1 of 53

Hanes

Sgiliau ar gyfer uned 3

2 of 53

Beth oedd cysylltiad Harri VII gyda…

bonedd

economi’r wlad

Simnel

Warbeck

Sicrhau etifedd i’r goron

Elisabeth o Iorc

bondiau

Margaret o Bwrgwyn

Richard III

1485

Cytundeb Etaples

3 of 53

PWRPAS SESIYNAU ADOLYGU

ADALW

TECHNEG ARHOLIAD

YMARFER

Technegau adolygu ar gyfer yr arholiad. Dealltwriaeth ddwys.

Dealltwriaeth o’r Meini Prawf Llwyddiant. Gallu adnabod prif elfennau’r cwestiwn arholiad.

Ymgyfarwyddo gyda chwestiynau arholiad

4 of 53

‘Ma’r cynnwys mor drwm’

’Ma’ ‘na gyment i adolygu’

’Be dysgu popeth rhwng 1485 a 1603?’

5 of 53

‘Ma’r cynnwys mor drwm’

’Ma’ ‘na gyment i adolygu’

’Be dysgu popeth rhwng 1485 a 1603?’

Adolygu'r cyfnod nid mewn cymaint o ddyfnder a uned 2.

​

Adnabod themâu

​

Edrych ar y cyfnod cyfan neu deyrnasiad cyfan arweinydd/ brenin a brenhines.

6 of 53

​

Achos a chanlyniad

Newid a pharhad

Tebygrwydd a gwahaniaeth

Arwyddocâd a phwysigrwydd

​

​

​

​

7 of 53

Achos a chanlyniad

Achos = Beth oedd wedi arwain at y digwyddiad/ rhesymau tu ôl i’r digwyddiad.

Canlyniad = Beth ddigwyddodd ar ôl y digwyddiad/ effaith y digwyddiad. Tymor byr/ hir dymor.

​

Digwyddiad: Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd yn Qatar

Achos: Fe wnaeth Cymru ennill Wcráin 1-0 ym Mehefin

Canlyniad: Cymru yn teithio i Qatar i chwarae yng Nghwpan y Byd am y tro cynta’ ers 1958.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

8 of 53

Newid a pharhad

Newid = Sut mae themau/ polisiau yn newid dros amser

Canlyniad = Sut y mae themau/ polisiau yn aros yr un peth dros amser

​

Digwyddiad: Addysg

Newid: Mae pynciau poblogaidd CBAC yn newid, gwelir nifer o ddisgyblion yn astudio pynciau megis Cymdeithaseg, Troseddeg, STEM

Parhad: Mae’r dull a ddefnyddir i asesu disgyblion wedi aros yr un peth dros amser. Rhoddir pwyslais ar arholiadau a gwaith cwrs er mwyn asesu'r disgyblion.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

9 of 53

Newid a pharhad

Newid = Sut mae themau/ polisiau yn newid dros amser

Canlyniad = Sut y mae themau/ polisiau yn aros yr un peth dros amser

​

Digwyddiad: Polisïau Crefyddol

Newid: Newidiadau rhwng teyrnasiad Edward a Mari

Parhad: Gwelwyd parhad ym mholisïau Elisabeth ac Edward wrth iddi ddychwelyd i’r defnydd o Lyfrau gweddi Edward VI a phenodi ei hun yn Llywodraethwraig yr Eglwys.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

10 of 53

Tebygrwydd a gwahaniaeth

​

Digwyddiad: Y ffilm Matilda

Tebyg: Plot yr un peth, sefyllfa adref yr un peth.

Gwahanol: Technegau a thechnoleg ffilm. Cerddoriaeth a chanu yn y ffilm newydd.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

11 of 53

Arwyddocâd a phwysigrwydd

Arwyddocâd/ Pwysigrwydd = Hawlio sylw yn y cyfnod.

​

Digwyddiad: Torri a Rhufain

Arwyddocâd/ Pwysigrwydd: Penderfyniad arwyddocaol yn rhyngwladol ac yn wleidyddol. Nifer helaeth o ganlyniadau gwleidyddol, economaidd a chrefyddol.

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

​

12 of 53

Geirfa graddio’r cysyniad allweddol

Pwysigrwydd

Newid

Effaith

Trobwynt

Chwyldroadol

Tymor byr/ tymor hir

Goblygiadau

Pell gyrhaeddol

Dylanwad

Carreg filltir

Canlyniadau

Sylweddol

Ymatebion

​

​

Geirfa dadansoddol:

​

Cysyniad allweddol:

Arwyddocâd/ Arwyddocaol/ Pwysig/ Dylanwadol

​

Pwyso a mesur

Dadansoddi a gwerthuso

​

X Disgrifio

​

​

13 of 53

Peth pwysigrwydd

O bwysigrwydd mawr

Digwyddiad:

____________

Esboniad manwl (tymor byr a hir dymor)

​

14 of 53

peth pwysigrwydd

o bwysigrwydd mawr

Digwyddiad:

Cyfieithu’r ysgrythau i’r Gymaraeg (Elizabeth)

Esboniad manwl (tymor byr a hir dymor)

Proses, cyfiethu’r ysgrythau, Beibl William Salesbury, William Morgan.

Bygythiadau o Sbaen/ Catholigiaeth

Bygythiadau gwrthryfeloedd

Pwysigrwydd crefyddol Arwain y Cymry i ddilyn Protestaniaeth

Pwysigrwydd gwleidyddol

Ffydlondeb y Cymry/ ddim am uno gyda Sbaen. Gwrthryfeloedd - bygythiadau o eithafwyr crefyddol

15 of 53

peth pwysigrwydd

o bwysigrwydd mawr

Digwyddiad:

Harri VII yn sicrhau llinach cryf/ etifedd

​

Esboniad manwl (tymor byr a hir dymor)

Priodi Elisabeth o Efrog

Hawl gwan i’r goron

Uno’r teuluoedd

Codi statws rhyngwladol Lloegr - lleihau’r risg o ymosodiad/ Ymhonwyr

Pwysigrwydd economaidd

Parhau i fansachu gyda gwledydd Ewrop/ psgoi dechrau rhyfel/ ymhonwyr

Pwysigrwydd gwleidyddol

Sefydlu statws rhyngwladol

Margaret o Bwrgwyn

Cytundebau Ewropeaidd

16 of 53

Bydd cwestiynau Adran A yn ymdrin â chyfnod cronolegol byrrach na thraethodau

​

Adran B, fel arfer cyfnod o tua 15 i 40 mlynedd. Bydd cwestiynau

​

Adran B fel arfer yn ymdrin â chyfnod o rhwng 40 a 70 mlynedd (ond gallai fod yn hirach weithiau i gynnwys datblygiadau penodol).

​

17 of 53

I ba raddau y gellir dweud mai cyflwyno’r GIG (NHS) a gafodd yr effaith (impact) fwyaf ar fywydau pobl Cymru a Lloegr yn y cyfnod o 1945 i 1980?

Testun

Cysyniad allweddol

Cyfnod hanesyddol

18 of 53

I ba raddau y gellir dweud mai’r pandemig Covid-19 a gafodd yr dylanwad fwyaf ar fywydau pobl Cymru a Lloegr yn y cyfnod o 2010-2020?

T:

CA:

CH:

19 of 53

I ba raddau y gellir dweud mai pandemig Covid-19 a gafodd yr dylanwad fwyaf ar fywydau pobl Cymru a Lloegr yn y cyfnod o 2000-2020?

Testun

Cysyniad allweddol

Cyfnod hanesyddol

20 of 53

I ba raddau y gellir dweud mai defnydd Trump o Twitter oedd y strategaeth mwyaf effeithiol er mwyn ennill yr etholiad yn 2016?

21 of 53

I ba raddau y gellir dweud mai defnydd Trump o Twitter oedd y strategaeth mwyaf effeithiol er mwyn ennill yr etholiad yn 2016?

Testun

Cysyniad allweddol

Cyfnod hanesyddol

22 of 53

Eng. cyfoes

  1. A’i penderfyniadau’r dyfarnwr oedd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant Cymru yn erbyn Lloegr ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2021?
  2. I ba raddau gellir dadlau mai diffyg profi oedd methiant mwyaf y llywodraeth wrth ddelio gyda’r pandemig Covid-19 rhwng 2019-2021?
  3. ‘Arweinyddiaeth gwael oedd yn bennaf gyfrifol am yr holl farwolaethau yn y Rhyfel Byd Cyntaf’. Trafodwch.

23 of 53

Cynllun Marcio

Mae'r ymateb yn canolbwyntio'n llawn ar yr union gysyniad allweddol yn y cwestiwn a osodwyd ac yn ymdrin â'r holl gyfnod dan sylw. Mae'n cynnig trafodaeth glir ac argyhoeddiadol am y prif ddatblygiadau ac yn llunio barn wedi'i chyfiawnhau mewn traethawd eglur a chwbl gydlynol.

​

  • Cysyniad allweddol
  • Graddio’r cysyniad allweddol
  • Cyfnod hanesyddol - holl gyfnod os yn bosib
  • Mynegi barn
  • Cefnogi’r farn gyda ffeithiau/ cyd-destun hanesyddol
  • Ateb cyflawn o’r cychwyn
  • Barn gytbwys
  • Traethawd dadansoddol

​

24 of 53

​

Rhufain

​

​

Wolsey

​

​

Rhyfel

​

​

Cromwell

​

8fed

Pennaeth yr Eglwys

​

25 of 53

​

Rhufain

Torri a Rhufain

​

Wolsey

Sefydlodd Wolsey dreth chwyldroadol newydd, wedi ei selio ar brisiant (valuation) cywir cyfoeth y trethdalwr, lle cadwyd un swllt o bob punt o incwm y trethdalwr.

​

Rhyfel

Cynghreiriodd Wolsey Lloegr gyda Sbaen

​

Cromwell

Deddfau Uno: Erbyn 1534 roedd problem Cymru yn pwyso’n drwm ar Cromwell ac felly penododd Esgob Rowland Lee yn Lywydd Cyngor Cymru a’r Gororau.

8fed

Pennaeth yr Eglwys

Sefydlodd ei hun yn bennaeth yr Eglwys

26 of 53

“Y bygythiad oddi wrth y bonedd oedd y brif sialens oedd yn wynebu Harri VII wrth iddo sefydlu llinach y Tuduriaid yn y cyfnod o 1485 i 1509.” Trafodwch.

​

Yn ystod y cyfnod rhwng 1485 ac 1509, wynebodd Harri nifer o sialensiau wrth iddo geisio sicrhau ei le ar yr orsedd a sefydlu llinach y Tuduriaid. Roedd bonedd gorbwerus yn sicr yn fygythiad amlwg yn ystod ei deyrnasiad, fodd bynnag roedd bygythiadau hefyd gan yr Ymhonwyr a bygythiadau o oresgyniad Catholig. Fodd bynnag, roedd yn allweddol i reoli'r boneddi sefydlu ei oruchafiaeth fel brenin.

​

Yn enwedig ar ôl brad y teulu Stanley yn Bosworth, gwnaeth Harri VII ymddwyn yn ddidostur gan gymryd camau rhagofalus i leihau grym y pendefigion. Roedd y ffaith iddo lwyddo i ddisodli’r orsedd yn 1485 yn rhybudd iddo oherwydd roedd yn ymwybodol o'r ffaith y gallai hyn ddigwydd eto, gan ddangos sut roedd hyn yn fygythiad arwyddocaol i'w sefyllfa fregus. Mae ei reolaeth o'r bonedd yn cael ei gweld yn aml fel un o'i brif lwyddiannau fel rheolwr. Er bod y pendefigion yn fygythiad mawr ar hyd ei deyrnasiad, nid oedd yn fodlon meddwl y gwaethaf am y rhai oedd wedi ymuno â'i achos yn ystod teyrnasiad Richard III ac arweiniodd hyn at rywfaint o haerllugrwydd ymhlith cefnogwyr, a dicter ymhlith y rhai nad oedd yn rhan o'r grŵp hwn. Gellid dadlau y byddai'r agwedd haerllug hon wedi gallu dod yn broblem ddifrifol i Harri VII ac roedd hyn yn sialens fawr. Ymhellach, mae'n ansicr a fyddai'r polisïau llym a fabwysiadodd yn 1502 (Cwnsler Dysgedig yn y Gyfraith) wedi achosi gwrthryfel ymhlith bonedd petai heb farw. Mae hyn yn dangos sut roedd bygythiad y pendefigion, hyd yn oed ar ddiwedd ei deyrnasiad, yn dal i fod yn sialens fawr i Harri VII o ran sefydlu llinach y Tuduriaid, a pharhaodd bygythiad y pendefigion yn ystod teyrnasiad Harri VIII.

27 of 53

Un sialens fwy amlwg oedd yn wynebu Harri VII oedd sicrhau ei safle ariannol. Er mai'r safbwynt traddodiadol am Harri VII yw mai “ef oedd un o'r dynion busnes gorau i eistedd ar orsedd Lloegr”, mae haneswyr adolygiadol yn dadlau ei fod wedi adeiladu ar ddiwygiadau Edward IV yn unig ac wedi marw yn ddiddyled ond ddim yn gyfoethog, gan aros yn gymharol dlawd o'i gymharu â brenhinoedd Ewropeaidd eraill. Ymhellach, roedd yn ymwybodol bod sefyllfa ariannol gadarn yn allweddol i sefydlu ei oruchafiaeth dros y pendefigion ac mae hyn yn dangos sut roedd y pendefigion unwaith eto yn sialens i Harri VII sefydlu llinach y Tuduriaid. Yn wir, roedd yn aml yn manteisio'n ariannol ar y pendefigion er mwyn eu hatal rhag dod yn rhy bwerus, er enghraifft yn ystod ei deyrnasiad gwnaeth 1/3 o deuluoedd pendefigaidd roi bondiau a/neu ymrwymiadau i Harri VII o'u cymharu ag un arglwydd yn unig yn ystod teyrnasiad yr Iorciaid. At hyn, rhoddodd nawdd yn gyfnewid am wasanaeth da a ffyddlon, yn hytrach nag oherwydd ei fod yn gobeithio ei gael, ac mae hyn yn dangos ei ymagwedd ofalus i atal pendefigion gornerthol a chynnal ei sefyllfa ariannol. Mewn gwirionedd, roedd yn llawer mwy gweithgar mewn materion ariannol na'i ragflaenwyr, ond gellid dadlau bod hyn oherwydd ei fod yn ymwybodol o fygythiad y pendefigion. Bwriad ei holl bolisïau ariannol oedd creu delwedd o gyfoeth a grym. Heb y ddelwedd hon, mae'n bosibl na fyddai wedi llwyddo i sicrhau ei olyniaeth a sefydlu llinach y Tuduriaid.

​

Felly, gellir casglu mai bygythiad y pendefigion oedd y prif sialens oedd yn wynebu Harri VII wrth sefydlu llinach y Tuduriaid yn y cyfnod rhwng 1485 ac 1509 oherwydd mae ei reolaeth o'r bendefigaeth yn amlwg ym mhob agwedd ar ei deyrnasiad, o'r ffordd roedd yn trefnu ei lywodraeth i'w ddulliau o reoli arian. Er ei fod yn wynebu sialensiau eraill, fel cynllwyn yr Ymhonwyr, doedd y rhain ddim yn llwyddiannus a doedd y sialensiau hyn ddim yn ei wynebu dros gydol ei deyrnasiad, yn wahanol i fygythiad y pendefigion.

28 of 53

Band 6

​

26-30

Yn gyffredinol ar gyfer y band hwn, bydd ymgeiswyr yn:

• arddangos a threfnu gwybodaeth hanesyddol gywir, perthnasol a manwl ar raddfa uchel

• arddangos dealltwriaeth dda wrth ddadansoddi a gwerthuso’r mater penodol a osodwyd

• amlwg yn llunio barn a brofwyd ac a ategwyd

• rhoi atebion cydlynol, rhugl ac wedi'u trefnu'n dda gyda sillafu, atalnodi a gramadeg da

Band 5

​

21-25

Yn gyffredinol ar gyfer y band hwn, bydd ymgeiswyr yn:

• arddangos a threfnu gwybodaeth hanesyddol gywir, perthnasol a manwl

• arddangos dealltwriaeth briodol wrth ddadansoddi a gwerthuso’r mater penodol

• llunio barn gytbwys â sylwadau ategol dilys a phriodol

• rhoi atebion sy'n dangos trefn, strwythur, sillafu, atalnodi a gramadeg da

Band 4

16-20

Yn gyffredinol ar gyfer y band hwn, bydd ymgeiswyr yn:

• arddangos a threfnu gwybodaeth hanesyddol gywir a pherthnasol

• arddangos dadansoddiad a gwerthusiad dilys o'r mater yn y cwestiwn a osodwyd

• llunio barn gytbwys â rhywfaint o sylwadau ategol dilys

• rhoi atebion a fynegir yn glir sy'n dangos eglurder a chydlyniant gan mwyaf a sillafu, atalnodi a gramadeg priodol

29 of 53

30 of 53

31 of 53

Beth sydd angen i mi wneud?

  • Dadlau'r union gysyniad hanesyddol
  • Dadansoddi'r materion cysylltiedig
  • Gwerthuso eu pwysigrwydd
  • Ymdrin â'r cyfnod gosod
  • Cyrraedd barn wedi'i rhesymu a'i chefnogi ac sy'n gytbwys

​

​

32 of 53

Beth sydd angen i chi osgoi?

  • Rhestru neu alw i gof amrediad o ffactorau, digwyddiadau neu ddatblygiadau cysylltiedig
  • Atebion strwythuredig iawn a rwystrodd allu'r ymgeisydd i resymu am yr hyn sydd o'i flaen
  • Dau hanner traethawd o blaid ac yn erbyn
  • Cyfres o is-farnau am ddigwyddiadau, datblygiadau neu ffactorau sy'n gysylltiedig â'r cysyniad allweddol
  • Ymdriniaeth rannol neu gyfyngedig

​

​

33 of 53

ADALW!

Cofio

Adolygu

Adeiladu

Dyfnhau dealltwriaeth

Cysylltiadau hanesyddol

34 of 53

PAM ADALW?

Uned 1: Y gallu i bwyso a mesur

Y gallu i ddadansoddi

‘Almost all inofrmation stored in short term memory that is not rehearsed is lost within 18 -30 seconds’

Peterson & Peterson

01

03

02

35 of 53

Sesiwn 2

36 of 53

37 of 53

Uned 1

1. LLYWODRAETH, GWRTHRYFEL A CHYMDEITHAS YNG NGHYMRU A LLOEGR, tua 1485-1603

2. LLYWODRAETH, CHWYLDRO A CHYMDEITHAS YNG NGHYMRU A LLOEGR, tua 1603-1715

3. GWLEIDYDDIAETH, PROTEST A DIWYGIO YNG NGHYMRU A LLOEGR, TUA 1780- 1880

4. GWLEIDYDDIAETH, POBL A CHYNNYDD YNG NGHYMRU A LLOEGR, TUA 1880-1980

5. NEWID GWLEIDYDDOL A CHREFYDDOL YN EWROP, TUA 1500-1598

6. EWROP MEWN OES O ABSOLIWTIAETH A CHWYLDRO tua 1682-1815

7. CHWYLDRO A SYNIADAU NEWYDD YN EWROP tua 1780-1881

8. EWROP MEWN OES O WRTHDARO A CHYDWEITHREDU tua 1890-1991

​

38 of 53

Graddio/ mesur/ gwerthuso

​

Pa mor bwysig…?

Ddim yn bwysig Yn bwysig Yn bwysig iawn

39 of 53

Cynnwys

Uned 1 - dros 98 mlynnedd - dipyn o ffeithiau i’w gofio!

​

Ond cofiwch, rydym yn astudio’r cyfnod cyfan, nid astudiaeth dwys ydyw!

​

Dealltwriaeth cyffredinol, deall y cyfnod h.y. Unigolion pwysig, digwyddiadau, termau, dyddiadau sy’n bwysig.

​

Cofiwch bod angen trosolwg ar y cyfnod cyfan yn y cwestiwn er mwyn gallu gwneud cysylltiadau ac adnabod patrymau.

40 of 53

Achosion

Newidiadau

Tebygrwydd

Canlyniadau

Parhad

Gwahaniaethau

Cynnwys...

Pam? Beth oedd y cymhelliant tu ol i ddigwyddiad/ penderfyniad?

Sut oedd pethau wedi newid dros amser?

A oedd y digwyddiad yma’n debyg i ddigwyddiad arall?

Beth oedd canlyniad y digwyddiad/ penderfyniad?

A oedd wedi aros yr un peth?

Sut oedd y digwyddiad yn wahanol i ddigwyddiad arall?

41 of 53

Cysyniad allweddol

Arwyddocaol/ Pwysig…

​

Bydd angen i chi gyfiawnhau y cysyniad allweddol, er mwyn gallu gwneud hyn gellir cymharu gyda digwyddiadau/ unigolion arall sy’n berthnasol i’r cwestiwn.

​

e.e. A’i penderfyniad y llywodraeth i barhau i adael i ddinasyddiol Prydiain i deithio mewn ac allan o’r wlad oedd methiant mwyaf Boris Johnson yn ystod pandemig Covid-19?

​

Testunau arall

Peidio cau’r ffiniau

Methiant i brofi yn gynnar

Hwyr i gyflwyno cyfnod clo

Methiant track and trace

Agor y wlad yn rhy gynnar Haf 2020 e.e. Eat Out to Help Out

Matt Hancock/ Dido Harding/ Dominic C

Diffyg PPE

  • Brechiadau
  • Llwyddiant firebrake yng Nghymru
  • Propaganda’r llywodraeth

42 of 53

Cymharu

A’i penderfyniad y llywodraeth i barhau i adael i ddinasyddiol Prydiain i deithio mewn ac allan o’r wlad oedd methiant mwyaf Boris Johnson yn ystod pandemig Covid-19?

​

Cymharu

​

Peidio cau’r ffiniau

Methiant i brofi yn gynnar

​

Pa un oedd y methiant mwyaf? Pam?

43 of 53

Graddio/ mesur/ gwerthuso

​

A’i penderfyniad y llywodraeth i barhau i adael i ddinasyddiol Prydiain i deithio mewn ac allan o’r wlad oedd methiant mwyaf Boris Johnson yn ysgol pandemig Covid-19?

Methiant enfawr Methiant Ychydig o fethiant Llwyddiant

44 of 53

Cysyniad allweddol

A’i penderfyniad y llywodraeth i barhau i adael i ddinasyddiol Prydiain i deithio mewn ac allan o’r wlad oedd methiant mwyaf Boris Johnson yn ysgol pandemig Covid-19?

​

Peidio cau’r ffiniau / Methiant i brofi yn gynnar

Hwyr i gyflwyno cyfnod clo / Methiant track and trace

Agor y wlad yn rhy gynnar / Haf 2020 e.e. Eat Out to Help Out

Matt Hancock / Dido Harding

Dominic C / Diffyg PPE

​

45 of 53

Effeithlonrwydd Adolygu - Cymharu

https://www.cbac.co.uk/media/2nqnqrr3/wjec-gce-history-spec-from-2015-cymraeg.pdf

​

​

​

​

​

​

​

​

46 of 53

LLYWODRAETH, GWRTHRYFEL A CHYMDEITHAS YNG NGHYMRU A LLOEGR, tua 1485-1603

Arwyddocâd y prif newidiadau mewn gwleidyddiaeth a llywodraeth 1485-1603

​

  • y dulliau a ddefnyddiwyd gan Harri VII i sefydlu llinach y Tuduriaid
  • maint y chwyldro yn y llywodraeth dan Harri VIII
  • rôl ac effeithiolrwydd prif weinidogion y Tuduriaid yn eu plith Wolsey, Cromwell a Cecil
  • y newid ym mherthynas Elisabeth â’i chyfrin gyngor a’r Senedd

47 of 53

...y dulliau a ddefnyddiwyd gan Harri VII i sefydlu llinach y Tuduriaid

  • Priodi Elisbaeth o Efrog
  • Priodi ar ol coroniad
  • Delio a’r ymhonwyr
  • Etifedd gwrwaidd
  • Polisi economaidd - statws rhyngwladol

​

  1. Adnabod cysylltiadau rhwng y testunau
    1. e.e. Cysylliad rhwng priodi Elisabeth a priodi ar ol conoiad ydy...
  2. Rancio y testunau - mwyaf arwyddocaol -> lleiaf arwyddocaol
  3. Graddio y pwysigrwydd
    • e.e. Priodi a Elisbaeth = pwysig iawn oherwydd…
    • Etifedd gwrwaidd = eithaf pwysig oherwydd...

48 of 53

Eich tro chi...

https://www.cbac.co.uk/media/2nqnqrr3/wjec-gce-history-spec-from-2015-cymraeg.pdf

49 of 53

CBAC

‘ystyried sut effeithiodd datblygiadau amrywiol yn ystod y cyfnod hwn.’

​

‘datblygiadau a newidiadau dros gyfnod ehangach o amser’

​

‘dangos dealltwriaeth drwy wneud cysylltiadau a chymariaethau rhwng agweddau gwahanol ar y cyfnod a astudiwyd.’

​

‘dadansoddi ac yn egluro achosion a chanlyniadau digwyddiadau a sefyllfaoedd hanesyddol ac yna'n dod i gasgliadau cadarnhaol ynglŷn ag arwyddocâd unigolion, grwpiau, digwyddiadau, datblygiadau a syniadau ar draws y cyfnod hwn.’

​

‘cysyniadau hanesyddol perthnasol drwy ymchwilio a gwerthuso amrediad o faterion allweddol a chynnwys.’

​

‘cyfeirio at amrediad o safbwyntiau hanesyddol priodol ac yn cyfleu'r hyn maen nhw'n ei ddeall drwy wneud cysylltiadau a chymariaethau rhwng gwahanol agweddau ar y cyfnod a astudiwyd.’

50 of 53

Dechreuadau brawddegau dadansoddol

Yn wahanol i…

Mae’n deg i ddweud…

Rhaid ystyried effaith…

Wrth ystyried dylanwad…

Wrth gwrs rhaid cofio…

Yn bendant gwelir canlyniadau hir dymor/ tymor byr…

… yn bwysig iawn oherwydd...

Gwelwyd newidiadau mawr/ ar raddfa bach...

Gwelwyd effeithiau am flynyddoedd maith…

Roedd ?, heb os yn drobwynt...

Roedd dylanwad ? yn enfawr ar bolisiau/ penderfyniadau...

Gellir dadlau bod hyn wedi effeithio’n sylweddol ar...

51 of 53

Achosion/ Canlyniad

Pam bod deddf wedi pasio/ unigolyn wedi amlygu/ protest wedi’i drefnu… Beth oedd canlyniad...

​

Harri VII

​

Pam priodi Elisabeth o Efrog?

Pam anwybyddu heriau Margaret o Bwrgwyn?

Pam lleihau’r bonedd?

​

52 of 53

Rhaid cofio...

1

Gwerthuso

H.y. graddio’r cysyniad allweddol

Ystyried y cyfnod cyfan edrych am barhad/newidiadau

Achosion/ Canlyniadau

2

3

53 of 53

Eng. o gyflwyniad disgyblion i’w asesu

A’i Deddf Goruchafiaeth Harri VII yn 1534 oedd y ddeddf mwyaf chwydroadol rhwng 1509-1603?

​

Yn ystod teyrnasiad Harri wnaeth mynd ati i wneud llawer o newidiadau chwyldroadol iawn. Roedd Harri wedi priodi a Catrin o Aragon , ac roedd eisiau gorffen y briodas am sawl rheswm. Roedd Harri yn credu roedd y briodas yn erbyn dymuniad Duw oherwydd roedd angen arno ef etifedd gwryw ac roedd o hefyd mewn perthynas a Anne Boleyn. Yn 1534 wnaeth Harri benderfynu torri i ffwrdd o Rufain oherwydd roedd y Pab yn gwrthod rhoi ysgariad rhwng Harri a Catrin of Aragon. Roedd hyn yn ond y dechrau i newidiadau Harri. Ac erbyn diwedd 1534 roedd Harri VIII wedi torri i ffwrdd o bŵer y Pab, ac oherwydd y Ddeddf Goruchafiaeth roedd hyn yn golygu roedd Harri gyda rheolaeth lwyr o’r eglwysi yn Lloegr. Yn bendant, cafodd y Ddeddf Gouchafiaeth yr effaith mwyaf ar wleidyddiaeth yn ystod teyrnasiad Harri, Edward, Mari ac Elisabeth.

​

​