1 of 15

Trosedd a Chosb:

Anrhefn ddiwydiannol ac amaethyddol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol

(Uned Natur ac achosion)

2 of 15

Daeth blynyddoedd cynnar y Chwyldro Diwydiannol â chaledi mawr i bobl gyffredin.

Collodd nifer o grefftwyr eu swyddi oherwydd y peiriannau newydd. Daeth technoleg newydd, fel peiriannau dyrnu, i gymryd lle gweithwyr fferm. Roedd cyflogau yn isel, yn enwedig ym myd ffermio, ac roedd prisiau bwyd uchel, yn arbennig ar ôl cynhaeaf gwael, yn golygu caledi a diflastod i nifer. Doedd dim llawer y gallai’r bobl gyffredin ei wneud am hyn, a throdd nifer at drais.

Anrhefn ddiwydiannol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol

3 of 15

LUDIAID

Anrhefn ddiwydiannol ac amaethyddol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol

4 of 15

Anhrefn ddiwydiannol

Y Ludiaid

Roedd cyflwyno peiriannau newydd yn drychinebus i’r gwehyddion llaw traddodiadol. Er bod y brethyn (cloth) a gynhyrchwyd ar beiriannau o safon is, yr oedd yn llawer rhatach na brethyn wedi’i wehyddu â llaw.

Yn 1797 roedd rholyn o frethyn llaw yn costio 27 swllt, ond erbyn 1827 gellid prynu rholyn o frethyn peiriant am cyn lleied â thri swllt. Yn y pen draw, daeth gweithwyr a gollodd eu swyddi ynghyd gan dorri i mewn i ffatrioedd yn ystod y nos a chwalu’r peiriannau newydd. I ddechrau, anfonwyd llythyron yn gofyn i berchnogion y melinau i ddinistrio’r peiriannau, a’r rheiny wedi eu harwyddo gan ‘Ned Lud’. Oherwydd hynny, gelwid y chwalwyr peiriannau yn ‘Ludiaid’.

Dechreuodd yr ymosodiadau yn Nottingham yn 1812 a chyn hir roeddent wedi lledaenu i Sir Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Ym mis Ebrill 1812, ymosododd 150 o Ludiaid arfog ar Felin Rawfolds ger Huddersfield, ac yn Swydd Efrog llofruddiwyd William Horsfall, a oedd yn berchennog melin. Ymatebodd y llywodraeth drwy anfon 12,000 o filwyr i’r ardal a chyhoeddi deddf newydd – bellach y gosb am dorri fframiau oedd marwolaeth. Yn 1813, dienyddiwyd 17 o Ludiaid, tri ohonynt am lofruddio Horsfall a phump ohonynt am yr ymosodiadau ar Felin Rawfolds. Cafodd sawl un eu dirwyo a chafodd eraill eu trawsgludo. O ganlyniad i’r cosbau llym diflannodd Ludiaeth, ond aros wnaeth y peiriannau newydd.

5 of 15

Gwrthryfel Merthyr 1831-

Yn 1816 bu gweithwyr ar hyd a lled de-ddwyrain Cymru yn streicio. O ganlyniad i ddirwasgiad yn y fasnach haeam gostyngodd y meistri haearn gyflogau eu gweithwyr o hyd at 40% a digwyddodd hyn ar adeg pan oedd pris bwyd yn cynyddu'n sydyn. Cafwyd terfysgoedd ym Merthyr a meddiannodd y gweithwyr y gweithfeydd haearn, gan rwystro'r cynhyrchu

Fel yn 1800, dyfodiad y milwyr, Byddin Sirol Morgannwg a ruthrodd i Ferthyr o Gaerdydd, a ddaeth â'r streic i ben ac adfer heddwch yn y dref. Ni chafwyd mwy o anfodlonrwydd cyhoeddus am ddegawd a mwy, gan fod yr 1820au yn gyfnod o lewyrch cymharol i'r diwydiant haearn. Fodd bynnag, cafwyd twf mewn radicaliaeth a gyrhaeddodd uchafbwynt yng Ngwrthryfel Merthyr yn 1831.

Protestiadau’r Siartwyr yng Nghymru, 1839

Mudiad dros hawliau democratiaeth oedd Siartaeth, a ddechreuwyd yn Llundain yn 1838 pan gyhoeddwyd ‘Siarter y Bobl’. Roedd y Siarter hon yn galw am ddiwygio’r senedd a rhoi’r bleidlais i bob dyn dros 21 oed. Apeliai Siartaeth yn bennaf at bobl y dosbarth gweithiol a sefydlwyd y Gymdeithas y Gweithwyr gyntaf yng Nghymru yng Nghaerfyrddin yn 1837.

Yn ystod 1839 cafwyd protestiadau Siartaeth mewn nifer o ardaloedd yng nghanolbarth a de Cymru:

6 of 15

S

I

A

R

T

W

Y

r

1

8

3

9

7 of 15

Terfysgaeth Llanidloes, Ebrill 1839

Yn ystod 1838 teithiodd Henry Hetherington, arweinydd Siartwyr Birmingham, o amgylch canolbarth Cymru, gan annog sefydlu Cymdeithasau Gweithwyr mewn trefi fel Llanidloes a’r Trallwng. Ar 3 Ebrill 1839 cafwyd gwrthryfel Siartaeth yn Llanidloes pan ymosodwyd ar westy’r Trewythen Arms, lle roedd rhai o’r cwnstabliaid a anfonwyd o Lundain i gadw’r heddwch yn aros. Ar 3 Mai cyrhaeddodd milwyr y dref i adfer trefn ac yn ystod yr wythnosau canlynol arestiwyd 32 o Siartwyr honedig. Anfonwyd hwy i’r llys ac fe’u cafwyd yn euog a’u dedfrydu naill ai i’r carchar neu eu trawsgludo dramor.

Gwrthryfel Casnewydd, Tachwedd 1839

Digwyddodd yr achos mwyaf difrifol o drais gan y Siartwyr yng Nghasnewydd yn ne-ddwyrain Cymru. Bwriad y Siartwyr lleol John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, oedd arwain gorymdaith o 20,000 o ddynion o’r Coed-duon, Glynebwy a Phont-y-pŵl, drwy’r cymoedd i Gasnewydd. Fel y digwyddodd hi, 5,000 yn unig oedd ar yr orymdaith. Ar fore 3 Tachwedd ymgasglodd y dynion y tu allan i Westy’r Westgate yng Nghasnewydd. Roedd yr awdurdodau wedi gosod 30 o filwyr y tu mewn i’r gwesty. Wrth i’r dorf ymgasglu, taniwyd bwledi ac o ganlyniad bu farw wyth o’r Siartwyr ac anafwyd llawer ohonynt. Yn hwyrach, arestiwyd Frost a’r arweinwyr eraill, eu hanfon i sefyll eu prawf a’u cael yn euog o frad. Cawsant eu dedfrydu i farwolaeth ond newidiwyd hyn i drawsgludo dramor yn ddiweddarach.

Y Teirw Scotch, 1830au

Digwyddodd protestiadau’r Teirw Scotch yn ardaloedd diwydiannol cymoedd de Cymru, yn enwedig yn ardal blaenau’r cymoedd. Glowyr ifanc Cymraeg oedd y mwyafrif o aelodau’r mudiad, a byddent yn cuddio eu hunain drwy liwio eu gwynebau’n ddu a gwisgo croen anifeiliaid. Galwai’r arweinydd ei hun y Tarw Scotch. Roedd y dynion yn grac am y system dryc, y rhenti uchel a’r gostyngiadau di-baid yn eu cyflogau. Galwent am streiciau ac anfon llythyron yn rhybuddio’r rheiny a oedd yn gwrthod rhoi’r gorau i weithio (blacklegs). Ymosodwyd ar eiddo diwydianwyr a chodwyd ofn ar unrhyw un fyddai’n achwyn arnynt. Daeth materion i’r pen yn 1835 pan gafwyd glöwr ifanc o’r enw John Morgan yn euog o ladd menyw mewn ymosodiad ar dŷ ym Medwellte. Cafodd ei grogi yn Nhrefynwy a thawelodd pethau wedi hynny.

8 of 15

Anhrefn amaethyddol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ?

9 of 15

Y Terfysgoedd Swing, 1830-32

Rhwng 1830 ac 1832 ymosododd gangiau o brotestwyr ar eiddo ffermwyr cyfoethog, gan losgi tasau gwair a chwalu peiriannau fferm, mewn terfysgoedd a ledaenodd ar draws de a dwyrain Lloegr. Gweithwyr amaethyddol oedd y protestwyr yn bennaf, ac roeddent yn anfodlon â’r tlodi a’r defnydd cynyddol o beiriannau. Roedd cyflogau’r gweithwyr fferm yn llawer is na chyflogau gweithwyr diwydiannol ac roedd y gwaith yn dymhorol. Yn ystod misoedd y gaeaf byddent yn cadw’n brysur drwy ddyrnu, ond pan gyflwynwyd peiriannau dyrnu doedd dim gwaith ar gael iddynt.

Roedd cynaeafau 1828 ac 1829 yn rhai gwael a gyrrodd hyn brisiau bwyd i fyny. Yn eu rhwystredigaeth trodd y gweithwyr at drais. Yn aml iawn anfonwyd llythyron bygythiol ymlaen llaw, a’r rheiny wedi eu harwyddo gan ‘Capten Swing’ . Rhwng Ionawr 1830 a Medi 1832 cofnodwyd 316 achos o losgi bwriadol ac ymosodwyd ar 390 o beiriannau dyrnu . Cafodd y rhai a ddaliwyd eu cosbi’n llym. Anfonwyd cannoedd i’r carchar, cafodd 481 eu trawsgludo dramor a chrogwyd 19 ohonynt.

10 of 15

Terfysgoedd Beca, 1839-43

Rhwng 1839 ac 1843 bu gangiau o ffermwyr tlawd, pob un mewn dillad merched ac yn dilyn arweinydd o’r enw ‘Beca’, yn ymosod ar dollbyrth (tollgates) ar hyd ffyrdd de-orllewin Cymru. Mae’n bosib i’r enw ddod o adnod yn y Beibl sy’n cyfeirio at Rebecca a’i phlant ac yn dweud wrthynt am ‘etifeddu porth eu gelynion’.

Roedd y ffermwyr yn ddig am y rhenti uchel, y degwm roedd yn rhaid iddynt ei dalu i Eglwys Loegr (er bod nifer ohonynt yn gapelwyr anghydffurfiol) a newidiadau i weithrediad Cyfraith y Tlodion ar ôl 1834, a arweiniodd at adeiladu tlotai newydd. Gwaethygodd y sefyllfa pan godwyd mwy o dollbyrth ar y ffyrdd o amgylch Caerfyrddin er mwyn codi tollau ar ffermwyr oedd yn cludo calch (lime), a gai ei ddefnyddio i wrteithio’r tir. Pan gododd Ymddiriedolaeth Tyrpeg Hendy-gwyn-ar-Daf (Whitland Turnpike Trust) gât newydd yn Efailwen, ymosodwyd arni deirgwaith rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 1839.

Roedd y cynhaeaf yn wael yn 1839-41, ac yn 1842 ailddechreuodd y trafferthion, gan ledaenu i ardaloedd cyfagos. Erbyn mis Mai 1843 roedd 20 tollborth wedi cael eu dinistrio a throdd y terfysgwyr eu golygon at dargedau eraill. Ym mis Mehefin 1843 ymosododd y terfysgwyr ar dloty Caerfyrddin. Ym mis Medi 1843 lladdwyd Sarah Davies, ceidwad tollborth, a oedd yn 75 oed, mewn ymosodiad. Anfonwyd milwyr a chwnstabliaid arbennig i’r ardal a chynigiwyd gwobrau am wybodaeth am derfysgwyr

Beca. Yn y pen draw daliwyd yr arweinwyr ac, fel cosb am yr ymosodiad ar Sarah Davies, dedfrydwyd David Davies (Dai’r Cantwr) i 20 mlynedd o garchar a chafodd John Jones (Shoni Sgubor Fawr) ei drawsgludo dramor am oes. Yn 1844 trefnodd y llywodraeth Gomisiwn Ymholi Brenhinol ac arweiniodd hyn at safoni tollau. Erbyn canol yr 1840au roedd de-orllewin Cymru yn lle heddychlon unwaith eto.

11 of 15

Disgrifiwch terfysgaeth Beca1839-43 [6]

**Os mae’r cwestiwn yn gofyn i chi i ddisgrifio gwaith unigolyn – disgrifiwch ei gwaith/waith yn gronolegol!**

TECHNEG:

  • 3 pwynt wedi disgrifio’n fanwl.
  • Strwythurwch eich gwaith mewn i 3 paragraff (paragraff am bob pwynt)
  • Defnyddiwch enwau, ystadegau a dyddiadau priodol i ddisgrifio’r mater yn llawn.

6

mun

12 of 15

Disgrifiwch terfysgaeth Beca1839-43 [6]

Enghraifft 1:

Rhwng 1839 ac 1843 bu gangiau o ffermwyr tlawd, pob un mewn dillad merched ac yn dilyn arweinydd o’r enw ‘Beca’, yn ymosod ar dollbyrth (tollgates) ar hyd ffyrdd de-orllewin Cymru. Roedd y ffermwyr yn ddig ac felly wnaethom ymateb yn ffyrnig wrth ymosod ar tollbyrth gwahanol.Roedd llawer o ymsodoiadau hefyd oherwydd hyn, ac o ganlyniad cafodd y pobl eu cosbi.

2/6

Rhwng 1839 ac 1843 bu gangiau o ffermwyr tlawd, pob un mewn dillad merched ac yn dilyn arweinydd o’r enw ‘Beca’, yn ymosod ar dollbyrth (tollgates) ar hyd ffyrdd de-orllewin Cymru. Mae’n bosib i’r enw ddod o adnod yn y Beibl sy’n cyfeirio at Rebecca a’i phlant ac yn dweud wrthynt am ‘etifeddu porth eu gelynion’. Roedd y ffermwyr yn ddig am y rhenti uchel, y degwm roedd yn rhaid iddynt ei dalu i Eglwys Loegr (er bod nifer ohonynt yn gapelwyr anghydffurfiol) a newidiadau i weithrediad Cyfraith y Tlodion ar ôl 1834, a arweiniodd at adeiladu tlotai newydd. Gwaethygodd y sefyllfa pan godwyd mwy o dollbyrth ar y ffyrdd o amgylch Caerfyrddin er mwyn codi tollau ar ffermwyr oedd yn cludo calch (lime), a gai ei ddefnyddio i wrteithio’r tir. Roedd y cynhaeaf yn wael yn 1839-41, ac yn 1842 ailddechreuodd y trafferthion, gan ledaenu i ardaloedd cyfagos. Erbyn mis Mai 1843 roedd 20 tollborth wedi cael eu dinistrio a throdd y terfysgwyr eu golygon at dargedau eraill. Ym mis Mehefin 1843 ymosododd y terfysgwyr ar dloty Caerfyrddin. m mis Medi 1843 lladdwyd Sarah Davies, ceidwad tollborth, a oedd yn 75 oed, mewn ymosodiad o ganlyniad i hyn daliwyd yr arweinwyr ac, fel cosb am yr ymosodiad ar Sarah Davies, dedfrydwyd David Davies (Dai’r Cantwr) i 20 mlynedd o garchar a chafodd John Jones (Shoni Sgubor Fawr) ei drawsgludo dramor am oes. 6/6

13 of 15

Disgrifiwch enghreifftiau o anrhefn diwydiannol yn y deunawfed ganrif a’r pedwerydd ganrif ar bymtheg. [6]

Roedd cyflwyno peiriannau newydd yn drychinebus i’r gwehyddion llaw traddodiadol. Er bod y brethyn (cloth) a gynhyrchwyd ar beiriannau o safon is, yr oedd yn llawer rhatach na brethyn wedi’i wehyddu â llaw. Yn 1797 roedd rholyn o frethyn llaw yn costio 27 swllt, ond erbyn 1827 gellid prynu rholyn o frethyn peiriant am cyn lleied â thri swllt. Yn y pen draw, daeth gweithwyr a gollodd eu swyddi ynghyd gan dorri i mewn i ffatrioedd yn ystod y nos a chwalu’r peiriannau newydd’.Dechreuodd yr ymosodiadau yn Nottingham yn 1812 a chyn hir roeddent wedi lledaenu i Sir Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Ym mis Ebrill 1812, ymosododd 150 o Ludiaid arfog ar Felin Rawfolds ger Huddersfield, ac yn Swydd Efrog llofruddiwyd William Horsfall, a oedd yn berchennog melin.

Digwyddodd protestiadau’r Teirw Scotch yn ardaloedd diwydiannol cymoedd de Cymru, yn enwedig yn ardal blaenau’r cymoedd. Glowyr ifanc Cymraeg oedd y mwyafrif o aelodau’r mudiad, a byddent yn cuddio eu hunain drwy liwio eu gwynebau’n ddu a gwisgo croen anifeiliaid. Galwai’r arweinydd ei hun y Teirw Scotch. Roedd y dynion yn grac am y system dryc, y rhenti uchel a’r gostyngiadau di-baid yn eu cyflogau. Galwent am streiciau ac anfon llythyron yn rhybuddio’r rheiny a oedd yn gwrthod rhoi’r gorau i weithio (blacklegs). Ymosodwyd ar eiddo diwydianwyr a chodwyd ofn ar unrhyw un fyddai’n achwyn arnynt. Daeth materion i’r pen yn 1835 pan gafwyd glöwr ifanc o’r enw John Morgan yn euog o ladd menyw mewn ymosodiad ar dŷ ym Medwellte. Cafodd ei grogi yn Nhrefynwy a thawelodd pethau wedi hynny.

Mudiad dros hawliau democratiaeth oedd Siartaeth, a ddechreuwyd yn Llundain yn 1838 pan gyhoeddwyd ‘Siarter y Bobl’. Roedd y Siarter hon yn galw am ddiwygio’r senedd a rhoi’r bleidlais i bob dyn dros 21 oed. Apeliai Siartaeth yn bennaf at bobl y dosbarth gweithiol a sefydlwyd y Gymdeithas y Gweithwyr gyntaf yng Nghymru yng Nghaerfyrddin yn 1837. 6/6

14 of 15

Esboniwch pam oedd anrhefn amaethyddol yn y deunawfed ganrif a’r pedwerydd ganrif ar bymtheg. [12]

TECHNEG:

  • Cwestiwn ESBONIO nid DISGRIFIO.
  • Rhaid esbonio’r EFFAITH.
  • 3 ffactor manwl – 3 paragraff.

15 of 15

Esboniwch pam oedd anrhefn diwydiannol yn y deunawfed ganrif a’r pedwerydd ganrif ar bymtheg. [12]

PAM- Daeth blynyddoedd cynnar y Chwyldro Diwydiannol â chaledi mawr i bobl gyffredin. Collodd nifer o grefftwyr eu swyddi oherwydd y peiriannau newydd. Daeth technoleg newydd, fel peiriannau dyrnu, i gymryd lle gweithwyr fferm. Roedd cyflogau yn isel, yn enwedig ym myd ffermio, ac roedd prisiau bwyd uchel, yn arbennig ar ôl cynhaeaf gwael, yn golygu caledi a diflastod i nifer.

Roedd cyflwyno peiriannau newydd yn drychinebus i’r gwehyddion llaw traddodiadol, gwelir anrhefn mawr ymysg y Ludiaid yn y cyfnod. Er bod y brethyn (cloth) a gynhyrchwyd ar beiriannau o safon is, yr oedd yn llawer rhatach na brethyn wedi’i wehyddu â llaw. Yn 1797 roedd rholyn o frethyn llaw yn costio 27 swllt, ond erbyn 1827 gellid prynu rholyn o frethyn peiriant am cyn lleied â thri swllt. Yn y pen draw, daeth gweithwyr a gollodd eu swyddi ynghyd gan dorri i mewn i ffatrioedd yn ystod y nos a chwalu’r peiriannau newydd’, oherwydd yr ymdeilmad o gael eu disodli gan peiriannau. Dechreuodd yr ymosodiadau yn Nottingham yn 1812 a chyn hir roeddent wedi lledaenu i Sir Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Ym mis Ebrill 1812, ymosododd 150 o Ludiaid arfog ar Felin Rawfolds ger Huddersfield, ac yn Swydd Efrog llofruddiwyd William Horsfall, a oedd yn berchennog melin.

Yn 1816 gwelir gwrthryfela Merthyr, bu gweithwyr ar hyd a lled de-ddwyrain Cymru yn streicio. Roedd hyn oherwydd i ganlyniad i ddirwasgiad yn y fasnach haearn gostyngodd y meistri haearn gyflogau eu gweithwyr o hyd at 40% a digwyddodd hyn ar adeg pan oedd pris bwyd yn cynyddu'n sydyn. Cafwyd terfysgoedd ym Merthyr a meddiannodd y gweithwyr y gweithfeydd haearn, gan rwystro'r cynhyrchu.Fel yn 1800, dyfodiad y milwyr, Byddin Sirol Morgannwg a ruthrodd i Ferthyr o Gaerdydd, a ddaeth â'r streic i ben ac adfer heddwch yn y dref. Ni chafwyd mwy o anfodlonrwydd cyhoeddus am ddegawd a mwy, gan fod yr 1820au yn gyfnod o lewyrch cymharol i'r diwydiant haearn. Fodd bynnag, cafwyd twf mewn radicaliaeth a gyrhaeddodd uchafbwynt yng Ngwrthryfel Merthyr yn 1831.

Digwyddodd protestiadau’r Teirw Scotch yn ardaloedd diwydiannol cymoedd de Cymru, yn enwedig yn ardal blaenau’r cymoedd. Glowyr ifanc Cymraeg oedd y mwyafrif o aelodau’r mudiad, a byddent yn cuddio eu hunain drwy liwio eu gwynebau’n ddu a gwisgo croen anifeiliaid. Galwai’r arweinydd ei hun y Tarw Scotch. Y rheswm am yr ymateb yma oedd oherwydd roedd y dynion yn grac am y system dryc, y rhenti uchel a’r gostyngiadau di-baid yn eu cyflogau. Galwent am streiciau ac anfon llythyron yn rhybuddio’r rheiny a oedd yn gwrthod rhoi’r gorau i weithio (blacklegs). Ymosodwyd ar eiddo diwydianwyr a chodwyd ofn ar unrhyw un fyddai’n achwyn arnynt. Daeth materion i’r pen yn 1835 pan gafwyd glöwr ifanc o’r enw John Morgan yn euog o ladd menyw mewn ymosodiad ar dŷ ym Medwellte. Cafodd ei grogi yn Nhrefynwy a thawelodd pethau wedi hynny.