oren ond bachgen a merch

Defnyddir ‘ac’ cyn y gair oren gan fod oren yn dechrau gyda llafariad. Ni all dau lafariad ddilyn ei gilydd.

Defnyddir ‘a’ cyn y gair ‘merch’ gan fod ‘merch’ yn dechrau gyda chytsain.

4 of 12

Eich tro chi nawr!

  • Ewch ati i ddefnyddio a/ ac er mwyn cysylltu’r setiau o eiriau canlynol:

merch _____ bachgen

athro _____ athrawes

mefus _____ banana

llew _____ eliffant

tost _____ wy

nant _____ afon

pensil _____ beiro

llyn _____ môr

5 of 12

Dewch i wirio’r atebion!

  • Ewch ati i ddefnyddio a/ ac er mwyn cysylltu’r setiau o eiriau canlynol:

merch a bachgen

athro ac athrawes

mefus a banana

llew ac eliffant

tost ac wy

nant ac afon

pensil a beiro

llyn a môr

6 of 12

Rhybudd#1

Mae’r cysylltair (conjunction) ‘a (and) yn achosi treiglad llaes os daw cyn un o’r cytseiniaid p, t neu c:

e.e.

ffwr a phlu

tractor a threilar

ci a chath

Rheol dreiglo

7 of 12

Eich tro chi nawr!

  • Sut fyddech chi’n treiglo’r geiriau canlynol ar ôl a? Efallai nad oes angen treiglo bob tro, cofiwch!

siwmper a cot

gwynt a glaw

car a beic

cwmwl a haul

papur a pensil

bws a trên

te a coffi

llwy a sosban

bwji a parot

caws a tomato

8 of 12

Dewch i wirio’r atebion!

  • Sut fyddech chi’n treiglo’r geiriau canlynol ar ôl a? Efallai nad oes angen treiglo bob tro, cofiwch!

siwmper a chot

gwynt a glaw

car a beic

cwmwl a haul

papur a phensil

bws a thrên

te a choffi

llwy a sosban

bwji a pharot

caws a thomato

9 of 12

y / yr ( Y fannod / The definite article)

Mae defnyddio y / yr yn ddibynnol ar pa fath o lythyren sy’n dechrau’r enw (noun) sy’n ei ddilyn – cytsain neu lafariad.

y dyn ond yr afon

y bachgen ond yr oren

y ceffyl ond yr anghenfil

y

o flaen cytsain

yr

o flaen llafariad

10 of 12

Eich tro chi nawr!

  • Ewch ati i ddefnyddio y/ yr o flaen yr enwau canlynol:

_____ oen

_____ athrawes

_____ eira

_____ gwaith

y

o flaen cytsain

yr

o flaen llafariad

_____ amser

_____ mynydd

_____ bachgen

_____ ystafell

_____ piano

_____ wy

11 of 12

Eich tro chi nawr!

  • Ewch ati i ddefnyddio y/ yr o flaen yr enwau canlynol:

yr oen

yr athrawes

yr eira

y gwaith

y

o flaen cytsain

yr

o flaen llafariad

yr amser

y mynydd

y bachgen

yr ystafell

y piano

yr wy

12 of 12

Rhybudd#2

Mae enwau unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl ‘y (heblaw am ll a rh) - e.e.

y botel (potel)

y daith (taith)

y gath (cath)

y fasged (basged)

y ddeilen (deilen)

y wennol (gwennol)

y faneg (maneg)

Er mwyn gwybod os yw enw yn fenywaidd (eb) neu yn wrywaidd (eg), gwiriwch mewn geiriadur. Neu ystyriwch ai ‘hwn’ neu ‘hon’ y byddech yn ei ddefnyddio ar ei ôl.